Ewch i’r prif gynnwys

Fy Angerdd at Ochr Ystumiedig y Bydysawd: o Dyllau Du a Thyllau Mwydyn i Deithio drwy Amser a Thonau Disgyrchol

Dydd Gwener, 18 October 2019
Calendar 18:30-20:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Mae’r Athro Kip Thorne yn ffisegydd damcaniaethol ac yn enillydd gwobr Nobel. Yn y ddarlith gyhoeddus hon, sy’n agored i bawb, bydd yn trafod “Fy Angerdd at Ochr Ystumiedig y Bydysawd: o Dyllau Du a Thyllau Mwydyn i Deithio drwy Amser a Thonau Disgyrchol.”

Mae Kip yn arbenigwr sy’n arwain y byd ym maes goblygiadau theori Perthnasedd Cyffredinol Einstein, o deithio drwy amser i dyllau mwydyn, ac o dyllau du i donau disgyrchol. Tan 2009, ef oedd yr Athro Feynmann mewn Ffiseg Ddamcaniaethol yn Caltech, ond mae wedi ymddeol ers hynny i ddechrau gyrfa newydd fel awdur, a chynnal prosiectau cydweithredol rhwng gwyddoniaeth a chelf. Ef oedd cynhyrchydd gweithredol a chynghorydd gwyddonol y ffilm fawr Interstellar yn 2014. Un o brif gyfraniadau Kip oedd ei waith yn delweddu tyllau du a’r hyn o’u cwmpas, a gyfrannodd at wobr Oscar y ffilm ar gyfer “Effeithiau Gweledol Gorau”. Eglurodd Kip y wyddoniaeth yn y ffilm yn ei lyfr The Science of Interstellar yn 2014. Mae nifer o’i brosiectau amlgyfrwng eraill wedi cadarnhau ei allu i egluro cysyniadau cymhleth mewn ffordd sy’n ddealladwy i bawb.

Fel un o sylfaenwyr LIGO (Arsyllfa Tonnau Disgyrchol yr Ymyriadur Laser), cafodd Kip Wobr Nobel mewn Ffiseg yn 2017 am “gyfraniadau pwysig i’r synhwyrydd LIGO ac arsylwadau ar donnau disgyrchol”, ynghyd â Rainer Weiss a Barry C. Barish. Pan gafodd y tonnau disgyrchol eu canfod am y tro cyntaf gan LIGO yn 2015, cadarnhawyd rhan allweddol o theori Perthnasedd Cyffredinol Einstein, ac mae arsylwadau wedi parhau er mwyn profi un o theorïau enwocaf byd gwyddoniaeth.

Mae’r ddarlith yn agored i bawb, ond yn fwyaf addas i bobl 12 mlwydd oed ac yn hŷn.

Gweld Fy Angerdd at Ochr Ystumiedig y Bydysawd: o Dyllau Du a Thyllau Mwydyn i Deithio drwy Amser a Thonau Disgyrchol ar Google Maps
Julian Hodge Lecture Theatre, Cardiff University
Julian Hodge Building
Rhodfa Colum
Caerdydd
CF10 3EU

Rhannwch y digwyddiad hwn