Ewch i’r prif gynnwys

Symposiwm Coleg: Dyfodol Cynaliadwy

Dydd Iau, 9 Mai 2019
Calendar 09:00-17:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

College Symposium: Sustainable Futures

Mae’n bleser gennym gyhoeddi’r holl siaradwyr ar gyfer Symposiwm Coleg y mis nesaf.

Gan drin a thrafod thema ‘dyfodol cynaliadwy’, bydd y Symposiwm yn cynnwys cyflwyniadau ar amrediad o ymchwil arloesol a gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gynnwys sut mae cymunedau’n ymdopi ar ôl daeargrynfeydd mawr, defnyddio catalyddion ar gyfer twf glân ac archwilio strategaethau newydd, cysyniadol i fynd i’r afael â dyfodol trefol cynaliadwy.  

Bydd y Symposiwm yn dod â staff a myfyrwyr o bob rhan o’r Brifysgol ynghyd, yn ogystal â chydweithwyr o’r diwydiant, i glywed gan feddylwyr amlwg ac academyddion sydd ar flaen y gad.

Eleni, mae’n bleser gennym groesawu’r Athro Jacqueline McGlade i fod ein prif siaradwr gwadd.  Yr Athro McGlade yw Athro’r Amgylchedd yn Sefydliad Frank Jackson yng Ngholeg Gresham. Mae hi hefyd yn Athro Gwydnwch a Datblygiad Cynaliadwy yng Ngholeg Prifysgol Llundain ac yn Athro ym Mhrifysgol Maasai Mara yn Kenya.

Bydd y Coleg hefyd yn croesawu’r siaradwyr canlynol i’r Symposiwm:

Yr Athro Andrei Gagarin, Ysgol Mathemateg: Modelu mathemategol a phrofiadau ar gyfer cerbydau tanwydd amgen (teitl i’w gadarnhau)

Yr Athro Duncan Wass, Cyfarwyddwr Sefydliad Catalysis Caerdydd: Catalyddion ar gyfer twf glân: o danwydd synthetig i ddeunyddiau animeiddio

Dr Tristram Hales, Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd: Datblygiad gofodol ac amserol risgiau ar ôl daeargrynfeydd mawr

Dr Juliet Davis, Ysgol Pensaernïaeth Cymru Blaenoriaethu’r dyfodol wrth greu Dyfodol Trefol cynaliadwy

Gweld Symposiwm Coleg: Dyfodol Cynaliadwy ar Google Maps
Oriel VJ
Main Building
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT

Rhannwch y digwyddiad hwn