Hawliau cyllidwyr
Ym mis Gorffennaf 2017, fe gymeradwyodd Cyngor Prifysgol Caerdydd gynnig i fabwysiadu’r Hawliau Arianwyr canlynol. Mae’r rhain yn amlinellu ymrwymiadau’r Brifysgol i bawb sy’n ein hariannu, yn ogystal ag ymrwymiadau ychwanegol i’r rhai sy’n rhoi rhoddion dyngarol i’r Brifysgol.
Bydd y Brifysgol yn
- Darparu’r cyfrifon ariannol mwyaf diweddar sydd wedi’u cyhoeddi a gwybodaeth ariannol arall berthnasol mewn fformat hwylus
- Rhoi cydnabyddiaeth a chyhoeddusrwydd priodol i gefnogaeth yr arianwyr drwy ymgynghori â nhw ac yn unol â Pholisi Enwi’r Brifysgol, gan barchu hawl y rhoddwyr ddyngarol i barhau’n ddienw os dyna yw eu dymuniad
- Cydymffurfio'n llawn â Deddf Diogelu Data 1998 wrth gadw gwybodaeth am arianwyr gan roi copi o'r wybodaeth bersonol a gedwir am arianwyr ar gais, a diweddaru neu gywiro unrhyw ddata personol anghywir ar gais;
- Darparu adroddiadau am gynnydd a’r newyddion diweddaraf i arianwyr am weithgareddau a gefnogwyd
- Cydymffurfio'n llawn â Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 lle bo angen yn unol â’n statws fel corff cyhoeddus. Gall hyn gynnwys datgelu gwybodaeth y gofynnwyd amdani, oni bai bod unrhyw eithriad sy’n cael ei roi ar waith i atal hynny fesul achos.
Yn ogystal â Hawliau’r Arianwyr uchod, bydd Prifysgol Caerdydd yn parchu’r hawliau ychwanegol canlynol i roddwyr:
- Cadw at Gôd Ymarfer Codi Arian, gan gynnwys yr Addewid Codi Arian
Yr addewid codi arian
Mae'r addewid hwn yn amlinellu’r ymrwymiad a wneir i roddwyr a'r cyhoedd gan sefydliadau codi arian sy'n cofrestru â'r Rheoleiddiwr Codi Arian. Mae'r rheiny sy'n cofrestru â'r rheoleiddiwr yn cytuno i sicrhau bod eu gwaith codi arian yn gyfreithlon, yn agored, yn onest ac yn barchus. Mae’r safonau ar gyfer codi arian wedi’u nodi yn y Cod Ymarfer Codi Arian:
Byddwn yn ymrwymo i safonau uchel
Byddwn yn glir, yn onest ac yn agored
Byddwn yn barchus
Byddwn ni’n deg ac yn rhesymol
- Byddwn yn trin rhoddwyr a'r cyhoedd yn deg, gan ddangos sensitifrwydd ac addasu ein dull o weithredu yn dibynnu ar eich anghenion.
- Byddwn yn cymryd gofal i beidio â defnyddio delweddau neu eiriau sy'n fwriadol yn achosi gofid neu bryder.
- Byddwn yn cymryd gofal i beidio â pheri niwsans neu amhariad i'r cyhoedd.
Byddwn yn atebol ac yn gyfrifol
- Byddwn yn rheoli ein hadnoddau yn gyfrifol ac yn ystyried effaith ein gwaith codi arian ar ein rhoddwyr, ein cefnogwyr a'r cyhoedd ehangach.
- Os ydych yn anhapus ag unrhyw beth rydym ni wedi ei wneud wrth godi arian, gallwch gysylltu â ni i wneud cwyn.
- Mae gennym ni broses gwyno glir a hygyrch, sy'n cynnwys gwybodaeth am sut i gysylltu â’r Rheoleiddiwr Codi Arian os ydych chi’n teimlo bod ein hymateb yn anfoddhaol.
- Rydym ni’n gwrando ar adborth ac yn ymateb yn briodol i ganmoliaeth a beirniadaeth a ddaw i law.
- Byddwn yn rhoi rhesymau clir sy’n seiliedig ar dystiolaeth dros ein penderfyniadau ar gwynion.
- Byddwn yn monitro ac yn cofnodi nifer y cwynion sy’n dod i law bob blwyddyn ac yn rhannu’r data hwn gyda'r Rheoleiddiwr Codi Arian ar gais.

Cadwch eich manylion yn gyfredol i sicrhau nad ydych yn colli ein buddion unigryw i gyn-fyfyrwyr.