Ewch i’r prif gynnwys

Digwyddiad Briffio Etholiadau Ewropeaidd 2019

Dydd Mercher, 8 Mai 2019
Calendar 10:00-12:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Wales and EU flags

Mae'n bleser gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd eich gwahodd i'n Digwyddiad Briffio Etholiadau Ewropeaidd 2019.

Gyda Brexit dal heb ei ddatrys ac estyniad yn ei le, mae'n edrych yn fwyfwy tebygol y bydd Cymru a'r DG yn cymryd rhan mewn etholiadau ar gyfer y Senedd Ewropeaidd ar Fai 23ain.

Bydd yr Athro Roger Awan-Scully, yr Athro Laura McAllister a Jac Larner yn defnyddio eu harbenigedd i gynnig canllaw i'r etholiad Ewropeaidd. Gan ddefnyddio data ar farn y cyhoedd a bwriad pleidleisio yng Nghymru, yn ogystal â rhai casgliadau newydd, byddent yn ystyried sut fydd yr etholiad annisgwyl hwn yn gweithio - a pha fath o ganlyniadau sy'n debygol o ddod ohono.

Pa ASE fydd Cymru yn eu dychwelyd i'r Senedd Ewropeaidd? Pa fath o effaith all yr etholiad gael ar wleidyddiaeth plaid yng Nghymru ac ar draws y DG? A beth fydd goblygiadau hyn i gyd ar broses Brexit?

Ymunwch â ni i drafod y cwestiynau hyn a mwy!

Adeilad y Pierhead
Stryd y Pierhead
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA

Rhannwch y digwyddiad hwn