Gyrfaoedd a chyflogadwyedd
O'r sector cyhoeddus i'r sector preifat, rydym yn galluogi ein myfyrwyr i ddilyn gyrfaoedd mewn ystod eang o feysydd. Defnyddia ein graddedigion eu sgiliau newydd ar draws sbectrwm eang o swyddi, yn arbennig yn y cyfryngau a'r sectorau addysg ac iechyd. Er bod addysgu, proffesiynau sy'n ymwneud ag iaith, cyhoeddi a chysylltiadau cyhoeddus yn boblogaidd ymhlith ein graddedigion, mae yna gynrychiolaeth dda yn y sectorau busnes a masnach hefyd.
Cymorth gyrfaol
Rydym yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i'n myfyrwyr yn ystod pob cam o'i gradd, yn trefnu digwyddiadau gyrfaoedd wedi'u teilwra drwy gydol y flwyddyn.
Beth bynnag fo'ch uchelgeisiau gyrfa, gallwn eich helpu i ddechrau eich siwrne gyda'n hystod o weithgareddau.
Mae cymorth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn cynnwys:
- sesiynau un-i-un drwy apwyntiad
- gweithdai CV, ffurflenni cais a chyfweliadau
- sesiynau trefnu gyrfaoedd sy'n cynnwys dewisiadau gyrfa ar gyfer eich gradd yn y Dyniaethau
- dosbarth meistr LinkedIn
- digwyddiadau rhwydwithio proffesiynol
- siaradwyr gwadd proffesiynol o sectorau amrywiol (e.e. cyhoeddi, treftadaeth, y sector elusennol)
- lleoliadau a chyngor profiad gwaith
- gweithgareddau menter
- gwybodaeth cyfredol am y farchnad lafur.
Meithrin sgiliau cyflogadwyedd
Ar gyfer mynediad 2018, mae ein modiwl cyflogadwyedd newydd wedi ei gynllunio i feithrin sgiliau cyflogadwyedd sy'n drosglwydaddwy ar gyfer ystod o yrfaoedd proffesiynol ac ar gyfer graddedigion.
Wedi ei ddyfeisio a'i gynnal ar y cyd gyda'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, mae'r modiwl dewisol ar gyfer yr Ail Flwyddyn wedi ei deilwra i'r sgiliau a'r cyfleoedd mae eich gradd yn cynnig i chi. Bydd yn cyflwyno hanfodion adeiladu gyrfa i fyfyrwyr ac yn cynnwys lleoliad gwaith.
Mae gan fyfyrwyr yr hyblygrwydd i drefnu lleoliad gwaith sy'n berthnasol iddyn nhw, ar amser cyfleus, yn amodol ar gymeradwyaeth yr Ysgol. Bydd lleoliadau gwaith neu hyfforddiant yn para o leiaf 35 awr.
Straeon myfyrwyr
The careers service has helped me with everything from my CV and applications to interview preparation. I've now secured a position on a graduate scheme. I couldn't recommend the careers service more highly!
I have gained a greater insight into how to approach finding a graduate job, knowledge of what employers truly want and how best to present myself in an interview, landing a graduate job working as a merchandiser.
The Careers Service provided me with invaluable support regarding my Teach First application and help in preparing for my assessment centre. I attended various workshops and events which helped me understand what would be expected of me during the assessment day, and in turn, helped me to gain a place among the 2017 cohort.
Cysylltu
Lleolir y gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ar Blas y Parc.
Kirsty Osman yw cynghorydd gyrfaol yr Ysgol. Gallwch drefnu apwyntiad gyda Kirsty drwy eich Cyfrif Gyrfaoedd.
Gallwch hefyd gyrchu ystod o adnoddau dysgu rhyngweithiol trwy Taith Eich Gyrfa ar-lein.
Careers and Employability
Llinos Carpenter
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2020. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw’r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2017/18 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2020.