Ewch i’r prif gynnwys

Cyfrifiadura perfformiad uchel

Mae canolfannau cyfrifiadura perfformiad uchel a chymorth penodol ar gael ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cyfrifiadura Ymchwil Uwch yng Nghaerdydd (ARCCA)

Mae gan adran ARCCA ym Mhrifysgol Caerdydd (gyda chymorth Uwchgyfrifiadura Cymru) adnodd cyfrifiadura ymchwil, Hawk, sy'n cynnwys 19,416 craidd, gydgysylltedd Infiniband a thros 1 PB o gyfleuster storio ffeiliau.

Wal Helix

Cyfleuster delweddu stereo 3D, sy'n cynnwys sgrîn 3.5m wrth 3.5m.

ARCHER

Rydym yn ymgymryd â'n hymchwil efelychu a ariennir gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) ar ARCHER (system gyda 118,080 craidd prosesu), a gaiff ei disodli yn 2020 gan ARCHER2, system gyda 748,544 craidd. Ariannwyd Uwchgyfrifiadur Cenedlaethol ARCHER gan NERC ac EPSRC, ac ariannwyd yr uwchgyfrifiadur Cenedlaethol newydd ARCHER2 gan Ymchwil ac Arloesi'r DU (UKRI).

Sut maen nhw'n helpu

Mae'r Grŵp Ymchwil Geodynameg Mantell yn defnyddio'r cyfleusterau ar gyfer ei ymchwil. Ariennir yr ymchwil gan Gynghorau Ymchwil, Diwydiant Preifat ac Elusennau. Mae'r ymchwil gyfrifiadurol perfformiad uchel hon yn cynnwys efelychiadau rhifiadol cydran uchel o ddynameg y Ddaear ddofn a sut mae'n effeithio ar yr arwyneb.

Mae'r cyfleusterau'n ein galluogi i gynnal efelychiadau soffistigedig o'r ddynameg, gan gynnwys efelychiadau mewn geometreg sfferaidd 3D. Mae'r modelau hyn yn cynnwys modelau cylchredeg mantell (MCM) sy'n ymgorffori hanes symudiad platiau. Gellir cymharu'r modelau'n uniongyrchol, gan gynnwys drwy ddelweddu 3D, ag arsylwadau gwirioneddol ar gyfer gwella dealltwriaeth.

Mae'r cyfleusterau wedi ein galluogi i ddeall esblygiad y Ddaear yn well gan gynnwys dylanwadau ar dopograffeg yr wyneb, magmatiaeth a strwythur seismig:

  • Yn Price et al., (2019) dangosom ni fod gan gylch dŵr dwfn y Ddaear lefel gref o hunanreoleiddio gan gadw'r mwyafrif llethol o'r dŵr oddi mewn yn ystod hanes y Ddaear.
  • Yn Barry et al., (2017) esboniom ni mai'r rheswm pam mae geocemeg magmâu o’r parthau 'Indiaidd' a 'Chefnfor Tawel' yn parhau i fod yn wahanol dros 500 miliwn o flynyddoedd yw bod y platiau sydd wedi'u tansugno sy'n amgylchynu'r Cefnfor Tawel yn cadw ei heterogenedd o fewn y basn, gan weithredu fel llenni yn y fantell.
  • Yn Wolstencroft a Davies (2017), yn y ddadl ar sut y caiff uwchgyfandiroedd eu gwahanu, dangosom ni nad oes angen dewis rhwng y broses weithredol o rwystro ffrydiau mantell poeth gwaelodol, a'r broses oddefol o gael eu tynnu ar wahân gan rymoedd ymestyn platiau pell, gan ein bod yn dangos bod y ddwy broses yn weithredol ar yr un pryd.
  • Yn Van Heck et al., (2016) datblygom ni fodiwlau soffistigedig i ganiatáu modelu sfferaidd 3D deinamig ar raddfa fyd-eang i ymgorffori esblygiad toddi ac isotopau yn effeithlon, camau oedd eu hangen ar y cyhoeddiadau blaenorol.
  • Dangosodd yr efelychiadau deinamig o dansugno yn Garelet al., (2014) bwysigrwydd rheoleg lithosffer ac asthenosffer tansugnol a gor-redol wrth reoli'r ymddygiad tansugno a ddeilliodd o hynny a morffoleg slabiau a dansugnwyd yn y pen draw.

Cysylltwch a ni

Helix Wall
Helix Wall