Ewch i’r prif gynnwys

MSc Neuroimaging Open Afternoon

Dydd Mercher, 3 Ebrill 2019
Calendar 13:45-16:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

CT Scan image

Oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu sut mae’r ymennydd yn gweithio a’r technegau delweddu uwch a ddefnyddir i’w astudio?

Ar ddydd Mercher 3 Ebrill, rydym yn cynnal Prynhawn Agored yn CUBRIC, fydd yn gyfle i chi ddysgu mwy am ein cwrs gradd meistr Niwroddelweddu hynod ddiddorol. Cwrs sy’n darganfod y datblygiadau cyffrous a wneir i wella ein dealltwriaeth o anhwylderau gwybyddiaeth a chlinigol gan ddefnyddio adnoddau a thechnegau niwroddelweddu blaengar.

Byddwn yn cynnal y digwyddiad yn CUBRIC, ein cyfleuster pwrpasol ar gyfer delweddu’r ymennydd, lle cewch y cyfle i weld rhai o’r offer niwroddelweddu mwyaf datblygedig, gan gynnwys: MRI (4 sganiwr), MEG, EEG (gan gynnwys labordai cysgu EEG) ac Offer Ysgogi’r Ymennydd.

Ynghyd â gwybodaeth am y cwrs Meistr a thaith o amgylch cyfleusterau CUBRIC, cewch hefyd y cyfle i siarad â staff a myfyrwyr o’r cwrs.

I gael gwybodaeth am y cwrs ewch i  www.caerdydd.ac.uk/neuroimaging.

Rhaglen

1.45 - 2.00 pm Cyrraedd y Dderbynfa, CUBRIC
2.00 - 3.00 pm Cyflwyniad gan Lisa Evans, Cyfarwyddwr Cwrs, a chynfyfyrwyr. Holi ac ateb
3.00 - 4.00 pm Taith o amgylch CUBRIC a sesiwn arddangos.
4.00 - 4.30 pm Te a bisgedi a chyfle i siarad gydag academyddion a chynfyfyrwyr.

Cysylltu

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad hwn, cysylltwch â ni psych-masters@caerdydd.ac.uk.

Gwyliwch ein fideo i gael cipolwg o CUBRIC!

Hefyd, edrychwch beth mae un o’n cynfyfyrwyr wedi’i ddweud am y cwrs.

Gweld MSc Neuroimaging Open Afternoon ar Google Maps
Main reception
Cardiff University Brain Research Imaging Centre
Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ

Rhannwch y digwyddiad hwn