Gweminar mewn sgwrs gyda'r Athro Manuel Barcia, Cadeirydd Hanes Byd-eang ym Mhrifysgol Leeds, sy'n cael ei gynnal gan y thema ymchwil Hanes a Threftadaeth o dan thema ymchwil Argyfwng a Diwylliant yr Ysgol Ieithoedd Modern.
Ymunwch â'r Athro Paul Morgan, Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau a'r Athro Jeremy Hall, Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl fydd yn trafod sut mae'r system imiwnedd yn effeithio ar iechyd ein hymennydd a’i rôl mewn clefyd Alzheimer yn benodol.
Ymunwch â’r sgwrs hon a arweinir gan gynfyfyrwyr wrth i ni ddathlu Diwrnod y Ddaear a thrafod y cwestiwn: A yw COVID-19 wedi ein gwneud yn fwy cynaliadwy? Y sgwrs hon yw’r ddiweddaraf yn ein cyfres FABA (Fyw!) o ddigwyddiadau, lle rydym yn trosglwyddo'r gwe-gamerâu i'n cynfyfyrwyr drafod pynciau sydd o ddiddordeb i gymuned Prifysgol Caerdydd.