Ewch i’r prif gynnwys

Tystiolaeth Amgylcheddol 2019 - Tystiolaeth Forol

Calendar Dydd Mawrth 17 Medi 2019, 10:00-Dydd Iau 19 Medi 2019, 15:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Image of bottle nose dolphin in the water

I gefnogi lansiad Strategaeth Tystiolaeth Forol Cymru, bydd Llwyfan Morol Cymru yn cynnal tri diwrnod o gyflwyniadau, gweithdai a grwpiau trin a thrafod ymchwil, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Phrifysgol Abertawe.

Helpwch ni i greu consensws ynghylch sut y gallwn ni sicrhau cynaliadwyedd ecolegol, cymdeithasol ac economaidd ein hamgylchedd morol ac arfordirol - hoffem ni weld y darlun cyflawn.

Croesewir cynadleddwyr o fyd ymchwil, diwydiant, y cyhoedd a’r trydydd sector.

I ymchwilwyr

  • Ehangu eich rhwydwaith
  • Datblygu prosiectau ymchwil cydweithredol
  • Cael yr effaith fwyaf posibl drwy fynd i’r afael â blaenoriaethau tystiolaeth

I’r sector cyhoeddus

  • Cwrdd â darparwyr tystiolaeth
  • Llywio blaenoriaethau ymchwil
  • Cydweithio ar ddatblygu prosiectau

I ddiwydiant

  • Cipolwg ar ddatblygiadau polisi
  • Cyfrannu at drafodaethau ynghylch rheoleiddio, llywodraethu, rheoli a monitro
  • Rhwydweithio â phartneriaid ymchwil posibl

I’r trydydd sector

  • Cynrychioli buddiannau eich sefydliad
  • Cyfrannu at drafodaethau ynghylch rheoleiddio, llywodraethu, rheoli a monitro
  • Rhwydweithio â phartneriaid ymchwil posibl

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn Abertawe!

Lecture Theatre / Conference Space
Fabian Way
Swansea
Swansea
SA1 8EN

Rhannwch y digwyddiad hwn