Ewch i’r prif gynnwys

yfarfod Blynyddol a Darlith Gyhoeddus Sefydliad Waterloo: ‘Sut mae newidiadau mewn bioleg cwsg yn creu storm berffaith sy’n effeithio ar les pobl ifanc’, - Yr Athro Mary Carskadon

Dydd Iau, 23 Mai 2019
Calendar 17:00-19:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

How changes in sleep biology create a perfect storm affecting adolescent well-being

Sut mae newidiadau mewn bioleg cwsg yn creu storm berffaith sy’n effeithio ar les pobl ifanc

Mae rôl allweddol cwsg i bobl ifanc yn cael mwy a mwy o sylw ar gyfer ystod o feysydd gan gynnwys aeddfedrwydd yr ymennydd, dysgu, lles emosiynol ac iechyd corfforol. Ceir tystiolaeth amrywiol fod cwsg annigonol, teimladau cysglyd yn ystod y dydd a chamosodiad beunyddiol ymysg pobl ifanc yn gyfrifol am gyfrannu at leihau ansawdd bywyd a chynhyrchiant, mwy o berygl o iselder a gordewdra, cyfraddau uwch o ddamweiniau o ganlyniad i fod yn gysglyd wrth yrru, a salwch a chynnydd posibl mewn ymddygiadau gwrth-gymdeithasol, ymosodol, camddefnyddio sylweddau a hunan-niweidio. Bydd y cyflwyniad yn rhoi trosolwg o ganfyddiadau a diweddariad am dystiolaeth allweddol o bwysigrwydd rôl cwsg mewn datblygiad pobl ifanc; bydd hefyd yn dadlau bod trosiad y ‘storm berffaith’ yn addas ar gyfer patrymau cysgu pobl ifanc yn yr ystyr bod llwybrau datblygu ffactorau bioseicogymdeithasol yn llunio cwymp yn ansawdd cwsg nifer o bobl ifanc sy’n byw yng nghymdeithasau diwydiannol yr unfed ganrif ar hugain.