Ewch i’r prif gynnwys

Sesiwn Hysbysu Dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd - Water Scarcity: Threats and Opportunities for Wales

Dydd Gwener, 3 Mai 2019
Calendar 08:00-09:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Dry Easrth

Bydd ein Sgwrs dros Frecwast nesaf, bydd yn edrych ar “Brinder Dŵr: Bygythiadau a chyfleoedd i Gymru” yn cael ei gynnal yn yr Ysgol Busnes ar Ddydd Gwener Mai 3ydd. Ym mis Mawrth, rhybuddiodd Sir James Bevan, Prif Weithredwr Asiantaeth yr Amgylchedd, bod Lloegr yn wynebu argyfwng, wrth agosáu at bwynt lle bydd y galw am ddŵr gan boblogaeth gynyddol yn uwch na’r cyflenwadau, sy’n gostwng fel canlyniad i newid yn yr hinsawdd. Ond beth mae hyn yn ei olygu i Gymru?

 

Bydd y Sesiwn dros Frecwast hwn yn cael ei gadeirio gan yr Athro Max Munday, yn archwilio adnodd mwyaf gwerthfawr Cymru – dŵr croyw. Bydd yn ystyried pwysigrwydd ecosystemau dŵr croyw iachus i economi a busnesau Cymru, ac yn dangos sut mai materion fel prinder dŵr, a’r galwadau cystadleuol yn dod yn bwysig i ystod o fusnesau, nid yn unig ym myd cyfleustodau a gweithgynhyrchu, ond hefyd ar gyfer sectorau megis adeiladaeth, a gwasanaethau ariannol, cyfreithiol a busnes.

 

Byddwn hefyd  yn cyfnewid gwybodaeth am y gwaith sy’n cael ei wneud gan Sefydliad Ymchwil Dŵr Prifysgol Caerdydd, grŵp sydd wedi’i greu i helpu i Gymru cymryd dewisiadau gwell ynglŷn a’r defnydd o’n hadnoddau dŵr, er mwyn helpu llywio’ch busnes trwy’r mater holl bwysig hwn.

 

Mae’n bleser gennym eich gwahodd i’r Sesiwn Hysbysu Dros Frecwast nesaf yn Ysgol Fusnes Caerdydd, Canolfan Addysgu Ôl-raddedigion, Colum Drive, Caerdydd, CF10 3EU.

Cysylltwch yma os ydych am gofrestru

 

Os na fedrwch fod yn bresennol, ond hoffech dderbyn wybodaeth am y cyflwyniad, gadewch imi wybod os gwelwch yn dda.

 

Ystafell Addysg Weithredol, 3ydd Llawr
Canolfan Dysgu Graddedigion
Rhodfa Colum
Caerdydd
CF10 3EU

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Executive Education