Ewch i’r prif gynnwys

Gwahoddiad i 6ed cynhadledd PRIMaRE

Calendar Dydd Mercher 3 Gorffennaf 2019, 09:30-Dydd Iau 4 Gorffennaf 2019, 13:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Cardiff University 1/20th Scale Turbines

Mae 6ed cynhadledd PRIMaRE yn cynrychioli’r diweddaraf o’r gyfres wyddonol flynyddol gan y gymuded ynni adnewyddadwy forol. Mae’r gynhadledd yn cael ei chynnal yn y brifddinas, Caerdydd, rhwng y 3ydd a’r 4ydd o Orffennaf 2019

Mae’r gynhadledd yn cynnwys prifysgolion, diwydiant a chanolfanau ymchwil sydd yn ymwneud â phob agwedd o ynni adnewyddadwy morol. Disgwylir dros 100 o gyfranogwyr yn amrywio o ddatblygwyr diwydianol, ymchwilwyr o wahanol brifysgolion, amgylcheddwyr morol a  gwneuthurwyr polisiau. Bwriad y gynhadledd yw rhoi trosolwg o wahanol feysydd oddi mewn i ynni morol sy’n cynnwys technoleg, polisi, amgylchedd, dynameghydro, cymeriad adnoddau, deunyddiau, rheolia gweithredu ayyb.

Mae’r 6ed gynhadledd PRIMaRE yn gosod llwyfan ar gyfer siaradwyr diwydianol yn ogystal â phrifysgolion, i gyflwyno eu gwaith a’u hymchwil diweddaraf ar ffurf poster. Fe fydd cyfleusterau ar gael i’r arddangoswyr a bydd posteri ar gael i alluogi’r gymuned allu cyfathrebu, dysgu a rhwydweithio.

Er mwyn arddangos eich gwaith ymchwil, cyflwynwch grynodeb dim mwy nac un tudalen ar wefan yma, gan ddefnyddio’r templed, erbyn y 10fed o Fai, 2019 (WEDI’I ESTYN Tan: 17 Mai 2019).

Fe fydd y crynodebau yn cael eu derbyn fel cyflwyniad llafar neu fel poster. Dylai’r crynodeb grynhoi beth fydd cyd destun y cyflwyniad neu boster, a chynnwys y nodau ac amcanion, a  disgrifiad o’r fethodoleg a chrynodeb o’r darganfyddiadau.

Fe fydd ardal a chyfleusterau ar gael ar gyfer prosteri ac arddangosfeydd.

Mae’n bosib arwyddo lan ar gyfer rhwydwaith PRIMaRE yma: http://www.primare.org/?q=content/primare-network 

Tim O’Doherty

Gweld Gwahoddiad i 6ed cynhadledd PRIMaRE ar Google Maps
T2.09
Trevithick Building
The Parade
Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 3AA

Rhannwch y digwyddiad hwn