Ewch i’r prif gynnwys

Amlieithrwydd a hunaniaethau lluosog yng Nghymru: dulliau creadigol o edrych ar ymchwil ac arfer

Dydd Mercher, 6 Tachwedd 2019
Calendar 10:00-16:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Multilingual Cymru

Mae cofrestru i fynychu cynhadledd ar y cyd Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd ac Ysgol Gymraeg ar amlieithrwydd bellach wedi cau.

Amlieithrwydd a hunaniaethau lluosog yng Nghymru: dulliau creadigol o edrych ar ymchwil ac arfer.

Daw’r gynhadledd hon ag ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol o Gymru a thu hwnt at ei gilydd gyda’r bwriad o drafod y berthynas rhwng dwyieithrwydd ac amlieithrwydd o ran hyrwyddo ieithoedd.

Mae gan Gymru hanes hir a disglair o hyrwyddo dwyieithrwydd. Ond, o ganlyniad i'r disgyniad yn y niferoedd o ddisgyblion ysgol sy’n astudio ITM yng Nghymru ac ar draws y DU, y mae’n hanfodol bwysig rhoi mwy o bwyslais ar gefnogi amlieithrwydd. O ran ymchwil ac arfer, y mae cyfle i feysydd dwyieithrwydd ac amlieithrwydd gydweithio yn agosach gan ddysgu o arfer da, creadigrwydd ac arloesedd y naill a’r llall.

Bydd y gynhadledd yn edrych ar y berthynas rhwng dwyieithrwydd swyddogol yng Nghymru a chenhedloedd cyffelyb. Yn ogystal â hyn, bydd y gynhadledd yn trafod ein cymunedau cyfoes ac amlieithog, gan gydnabod pwysigrwydd y ffactorau hyn wrth hyrwyddo amlieithrwydd a sefydlu ein safle mewn dyfodol byd-eang.

Rydym yn falch iawn o gael cyflwyno’r arbenigwyr isod, o feysydd addysg, ieithoedd ac ieithyddiaeth fel siaradwyr gwadd:

  • Yr Athro Tess Fitzpatrick, Prifysgol Abertawe

  • Yr Athro Mererid Hopwood, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

  • Dr Cassie Smith-Christmas, NUI Galway/OE Gaillimh

Yn ystod y diwrnod, bydd hi hefyd yn bosibl mynychu gweithdai sy’n arddangos prosiectau sy’n hyrwyddo amlieithrwydd a dwyieithrwydd yma yng Nghymru.

Mae rhaglen ddrafft ar gael nawr.

Hoffwn ddiolch i Creative Multilingualism, Ysgol Ieithoedd Modern ac Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd am ariannu’r digwyddiad.

Mae’r gynhadledd yn rhad ac am ddim, a bydd cinio ar gael ar y diwrnod.

Edrychwn ymlaen at eich croesawi i Gaerdydd.

*Er gwybodaeth, er bod y gynhadledd hon yn rhad ac am ddim, nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael, a chyllideb gyfyngedig sydd gennym. Gwerthfawrogwn pe bai modd ichi gysylltu gyda ni pe na bai modd ichi fynychu mwyach.*

Cyfieithu ar y pryd

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â ni erbyn dydd Mercher 9fed Hydref i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw ofynion dietegol neu fynediad arbennig.

GWYBODAETH GYFFREDINOL

  • Mae’r gynhadledd yn rhad ac am ddim, ond mi fydd rhaid i unigolion dalu am gostau teithio a llety eu hunain. Gall myfyrwyr ôl-raddedig, sydd hefyd yn cyflwyno, wneud cais am ad-daliad o hyd at £50 tuag at eu costau teithio.

  • Bydd cinio a the/coffi ar gael am ddim yn ystod y gynhadledd.

  • Mi fydd yn bosib cyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar gael ar y diwrnod.Bydd rhagor o wybodaeth am y gynhadledd yn cael ei ddarparu yn fuan trwy wefannau a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol Ysgol Ieithoedd Modern ac Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd.