Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Polisi Camymddygiad Rhywiol ac Aflonyddu Rhywiol - Gweithdrefn a Chanllawiau

  • Diweddarwyd ddiwethaf:

Diffiniadau

Mae diffiniadau mewn perthynas â'r weithdrefn hon wedi'u nodi yn yr Atodiad. Mae'r diffiniadau hyn yn berthnasol i gamymddwyn rhywiol ac aflonyddu rhywiol trwy unrhyw gyfrwng, gan gynnwys, er enghraifft, ar-lein.

1. Safonau Ymddygiad Disgwyliedig Staff

1.1 Mae’r Brifysgol yn credu bod y berthynas broffesiynol o ymddiriedaeth a hyder sy’n bodoli rhwng holl aelodau’r Brifysgol yn rhan ganolog a hanfodol o ddatblygiad addysgol a gofal bugeiliol myfyriwr ac o brofiad staff.

1.2 Mae holl staff y Brifysgol mewn sefyllfa o ymddiriedaeth. Mae'n bwysig ein bod i gyd yn dangos ymddygiad rhagorol ac yn cydnabod ein bod i gyd yn gyfrifol am greu amgylchedd diogel, parchus, cefnogol a chynhwysol. Mae’n rhaid i'r amgylchedd hwn fod yn ffafriol i ragoriaeth addysgu, i ragoriaeth ymchwil ac i fwynhad o brofiad cadarnhaol myfyrwyr a staff — ac yn rhydd o gamymddwyn rhywiol, aflonyddu a mathau eraill o gam-drin ac ymddygiad amhriodol. Mae’n rhaid i'r rhai sy'n gweithio i'r Brifysgol neu'n ei chynrychioli beidio â chamddefnyddio eu safle mewn unrhyw ffordd. Disgwylir i holl staff y Brifysgol gydymffurfio â'r Polisi Perthnasoedd Personol.

1.3 Mae’n rhaid i bob aelod o gymuned y Brifysgol geisio caniatâd pan fydd eu hymddygiad yn ymwneud â rhyngweithio â'i gilydd mewn modd rhywiol mewn cyd-destun cymdeithasol. Cydsynio yw cytuno trwy ddewis a bod â’r rhyddid a'r gallu i wneud y dewis hwnnw. Dylai'r person sy'n ceisio cydsyniad bob amser gymryd camau i sicrhau bod caniatâd yn cael ei roi yn rhydd, ei fod yn benderfyniad gwybodus a dylai gydnabod y gellir ei dynnu'n ôl ar unrhyw adeg. Ni ellir byth ei rhagdybio bod cydsyniad, cymryd ei fod wedi’i roi na'i orfodi. Os yw caniatâd yn ansicr yna dylid ymatal rhag unrhyw ymddygiad.

1.4 Os bydd y Brifysgol yn derbyn cwyn gan aelod o staff am aflonyddu rhywiol/camymddwyn rhywiol yn erbyn aelod arall o staff, gall y Brifysgol roi gweithdrefnau ar waith fel y nodir yn adran 5.1 isod yn dibynnu ar yr amgylchiadau.

1.5 Bydd cwynion gan fyfyriwr yn erbyn aelod o staff yn cael eu hystyried dan y Weithdrefn Gwyno i Fyfyrwyr, fel y’i crynhoir yn adran 6 isod.

2. Perthnasoedd

2.1 Mae Polisi Perthnasoedd Personol y Brifysgol yn gwahardd perthnasoedd personol neu agos rhwng staff a myfyrwyr os bydd goruchwyliaeth uniongyrchol neu ofal bugeiliol. Cyfeiriwch at y Polisi Perthnasoedd Personol i gael manylion.

2.2 Mae’n rhaid cadw at ddarpariaethau Polisi Diogelu’r Brifysgol.

3. Safonau Ymddygiad Disgwyliedig Myfyrwyr

Disgwylir i fyfyrwyr gydymffurfio â'r disgwyliadau ar gyfer ymddygiad myfyrwyr yn y Rheoliadau Ymddygiad Myfyrwyr. Disgwylir i bob myfyriwr drin pobl eraill ag urddas a pharch: ni fydd aflonyddu rhywiol a chamymddwyn rhywiol yn cael eu goddef.

Bydd adroddiadau o aflonyddu rhywiol/camymddwyn rhywiol gan fyfyriwr tuag at aelod o staff a/neu fyfyriwr arall yn cael eu hystyried o dan y Rheoliadau Ymddygiad Myfyrwyr.  Pan fydd ymchwiliad i achos ac mae’n cael ei gadarnhau, mae'r sancsiynau sydd ar gael yn cynnwys gwaharddiad dros dro neu barhaol o'r rhaglen astudio.

4. Sianeli Adrodd

Anogir pob aelod o gymuned y Brifysgol i adrodd am achosion o aflonyddu/camymddwyn rhywiol p’un a yw’n destun yr ymddygiad neu’n dyst iddo cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol. Gall aflonyddu rhywiol/camymddwyn rhywiol hefyd arwain at gychwyn ymchwiliad troseddol i weithredoedd aelod o staff neu fyfyriwr.

5. I Staff

5.1 Pan fo aelod o staff yn gwneud cwyn am aelod o staff, fel arfer dylid gwneud cwynion i'w rheolwr llinell ei hun. Os nad yw hyn yn briodol, dylid ceisio cyngor gan Dîm AD y Coleg/Gwasanaethau Proffesiynol perthnasol. Cyfeirir at ffynonellau cymorth pellach yn adran 9.1 isod gan gynnwys cynrychiolwyr Undeb (ar gyfer aelodau undeb) UCU, Unite neu Unsain.

Os yw aelod o staff yn gwneud cwyn am fyfyriwr, dylid codi hyn o dan y Rheoliadau Ymddygiad Myfyrwyr drwy anfon e-bost at studentcases@caerdydd.ac.uk. Os bydd y gŵyn yn cael ei dwyn ymlaen ar gyfer ymchwiliad ffurfiol, bydd y tîm Achosion Myfyrwyr yn cysylltu â'r tîm AD i gytuno pwy fydd yn gyfrifol am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelod o staff yn ystod y broses.

5.2  Os daw aelod o staff yn ymwybodol o aflonyddu rhywiol neu camymddwyn rhywiol posibl rhwng cydweithiwr a myfyriwr neu aelod arall o staff, dylen nhw adrodd hyn i’w rheolwr llinell, neu uwch reolwr perthnasol arall, a fydd yn cysylltu ag AD a’r Pennaeth Ysgol/Gwasanaeth Proffesiynol perthnasol i benderfynu a oes angen ymchwiliad yn unol â'r weithdrefn berthnasol.

5.3    Gall aflonyddu rhywiol a chamymddwyn rhywiol hefyd arwain at sefyllfaoedd pan fydd ymddygiad gorfodi a/neu reoli. Os oes gan unrhyw un bryderon am unrhyw ymddygiad rheibus neu orfodi rhwng aelodau o’n cymuned, fe’i hanogir i adrodd neu ddatgelu hyn i’w reolwr llinell, neu i uwch reolwr perthnasol arall, a fydd yn sicrhau bod adroddiadau o’r fath yn cael eu cofnodi. Bydd y rheolwr yn cysylltu ag AD ac â'r Pennaeth Ysgol/Gwasanaeth Proffesiynol perthnasol i benderfynu a oes angen ymchwiliad yn unol â'r weithdrefn berthnasol.

6. Ar gyfer Myfyrwyr

6.1 Gall myfyriwr gychwyn cwyn sy’n ymwneud ag aflonyddu rhywiol neu â chamymddwyn rhywiol, gan aelod o staff neu fyfyriwr o dan y Weithdrefn Gwyno i Fyfyrwyr. Yn ogystal â chymorth gan y Tîm Cymorth ac Ymyrraeth Myfyrwyr, gall myfyrwyr gael mynediad i gyngor ac arweiniad diduedd, cyfrinachol, rhad ac am ddim ar gyflwyno cwyn gan Gyngor i Fyfyrwyr yn Undeb y Myfyrwyr. (www.cardiffstudents.com/advice ).  Dylid anfon cwynion yn ymwneud ag aflonyddu rhywiol neu gamymddwyn rhywiol yn uniongyrchol at Dîm Canolog Achosion Myfyrwyr:studentcases@caerdydd.ac.uk

6.2 Os yw’r gŵyn yn ymwneud â myfyriwr yn y Brifysgol, bydd Student Cases yn ymgynghori â’r myfyriwr sy’n adrodd am yr opsiynau sydd ar gael i gymryd camau neu i ymchwilio iddi o dan y Rheoliadau Ymddygiad Myfyrwyr.  Arweinir ymchwiliadau gan swyddog ymchwilio sydd â hyfforddiant a phrofiad o ymchwiliadau i gamymddwyn rhywiol.

6.3 Os yw'r gŵyn yn ymwneud ag aelod o staff, bydd Achosion Myfyrwyr yn cysylltu ag AD, gyda chaniatâd y myfyriwr sy'n adrodd, i benderfynu a ddylid rheoli'r achos yn unol â phrosesau staff.

6.4 Os bydd myfyriwr yn gwneud cwyn yn uniongyrchol i AD gyda phryderon am ymddygiad aelod o staff, bydd AD yn argymell bod y myfyriwr yn cyflwyno hon fel cwyn myfyriwr fel bod y myfyriwr yn cael diweddariadau a chanlyniad o dan y Weithdrefn Gwyno Myfyrwyr.  Os bydd myfyriwr yn penderfynu peidio â gwneud cwyn myfyriwr, gall AD barhau â'i brosesau gyda'r myfyriwr sy'n adrodd yn dyst i ddigwyddiadau.

7. Gweithdrefnau ar gyfer unigolion eraill nad ydynt yn staff nac yn fyfyrwyr sy'n dymuno codi mater dan y polisi hwn

7.1 Lle bo’r gŵyn yn ymwneud â phryderon am ymddygiad myfyriwr Prifysgol Caerdydd, dylid codi hyn gyda’r Tîm Cydymffurfiaeth a Risg - complianceandrisk@caerdydd.ac.uk. Bydd y Brifysgol yn penderfynu a yw’n briodol i gamau gael eu cymryd o dan y Rheoliadau Ymddygiad Myfyrwyr.

7.2 Pan fo’r gŵyn yn ymwneud ag ymddygiad aelod o staff o Brifysgol Caerdydd, dylid codi hyn gyda’r Pennaeth Ysgol/Gwasanaeth Proffesiynol priodol a fydd yn trefnu i ymchwilio ac ymateb i’r mater. Mae rhagor o wybodaeth am bwy i gysylltu â nhw ar gael yma.

8. Ymdrin ag ymchwiliadau a chyfrinachedd

8.1 Mabwysiedir ymagwedd sy’n seiliedig ar drawma i unrhyw ddatgeliad o gamymddwyn rhywiol neu aflonyddu rhywiol gan sicrhau bod unrhyw un sy’n datgelu aflonyddu rhywiol, camymddwyn rhywiol, trais neu gamdriniaeth yn gwybod bod y sefyllfa’n  cael ei chymryd o ddifrif. Bydd staff a myfyrwyr yn cael eu cefnogi i wneud dewisiadau gwybodus ynghylch dechrau cwyn am yr ymddygiad. Bydd unrhyw ymchwiliad i gamymddwyn rhywiol neu aflonyddu rhywiol yn cael ei reoli mewn ffordd deg a sensitif i’r:

unigolyn a wnaeth y gŵyn,

yr unigolyn a welodd yr ymddygiad,

yr unigolyn a gyhuddir o gamymddwyn rhywiol neu o aflonyddu rhywiol.

8.2 Ni fydd erledigaeth neu ddial yn erbyn achwynydd yn cael ei oddef, a bydd unrhyw faterion a godir o dan y polisi hwn yn cael eu mewn ffordd ddifrifol, ni waeth beth fo hynafedd y rhai dan sylw.

8.3 Cedwir cyfrinachedd, yn amodol ar unrhyw ofyniad i gynnwys asiantaethau allanol, os yw’n bosibl y cyflawnwyd trosedd neu  pe byddai cynnal cyfrinachedd yn peri risg i’r sawl sy’n gwneud yr adroddiad, neu i bobl eraill.

9. Cymorth a Chyngor

Mae llawer o ffynonellau cymorth ar gael i unigolion cyn gwneud cwyn neu i'r achwynydd a'r tramgwyddwr honedig ar ôl i gŵyn gael ei gwneud. Mae’r rhain yn cynnwys:

9.1 I Staff

Mae cymorth ar gael hefyd gan ein Rhaglen Cymorth i Weithwyr. Mae'n darparu llinell gymorth gyfrinachol am ddim a chefnogaeth i staff, a mynediad at gwnsela wyneb yn wyneb neu dros y ffôn. Mae’r gwasanaeth yn gwbl gyfrinachol. Ni roddir unrhyw wybodaeth a allai arwain at adnabod unigolyn i'r Brifysgol oni bai eich bod yn rhoi eich caniatâd penodol i wneud hynny. Eithriadau i hyn yw pan fydd eich diogelwch chi neu ddiogelwch pobl eraill dan fygythiad, neu os yw’n ofynnol yn gyfreithiol i'r Brifysgol ryddhau gwybodaeth.

9.2 Ar gyfer Myfyrwyr

Mae’r Tîm Cymorth ac Ymyrraeth Myfyrwyr yn cefnogi myfyrwyr y mae aflonyddu, troseddau casineb, trais rhywiol, cam-drin mewn perthynas, bwlio a mathau eraill o ymddygiad annerbyniol yn effeithio arnynt. Mae’r tîm yn defnyddio dull wedi’i lywio gan drawma i ddarparu cymorth i fyfyrwyr ac i’w helpu i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch y camau nesaf. Gall myfyrwyr wneud datgeliadau a nodwyd gan ddefnyddio'r ffurflen atgyfeirio ar-lein neu gallant ddewis gwneud datgeliad dienw. Mae'r ffurflen atgyfeirio a ffynonellau cymorth eraill i'w cael ar y tudalennau Y Tîm Ymateb i Ddatgeliadau (DRT)  ac Iechyd a Lles. Bydd y tîm yn esbonio’r opsiynau o ran rhoi gwybod amdano a chynnig cymorth yn ystod y broses hon, os byddwch chi’n penderfynu mai hwn yw’r opsiwn cywir i chi. Gall Undeb y Myfyrwyr hefyd roi cymorth i fyfyrwyr sy'n gwneud cwyn ffurfiol.

Atodiad – Diffiniadau

Rhyngweithio rhywiol:

Nid yw rhyngweithio rhywiol a wahoddir, sy’n gilyddol ac yn gydsyniol yn aflonyddu rhywiol oherwydd nad yw'n ddigoeso.

Camymddygiad Rhywiol:

Mae camymddwyn rhywiol yn cwmpasu elfennau o aflonyddu, trais a chamdriniaeth a gall fod yn gorfforol, yn eiriol neu'n weledol. Gall ddigwydd o fewn ac ar draws rhywiau gwahanol. Mae'n cynnwys ymosodiad rhywiol sy'n drosedd.

Mae camymddygiad rhywiol yn ymddygiad digroeso o natur rywiol sy'n cael ei gyflawni trwy rym, bygythiad neu orfodaeth. Gall yr ymddygiad hwn ymwneud â gweithredoedd corfforol yn erbyn unigolion neu weithredoedd sy’n creu amgylchedd gelyniaethus. Gall ddigwydd rhwng unigolion p’un a ydynt eisoes yn adnabod ei gilydd neu beidio, unigolion sydd mewn perthynas gadarn yn ogystal ag unigolion sydd eisoes wedi ymwneud â’i gilydd mewn modd rhywiol.

Mae camymddwyn rhywiol yn fath o aflonyddu ac yn ymddygiad annerbyniol o natur rywiol. Mae camymddwyn rhywiol yn golygu unrhyw ymddygiad digroeso, diangen o natur rywiol. Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i:

  • Aflonyddu rhywiol (fel y’i diffinnir gan Adran 26(2) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010), ymddygiad digroeso sy’n creu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol, bychanol neu dramgwyddus (fel y’i diffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010),
  • ymosodiad (fel y’i diffinnir gan Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003),
  • trais rhywiol (fel y’i diffinnir gan Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003),
  • cynigion rhywiol corfforol digroeso (fel y’i nodir gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: Aflonyddu rhywiol a'r gyfraith, 2017),
  • meithrin perthynas amhriodol (mae meithrin perthynas amhriodol yn digwydd pan fydd rhywun yn meithrin perthynas o ymddiriedaeth a chysylltiad emosiynol â pherson arall er mwyn iddynt allu eu trin, eu hecsbloetio a’u cam-drin)
  • gorfodaeth neu fwlio ag elfennau rhywiol,
  • dychryn, neu addo adnoddau neu fuddion am ffafrau rhywiol (fel y nodir gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: Aflonyddu rhywiol a'r gyfraith, 2017),
  • dosbarthu delweddau eglur preifat a phersonol neu luniau fideo o unigolyn heb ei ganiatâd (fel y’i diffinnir gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Llysoedd 2015).
  • gwahoddiadau a gofynion rhywiol,
  • creu awyrgylch o anghysur.

Mae'r term 'aflonyddu rhywiol' dim ond yn cwmpasu rhai o'r achosion posibl o gamddefnyddio pŵer a all ddigwydd. Mae camymddwyn rhywiol yn fwy penodol yn codi materion sy’n ymwneud â pherthnasoedd anghyfartal, caniatâd, ac atal mynediad cyfartal i addysg, cyfleoedd a dilyniant gyrfa.

Ymosodiad rhywiol:

Mae ymosodiad rhywiol yn drosedd. Mae person yn cyflawni ymosodiad rhywiol os yw'n cyffwrdd â pherson arall yn fwriadol, os yw’r cyffyrddiad yn rhywiol ac nid yw'r person yn cydsynio.

Mae’n cynnwys pob cyswllt corfforol digroeso o natur rywiol ac mae’n amrywio o binsio, cofleidio, ymbalfalu a chusanu, i dreisio ac ymosodiad rhywiol sy’n cynnwys treiddio heb ganiatâd.

Mae’n bwysig gwybod:

  • Cydsynio yw cytuno trwy ddewis a bod â’r rhyddid a'r gallu i wneud y dewis hwnnw.
  • Bod person yn rhydd i wneud dewis os na fyddai dim byd drwg yn digwydd iddo pe bai'n gwrthod.
  • Bod galluedd yn ymwneud ag a yw rhywun yn gallu gwneud dewis yn gorfforol a/neu’n feddyliol a deall canlyniadau’r dewis hwnnw.

Aflonyddu Rhywiol:

Mae aflonyddu rhywiol yn cael ei wahardd yn benodol fel math o wahaniaethu anghyfreithlon gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Gall ymgeiswyr am swyddi, gweithwyr cyflogedig a phrentisiaid wneud hawliadau mewn tribiwnlys cyflogaeth.

Mae p'un a oedd yn fwriad gan yr aflonyddwr fod yn sarhaus yn amherthnasol. Testun yr ymddygiad sydd i benderfynu ar derfyn ymddygiad derbyniol. Gall un digwyddiad neu ymddygiad parhaus fod yn gyfystyr ag aflonyddu. Bydd amod mewn perthynas â’r diffiniad cyfreithiol o aflonyddu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn cael ei ystyried: hynny yw a yw’n rhesymol i’r hawlydd gael ei dramgwyddo gan ystyried yr amgylchiadau penodol y digwyddodd yr ymddygiad neu’r cyfathrebiadau ynddynt.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diogelu staff a gweithwyr, contractwyr a phobl hunangyflogedig ac ymgeiswyr swyddi rhag aflonyddu rhywiol. Mae aflonyddu rhywiol yn ymddygiad digroeso neu ymddygiad o natur rywiol sydd â'r pwrpas neu'r effaith o darfu ar urddas person neu o greu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol, bychanol neu dramgwyddus i'r derbynnydd.

Gall unrhyw un o unrhyw hunaniaeth o ran rhywedd brofi aflonyddu rhywiol a gall unrhyw un o unrhyw hunaniaeth o ran rhywedd gyflawni aflonyddu rhywiol.

Os yw ymddygiad yn creu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol, bychanol neu dramgwyddus i bobl eraill yn y gwaith, gellir ei ystyried fel aflonyddu rhywiol. Gall enghreifftiau o hyn gynnwys clustfeinio neu weld pobl eraill yn trafod neu’n rhannu cynnwys anweddus neu rywiol yn y gweithle.

Aflonyddu rhywiol1: Mae Aflonyddu Rhywiol yn digwydd pan fydd unigolyn yn ymddwyn yn ddigroeso mewn ffordd rywiol.  Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i:

Ar lafar:

  • sylwadau neu jôcs rhywiol
  • cynigion a gosodiadau rhywiol
  • cwestiynau ymwthiol am fywyd preifat neu rywiol person, a thrafod eich bywyd rhywiol eich hun
  • negeseuon rhywiol neu gyswllt ar gyfryngau cymdeithasol
  • gwneud addewidion yn gyfnewid am gymwynasau rhywiol
  • lledaenu sibrydion rhywiol am berson
  • anfon e-byst neu negeseuon testun rhywiol eglur

Di-eiriau:

  • arddangos lluniau, posteri, neu ffotograffau rhywiol graffig
  • edrychiadau awgrymog, syllu neu gilwenu
  • cyffwrdd, cofleidio, tylino, neu gusanu digroeso

Corfforol:

  • ystumiau rhywiol
  • ymddygiad troseddol, gan gynnwys ymosodiad rhywiol, stelcian, meithrin perthynas amhriodol, dangos eich hun yn anweddus ac anfon cyfathrebiadau sarhaus
  • ymddygiad sy'n rheoli a/neu’n gorfodi: a ddiffinnir fel ymddygiad sy'n rheoli neu'n gorfodi dro ar ôl tro neu'n barhaus tuag at bartner agos (neu gyn-bartner) neu aelod o'r teulu sy'n cael effaith ddifrifol arnynt. Mae ‘effaith ddifrifol’ yn golygu ei fod yn achosi iddynt ofni y bydd trais yn cael ei ddefnyddio yn eu herbyn, neu ei fod yn achosi braw neu drallod difrifol iddynt ac mae hynny’n cael effaith andwyol sylweddol ar eu gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd (fel cymdeithasu, patrymau gwaith, dirywiad iechyd meddwl neu gorfforol).

Gall aflonyddu rhywiol fod yn ddigwyddiad untro ac nid oes angen iddo gael ei gyfeirio at berson a gellir ei wneud trwy unrhyw gyfrwng, gan gynnwys, er enghraifft, ar-lein.

Gall unigolyn brofi aflonyddu rhywiol neu gamymddwyn rhywiol gan rywun o'r un rhyw neu o'r un rhyw a'r sawl sy'n derbyn yr ymddygiad sy'n penderfynu a ydyw’n ddigroeso. Gall ymddygiad rhywiol sydd wedi cael ei groesawu yn y gorffennol ddod yn ymddygiad digroeso.

Mae’r diffiniadau hyn yn cynnwys aflonyddu a chamymddwyn rhywiol drwy unrhyw gyfrwng, gan gynnwys, er enghraifft, ar-lein gan gynnwys platfformau cyfryngau cymdeithasol at ddefnydd personol/proffesiynol. Mae mathau o aflonyddu ar-lein yn cynnwys y rhai a nodir yma.