Ewch i’r prif gynnwys

Cymru mewn Byd ar ôl Brexit

Dydd Mercher, 27 Mawrth 2019
Calendar 17:45-20:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Arbedwch i'ch calendr

Mae’n bleser gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru a Chanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd gyhoeddi siaradwyr ar gyfer ein digwyddiad a drefnwyd ar y cyd, ‘Cymru mewn Byd ar ôl Brexit’.

Gyda dau ddiwrnod i fynd, byddwn yn edrych tu hwnt i Fawrth 29 ac ar rôl Cymru mewn byd ar ôl Brexit. Sut mae cenhedloedd a rhanbarthau is-wladwriaethol yn cynnal perthnasau rhyngwladol? Beth all Cymru ddysgu gan eraill? Sut ddylai hyn lunio ymagwedd ryngwladol Cymru yn y dyfodol?

Bydd panel o academyddion yn amlinellu sut mae gwledydd a rhanbarthau eraill sy’n rhan o wladwriaeth fwy yn cynnal cysylltiadau rhyngwladol. Caiff y panel ei gadeirio gan Susie Ventris-Field (WCIA). Bydd y panel yn cynnwys:

Byddwn hefyd yn clywed sylwadau gan:

  • Syr Emyr Jones-Parry, cyn-Gynrychiolwr Parhaus y DG i’r Cenhedloedd Unedig
  • Eluned Morgan, Gweinidog dros Gysylltiadau Rhyngwladol a'r Iaith Gymraeg, Llywodraeth Cymru

Bydd y drafodaeth yn ddigwyddiad delfrydol i fyfyrwyr, ymchwilwyr ac aelodau o’r cyhoedd sydd â diddordeb, ac a fydd yn cyfrannu i’r drafodaeth ynglŷn â dyfodol Cymru yn y byd wrth i ni symud yn nes at y dyddiad presennol a bennwyd ar gyfer Brexit. Byddwn yn clywed gan siaradwyr academaidd fydd yn edrych ar y dewisiadau sydd ar gael i Gymru ymgysylltu â’r byd, a sut fyddai proses Brexit yn cyflwyno heriau a chyfleoedd ar gyfer ein perthnasau rhyngwladol yn y dyfodol.

Ar ôl clywed gan academyddion ac ymarferwyr bydd croeso i’r gynulleidfa ymuno â ni am dderbyniad diodydd er mwyn parhau â’r sgwrs.

Welsh Centre for International Affairs
Temple of Peace
King Edward VII Ave
Caerdydd
CF10 3AP

Rhannwch y digwyddiad hwn