Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleusterau microsgopeg a delweddu

Mae ein labordy microsgopeg, yn ystafell EARTH 1.14, yn cynnwys chwe microsgop gyda chamerâu digidol wedi'u cysylltu â chyfrifiaduron, yn ogystal â sganiwr, sy'n cynnig cyfres gynhwysfawr o offer i ymchwilwyr ar gyfer delweddu a dadansoddi ystod eang o samplau.

Microsgopau cyfansawdd petrolegol

Zoomed in image taken using polarising filters on the Epson scanner

Mae yna 2 ficrosgop petrolegol sy’n polareiddio golau a drosglwyddir/adlewyrchir (Leica DM750P a Nikon Optiphot), sydd â chamerâu Zeiss a meddalwedd ddelweddu ZEN wedi'u gosod arnynt. Defnyddir y rhain ar gyfer astudio adrannau tenau petrolegol safonol, adrannau tenau caboledig a blociau caboledig.

Microsgopau cyfansawdd paleontolegol/biolegol

Mae 2 ficrosgop cyfansawdd sy'n addas ar gyfer ymchwil baleontolegol/fiolegol.

Mae gan y microsgop Leica DMR olau a drosglwyddir ac adlewyrchir, gyda lensys sy’n amrywio o x1.25 i  x100 (ar gyfer trochi mewn olew). Defnyddir y microsgop hwn i edrych ar sleidiau microsgop safonol sydd wedi’u paratoi gyda slipiau clawr mewn golau a drosglwyddir, a blociau caboledig mewn golau a adlewyrchir. Mae ganddo hefyd bolaryddion (sy'n caniatáu microsgopeg nomarski (Cyferbyniad Ymyriant Gwahaniaethol)). Mae CYG yn ddefnyddiol ar gyfer astudio microffosilau, yn enwedig palynomorffau, diatomau, cocolithau a phaill. Mae'r microsgop hwn yn cynnwys camera Zeiss a meddalwedd delweddu ZEN.

Mae gan y microsgop Leica DMLB olau a drosglwyddir a lensys sy’n amrywio o x2.5 i x100 (ar gyfer trochi mewn olew). Defnyddir y microsgop hwn i edrych ar sleidiau microsgop safonol wedi’u paratoi gyda slipiau clawr. Mae ganddo hefyd bolaryddion (sy'n caniatáu microsgopeg nomarski (Cyferbyniad Ymyriant Gwahaniaethol)). Mae'r microsgop hwn yn cynnwys camera Leica a meddalwedd ddelweddu LAS.

Stereomicrosgopeg

A  stereoscopic microscope with a computer screnn showning the xlose up of an image
Stereomicroscope - Leica MZ16 fitted with Zeiss camera and ZEN imaging software.

Mae gennym ddau stereoficrosgop Leica: MZ12.5 ac un â manyleb uwch, sef MZ16. Mae gan y ddau ystod o lensys chwyddo gwahanol. Mewn golau a adlewyrchir, gellir dewis rhwng ffynonellau golau ffeibr optig deuol neu olau cylch, y mae gan y ddau bolaryddion dewisol. Mae yna hefyd seiliau golau a drosglwyddir gyda pholaryddion dewisol ac mae tiwb tynnu hefyd.

Mae'r Leica MZ16 yn cynnwys camera Zeiss a meddalwedd ddelweddu ZEN.

Mae'r Leica MZ12.5 yn cynnwys camera Leica a meddalwedd delweddu LAS.

Delweddu

Image of a shark tooth
Image of a shark tooth, taken using EDF option in zen software (Manual focus)

Mae llawer o offer ar gael mewn meddalwedd ZEN a all helpu i ddal a phrosesu delweddau â eglurdeb da, megis:

- EDF (Dyfnder Ffocws Estynedig): Mae'r meddalwedd yn creu un ddelwedd o ddelweddau unigol sydd wedi’u tynnu mewn gwahanol leoliadau Z o'r llwyfan, gan ddefnyddio ffocws â llaw. (Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer stereomicrosgopeg).

- Y ddelwedd orau: Mae hyn yn eich galluogi i gaffael sawl delwedd yn gyflym, mewn gosodiadau camera gwahanol, o'r un safle sampl. Ar ôl caffael y delweddau, gallwch ddewis yr un sydd fwyaf addas i chi.

- Panorama (rhyngweithiol): Mae hyn yn eich galluogi i gaffael delwedd banoramig gyda llwyfan llaw. Os yw cyfanswm arwynebedd y sampl i'w gaffael yn fwy na'r arwynebedd y gellir ei gaffael gydag un caffaeliad, gallwch chi gaffael delweddau lluosog (teils) o ardaloedd cyfagos ar y sampl â llaw, sydd wedyn yn cael eu pwytho i ddelwedd banoramig.

- Mesuriadau Rhyngweithiol: Mae hyn yn eich galluogi i fesur pellteroedd, onglau, arwynebedd a dwyster picseli mewn delweddau. Gallwch hefyd gadw’r canlyniadau mesur ar ffurf tablau a delweddau.

Mae gan y camerâu Zeiss fodd cysylltu â Wi-Fi a gellir eu defnyddio i ddal delweddau gyda ffôn clyfar neu lechen gan ddefnyddio ap Labscope.

Gellir defnyddio'r Sganiwr Epson i dynnu delwedd o sleid microsgop gyfan (adran denau), mewn golau arferol a pholaraidd.

A microspscope with a camera, a scanner and a desktop showing an image from the microscope
Petrological (polarising) microscope - Leica DM750P, fitted with a Zeiss camera and ZEN imaging software and a scanner connected to the computer
Image using a polarising filter
Full slide image – taken using polarising filters on the Epson scanner

Manylion Cyswllt

Lindsey Axe

Lindsey Axe

Senior Research Technician, School of Earth and Sciences

Email
axe@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4310
Dr Imane Fahi

Dr Imane Fahi

Research technician

Telephone
+44 (0)29 2087 6647