Ewch i’r prif gynnwys

Newid sefydliadol, dibyniaeth ar lwybrau’r gorffennol a chynllunio trafnidiaeth gyhoeddus yn Auckland: Canfyddiadau prosiect ymchwil gan Imran Muhammad

Dydd Gwener, 28 Mehefin 2019
Calendar 12:00-13:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Mae'r ymchwil hon yn ystyried yr anghysondebau a'r ansicrwydd sydd wedi nodweddu cynllunio trafnidiaeth yn Auckland. Mae’n ateb cwestiynau sylfaenol ynghylch sut y gellir cyflawni trawsnewid sefydliadol llwyddiannus tuag at drafnidiaeth gynaliadwy. 

Mae'r ymchwil yn dangos mai canlyniad polisïau sy'n ddibynnol ar lwybrau ac o blaid ffyrdd ers y 1950au yw dibyniaeth Auckland ar geir. Yn seiliedig ar ideoleg neo-ryddfrydol, marchnad rydd, mae Auckland wedi bod yn benderfynol o gofleidio polisi datblygu sy'n rhoi blaenoriaeth i draffyrdd. Yn ogystal â chreu normau, gwerthoedd a chredoau sy'n canolbwyntio ar geir, mae hyn wedi creu rhwystrau gwleidyddol a sefydliadol aruthrol. Gwelwyd tystiolaeth o hyn o ran y lefel anghyfartal o gyllid sy'n cael ei ddyrannu, rhesymeg dechnegol ragfarnllyd, prosesau ymgynghori arwynebol a'r rhethreg effeithlonrwydd economaidd a ddefnyddir yn aml gan y llywodraeth i gyfiawnhau prosiectau ffordd yn hytrach na thrafnidiaeth gyhoeddus.