Ewch i’r prif gynnwys

Dylunio gofod cyhoeddus a chydlyniant cymdeithasol: Cymhariaeth ryngwladol

Dydd Mercher, 15 Mai 2019
Calendar 17:15-19:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Ymunwch â ni ym Mhrifysgol Caerdydd i ddathlu lansiad llyfr Public Space Design and Social Cohesion: An International Comparison. Mae hwn yn lyfr newydd, sydd wedi’i olygu gan Dr Patricia Aelbrecht a Dr Quentin Stevens, sy’n dwyn ynghyd wybodaeth ysgolheigaidd sy'n cysylltu meysydd dylunio gofod cyhoeddus a chydlyniant cymdeithasol, ac yn mabwysiadu golwg fyd-eang ar ymchwil ysgolheigaidd a gwaith dylunio trefol yng ngogledd a de y byd.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys darlith gan yr awduron, gyda derbyniad diodydd i’w dilyn (dyrennir talebau i brynu’r llyfr am bris gostyngol).

Mae’r ddarlith hon wedi’i noddi gan Ganolfan Ymchwil Dinasoedd Prifysgol Caerdydd a Chymrodoriaeth Cyfenwid Ymchwil Rhyngwladol o RMIT Alumni and Philanthropy.

Ewch i wefan Routledge i gael rhagor o wybodaeth am y llyfr:
https://www.routledge.com/Public-Space-Design-and-Social-Cohesion-An-International-Comparison/Aelbrecht-Stevens/p/book/9781138594036 

Gwybodaeth am y Ddarlith:
Mae mannau cyhoeddus yn cael eu cydnabod fwyfwy fel y prif bwyntiau cyswllt ac felly’n adnoddau hanfodol i gyflawni cydlyniant.
Ond beth yn union yw cydlyniad cymdeithasol, sut profiad a geir ohono yn yr amgylchfyd cyhoeddus, a beth yw rôl dyluniad mannau cymunedol o ran ei wella?

I fynd i’r afael â’r cwestiynau hyn, mae’r ddarlith yn defnyddio llyfr Aelbrecht a Stevens a gwblhawyd yn ddiweddar er mwyn ymchwilio i astudiaethau achos o fannau cyhoeddus mewn 13 gwlad ar draws Ewrop, Asia a chyfandiroedd America.

Gweld Dylunio gofod cyhoeddus a chydlyniant cymdeithasol: Cymhariaeth ryngwladol ar Google Maps
Council Chamber
Glamorgan Building
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3WA

Rhannwch y digwyddiad hwn