Ydych chi erioed wedi meddwl beth mae Gŵyl y Gwanwyn yn ei olygu a pham ei bod mor arbennig i bobl Tsieineaidd? Ymunwch â ni am y cyflwyniad gyda'r nos hwn i gael rhagor o wybodaeth.
Ymunwch â ni ar ar gyfer y sgwrs hon o dan arweiniad cynfyfyrwyr wrth i ni drafod y cyfle rhad ac am ddim i gael gwybodaeth, galluogi cymunedau a chryfhau’r cysylltiad rhyngddynt. Y sgwrs hon yw’r ddiweddaraf yn ein cyfres FABA (Fyw!) o ddigwyddiadau, lle rydym yn trosglwyddo'r gwe-gamerâu i'n cynfyfyrwyr drafod pynciau sydd o ddiddordeb i gymuned Prifysgol Caerdydd.
Yn wyneb y pandemig COVID-19, ymatebodd Prifysgol Caerdydd yn gyflym ac yn effeithlon. Mae rhoi diogelwch a lles ein 30,000 o fyfyrwyr a 7,000 o staff yn flaenoriaeth wrth gynnal rhagoriaeth addysgu ac ymchwil.
Mae’r gweminar hwn ar ‘Safbwyntiau newydd ynghylch COVID-19’ yn cynnwys 6 chyflwyniad gan Aelodau Academia Europaea, sydd i gyd wedi cyhoeddi papurau'n ddiweddar ar wahanol agweddau biofeddygol ar COVID-19.
Digwyddiad bwrdd crwn ar-lein a drefnir gan thema ymchwil Hanes a Threftadaeth dan thema ymchwil Ysgol-gyfan Argyfwng a Diwylliant yr Ysgol Ieithoedd Modern.
Bydd Dewi Alter yn dadansoddi gweithiau a bywyd Charles Edwards (1628-1691?) yng ngoleuni trafodaethau ar alltudiaeth yn arbennig y cysyniad ‘internal exile’ D’Addario (2007).
Gweminar gyda Dr Wine Tesseur (Prifysgol Dinas Dulyn), a drefnir gan thema ymchwil Astudiaethau Traws-wladol, Diwylliannol a Gweledol yr Ysgol Ieithoedd Modern.
Ymunwch â'r Athro Val O'Donnell, Cyd-gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau, a fydd yn trafod sut mae ei thimau'n ymchwilio i glotiau ar draws sbectrwm o afiechydon. Bydd yr Athro Peter Collins, Clinigwr ac Athro Haematoleg, yn ymuno â hi i ddangos sut mae ymchwil yng Nghaerdydd i waedu adeg genedigaeth wedi newid polisi iechyd a gwella bywydau menywod ledled Cymru.
Gweminar gyda Dr Sergey Tyulenev (Prifysgol Durham) a drefnir gan thema ymchwil Astudiaethau Diwylliannol a Gweledol Trawswladol dan thema ymchwil Ysgol-gyfan yr Ysgol Ieithoedd Modern, Argyfwng a Diwylliant.
Dewch i gwrdd â thri o'n Sêr y Dyfodol ym maes Ymchwil a fydd yn dweud mwy wrthych am eu hastudiaethau PhD yng Nghaerdydd. Dewch i glywed am ehangder eu hymchwil a dathlu'r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd.
Ymunwch â'r Athro Paul Morgan, Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau a'r Athro Jeremy Hall, Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl fydd yn trafod sut mae'r system imiwnedd yn effeithio ar iechyd ein hymennydd a’i rôl mewn clefyd Alzheimer yn benodol.