Ewch i’r prif gynnwys

Gwydnwch a thrawsffurfiadau systemau bwyd: safbwyntiau diwydiant a pholisi

Dydd Mercher, 6 Tachwedd 2019
Calendar 17:00-20:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Nod: cyrraedd partneriaid prosiect newydd, partneriaid cynigion posibl, i hyrwyddo ymchwil PLACE

Cynulleidfa: Diwydiant bwyd-amaeth, Llywodraeth Cymru/DU

Mae'r system fwyd fyd-eang yn wynebu heriau digynsail, gyda goblygiadau enfawr i iechyd, yr amgylchedd a'r economi. Fodd bynnag, mae cyd-destunau newidiol yn y DU yn cyflwyno cyfleoedd cadarnhaol i gynhyrchwyr, proseswyr a manwerthwyr. Sut gallwn fanteisio ar y rhain i greu synergeddau newydd rhwng defnydd a chynhyrchu cynaliadwy, ac o bosibl yn gosod bwyd-amaeth ar lwybrau mwy diogel a chynaliadwy?

Mae ein gwaith ar fwyd-amaeth a datblygu gwledig yn ystyried bod cynhyrchu a bwyta yn gysylltiedig, mewn systemau seiliedig ar leoedd a sefydlwyd ym myd natur a bioamrywiaeth. Mae wedi cael effaith sylweddol ar ddatblygu polisïau a dadleuon yn ymwneud â bwyd-amaeth, tirweddau dynodedig a datblygu gwledig ar lefelau Cymru, y DU a'r UE.

Gan weithio gyda phobl allweddol ar draws y system fwyd mae ein hymchwil yn edrych ar ffyrdd newydd arloesol o fynd i'r afael â'r heriau hyn, a gwireddu system fwyd sy'n fwy amrywiol yn gymdeithasol ac yn ecolegol. Rydym yn gofyn a oes modd i system fwyd ranbarthol yn y DU gynnig deietau iach a chynaliadwy, ac a oes modd creu gwydnwch yn y system drwy gryfhau cyfalaf cymdeithasol ymysg rhanddeiliaid y system fwyd. Y nod fydd dod o hyd i ffyrdd o greu cadwyni cyflenwi bwyd mwy gwydn drwy ystyried rôl sgiliau ym maes garddwriaeth gynhyrchu.

Drwy ddod â phobl allweddol yn y sector bwyd-amaeth at ei gilydd, bydd y digwyddiad hwn yn edrych ar ymagweddau newydd arloesol at yr heriau sy'n wynebu'r system fwyd fyd-eang.

Siaradwyr:

  • Yr Athro Terry Marsden, Cyfarwyddwr, Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy
  • Dr Hannah Pitt, Cymrawd Ymchwil Sêr Cymru II. Arweinydd y Prosiect, Deall sut i Dyfu
  • Dr Angelina Sanderson-Bellamy, Prifysgol Caerdydd. Arweinydd y Prosiect, T-GRAINS: Trawsffurfio a Magu Perthnasoedd o fewn systemau bwyd rhanbarthol er mwyn Gwella Maeth a Chynaliadwyedd
  • Huw Thomas. Puffin Produce
  • Andy Richardson: Volac/Cadeirydd, Llywodraeth Cymru, Bwrdd Bwyd a Diod
  • Bob Kennard. Ymddiriedolaeth Bwyd Cynaliadwy

Rhwydweithio - Bydd canapés a chyfle i rwydweithio o 5pm.

Cadw lle - Cewch fynd i’r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ond rhaid cadw lle. Caiff lleoedd eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.

Cofrestru – Bydd cofrestru’n agor am 5pm. Bydd y sesiwn yn dechrau’n brydlon am 6:00pm.

Rhannwch y digwyddiad hwn