Ewch i’r prif gynnwys

Cynllunio gwych sy'n creu lleoedd gwych

Dydd Iau, 28 Mawrth 2019
Calendar 17:30-19:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Steve Quartermain CBE

Yn y ddarlith gyhoeddus hon, bydd Steve Quartermain CBE, Prif Gynllunydd y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, yn trafod pwysigrwydd ymgorffori’r dull cywir yn y system gynllunio er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn datblygu lleoedd o safon i gymunedau fyw ynddynt.

Mae'r llywodraeth wedi ymrwymo i gefnogi 300 mil o dai y flwyddyn ac mae'n cydnabod y gall ansawdd y tai hyn a chyflawni’r twf hwn godi pryderon. Gan fod creu lleoedd gwych yn hollbwysig i'r agenda gyffredinol, mae’n bwysig ymgysylltu â chymunedau a helpu pobl i ddeall y datblygiad buddion, er mwyn cydnabod y manteision hyn yn y cymunedau lle maent yn byw.

Fel rhan o'r dull polisi hwn, mae'r llywodraeth wedi gwneud newidiadau i'r fframwaith polisi cynllunio ac i'r canllawiau cynllunio. At hynny, mae wedi penodi Pennaeth Pensaernïaeth a bydd y ddarlith yn tynnu sylw at y materion hyn ac yn trafod pwysigrwydd ymgorffori’r dull cywir yn y system gynllunio.

Ac yntau’n gynlluniwr dan hyfforddiant, dechreuodd Steve ei yrfa ar ôl astudio daearyddiaeth yn Durham. Enillodd gymhwyster ôl-raddedig a daeth yn aelod o’r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI) ym 1982. Yn bennaf, roedd ei yrfa gynnar yn ymwneud â rheoli datblygu yng Nghoedwig Epping a Dartford. Symudodd Steve i Swydd Efrog i fod yn Bennaeth Rheoli Datblygu ac ym 1988, cafodd ei benodi’n Bennaeth Cynllunio.

Ym 1996, cafodd ei benodi’n Gyfarwyddwr Cynllunio a’r Gwasanaethau Amgylcheddol, sy’n cynnwys pob gwasanaeth rheng-flaen heblaw budd-daliadau tai.

Yn ystod 2004/05, bu Steve yn llywydd Cymdeithas y Swyddogion Cynllunio. Roedd y cyfle i ymgymryd â rôl Prif Gynllunydd y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn 2008 yn un na allai Steve ei golli.

Yn y rôl hon, mae'n bennaeth Galwedigaethau ac mae wedi gwneud gwaith sylweddol i hyrwyddo rôl cynllunio yn y gwasanaeth sifil. Un o’i amcanion personol yw codi ymwybyddiaeth o fanteision cynllunio da ar draws Whitehall a thu hwnt.

Lluniaeth a chofrestru- 5.30pm, Siop goffi, Adeilad Morgannwg

Digwyddiad yn dechrau - 6pm

Digwyddiad rhad ac am ddim yw hwn ond dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael.

*Cynhelir y digwyddiad hwn trwy gyfrwng y Saesneg.

Bydd Prifysgol Caerdydd yn cadw’r wybodaeth a ddarperir gennych yn unol â Pholisi Diogelu Data y Brifysgol. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i roi’r newyddion diweddaraf i chi cyn digwyddiad Effaith ac Ymgysylltu yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio ac i hwyluso'ch profiad.

Ar ôl y digwyddiad, byddwn hefyd yn eich ebostio i gael eich adborth am eich profiad o’r digwyddiad (nid oes rhaid i chi lenwi’r arolwg adborth).

Bydd gwybodaeth yn cael ei chadw am flwyddyn ar ôl dyddiad y digwyddiad.

Drwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, rydych yn rhoi caniatâd i ni brosesu eich data. Mae gennych yr hawl i newid eich meddwl a gwrthod rhoi eich caniatâd i ni brosesu eich data ar unrhyw adeg (cysylltwch â iande@caerdydd.ac.uk)

Rydym yn defnyddio Eventbrite i brosesu gwybodaeth am unigolion sy'n cofrestru ar gyfer ein digwyddiadau. Gallwch ddarllen polisi preifatrwydd Eventbrite i gael gwybod sut maent yn rheoli data defnyddwyr: https://www.eventbrite.com/support/articles/en_US/Troubleshooting/eventbrite-eu-data-protection

Gweld Cynllunio gwych sy'n creu lleoedd gwych ar Google Maps
Lecture Theatre -1.64
Glamorgan Building
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3WA

Rhannwch y digwyddiad hwn