Ewch i’r prif gynnwys

Dysgu Cynrychiolaeth Semantig

Dydd Gwener, 19 Gorffennaf 2019
Calendar 11:00-17:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

three circles inside a funnel each circle has a label, data cleansing, data mapping or trial conversions. there is an arrow omitting from the bottom of the funnel that says, data conversion.

Dyma’r amserlen dros dro ar gyfer y gweithdy:

11:00-11:10 Croeso

11:10-12:20 Shay Cohen (Prifysgol Caeredin)

12:20-13:20 Cinio

13:20-14:30 Sebastian Riedel (Coleg Prifysgol Llundain)

14:30-15:40 Thomas Lukasiewicz (Prifysgol Rhydychen)

15:40-16:00 Egwyl coffi

16:00-17:00 Angelika Kimmig (Prifysgol Caerdydd)

Dysgu cynrychiolaeth yw’r dasg o drosi data o’u ffurf grai i ffurf sy’n fwy addas ar gyfer modelau dysgu peiriannol. O ystyried poblogrwydd dysgu dwfn, y dull mwyaf cyffredin yw dysgu sut mae mapio o eitemau data ar fector â dimensiynau sefydlog. Mae cynrychioliadau fector o’r fath yn cael eu defnyddio’n gyffredin wrth brosesu delweddau ac wrth brosesu iaith naturiol yn arbennig.  Her arbennig, fodd bynnag, yw dysgu cynrychioliadau fector sydd, ar ryw ystyr, yn ystyrlon o ran semanteg.  Ar y naill law, mae hynny’n hanfodol er mwyn galluogi modelau dysgu peirianyddol y gellir eu dehongli, nodwedd sy’n prysur ddod yn hollbwysig mewn llawer o gymwysiadau. Ar y llaw arall, mae angen cynrychioliadau sy’n ystyrlon o ran semanteg i ymgorffori gwybodaeth am y parth sydd eisoes yn bodoli (e.e. sy’n cael ei darparu gan arbenigwr ar y parth neu sydd ar gael o ryw sylfaen o wybodaeth), ac yn sgîl hynny bwydo gwybodaeth i fodelau dysgu peirianyddol.

Gweld Dysgu Cynrychiolaeth Semantig ar Google Maps
C/2.07.
Queen's Buildings
5 The Parade
Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 3AA

Rhannwch y digwyddiad hwn