Ewch i’r prif gynnwys

Entrepreneuriaeth Ryngwladol a Japan

Dydd Iau, 21 Mawrth 2019
Calendar 18:00-20:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Businessman

Darlith Astudiaethau Japaneeg gan Dr Sarah Louisa Birchley, sy’n ymchwilydd gwadd yn yr Ysgol.

Derbyniad gwin i ddilyn yng nghyntedd MLANG tan 20:30.

CrynodebPe byddai rhywun yn gofyn i chi ddisgrifio unigolyn busnes Japaneeg nodweddiadol, mae’n debygol y byddech yn disgrifio gweithiwr ffyddlon, sy’n gweithio i gwmni Japaneeg o fri, yn sicr o fod yn gyflogedig drwy gydol ei oes, buddion cymedrol, a’r posibilrwydd o ddyrchafiad yn seiliedig ar system statws draddodiadol a hirsefydlog. Ac eto, mae Japan yn newid ac mae’r ddelwedd wedi dyddio erbyn hyn; mae’r amgylchedd cymdeithasol-economaidd presennol yn llywio arferion rheoli adnoddau dynol Japan, ac mae nifer cynyddol o ddynion a menywod busnes Japaneeg yn chwilio am waith ar eu pen eu hunain y tu hwnt i Japan. Maent yn chwilio am gyfleoedd tramor ac yn torri’n rhydd o’r diogelwch sy’n deillio o weithio i gwmni drwy fod yn entrepreneuriaid sy’n allfudo.   Yn y seminar hwn, bydd Dr Birchley yn rhannu’r ymchwil y mae wedi’i chynnal gyda’i chydweithiwr, yr Athro Kazuco Yokoyama, ynghylch profiadau’r entrepreneuriaid Japaneeg yn ne-ddwyrain Asia sydd wedi mynd ati i adael eu gwlad er mwyn bod yn entrepreneuriaid (SIEEs).  Mae’r bobl hyn yn entrepreneuriaid sy’n symud ‘i wlad arall ac yn cynnal cysylltiadau busnes gyda’u gwlad enedigol a’r wlad y maent wedi symud iddi’ (Santamaria-Alvarez et al., 2018, t.246). Drwy gyflwyno astudiaethau achos o Gambodia, Indonesia a Myanmar, byddwn yn trin a thrafod yr hyn mae’r entrepreneuriaid hyn o Japan yn ei bwyso a’i fesur cyn cymryd cam o’r fath, eu safbwyntiau, hunaniaeth, gweithrediad a diwylliant. Y nod fydd cynnal trafodaeth gyfoes ynghylch y newidiadau cysylltiedig mewn arferion rheoli adnoddau dynol, addysg uwch a chymdeithas Japan yn gyffredinol.

BywgraffiadMae Dr Sarah Louisa Birchley ar gyfnod sabothol ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd yn ymchwilio i entrepreneuriaeth ryngwladol ac entrepreneuriaeth yng Nghymru. Cefnogir ei hymchwil gan Grant mewn Cymorth ar gyfer Ymchwil Wyddonol (C) 2017-2020 Allfudo Hunangyfeiriedig Japaneeg: Gwersi ar gyfer Entrepreneuriaeth ac Addysg yn Asia (JSPS 17K03948) a Phrifysgol Toyo Gakuen, Tokyo, Japan.

Cyfieithu ar y prydBydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Llun 11 Mawrth i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

CofrestruMae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg; yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

2.18
Ysgol Ieithoedd Modern
66a Parc y Plas
Caerdydd
CF10 3AS

Rhannwch y digwyddiad hwn