Cyfres o ddarlithoedd cyhoeddus
Digwyddiadau sy’n rhad ac am ddim yw ein darlithoedd cyhoeddus, ac maen nhw’n denu cynulleidfaoedd sy’n amrywio o’r cyhoedd, disgyblion ysgolion uwchradd a gweithwyr proffesiynol. Nod y gyfres yw agor cil y drws ar feysydd o ddiddordeb ym maes gwyddorau’r Ddaear a’r amgylchedd, a chyflwyno ymchwil newydd yn y maes hwn i'r cyhoedd.
Deall hen fydoedd: sut y gall y geowyddorau a’r gwyddorau amgylcheddol ddylanwadu ar archaeoleg?
Does dim amheuaeth nad yw ein dealltwriaeth o bwysigrwydd darganfyddiadau archaeolegol yn gysylltiedig â’r datblygiad a’r defnydd ehangach o fethodoleg wyddonol.
Yn rhan o’r gyfres hon o ddarlithoedd cyhoeddus eleni, rydym yn croesawu siaradwyr hynod ddiddorol ac yn ymchwilio i ddefnydd o rai o dechnegau geowyddonol ac amgylcheddol er mwyn gwella ein dealltwriaeth o hanes ac amgylcheddau’r gorffennol, yma yn ne Cymru a ledled y byd.
Nid oes angen cadw lle ar gyfer y darlithoedd.
Dyddiad | Siaradwr gwadd | Pwnc |
---|---|---|
14 Mai | Dr Angela Middleton (Historic England) | Y cloddio wedi gorffen! Beth nawr? Rôl cadwraeth ymchwiliol ym maes archaeoleg |
9 Ebr 2024 | Yr Athro Derek Hamilton (Prifysgol Glasgow) | Y gêm dyddio: creu cronolegau gwell ar gyfer naratifau archaeolegol gwell |
12 Maw 2024 | Dr Paul Breeze (Coleg y Brenin, Llundain) | Palaeohinsoddeg a gwasgariad teulu hominin drwy ddiffeithdiroedd Affrica, Arabia a De-orllewin Asia |
13 Chwe 2024 | Dr Rachel Crellin (Prifysgol Caerlŷr) | Aur ynghudd mewn maen: dod o hyd i becyn cymorth gwaith aur o’r Oes Efydd gynnar |
9 Ion 2024 | Dr Richard Madgwick (Prifysgol Caerdydd) | Nid yw esgyrn yn dweud celwydd: dulliau sy’n seiliedig ar isotopau o ymchwilio i ddeiet, iechyd a symudedd pobl mewn cymdeithasau yn y gorffennol |
12 Rhagfyr 2023 | Yr Athro Nicki Whitehouse (Prifysgol Glasgow) | Pam mae archaeoleg yn bwysig i'n heriau amgylcheddol cyfoes? |
14 Tachwedd 2023 | Dr Tim Young (Prifysgol Caerdydd) | Clirio’r mwg: gwyddoniaeth a haearnwaith cynnar |
10 Hydref 2023 | Dr Mélanie Roffet-Salque (Prifysgol Bryste) | Hybu’r defnydd o lipidau’n rhan o waith ailadeiladu archaeolegol a phalaeoamgylcheddol |
12 Medi 2023 | Yr Athro Martin Bell (Prifysgol Reading) | Geoarchaeoleg Aber Hafren – etifeddiaeth John Allen |
Parcio
Rydym yn annog aelodau o gymuned y brifysgol (gan gynnwys ymwelwyr) i deithio i'r brifysgol gan ddefnyddio dulliau teithio cynaliadwy.
Fodd bynnag, rydym yn cydnabod nad yw hynny'n bosibl bob amser, ac y bydd angen i rai ymwelwyr deithio i'r campws mewn cerbydau modur.
Rydym yn annog defnyddio cerbydau trydan neu hybrid at y diben hwn lle bynnag y bo modd. Mae ein meysydd parcio yn cael eu rheoli gan dechnoleg camerâu ANPR a/neu batrolio ar droed.
Nid yw parcio i ymwelwyr ar gael yn ystod Diwrnodau Agored na digwyddiadau mawr eraill ar y campws.
Mae parcio PAYG y gellir ei archebu ymlaen llaw ar gael i'w ddefnyddio gan ymwelwyr (yn ogystal â staff a chontractwyr) rhwng 07:00-00:00 (hanner nos) o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio gwyliau banc.
Cysylltu â ni
Os bydd gennych chi gwestiynau ynghylch y digwyddiad hwn, cysylltwch â’r Athro Dianne Edwards gan ebostio edwardsd2@caerdydd.ac.uk.
Os hoffech chi gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb yn Gymraeg, ebostiwch edwardsd2@caerdydd.ac.uk o leiaf bythefnos cyn y digwyddiad.