Telerau ac Amodau Chwaraeon Prifysgol Caerdydd
- Diweddarwyd ddiwethaf:
Telerau
Mae 'Chwaraeon Prifysgol Caerdydd' yn cyfeirio at Bennaeth Chwaraeon Prifysgol Caerdydd, neu bersonau eraill y dynododd Pennaeth Chwaraeon Prifysgol Caerdydd eu bod yn cael eu cyflogi i ymgymryd â swyddogaethau penodol.
Mae 'Aelod' yn cyfeirio at y person sydd wedi gwneud cais am aelodaeth o Brifysgol Caerdydd, ac sydd wedi cael yr aelodaeth honno.
1. Rheolau a rheoliadau
1.1 Mae Chwaraeon Prifysgol Caerdydd yn cadw'r hawl i wrthod mynediad i weithgareddau.
1.2 Ni fydd Chwaraeon Prifysgol Caerdydd yn goddef ymddygiad afreolus, bygythiol neu sarhaus. Mae Chwaraeon Prifysgol Caerdydd yn cadw'r hawl i wahardd unigolion o gyfleusterau a thynnu aelodaeth yn ôl lle bernir bod hynny'n briodol.
1.3 Rhaid cadw at reoliadau cyfleusterau/gweithgareddau penodol bob amser.
1.4 Mae Chwaraeon Prifysgol Caerdydd yn cadw'r hawl i atal neu ganslo gweithgareddau os yw o’r farn fod iechyd a diogelwch yn cael eu peryglu ar unrhyw adeg.
1.5 Rhaid rhoi gwybod i’r dderbynfa yn syth am unrhyw ddifrod i gyfleusterau neu offer.
1.6 Rhaid cadw pob mynedfa ac allanfa’n rhydd rhag rhwystrau a rhaid i ddrysau tân gael eu cadw ynghau ar bob adeg.
1.7 Nid yw ysmygu neu fepio’n cael ei ganiatáu yn unrhyw un o gyfleusterau’r Brifysgol.
1.8 Dylai’r sesiynau sydd wedi’u cadw ddechrau a gorffen yn ôl yr archeb. Dylai’r gwaith o osod ac ailosod offer ddigwydd yn ystod y sesiwn benodol sydd wedi’i chadw.
1.9 Rhaid i aelodau sy’n cadw sesiwn fod yn bresennol wrth wneud hynny.
1.10 Ni ddylid bwyta yn unrhyw un o’r ardaloedd gweithgareddau oni bai bod hynny wedi’i gytuno ymlaen llaw â Chwaraeon Prifysgol Caerdydd.
1.11 Dylid yfed diodydd o boteli plastig wedi’u selio neu boteli chwaraeon yn unig.
1.12 Rhaid rhoi gwybod yn syth i’r dderbynfa am bob damwain.
1.13 Os bydd argyfwng, bydd rhaid i bob person ddilyn gweithdrefnau gadael mewn argyfwng a gadael drwy’r allanfa argyfwng agosaf.
1.14 Rhaid i aelodau Chwaraeon Prifysgol Caerdydd gyflwyno cerdyn adnabod dilys yn y dderbynfa cyn defnyddio’r cyfleusterau neu’r gwasanaethau. Os na allwch chi gyflwyno cerdyn adnabod, efallai na chewch chi fynediad, neu efallai bydd ffi safonol yn cael ei chodi.
1.15 Gofynnir i bob cwsmer gadw eu derbynneb o’r til drwy gydol yr ymweliad.
1.16 Bydd cyfleusterau Chwaraeon Prifysgol Caerdydd yn cau am bythefnos dros y Nadolig / Blwyddyn Newydd, ac ar bob gwŷl y banc. Bydd hysbysiadau i atgoffa'r aelodau o'r dyddiadau hyn yn cael eu harddangos yn lleol ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae tanysgrifiadau aelodaeth yn cymryd y dyddiadau hyn i ystyriaeth. 1.17 Mae Chwaraeon Prifysgol Caerdydd yn cadw’r hawl i addasu’r oriau gweithredu arferol a’r rhaglenni hamdden o fewn yr amseroedd hyn fel y gwêl yn dda.
1.18 Rhaid i bob defnyddiwr sy'n dymuno defnyddio un o gyfleusterau ffitrwydd Chwaraeon Prifysgol Caerdydd gwblhau holiadur Iechyd cyn ei ddefnyddio.
1.19 Rhaid gwisgo esgidiau a dillad addas ar bob achlysur.
1.20 Gellir cadw sesiynau ffitrwydd grŵp / cyfleuster hyd at 7 diwrnod cyn y sesiwn.
1.21 Rhaid cyrraedd dosbarthiadau ffitrwydd grŵp cyn dechrau'r sesiwn. Efallai na fyddwch chi’n cael ymuno â sesiwn os ydych chi’n cyrraedd yn hwyr. Ni roddir ad-daliadau am gyrraedd yn hwyr.
1.22 Mae modd cadw lle mewn sesiynau chwaraeon raced i hyd at uchafswm o 4 o bobl fesul cwrt am uchafswm o 2 awr.
1.23 Ni chaniateir hyfforddiant personol preifat yn unrhyw un o gyfleusterau Chwaraeon Prifysgol Caerdydd.
1.24 Rhaid i'r llogwr roi gwybod ymlaen llaw i Chwaraeon Prifysgol Caerdydd os yw’n ymwybodol o unrhyw bersonau sy'n mynychu’r sesiwn a gadwyd y gallai fod arnynt angen cymorth ychwanegol os bydd rhaid gadael adeilad mewn argyfwng fel y gellir gwneud cynllun priodol.
1.25 Y llogwr sy'n gyfrifol am sicrhau bod y rhai sy'n mynychu ei sesiwn yn addas i gymryd rhan yn y gweithgaredd neu dylai roi gwybod ymlaen llaw i Chwaraeon Prifysgol Caerdydd os bydd angen darparu ar gyfer gofynion penodol.
1.26 Dim ond at y dibenion a nodir ar adeg archebu’r tocyn y dylid defnyddio'r cyfleusterau.
1.27 Dylai’r llogwr fod yn gyfrifol am reoli’r rheini sy’n cymryd rhan a’r gwylwyr sy'n gysylltiedig â gweithgaredd eu harcheb.
1.28 Cynhelir asesiadau risg ar y cyfleusterau gan Chwaraeon Prifysgol Caerdydd. Rhaid i’r llogwr asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’u gweithgaredd.
1.29 Mae’r archeb ar gyfer llogi’r cyfleuster yn unig. Dylid gwneud ceisiadau am ddefnyddio offer Chwaraeon Prifysgol Caerdydd cyn archebu. Gellir codi blaendal am offer. Bydd yr offer yn amodol ar argaeledd.
1.30 Y llogwr fydd yn llwyr gyfrifol am bob person ac eiddo a ddaw ar y safle yn ystod y cyfnod llogi a bydd yn indemnio 'Prifysgol Caerdydd' rhag unrhyw golled neu ddifrod i eiddo.
1.31 Rhaid gofyn am gadarnhad o archeb yn ysgrifenedig i sportbookings@caerdydd.ac.uk.
1.32 Rhaid cadarnhau llogi cyfleusterau a/neu wasanaethau drwy gwblhau a dychwelyd ffurflen archebu cyfleuster.
1.33 Mae’r trefniadau archebu yn parhau i fod yn rhai dros dro, a gallent gael eu canslo os na chant eu cadarnhau’n ysgrifenedig.
1.34 Llogi cyrtiau a chaeau – Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol 18+ oed.
2. Aelodaeth
2.1 Bydd cyfnod canslo ‘ailfeddwl’ o 14 diwrnod yn berthnasol i bob tanysgrifiad aelodaeth sy’n cael ei brynu. Cynigir ad-daliadau am bob tanysgrifiad a ganslwyd yn ystod y cyfnod hwn. Tynnir taliadau ar gyfer unrhyw sesiynau a fynychwyd ar y gyfradd safonol.
2.2 Gall tanysgrifiadau aelodaeth gael eu had-dalu ar sail feddygol os ceir tystiolaeth.
2.3 Dylid gwneud ceisiadau am ad-daliadau yn ysgrifenedig i sport@caerdydd.ac.uk.
2.4 Nid yw tanysgrifiadau aelodaeth yn drosglwyddadwy.
3. Taliadau
3.1 Rhaid derbyn y taliad yn llawn cyn y cyfnod defnyddio.
3.2 Gall methu â chyflwyno taliad ganslo holl archebion aelodau.
3.3 Bydd yr aelod yn atebol am archebion na thalwyd amdanynt. Bydd y Brifysgol yn mynd ati i gasglu dyledion os na chafwyd taliad llawn.
3.4 Rhaid derbyn y taliad yn llawn cyn y cyfnod defnyddio, neu drwy gytundeb anfonebu ymlaen llaw.
3.5 Bydd methiant i dalu’n diddymu holl archebion y llogwr.
3.6 Bydd y llogwr yn atebol am archebion na thalwyd amdanynt. Bydd y Brifysgol yn casglu dyledion os na dderbynnir taliad llawn.
3.7 Rhaid talu am sesiynau ffitrwydd grŵp cyn mynd i’r sesiwn.
3.8 Bydd dyledwyr y Brifysgol sydd heb dalu ffioedd yn wynebu camau gweithredu pellach (a fydd hwyrach yn cynnwys achos cyfreithiol) i adennill yr hyn sy’n ddyledus. Bydd unrhyw gostau cysylltiedig (gan gynnwys costau cyfreithiol) a ddaw i ran y Brifysgol hefyd yn cael eu ceisio gan y dyledwr.
3.9 Mae Amodau a Thelerau Llogi Cyfleusterau’n berthnasol i bob archeb ac fe’u gorfodir yn llym oni chytunwyd ac oni nodwyd yn ysgrifenedig wrth archebu.
4 Canslo
Gan yr Aelod
4.1 Os bydd aelod yn canslo dros 48 awr cyn y sesiwn sydd wedi’i chadw, ni chodir unrhyw ffi ar yr aelod.
4.2 Os bydd yr aelod yn canslo o fewn 48 awr, neu os yw’n methu dod i sesiwn sydd wedi’i chadw, rhaid talu ffi lawn. Efallai yr anfonir anfoneb i hawlio’r ffi hon.
4.3 Os bydd aelod yn canslo sesiwn ffitrwydd grŵp 24 awr cyn y sesiwn sydd wedi’i chadw, derbynnir y canslo. Gan Brifysgol Caerdydd
4.4 Os bydd eira neu dywydd garw arall, efallai gwneir penderfyniad fod y cyfleusterau’n anaddas ar gyfer gweithgareddau a bydd yr archebion yn cael eu canslo.
4.5 Mae Prifysgol Caerdydd yn cadw'r hawl i ganslo neu gau cyfleusterau ar gyfer digwyddiadau arbennig neu o ganlyniad i amgylchiadau eraill y tu hwnt i'w rheolaeth.
4.6 Bydd Prifysgol Caerdydd yn ymdrechu i roi gwybod i’r aelod cyn gynted ag y bo’n rhesymol bosibl yn yr amgylchiadau a restrir uchod. Bydd pob ffi a dalwyd am archebion y mae’r amgylchiadau hyn yn effeithio arnynt yn cael ei had-dalu.
Gan Brifysgol Caerdydd
4.7 Mae Prifysgol Caerdydd yn cadw’r hawl i ganslo archeb os bydd angen y cyfleuster ar Prifysgol Caerdydd lle gellir rhoi 8 diwrnod o rybudd ysgrifenedig.
4.8 Os bydd eira neu dywydd garw arall, efallai gwneir penderfyniad, ar ôl eu harchwilio, fod y cyfleusterau’n anaddas i’r gweithgaredd a gafodd ei archebu. Rhaid i Chwaraeon Prifysgol Caerdydd gadarnhau canslo oherwydd tywydd garw. Canslo archebion bloc gan yr aelod
4.9 Derbynnir hysbysiad ysgrifenedig i ganslo dros 7 diwrnod cyn yr archeb heb gosb, heblaw am flaendal posibl na ellir ei ad-dalu.
4.10 Bydd y ffi lawn yn cael ei chodi os bydd y canslo’n digwydd o fewn 7 diwrnod, neu os nad yw’r aelod yn gallu mynychu. Efallai yr anfonir anfoneb i hawlio’r ffi.
4.11 Os bydd sesiynau bloc a archebwyd yn cael eu canslo’n gyson, efallai bydd sesiynau bloc eraill a archebwyd yn cael eu canslo.
5. Yswiriant Indemniad
5.1 Cynghorir y llogwr ei hun i ddarparu yswiriant indemniad trydydd parti ar gyfer y cyfnod llogi.
5.2 Pan fo unrhyw drydydd parti yn gwneud hawliad am ddifrod, iawndal a/neu gostau yn erbyn y Brifysgol, mewn perthynas ag anaf, marwolaeth a/neu ddifrod i eiddo wrth i’r llogwr ddefnyddio cyfleusterau, rhaid i’r llogwr ad-dalu’r Brifysgol, lle mae’r Brifysgol yn gwbl atebol.
6. Anifeiliaid anwes
6.1 Cŵn tywys yw’r unig anifeiliaid anwes a ganiateir ar safleoedd Chwaraeon Prifysgol Caerdydd.
7. Rhoi a dychwelyd allweddi
7.1 Rhaid llofnodi yn Nerbynfa’r Ganolfan wrth i allweddi gael eu rhoi a’u dychwelyd.
7.2 Codir £10 o flaendal ar aelodau am bob allwedd a roddir. Codir £10 am bob allwedd na chaiff ei dychwelyd. Lle bo angen bydd yr aelod yn cael anfoneb am y golled.
8. Parcio ceir
8.1 Cofiwch gadw at drefniadau lleol a chyfeirio at yr arwyddion.
8.2 Nid yw parcio wedi’i gynnwys yn rhan o’r aelodaeth.
8.3 Mae parcio ar gael yn y lleoliadau canlynol:
- Canolfan Ffitrwydd a Sboncen y Brifysgol – Ffordd Senghennydd.
- Mae’r holl barcio yn yr ardal hon ar y briffordd gyhoeddus ac mae'n amodol ar reolau a rheoliadau’r adran Priffyrdd a Chludiant.
- Canolfan Cryfder a Datblygiad Corfforol y Brifysgol – Plas y Parc.
- Mae’r holl barcio yn yr ardal hon ar y briffordd gyhoeddus ac mae'n amodol ar reolau a rheoliadau’r adran Priffyrdd a Chludiant.
- Canolfan Chwaraeon y Brifysgol – Tal-y-bont.
- Mae parcio am ddim ar gael mewn mannau parcio dynodedig.
- Gall unrhyw gerbyd nad yw wedi’i barcio mewn man priodol gael ei glampio.
- Rhaid i gerbydau ddefnyddio mynedfa ffordd Excelsior (Tesco Extra) yn unig.
- Meysydd Chwarae’r Brifysgol – Llanrhymni.
- Mae parcio am ddim ar gael mewn mannau parcio dynodedig ar y safle.
9. Darlledu, teledu a ffotograffau
9.1 Ni chaiff personél darlledu, teledu neu unrhyw bersonél eraill o’r cyfryngau ddod i mewn i’r safle at ddibenion gohebu neu dynnu lluniau heb ganiatâd ymlaen llaw gan Chwaraeon Prifysgol Caerdydd.
9.2 Er mwyn diogelwch, rhaid i unrhyw un sy'n dymuno defnyddio offer ffotograffig gan gynnwys camerâu, offer recordio fideo a chamerâu ffonau symudol gael caniatâd ymlaen llaw gan Chwaraeon Prifysgol Caerdydd.
9.3 NI chaniateir defnyddio ffonau symudol mewn unrhyw gyfleuster newid.
10. Gwastraff ac ailgylchu
10.1 Anogir aelodau i ddefnyddio'r cyfleusterau gwastraff ac ailgylchu sydd ar gael yn y cyfleusterau.
11. Cwynion gan gwsmeriaid
11.1 Polisi gwasanaeth Chwaraeon Prifysgol Caerdydd yw cynnig gwasanaeth o safon sy’n diwallu anghenion ein cwsmeriaid. Caiff sylwadau cwsmeriaid eu croesawu.
11.2 Mae cardiau sylwadau cwsmeriaid ar gael yn nerbynfa pob Canolfan.
11.3. Neu, gellir rhoi sylwadau cwsmeriaid ar wefan Chwaraeon Prifysgol Caerdydd neu eu hanfon drwy e-bost i sport@caerdydd.ac.uk lle cânt eu cyfeirio at reolwr priodol.