Ewch i’r prif gynnwys

Prif ddarlith: “On the Homogenizing Dangers of Easily Translated Literature” ynghyd â thrafodaeth bwrdd crwn a sesiwn holi ac ateb gyda chyfieithwyr llenyddol profiadol

Dydd Sadwrn, 13 Ebrill 2019
Calendar 09:30-12:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Bydd darlith yr Athro Snyder yn cael ei rhagflaenu am 9:30yb gyda sgwrs gan gyfieithydd manga Emily Balistrieri, a fydd yn trafod y diwydiant manga yn Japan a chyfleoedd a heriau unigryw cyfieithu manga.

Crynodeb

Yn ei ddarlith, a gyflwynir fel rhan o Weithdy Cyfieithu Japaneeg a drefnir ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd a Kurodahan Press, bydd Stephen Snyder yn trafod ffuglen ddiweddar gan yr awduron o Japan Haruki Murakami a Minae Mizumura i archwilio pam a sut mae rhai gweithiau'n dod yn rhwydd i'r farchnad lenyddol fyd-eang tra bo eraill yn gwrthsefyll y "traffig" cyfieithu hwn.  Ystyrir bod testunau Murakami wedi tarddu o ymarfer cyfieithu, sydd yn ei dro'n dod yn ffactor allweddol yn eu llwyddiant rhyfeddol ar draws diwylliannau llenyddol.  Mae ei stori fer ddiweddar, “Samsa in Love,” yn ymgorffori ac yn gweithredu llawer o'r egwyddorion cyfieithu sydd wedi llywio gyrfa Murakami.  Ar y llaw arall, mae Mizumura wedi creu cyfres o ffuglenni sydd fel pe baent yn gwrthsefyll cyfieithu er eu bod yn cydnabod ei fod yn anochel.  Yn A True Novel a'i gwaith anffuglennol polemig, mae'n dadlau dros ymarfer naratif sydd wedi'i wreiddio'n agosach mewn iaith a diwylliant lleol sydd drwy ddiffiniad yn llai rhwydd i'w gyfieithu a'i allforio i gyd-destunau diwylliannol estron.  Mae cyfosod yr awduron hyn yn awgrymu llwybrau croes ymlaen ar gyfer ffuglen mewn cyfieithiad, er nad ydynt o bosib yn cau ei gilydd allan.

Yn dilyn y ddarlith ceir trafodaeth bwrdd crwn gyda phum cyfieithydd llenyddol Japaneeg-Saesneg profiadol, fydd yn gweithredu fel mentoriaid ar gyfer y Gweithdy Cyfieithu Japaneeg. Bydd y cyfieithwyr yn trafod llwybrau eu gyrfaoedd ac yn cynnig cyngor i gyw-gyfieithwyr sy'n dymuno dilyn gyrfa ym maes cyfieithu llenyddol. Bydd sesiwn holi ac ateb ar ôl y bwrdd crwn.

Mae’r prif sesiynau a’r sesiynau trafod yn rhan o raglen Gweithdy Cyfieithu Japan a ddyluniwyd i feithrin datblygiad cyfieithwyr llenyddol drwy gynnig profiad ymarferol iddynt ym mhroses gyfieithu llenyddiaeth masnachol. Caiff cyfieithwyr eu paru gyda mentoriaid hynod brofiadol fydd yn eu helpu i fireinio eu cyfieithiadau. Bydd cyfieithiadau sy’n cael eu creu trwy’r rhaglen hon yn ymddangos mewn detholiad o ffuglen, o dan y teitl ‘Vampire!’, a gaiff ei gyhoeddi gan Kurodahan Press ym mis Rhagfyr 2019.

I weld rhestr o’r straeon byrion i’w cyfieithu yn ystod rhaglen y gweithdy, ewch i https://www.kurodahan.com/wp/e/catalog/9784909473004.html

Bywgraffiad

Mae Stephen Snyder yn Ddeon Ysgolion Iaith ac Athro Kawashima mewn Astudiaethau Japaneeg yng Ngholeg Middlebury. Ef yw awdur Fictions of Desire: Narrative Form in the Novels of Nagai Kafū (Gwasg Prifysgol Hawai’i, 2000) ac mae wedi cyfieithu gweithiau gan Yōko Ogawa a Kenzaburō Ōe, ymhlith eraill. Cyrhaeddodd ei gyfieithiad o Hotel Iris (Picador, 2010) gan Ogawa restr fer Gwobr Lenyddol Man Asia yn 2011, gyda'i gyfieithiad o Revenge gan Ogawa (Picador, 2013) ar restr fer y wobr Ffuglen Dramor Annibynnol yn 2014.

Cyfieithu ar y pryd

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Gwener 29 Mawrth i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru

Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg; yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.