Ewch i’r prif gynnwys

All About Almodóvar: Cyfweliadau, Sylwadau a Dadansoddi

Dydd Iau, 9 Mai 2019
Calendar 17:30-19:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Embassy of Spain London

Darlith gan yr Athro Maria M. Delgado (Royal Central School of Speech and Drama, Llundain). Bydd papur yr Athro Delgado yn trin a thrafod tair blynedd ar ddeg o gydweithio gyda Pedro Almodóvar. Gyda chydweithrediad Swyddfa Materion Diwylliannol a Gwyddonol Llysgenhadaeth Sbaen yn Llundain.

Crynodeb
Yn y papur hwn, caiff tair blynedd ar ddeg o gydweithio gyda Pedro Almodóvar eu harchwilio. Bydd yn edrych ar y ffyrdd mae ymgysylltu'n uniongyrchol gyda'r bobl sy'n 'gwneud' diwylliant yn gallu cynorthwyo gyda deall sut caiff y diwylliant hwnnw ei greu a'i werthfawrogi. Gan archwilio cyfweliad fel methodoleg, gobaith yr Athro Delgado yw darlunio sut mae'n cynnig safbwyntiau gwahanol ar ddarn o waith, gan gynnig ffyrdd o amlygu proses a chrefftwaith, dadelfennu a dyrannu rhai o'r moddau y caiff darn o ymarfer creadigol ei adeiladu, datod cyfraniadau'r rheini sy'n ffurfio'r brand cyfarwyddol, a holi beth sy'n ddealladwy i wahanol gynulleidfaoedd. Mae'r papur hwn yn fyfyrdod ar foddau o weld a ffyrdd o weithio, ac mae hefyd yn cynnig myfyrdodau ar sylwebaethau Almodóvar ei hun ar ei waith a sut mae'r rhain yn cynnig ffenest unigryw ar ei ffilmiau. Bydd yr Athro Delgado'n gorffen gyda thrafodaeth fer ar ei ffilm ddiweddaraf, Dolor y Gloria, ar sail ei sgyrsiau gydag ef a'i harsylwadau ar y set wrth iddo saethu'r ffilm yn 2018.

Bywgraffiad
Mae Maria M Delgado yn academydd, beirniad a churadur. Athro a Chyfarwyddwr Ymchwil yn y Royal Central School of Speech and Drama, Llundain. Mae hefyd yn Gymrawd Er Anrhydedd y Sefydliad Ymchwil Ieithoedd Modern yn yr Ysgol Uwchefrydiau ym Mhrifysgol Llundain.  Mae wedi cyhoeddi'n eang ym maes theatr a ffilm Sbaeneg, gan gynnwys Federico García Lorca (Routledge, 2008), ‘Other’ Spanish Theatres (Gwasg Prifysgol Manceinion, 2003, argraffiad Sbaeneg diwygiedig ac ehangedig a gyhoeddwyd gan  Iberoamericana Vervuert, 2017), a deg o gyfrolau a gyd-olygwyd gan gynnwys Contemporary European Theatre Directors (Routledge, 2010), A History of the Theatre in Spain (Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2012), Spanish Cinema 1973-2010: Auteurism, Politics, Landscape and Memory (Gwasg Prifysgol Manceinion 2013), ac A Companion to Latin-American Cinema (Wiley-Blackwell, 2017). Mae ei gwaith ffilm yn cynnwys dros 20 mlynedd fel ymgynghorydd rhaglen ar sinema Sbaeneg a Sbaeneg-Americanaidd i Ŵyl Ffilm Llundain, a gwaith curadu/rhaglennu i Ciné Lumière, ICA a BFI Southbank.

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Iau 2 Mai i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg; yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Theatr Darlithio 1.19
Canolfan Addysgu Ôl-raddedig
Colum Drive
Caerdydd
CF10 3EU

Rhannwch y digwyddiad hwn