Ewch i’r prif gynnwys

Diwrnod Ysgrifennu Grant RDCS

Dydd Iau, 26 Medi 2019
Calendar 09:00-17:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

RDCS Grant Writing Day 2019

  • Ydych chi’n weithiwr yn y GIG neu’n weithiwr gofal cymdeithasol yng Nghymru?
  • A ydych yn bwriadu gwneud cais am gyllid ymchwil gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (fel RfPPB a Grant Gofal Cymdeithasol) neu ariannwr arall sydd â dyddiad cau ar gyfer eu cyflwyno yn yr hydref?
  • A fyddech chi neu eich tîm yn elwa ar amser wedi’i neilltuo a chymorth arbenigol i ysgrifennu cais am arian o ansawdd uchel?

Dylai fod gennych amlinelliad clir ar gyfer eich syniad ymchwil gan mai nod y diwrnod ysgrifennu grant yw rhoi amser ysgrifennu pwrpasol i chi ar gyfer eich cais am grant-a chael cymorth arbenigol. Bydd ymgynghorwyr RDCS, sydd ag arbenigedd a phrofiad o ysgrifennu grantiau, dylunio a rheoli astudiaethau, dulliau ymchwil meintiol ac ansoddol, (gan gynnwys ystadegau ac economeg iechyd) ar gael drwy’r dydd i gynnig cyngor ac adborth ynghylch eich ceisiadau unigol.

Bydd y Diwrnod Ysgrifennu Grant RDCS yn arbennig o addas i gynrychiolwyr a hoffai fod mewn sefyllfa i gyflwyno eu grant i gyllidwr yn ystod yr 1-3 mis nesaf. Bydd yn cynnig amgylchedd cefnogol i unigolion neu dimau o ddau neu dri o bobl (dylai o leiaf un ohonynt fod yn weithiwr gofal cymdeithasol neu iechyd proffesiynol sy’n gweithio yng Nghymru) er mwyn datblygu cynigion ymchwil o ansawdd uchel cyn gwneud cais i’r ffrydiau ariannu a adolygir gan gymheiriaid, megis RfPPB a’r Grant Gofal Cymdeithasol.

Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim, gan gynnwys cinio a lluniaeth.

Mae cyfyngiad llym ar nifer y lleoedd i wneud yn siŵr bod pawb yn cael cyfle i siarad â'r ymgynghorwyr. Bydd angen i bob cynrychiolydd gofrestru’n unigol.

I gadw lle nawr: https://caerdydd.onlinesurveys.ac.uk/rdcs-grant-writing-event-september-2019

Polisi Canslo
: Rhowch wybod i ni drwy ebost (rdcs@caerdydd.ac.uk) os ydych yn cadw lle ond yn methu dod yn y pendraw. Byddwn yn gallu cynnig eich lle i rywun arall os felly. Diolch yn fawr.

I gael rhagor o wybodaeth am y RDCS De-ddwyrain Cymru ewch i https://www.caerdydd.ac.uk/rdcs

Gweld Diwrnod Ysgrifennu Grant RDCS ar Google Maps
University Hall Conference Centre
University Hall
Heol Birchwood
Penylan
Caerdydd
CF23 5YB

Rhannwch y digwyddiad hwn