Ewch i’r prif gynnwys

Cyfrifiadura Cwmwl Cymdeithasol

Dydd Iau, 21 Mawrth 2019
Calendar 18:00-19:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Social cloud computing

O ystyried pa mor gyffredin yw rhwydweithiau cymdeithasol (Facebook, Twitter ac Instagram) a chyfrifiadura cwmwl (DropBox, Amazon Web Services), mae defnyddwyr yn dechrau edrych ar ffyrdd newydd o ddatblygu’r patrymau hyn a manteisio arnynt. Defnyddir rhwydweithiau cymdeithasol i adlewyrchu cysylltiadau go iawn.

Mae hyn yn galluogi defnyddwyr i rannu gwybodaeth a chreu cysylltiadau ymysg ei gilydd drwy rwydweithiau teuluol, cydweithwyr a ffrindiau. Y tu ôl i bob defnyddwyr ar rwydwaith cymdeithasol, ceir isadeiledd cyfrifiadurol sy’n cysylltu’r defnyddiwr ag aelodau eraill y gymuned. Gall fod yn ffôn clyfar neu’n uwch-gyfrifiadur a gall amrywio’n fawr o ran storfa, cyfrifiadura ac argaeledd (pan mae’n weithredol).

Rydym yn cynnig ein bod yn defnyddio’r ymddiriedaeth sydd eisoes wedi’i meithrin ar rwydweithiau cymdeithasol i greu ‘Cwmwl Cymdeithasol’ deinamig, sy’n galluogi ffrindiau i rannu adnoddau cyfrifiadurol o’r fath er mwyn gallu rhannu data a chyfrifiadura. Gallai cyfuno cysylltiadau sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth â mecanweithiau cymhelliant addas (drwy daliadau neu drafod prisiau) gynnig ffordd lawer mwy cynaliadwy o rannu adnoddau cyfrifiadurol, gan arwain at greu rhwydweithiau rhannu adnoddau.

Mae’r drafodaeth hon yn amlinellu ein gweledigaeth o greu Cwmwl Cymdeithasol a’n profiad o wneud hynny o gymuned ger Sao Paulo (Brasil) i gymuned wyddonol yn Chicago (UDA).

Ymunwch â ni am luniaeth o 5pm ymlaen yn Oriel VJ (Prif Adeilad) a hefyd ar ôl y ddarlith.

Gweld Cyfrifiadura Cwmwl Cymdeithasol ar Google Maps
Shandon Lecture Theatre
Main Building
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT

Rhannwch y digwyddiad hwn