Ewch i’r prif gynnwys

Lansiad Gŵyl Ymchwil Ôl-raddedig

Dydd Llun, 18 Mawrth 2019
Calendar 10:00-13:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Mae’n bleser gan yr Academi Ddoethurol eich gwahodd i’w Gŵyl Ymchwil Ôl-raddedig gyntaf. Bydd yr Ŵyl yn dod â chymuned ymchwil Caerdydd ynghyd ac yn dathlu cyflawniadau ein hymchwilwyr ymchwil ôl-raddedig. Bydd hefyd yn rhoi’r cyfle iddynt fireinio eu sgiliau mewn ystod o bynciau pwysig.

Bydd yr Ŵyl yn agor gyda diwrnod arbennig i ddangos llwyddiannau ein Hymchwilwyr Ôl-raddedig (PGRs). Un o’n Llysgenhadon — Dr Sabrina Cohen Hatton — fydd yn agor y digwyddiad, yna bydd arddangosfa o ymchwil ddoethurol a llwyddiannau. Yma byddwn yn arddangos yr ystod eang o weithgareddau a gyflawnwyd gan ein Hymchwilwyr Ôl-raddedig dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys cynigion i’n cystadleuaeth Delweddau Ymchwil, fideos Three Minute Thesis, Cyflwyniadau TEDx, a stondinau sy’n arddangos prosiectau eraill sy’n gysylltiedig ag Ymchwil Ôl-raddedig.

Bydd hefyd gennych y cyfle i rwydweithio gydag ymchwilwyr o wahanol rannau o’r Brifysgol dros ginio.

Gweld Lansiad Gŵyl Ymchwil Ôl-raddedig ar Google Maps
Doctoral Academy, 5th Floor




Rhannwch y digwyddiad hwn