Ewch i’r prif gynnwys

Prosiectau Diwydiant a Rhwydweithio Ymgysylltu’r AMG 2019

Dydd Llun, 9 Medi 2019
Calendar 14:00-16:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Industry Projects & Engagement Networking

Fe’ch gwahoddir i Sesiwn Prosiectau Diwydiant a Rhwydweithio Ymgysylltu ar safle’r Academi Meddalwedd Genedlaethol (AMG) yng Nghasnewydd. Bydd hwn yn gyfle i chi ganfod rhagor am yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael i ymgysylltu â’r Academi a thrafod unrhyw syniadau sydd gennych chi am brosiectau myfyrwyr, ac unrhyw weithgareddau eraill, gyda’n tîm academaidd.

Gallwch ymgysylltu â’r AMG a’n myfyrwyr mewn sawl ffordd; o gynnig prosiectau myfyrwyr a chyflwyno mewn sesiynau Cinio a Dysgu, i weithio gyda’n myfyrwyr ar leoliadau haf. Mae ymgysylltu’n llwyddiannus â’r diwydiant yn allweddol i ethos AMG.

Mae’r digwyddiad hwn yn ffordd wych i ni eich cyflwyno i’r ffyrdd y gallwch ymgysylltu â’r AMG a dechrau sgyrsiau am ymgysylltiadau posibl ar gyfer y flwyddyn academaidd i ddod. Rhowch eich enw i lawr nawr i sicrhau lle yn y digwyddiad hwn!

Academi Meddalwedd Genedlaethol
Gorsaf Wybodaeth
Queensway
Casnewydd
NP20 4AX

Rhannwch y digwyddiad hwn