Ailystyried anghydraddoldeb o ran lleoliad: a yw Cymru wedi methu a Llundain wedi llwyddo?
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Mae gorddibyniaeth ar fetrigau GDP a GVA y pen wedi cynhyrchu’r ddelwedd o dangyflawni yng nghyd-destun polisi economaidd Cymru ac sy’n cael ei atgyfnerthu gan stereoteipiau newyddiadurol am yr hyn a elwir yn “lleoedd sydd wedi’u gadael ar ôl”.
Nid yw Llundain yn wrthrych a efelychir am ei fod fel Los Angeles yng ngherdd Brecht, yr un lle sy’n nefoedd i’r cyfoethogion, ac uffern i’r tlodion. Mae tai yn anfforddiadwy i’r ifanc a’r tlawd; ac mae’n ased a gaiff ei werthfawrogi pan mae’r perchennog cyffredin yn ennill cyfalaf o bron i £20m y flwyddyn yn ddi-dreth rhwng 2008 a 2018.
Os byddwn ni’n newid y metrigau, gallwn weld Cymru fel lle amrywiol sydd angen polisïau newydd sy’n adeiladu ar lawer o’i asedau. Mae incwm gweddilliol y cartref (ar ôl costau tŷ, trafnidiaeth a chyfleustodau) yn dangos sut mae llawer ohonom fel perchnogion tŷ yn elwa o dai fforddiadwy: Mae teuluoedd Llundain yn gwario £10k y flwyddyn yn fwy na theuluoedd yng Nghymru, ond mae £7k o’r swm hwn yn cael ei wario ar gostau’r cartref. Mae’r mesur hwn hefyd yn amlygu’r broblem o rentu preifat, a phrinder tai cymdeithasol.
Os ydym am adeiladu ar ein hasedau, rhaid rhoi llai o sylw i wneuthurwyr polisi, a rhoi mwy o sylw i’r hyn sy’n bwysig i ddinasyddion cyffredin. Mae hynny’n golygu ailwerthuso rôl y gwaith a chyfres o fetrigau newydd dychmygus fydd yn pennu blaenoriaethau newydd. Pe byddem yn triongli tystiolaeth o wahanol ffynonellau, mae ein dinasyddion eisiau seilwaith gymdeithasol yn eu parciau ac mewn canolfannau cymdeithasol sy’n darparu’r ffrâm ar gyfer cymdeithasgarwch rhad neu isel ei chost.
Mae llawer i’w wneud a dim ond ychydig iawn ohono sy’n gweddu i’r ffrâm ddiffygiol o bolisi economaidd gan ei fod wedi’i wneud ar gyfer yr 20 mlynedd diwethaf. A yw Llywodraeth Cymru yn barod am yr her?
Karel Williams, Ysgol Busnes Alliance Manceinion
Glamorgan Building
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3WA