Ewch i’r prif gynnwys

Dewisiadau Anodd – Yr Athro Ruth Chang (Rhydychen)

Dydd Iau, 16 Mai 2019
Calendar 18:30-20:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Photo of Professor Ruth Chang

Rydym ni gyd yn wynebu dewisiadau anodd. Pa yrfa ddylwn i ei dilyn? Ddylwn i briodi? Ddylwn i gael plant? Faint o arian ddylwn i ei roi i elusen? Ddylwn i roi’r gorau i ddefnyddio fy ngar a throi’n figan er mwyn lleihau cynhesu byd-eang? Yn y ddarlith hon, byddaf yn esbonio beth yw dewisiadau anodd a beth, yn benodol, sy’n eu gwneud nhw’n anodd. Mae wedi dod i’r amlwg bod datgysylltiad rhwng y ffordd rydym yn cysylltu â’r byd a’r penderfyniadau rydym ni’n eu gwneud. Drwy feddwl am ein lle yn y byd mewn ffordd wahanol, rydym yn canfod ffordd unigryw o feddwl am ein penderfyniadau anodd a sut i’w hwynebu.

Ruth Chang yw’r Cadeirydd Cyfreitheg ym Mhrifysgol Rhydychen ac mae’n Gymrawd Athrawol ym Mhrifysgol Coleg Rhydychen. Yn y gorffennol, bu’n Athro Athroniaeth ym Mhrifysgol Rutgers, New Brunswick, New Jersey a chydymaith y gyfraith yn gweithio ar achos (pro bono) yn ymwneud â’r gosb eithaf a nifer o achosion (nid pro bono) am atebolrwydd am gynnyrch a chamymddwyn meddygol.

Mae gwaith academaidd presennol yr Athro Chang yn ymwneud â natur gwerthoedd a rhesymau, gwneud penderfyniadau a rhesymu, cariad ac ymrwymiad, a natur yr hunan. Mae ei hymchwil wedi ymddangos yn y cyfryngau mor bell i ffwrdd â Thaiwan a Brasil, yn ogystal ag ar draws Ewrop a’r byd Saesneg ei hiaith. Mae wedi gweithio gydag amrywiaeth o ddiwydiannau, gan gynnwys gemau fideo, cynhyrchion fferyllol, targedu gweithwyr, bancio a chyllid, ac amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys Llynges yr UDA, y CIA, National Geographic a Banc y Byd.

Gweld Dewisiadau Anodd – Yr Athro Ruth Chang (Rhydychen) ar Google Maps
Wallace Lecture Theatre
Main Building
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT

Rhannwch y digwyddiad hwn