Ewch i’r prif gynnwys

Heriau'r diwydiant: ysbrydoli arloesedd a chyflymiad trwy gydweithio

Dydd Mercher, 11 Medi 2019
Calendar 17:00-20:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Mae Airbus Endeavr yn fenter ar y cyd rhwng Airbus a Llywodraeth Cymru i gefnogi arloesedd. Mae Endeavr yn bodoli i helpu i wireddu syniadau arloesol, gan ariannu gwaith ymchwil cynnar tan ei fod yn cael gwerth masnachol.

Mae Airbus Endeavr yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd (ynghyd â sefydliadau academaidd eraill a busnesau bach arloesol) ac mae wedi ymrwymo i ymchwilio i dechnolegau ym meysydd Gwasanaethau Digidol, AI ar gyfer Cynhyrchedd a Chysylltedd Diogel.Y nod yw cefnogi arloesedd, cyflymiad a thwf trwy gydweithio yn y meysydd hyn, ac yn y pen draw creu swyddi ar gyfer y dyfodol a chyflymu economi Cymru.

Bydd y digwyddiad hwn yn edrych ar sut mae Airbus Endeavr yn gweithio gyda BBaCh, Academyddion a phartneriaid eraill ar brosiectau Ymchwil a Thechnoleg arloesol sy'n mynd i'r afael â heriau o ran cynlluniau. Bydd siaradwyr o'r Brifysgol, Airbus Endeavr, diwydiant a busnesau bach yn amlinellu effaith AI a data ar arloesedd ac yn amlygu llwyddiannau, heriau a phrif gyfleoedd.

At hynny, yn ddiweddar, ymunodd Prifysgol Caerdydd â Rhaglen Scale Up SETSquared, menter ariannu sy'n helpu busnesau bach a chanolig sy’n tyfu’n dda i ddatblygu eu galluoedd Ymchwil a Datblygu ac i fanteisio ar dalent academaidd a chyfleusterau arloesol y Brifysgol. Bydd ein siaradwr o'r Rhaglen Scale Up yn amlinellu'r cyfleoedd i alluogi cyflymiad a thwf pellach.

Ymunwch â ni ar 11 Medi pan fydd ein siaradwyr yn trafod y pwyntiau hyn, a bydd sesiwn holi ac ateb i ddilyn.

Siaradwyr:

  • Nick Crew, Prif Swyddog Gweithredol, Airbus Endeavr
  • Stephanie Eden, Airbus
  • Andrew Lee, Cyfarwyddwr, AV Optics
  • Karen Brooks, Rhaglen Scale Up

Rhwydweithio - Bydd canapés a chyfle i rwydweithio o 5pm.

Cadw lle - Cewch fynd i’r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ond rhaid cadw lle. Caiff lleoedd eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.

Cofrestru – Bydd cofrestru’n agor am 5pm. Bydd y sesiwn yn dechrau’n brydlon am 6:00pm.

Gweld Heriau'r diwydiant: ysbrydoli arloesedd a chyflymiad trwy gydweithio ar Google Maps
Julian Hodge Building
Rhodfa Colum
Caerdydd
CF10 3EU

Rhannwch y digwyddiad hwn