Ewch i’r prif gynnwys

Dyfodol Cyllid Cymru - Cynhadledd Dadansoddi Cyllid Cymru 2019

Dydd Mawrth, 2 Gorffennaf 2019
Calendar 09:00-15:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

wfa conference

Mae’n bleser gennym gyhoeddi y byddwn yn cynnal cynhadledd gyntaf Dadansoddi Cyllid Cymru ar 2ail o Orffennaf yn adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd.

Mae Dadansoddi Cyllid Cymru yn gorff ymchwil yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, sy’n darparu ymchwil awdurdodol ac annibynnol i gyllid cyhoeddus, trethiant a gwariant cyhoeddus Cymru.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys yr ymchwil ddiweddaraf gan dîm Dadansoddi Cyllid Cymru, ynghyd a phaneli arbenigol yn trafod y rhagolwg ar gyfer cyllid cyhoeddus, effaith llymder ar wasanaethau cyhoeddus ac opsiynau polisi Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, ymhlith pynciau eraill.

Tra bydd y rhaglen lawn yn cael ei chyhoeddi maes o law, rydym yn annog cofrestru’n gynnar.

Mae’r gynhadledd hon yn rhad ac am ddim. Bydd o ddiddordeb arbennig i ymchwilwyr, academyddion, sefydliadau sy’n ymwneud â chyllid cyhoeddus, a’r gymuned llunio polisïau, ond mae’n agored i unrhyw aelod o’r cyhoedd sydd â diddordeb.

Darperir cinio a lluniaeth.

Noddi'r gan y Llywydd, Elin Jones AC.

Adeilad y Pierhead
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA

Rhannwch y digwyddiad hwn