Ewch i’r prif gynnwys

Gweithdy Cyfnewid Gwybodaeth rhwng Ymchwil ac Ymarfer ar 'Ddylunio Mannau Cyhoeddus gyda Chydlyniant Cymdeithasol a Deialog Rhyngddiwylliannol mewn meddwl.'

Dydd Mercher, 15 Mai 2019
Calendar 10:00-15:20

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Public Space Design / Ddylunio Mannau Cyhoeddus

Dros y ddau degawd diwethaf, mae cymdeithasau ar draws y byd yn wynebu heriau mawr er mwyn cyflawni cydlyniant cymdeithasol. Mae amrywiaeth ethnig cynyddol, llymder ariannol a chyfres o wrthdrawiadau ethnig ac ymosodiadau terfysgol wedi creu cyd-destun sy’n meithrin diwylliant o bryder, anoddefgarwch a bod yn amheus o ddieithriaid yn ein mannau cyhoeddus bob dydd. Mae'r cyd-destun hwn wedi arwain at gyfres o arbrofion o'r brig i lawr, yn ogystal ag o'r gwaelod i fyny, o ran dylunio a rheoli mannau cyhoeddus, wrth geisio hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol a thrafodaeth ryngddiwylliannol. Hyd yma, prin iawn fu'r ymdrechion i werthuso canlyniadau'r arbrofion hynny a deall os, a sut, y gwireddwyd cydlyniant cymdeithasol a thrafodaeth ryngddiwylliannol.

Bydd y gweithdy hwn yn dod ag academyddion, ymarferwyr a llunwyr polisi ynghyd i rannu eu gwybodaeth a'u profiad o'r pwnc hwn, a nodi lle mae angen gwybodaeth newydd o ran theori, ymarfer a pholisi ynghylch mannau cyhoeddus. Ei nod yw datblygu rhwydwaith rhyngwladol o arbenigedd i gefnogi ac ymestyn partneriaethau yn y dyfodol mewn gwaith ymchwil rhyngddiwylliannol o ran ymchwil ymarfer a pholisi ynghylch mannau cyhoeddus.

Bydd y gweithdy'n dechrau gyda chyfres o gyflwyniadau byr gan y siaradwyr gwadd yn amlinellu eu hymchwil amrywiol a’u dealltwriaeth o’r pwnc, gyda thrafodaeth i ddilyn.

Trefnwyr

Dr Patricia Aelbrecht, Prifysgol Caerdydd

Dr Quentin Stevens, Prifysgol RMIT, Awstralia

Siaradwyr Gwadd

Ceren Sezer, Grŵp Thematig Mannau Cyhoeddus a Diwylliannau Trefol AESOP, TU Delft

Jane Dann, Cynllunio a Dyluniad Trefol Tibbalds, Llundain.

Noha Nasser, MELA, Llundain.

Melissa Meyer, Adfywio a Datblygiad Economaidd, Awdurdod Llundain Fwyaf

Anna Mansfield, Publica, Llundain.

Cofrestru

Mae'r gweithdy'n rhad ac am ddim ond wedi'i gyfyngu i 30 o bobl. Os hoffech fynd i'r gweithdy, anfonwch fynegiant o ddiddordeb heb fod dros 150 o eiriau at Patricia Aelbrecht (aelbrechtp@caerdydd.ac.uk) yn ogystal â Quentin Stevens (quentin.stevens@rmit.edu.au).