Ewch i’r prif gynnwys

Darlith goffa Eileen Younghusband. 'Eco Gwan y Lleisiau Oddi Tanom: Clywed am Arferion Cleifion drwy gyfrwng yr hyn a ysgrifennwyd gan gleifion yng Ngwallgofdy Morgannwg, 1864-1914'

Dydd Mercher, 12 Mehefin 2019
Calendar 19:15-20:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Patient E.R. at Glamorgan Asylum, from medical case book, 1897.

Roedd Eileen Younghusband (1921-2016) yn swyddog hidlo yn Llu Awyr Cynorthwyol y Menywod yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn gweithio i asesu adroddiadau radar ac ymuno â'r tîm oedd yn gyfrifol am ddod o hyd i rocedi V2 Hitler. Yn hwyrach yn ei bywyd, cwblhaodd radd gyda'r Brifysgol Agored (yn 87 oed), ac ychydig ar ôl hynny cyhoeddodd ei llyfr cyntaf, Not an Ordinary Life. Cyhoeddodd lyfrau eraill ar ôl hwnnw, gan gynnwys y llyfr plant Eileen's War. Roedd Eileen yn gefnogwr brwd y Ganolfan Dysgu Gydol Oes (Addysg Barhaus a Phroffesiynol erbyn hyn), ac yn 2013 cafodd Fedal yr Ymerodraeth Brydeinig am ei gwaith ymgyrchu yn erbyn toriadau i addysg oedolion yng Nghaerdydd.

Fel Eileen, mae Dan Jewson yn fyfyriwr aeddfed â chysylltiad agos gydag Addysg Barhaus a Phroffesiynol. Dychwelodd i astudio drwy gyfrwng Archwilio Llwybr y Gorffennol ac erbyn hyn, ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd, mae'n ymgeisydd doethurol AHRC yng Nghanolfan Hanes Meddygol Prifysgol Caerwysg yn ogystal ag adran Hanes Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd. Cafodd ei brif ddiddordebau ymchwil eu cefnogi gan Ymddiriedolaeth Wellcome yn y gorffennol, ac maent yn canolbwyntio ar hanes seiciatreg. Fel Eileen, mae ganddo ddiddordeb mawr ym mhrofiad menywod yn y gorffennol.

Mae'n bleser gennym groesawu Dan i draddodi'r ddarlith hon er cof am Eileen Younghusband. Bydd y ddarlith yn ystyried bywyd cleifion yng Ngwallgofdy Morgannwg 1864 a 1914. Mae ymchwil Dan yn archwilio'r byd oddi fewn i'r gwallgofdy, a 'byd mewnol' y claf, ac yn cynnig cyfle prin i 'glywed' cleifion yn siarad drostynt eu hunain.  Gan ganolbwyntio'n benodol ar brofiadau menywod, mae cyfathrebiadau'r cleifion wrth wraidd y ddarlith, er mwyn datgelu'r rhyngweithiadau cymhleth rhwng safbwyntiau, arferion ac ymatebion y rheini a ddygwyd i'r gwallgofdy, drwy lygaid yr hyn a ysgrifennwyd ganddynt.


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Exploring the Past lecture series