Ymchwil ôl-raddedig
Mae ein graddau ôl-raddedig yn seiliedig ar waith ymchwil annibynnol llawn amser, gyda goruchwyliwr academaidd i'ch arwain wrth i chi ddarganfod meysydd newydd a chyffrous.
Wedi’i danategu gan nawdd allanol sylweddol, mae ein hamgylchedd ymchwil bywiog yn darparu myfyrwyr PhD a MPhil gyda chyfleoedd i weithio gyda arbenigwyr y byd ac i ddefnyddio chyfarpar ymchwil o ansawdd uchel.
Bob blwyddyn, byddwn yn recriwtio tua 15 o fyfyrwyr ar gyfer graddau PhD, a byddant yn cael budd o gyfrannu at gyfarfodydd yr Ysgol, cyfleoedd addysgu a phrofiadau hyfforddiant sgiliau hanfodol.
Ysgoloriaeth ymchwil
Mae gennym ddau fath o Ysgoloriaeth PhD:
- Ysgoloriaethau lle mae'r cyllid wedi ei warantu sydd ar gael drwy ein cronfa ddata cyllido.
- Mae prosiectau sy'n gymwys ar gyfer cyllid gan NERCP yn cael eu dyfarnu drwy Bartneriaeth Hyfforddi Doethurol NERC a Great Western Four
Bydd disgrifiadau o brosiectau PhD DTP a nad ydyw'n DTp yn cael eu hysbysebu ar dudalennau gwe ymchwil ôl-raddedig pan fyddant ar gael. Mae teitlau’r prosiect Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol (DTP) wedi’u rhannu yn ôl ein deg maes ymchwil.
Meysydd ymchwil
O berfeddion y Ddaear, drwy'r crwst, i'r moroedd ac i'r ddaear, mae ansawdd rhyngwladol ein hallbwn ymchwil wedi ei gymeradwyo gan ein safle yn 4ydd yn y DU ar gyfer ein disgyblaeth ymchwil (REF 2014).
Mae ein hymchwilwyr wedi’u rhannu’n fras yn dair canolfan ymchwil.
Canolfan Daear Gadarn ac Adnoddau Naturiol
Mae ein gwaith ymchwil yn ymdrin â chyfansoddiad ac esblygiad dynamig mantell a chramen y Ddaear, gan gynnwys ei hadnoddau mwynol a phetrolewm.
Canolfan Geobioleg a Geocemeg
Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar wyneb y Ddaear, gan gynnwys yn ei moroedd ac o dan ei moroedd, lle mae bywyd wedi esblygu ac effeithio’n ddirfawr ar amgylcheddau dros filiynau o flynyddoedd.
Canolfan Gwydnwch a Newid Amgylcheddol
Rydym yn archwilio i achosion a chanlyniadau newidiadau yn system y Ddaear, yn y môr, yr atmosffer ac ar y tir, o’r gorffennol daearegol i'r presennol a’r dyfodol.
Geowyddorau i Affrica
Geowyddorau i Affrica hwn yn cwmpasu ein tair canolfan ac yn cynnig arbenigedd gyda phartneriaid a chydweithwyr lleol er mwyn mynd i'r afael â heriau geowyddonol yn Affrica.
Ymholiadau
Ymholiadau Ymchwil Ôl-raddedig
- Email:earth-pg@caerdydd.ac.uk
- Telephone:+44 (0)29 2087 5772