Ewch i’r prif gynnwys

Y da a’r drwg o gyflwyno gwenyn mêl i gampws Cathays Prifysgol Caerdydd, gan yr Athro Les Baillie, Pharmabees

Dydd Gwener, 17 Mai 2019
Calendar 12:00-13:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Mae prosiect arobryn Pharmabees yn rhan o genhadaeth ddinesig Prifysgol Caerdydd i gefnogi addysg, creu swyddi newydd, a gwella lles pobl Caerdydd a thu hwnt.  Drwy ddefnyddio’r wenynen fêl fel model, mae’r prosiect wedi datblygu cyfres o weithgareddau addysgu arloesol wedi’u dylunio i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr ac entrepreneuriaid o Gymru. 
Mae’r prosiect yn datblygu cynnyrch sy’n defnyddio mêl ac yn cymryd rhan amlwg mewn prosiectau cymunedol sy’n canolbwyntio ar hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol drwy greu mannau trefol sy’n gyfeillgar i beillwyr, a hynny mewn partneriaeth â chwmnïau o Gymru. Hyd yma, mae tua 1 miliwn o wenyn mêl wedi’u cyflwyno ar draws Gampws Cathays y Brifysgol ac mae pryder bod yr ymgais annoeth hon i gefnogi peillwyr lleol yn gwneud mwy o niwed nag o les. Yr her yw datblygu strategaeth sydd o fudd i bob cymuned sydd mewn perygl - bodau dynol a phryfed.