O arbenigwyr yn rhannu eu hymchwil diweddaraf, i wyliau, gweithdai a chyfresi o gyngherddau, mae ein digwyddiadau amrywiol yn agored i bawb: myfyrwyr, staff, cyn-fyfyrwyr a'r gymuned ehangach.
Ymunwch â ni ar gyfer darlith arall yng nghyfres Canolfan Wolfson: Problemau sylfaenol yn y sylfaen dystiolaeth o ran trin iselder ymhlith y glasoed, yng nghwmni’r Athro Argyris Stringaris.
Yn y sesiwn hon, bydd Dr Cara Reed a’r Athro Mike Reed yn trafod eu hymchwil diweddaraf ar dranc posibl pŵer a dylanwad arbenigwyr ac arbenigedd mewn cymdeithas ac yn dangos sut yr amlygodd hyn yn ystod pandemig Covid.