Ewch i’r prif gynnwys

Science Pirates

Dydd Sadwrn, 14 Medi 2019
Calendar 10:30-15:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Famous scientists dressed as pirates

Ynghylch y gweithgaredd:Mae cyhyrau’n ymateb i ymarfer corff drwy fynd yn fwy ac yn gryfach, ond beth am esgyrn? I ateb y cwestiwn hwn, rydym wedi defnyddio’r cysyniad cyfoes o ystafell ddianc i datblygu gêm feddyliol a chorfforol sy'n seiliedig ar antur er mwyn helpu cyfranogwyr i gael hyd i'r ateb. Rydym wedi defnyddio ystafell ddianc â thema môr-ladron (oherwydd cysylltiad môr-ladron ag ysgerbydau a’u symbol nodweddiadol o faner penglog ac esgyrn croes). Mae elfen ddigidol i’r her hefyd, drwy ddefnyddio codau QR i addysgu’r cyhoedd am fioleg esgyrn. Mae codau QR yn godau bar y gellir eu sganio, ac yn ddolen at gyfrwng digidol fel cerddoriaeth, fideo neu gemau. Drwy ddefnyddio map trysor a dalen ddadgodio, mae chwaraewyr yn llywio eu ffordd drwy’r ystafell ddianc gan ddod o hyd i atebion sydd eu hangen i ddatgloi cist drysor er mwyn dianc. Mae’r ddalen ddadgodio’n cynnwys cwestiynau ynghylch bioleg esgyrn, ac mae'r atebion ar ffurf codau QR y mae’n rhaid i’r chwaraewyr eu sganio â llechen.

Menter Caerdydd
1st floor meeting room, Yr Hen Lyfrgell
The Hayes
Cardiff
CF10 1BH

Rhannwch y digwyddiad hwn