Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan Cymorth Ysgrifennu

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae'r Ganolfan Cymorth Ysgrifennu yn cynnig ystod o gefnogaeth i'ch helpu chi i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu academaidd ac iaith ysgrifenedig.

Nod ein Canolfan yw helpu myfyrwyr yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth i drosglwyddo o ysgrifennu ysgol i ysgrifennu prifysgol.

Byddwn hefyd yn cefnogi datblygiad eich sgiliau ysgrifennu academaidd trwy gydol eich rhaglen radd i'ch helpu chi i ddod yn ysgrifenwyr academaidd hyderus ac annibynnol.

Sesiynau tiwtorial un i un ar-lein

Mae ein tiwtoriaid profiadol yn mynd trwy'r darn o waith o'ch dewis, gan eich helpu i nodi meysydd sy’n peri problem, megis eglurder, atalnodi, neu drefn. Ein nod yw eich grymuso i ddod o hyd i atebion dros eich hun.

Gallwn weithio gyda chi ar ysgrifennu wrth unrhyw gam o'r broses ysgrifennu, o gynllun traethawd neu ddrafft cychwynnol hyd at draethawd wedi'i farcio gydag adborth.

Roedd y tiwtorialau yn ddefnyddiol iawn - cefais 20% yn fwy ar gyfartaledd yn fy nhraethodau y tymor hwn pan ddefnyddiais y gefnogaeth.
Sam Iaith Saesneg (BA)

Cefnogaeth ychwanegol

Er mwyn eich cefnogi chi, rydym wedi datblygu ystod o fideos rhyngweithiol i gynyddu eich ymwybyddiaeth o arferion ysgrifennu academaidd, i'ch helpu chi i fagu hyder ac i wella'ch cyflogadwyedd.

Roedd y gefnogaeth yn ddefnyddiol iawn, rhoddodd hwb i'm graddau ac felly fy hyder wrth ysgrifennu.
Chloe Llenyddiaeth Saesneg (BA)

Mae cynnwys y fideo yn amrywio o strwythur traethawd ac arddulliau cyfeirnodi Modern Humanities Research Association [MHRA] a Harvard i ddarllen hunanfeirniadol a golygu.

Mae’r Ganolfan Ysgrifennu wedi chwarae rhan hanfodol yn fy mhrofiad dysgu. Fe wnaeth fy helpu i wella fy ngraddau ond hefyd rhoddodd dealltwriaeth dda i mi o ysgrifennu academaidd. Bydd hyn o fudd i mi yn y dyfodol. Gan fy mod yn dod o gefndir addysgol gwahanol, roedd mynegi fy hun yn glir ac yn academaidd yn heriol iawn ar y dechrau. Ond gyda chymorth y Ganolfan Ysgrifennu, gwnes i fagu hyder yn fy mynegiant. 
Ritu Ieithyddiaeth Fforensig (MA)

Cysylltu â ni

Writing Support Centre