Côd Ymddygiad y Seremonïau Graddio
- Diweddarwyd ddiwethaf:
Mae ein seremonïau graddio yn achlysur i ddathlu, lle rydym yn dod ynghyd i gydnabod gwaith caled a llwyddiannau ein graddedigion.
Hoffwn atgoffa gwesteion fod pob gwestai yn bresennol i weld y person sydd yn annwyl iddynt yn graddio ac rydym yn gofyn i bawb sy'n bresennol barchu’r gwesteion eraill a rhoi’r cyfle iddynt fwynhau'r digwyddiad heb eraill yn tarfu arnynt.
Mae’r Brifysgol yn cefnogi:
- parch a dealltwriaeth ar y cyd rhwng unigolion a chymunedau’r Brifysgol
- hyrwyddo cyfle cyfartal ymhlith y gweithwyr a’r myfyrwyr fel ei gilydd
Disgwyliadau
Mae'r Brifysgol yn disgwyl i bawb sy’n dod i’r seremonïau graddio (aelodau o gymuned y Brifysgol) drin ei gilydd â pharch, cwrteisi ac ystyriaeth bob amser.
Mae gan bob aelod o gymuned y Brifysgol yr hawl i ddisgwyl i eraill ymddwyn yn barchus tuag atynt, ac yn yr un modd, mae ganddynt gyfrifoldeb dros ymddwyn yn barchus tuag at eraill.
Nid ydym yn goddef unrhyw fath o ymddygiad sy’n aflonyddu, yn bwlio neu’n erlid. Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw adroddiadau o fwlio, aflonyddu neu erledigaeth yn cael eu trin a'u trafod o ddifrif.
Tocynnau
- Rhaid i bob gwestai 2 oed a hŷn fod â thocyn dilys.
- Bydd angen tocyn am ddim ar blant dan 2 oed a rhaid iddynt eistedd ar lin y gwestai sydd â thocyn. Ni fydd sedd yn cael ei dyrannu i blant 2 oed ac iau.
- Bydd pob tocyn yn cael ei sganio wrth fynd i mewn i'r digwyddiad. Ni fydd y rhai sydd heb docyn dilys yn eu meddiant yn cael mynediad i'r digwyddiad.
- Sylwer bod graddedigion a gwesteion yn mynd i mewn i'r lleoliad trwy fynedfeydd gwahanol, ac felly rhaid i bawb sy’n dod i’r digwyddiad fod â'u tocyn digidol neu docyn wedi’i argraffu eu hunain.
- Os bydd unrhyw un yn cael ei ganfu yn cymryd rhan mewn twyll tocynnau, byddant yn cael eu gofyn i adael y lleoliad.
- Ni fydd yn bosibl cadw na phrynu tocynnau i westeion yn ystod wythnos y Seremonïau Graddio. Cyhoeddir y dyddiad cau ar gyfer cadw tocynnau ar dudalen we'r seremonïau graddio ac ym mhob gohebiaeth sy’n ymwneud â graddio i fyfyrwyr.
Diogelwch
- Mae pob seremoni raddio wedi'i chynllunio a'i rheoli'n ofalus i sicrhau bod graddedigion a'u gwesteion yn mwynhau'r diwrnod.
- Bydd timau diogelwch yn bresennol ym mhob lleoliad sy'n cynnal seremoni raddio.
- Byddwn yn gwirio a chwilio bagiau ym mhob lleoliad sy’n cynnal seremoni raddio.
Eitemau wedi’u gwahardd.
Gweler ein rhestr o eitemau wedi’u gwahardd. Ni chaniateir bagiau a chesys dillad mawr yn lleoliadau’r seremonïau graddio.
Ymddygiad
- Disgwylir i bawb sy'n mynd i’r digwyddiad ddangos parch a chwrteisi i'w gilydd drwy gydol y digwyddiadau dathlu.
- Ni chaniateir derbyn galwadau na defnyddio consolau a dyfeisiau gemau llaw y tu mewn i ystafell y seremoni. Mae'n tarfu ar fyfyrwyr a'r teuluoedd eraill yn yr ystafell, ac yn amharchus. Os oes rhaid i chi ateb neu wneud galwad ffôn, rhaid i chi adael yr ystafell i wneud hynny. Os na wnewch chi, byddwn yn gofyn i chi adael, ac mae’n bosib y byddwn yn oedi’r seremoni tra byddwch chi’n gwneud hynny.
- Mae'n ofynnol i raddedigion a gwesteion aros yn eu seddi drwy gydol y seremoni. Rhaid i raddedigion ddychwelyd i'w seddi ar ôl croesi'r llwyfan. Os bydd gwesteion yn symud o gwmpas neu’n sefyll i dynnu lluniau, byddwn yn gofyn iddynt ddychwelyd i'w sedd gan y mae’n bosib y bydd hyn yn rhwystro teuluoedd eraill rhag gweld eu myfyriwr graddedig yn croesi’r llwyfan.
- Ni fydd cam-drin geiriol (gan gynnwys gweiddi, rhegi a sylwadau difrïol), trais, bygythiadau o drais a brawychu yn cael eu goddef o dan unrhyw amgylchiadau. Bydd unrhyw un sy'n cymryd rhan mewn cam-drin geiriol, cam-drin corfforol neu sy’n bygwth eraill yn cael ei symud o'r lleoliad.
- Mae'n ofynnol i raddedigion a gwesteion ddilyn cyfarwyddiadau staff y seremoni a'r lleoliad. Mae bod yn bresennol yn golygu eich bod yn derbyn yr amodau hyn.
Diolch i chi am helpu i wneud hwn yn ddigwyddiad croesawgar, cyfeillgar a chynhwysol i bawb.
Manylion cyswllt
Os bydd rhywun yn gwneud i chi neu unrhyw un arall deimlo'n anniogel neu deimlo nad oes croeso i chi, cysylltwch â'n tîm cyn gynted â phosibl drwy e-bostio controlroom@caerdydd.ac.uk.