Ewch i’r prif gynnwys

Ymgeiswyr anabl

Rydym yn cefnogi eich bywyd myfyriwr drwy gynnig cyngor a gwasanaethau Anabledd a Dyslecsia.

Os oes gennych chi nam corfforol neu synhwyraidd, cyflwr meddygol hir dymor, anhawster dysgu penodol (fel dyslecsia) neu anhawster iechyd meddwl, byddai'n beth da i chi sôn wrthym ni amdano wrth i chi wneud eich cais. Os soniwch chi wrthym ni am eich anabledd, fe wnawn ni ei drin yn gyfrinachol, yn gadarnhaol ac yn adeiladol.

Mae sôn wrthym ni’n gynnar am eich anghenion yn golygu gall y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia gysylltu â chi i holi pa addasiadau a chymorth sydd angen arnoch i gael mynediad i’ch rhaglen astudio ac i gyfleusterau eraill y Brifysgol, megis llety. Gallwn ni hefyd roi cyngor i chi ynghylch pa gymorth ariannol sy’n gysylltiedig ag anabledd.

Mae hi’n arbennig o bwysig i chi ddatgelu’r wybodaeth i ni os ydych chi’n gwneud cais i ddilyn un o’r rhaglenni iechyd, megis meddygaeth, nyrsio, fferylliaeth neu optometreg, am fod ganddyn nhw ofynion o ran ‘addasrwydd i ymarfer’.

Gallwn ni drefnu ymweliadau mynediad er mwyn i chi gael gwybod rhagor am lwybrau ar draws ystâd y Brifysgol a’r llety myfyrwyr sydd ar gael i chi.

Cewch chi wybodaeth fanylach ar ein tudalennau cymorth myfyrwyr.

Gallwch chi hefyd gysylltu â Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia:

Gwasanaeth Anabledd Myfyrwyr

Cyngor ynghylch Asesiadau Diagnostig ar gyfer Anawsterau Dysgu Penodol

Mae angen i bob cais am addasiadau rhesymol yn y Brifysgol (gan gynnwys trefniadau penodol ar gyfer arholiadau) ac ar gyfer ceisiadau am y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl, fed wedi'i ategu gan dystiolaeth fel a ganlyn o'ch anhawster dysgu penodol:

Rhaid rhoi tystiolaeth ar ffurf adroddiad asesiad diagnostig llawn. Dylai aseswyr sy'n cynnal asesiadau diagnostig ar gyfer myfyrwyr ag Anawsterau Dysgu Penodol ddilyn y canllawiau o dan y fframwaith a sefydlwyd gan weithgor 2005.Cewch ragor o wybodaeth ar y gwefannau canlynol. Cewch fanylion yma am ba brofion sy'n ofynnol er mwyn i'r adr'oddiad fod yn ddilys ar gyfer dibenion y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl, sut i gyflwyno'r adroddiad, a pha gasgliadau sy'n briodol.

Rhaid i'r dystiolaeth fod gan seicolegydd  neu athro  arbenigol  â chymwysterau addas, e.e.

  • Seicolegydd siartredig neu ymarferydd seicoleg sydd wedi cofrestru gyda Chyngor y Proffesiynau Gofallechyd neu:
  • Athro arbenigol sydd â Thystysgrif Ymarfer Asesu Anhawster DysguPenodol

Bydd yn rhaid i chi dalu am unrhyw brofion sydd eu hangen i gadarnhau eichdiagnosis.

Cofiwch wneud yn siŵr bod gan eich aseswr y cymwysterau addas cyn trefnu eich asesiad.