Collaborative Provision Policy
- Diweddarwyd ddiwethaf:
- Lawrlwytho'r ddogfen hon (PDF, 532.6 KB)
Cyflwyniad
Ein Strategaeth: Y Ffordd Ymlaen 2018-2023: Recast COVID-19
Ein gweledigaeth yw bod yn un o brifysgolion mwyaf blaenllaw’r byd, sy’n rhagorol o ran ymchwil ac yn neilltuol yn addysgol, yn cael ein gyrru gan greadigrwydd a chwilfrydedd. Rydym am fod yn brifysgol sy’n cyflawni ei rhwymedigaethau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, y Deyrnas Unedig a’r byd. Drwy gyflawni ein gweledigaeth, rydym yn disgwyl y byddwn yn gwella ein statws fel un o’r 100 o brifysgolion gorau yn y byd ac un o’r 20 orau yn y DU.
Y Ffordd Ymlaen 2018-2023: Mae Ail-lunio COVID-19 yn amlinellu’r egwyddorion sy’n arwain y modd y byddwn ni’n rhoi’r uchelgais hwn ar waith, ac mae’n cynnwys dangosyddion perfformiad fydd yn ein helpu i fesur ein cynnydd. Bydd yr Is-strategaeth ar gyfer Myfyrwyr ac Addysg wedi’i ddiwygio yn ail-bennu blaenoriaethau newydd er mwyn rhoi’r profiad o’r safon uchaf posibl i’n myfyrwyr o dan gyfyngiadau argyfwng COVID-19, gan gynnal ein safonau a’n gonestrwydd academaidd.
Mae’r rhain yn cynnwys ein hymrwymiad i:
- Yr Amgylchedd Dysgu
- Profiad myfyrwyr
- Strategaeth Iaith Gymraeg, Yr Alwad.
- Lleoliad a Chyflogadwyedd:
- Ehangu Cyfranogiad
- Rhagoriaeth addysgu:
- Safonau academaidd
Trosolwg sefydliadol
Cafodd y Polisi hwn ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd (ASQC) ym mis Ebrill 2018 (diweddarwyd ym mis Awst 2020)1 a bydd yn cael ei adolygu'n gyson i wneud yn siŵr ei fod yn parhau i gefnogi prosesau mewnol sy'n gweithredu'n effeithlon ac effeithiol, ac i fodloni'n llawn y disgwyliadau a'r ymarferion a amlinellir yng Nghôd Ansawdd y Deyrnas Unedig ar gyfer Addysg Uwch wedi'i ddiwygio.
Mae’r egwyddorion wedi’u hamlinellu yn erbyn disgwyliadau Côd Ansawdd y DU ac arferion craidd a chyffredin ochr yn ochr â’r cyngor ac arweiniad ategol ar gyfer Dylunio a Datblygu Cyrsiau, Partneriaethau, Monitro a Gwerthuso, Asesu, Galluogi Myfyrwyr i Gyflawni, Arbenigedd Allanol, Ymgysylltu â Myfyrwyr a Dysgu yn y Gwaith fel y bo’n briodol.
Disgwyliadau o ran safonau | Disgwyliadau o ran ansawdd |
---|---|
Mae safonau academaidd cyrsiau yn bodloni gofynion y fframwaith cymwysterau cenedlaethol perthnasol. | Mae cyrsiau wedi'u dylunio'n dda, ac yn rhoi profiad academaidd o safon uchel i bob myfyriwr, ac yn galluogi ffordd ddibynadwy o asesu cyrhaeddiad myfyriwr. |
Mae gwerth y cymwysterau a ddyfernir i fyfyrwyr wrth iddynt gymhwyso a thros amser, yn unol â'r safonau a gydnabyddir gan y sector. | O gael eu derbyn hyd at gwblhau, caiff yr holl fyfyrwyr y cymorth sydd ei angen arnynt i lwyddo mewn addysg uwch, ac elwa arno. |
Arferion craidd o ran safonau | Arferion craidd o ran ansawdd |
Mae’r ddarparwr yn sicrhau bod safonau’r trothwy ar gyfer ei gymwysterau yn gyson â’r fframweithiau cenedlaethol perthnasol. | Mae’r darparwr yn dylunio ac/neu’n cyflenwi cyrsiau o ansawdd uchel. |
Mae'r darparwr yn sicrhau bod myfyrwyr y dyfernir cymwysterau iddynt yn cael y cyfle i gyflawni safonau y tu hwnt i'r trothwy y gellir eu cymharu'n rhesymol â'r rheiny a gyflawnir mewn darparwyr eraill yn y DU. | Pan fydd darparwr yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, mae ganddo drefniadau effeithiol ar waith i sicrhau bod y profiad academaidd o ansawdd uchel waeth ble neu sut y caiff cyrsiau eu cyflwyno a phwy sy'n eu darparu. |
Pan fydd darparwr yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, bydd wedi gosod trefniadau effeithiol er mwyn gwneud yn siŵr bod safonau ei ddyfarniadau'n gredadwy ac yn ddiogel waeth ble neu ym mha fodd y darperir cyrsiau, neu bwy sy'n eu darparu. | Mae'r darparwr yn cefnogi pob myfyriwr i lwyddo yn academaidd ac yn broffesiynol. |
Mae’r darparwr yn defnyddio arbenigedd allanol, prosesau asesu a dosbarthu sy’n ddibynadwy, teg a thryloyw. | Mae gan y darparwr gyfleusterau, adnoddau dysgu a gwasanaethau cynorthwyo myfyrwyr digonol a phriodol er mwyn darparu profiad academaidd o safon uchel. |
Mae gan y darparwr staff cymwysedig digonol sy'n meddu ar sgiliau i gynnig profiad academaidd o safon uchel. | |
Pan fydd y darparwr yn cynnig graddau ymchwil mae’n cyflawni’r rhain mewn amgylcheddau ymchwil priodol a chefnogol | |
Mae'r darparwr yn ymgysylltu'n weithredol â myfyrwyr, yn unigol ac ar y cyd, o ran safon eu profiadau academaidd. | |
Mae’r darparwr yn adolygu ei arferion craidd ar gyfer ansawdd yn rheolaidd ac yn defnyddio’r canlyniadau i achosi gwelliant. | |
Arferion cyffredin o ran safonau | Arferion cyffredin o ran ansawdd |
Mae’r darparwr yn adolygu ei arferion craidd ar gyfer safonau’n rheolaidd ac yn defnyddio’r canlyniadau i achosi gwelliant. | Mae’r darparwr yn adolygu ei arferion craidd ar gyfer ansawdd yn rheolaidd ac yn defnyddio’r canlyniadau i achosi gwelliant. |
Mae agwedd y darparwr tuag at reoli ansawdd yn cymryd i ystyriaeth arbenigedd allanol. | |
Mae'r darparwr yn ymgysylltu â myfyrwyr, yn unigol ac ar y cyd wrth ddatblygu, gwarantu a gwella safon eu profiadau academaidd. |
1 Gall y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd (ASQC) wneud gwelliannau i'r polisi hwn. Caiff yr holl ddiwygiadau eu cyfleu i Rag Is-Gangellorion a Phenaethiaid Colegau a Phenaethiaid Ysgolion gan y Rhag Is-Ganghellor: Addysg a Myfyrwyr.
Adran 1: Cwmpas ac eithriadau
Cwmpas y Polisi
O 1 Awst 2017 (diweddarwyd fis Awst 2020) mae'r ddogfen hon yn darparu fframwaith ar gyfer cymeradwyo rhaglenni (yn cynnwys darpariaeth ar y cyd) sy’n rhoi canllawiau cyffredinol ar gyfer datblygu a rheoli rhaglenni a addysgir newydd a gwneud newidiadau i raglenni cyfredol.
Diben y Polisi hwn yw sicrhau y gall Prifysgol Caerdydd gyflawni ei chyfrifoldebau’n effeithiol ar gyfer safonau academaidd dyfarniadau ac ansawdd y cyfleoedd dysgu a ddarperir i fyfyrwyr, gan sicrhau bod y rhaglenni a gynigir gan y Brifysgol yn gymaradwy â darpariaeth gytras a gynigir mewn mannau eraill. Yn ogystal, mae'r Polisi yn adlewyrchu cyfrifoldebau’r brifysgol wrth wneud newidiadau i'r ddarpariaeth bresennol o dan y ddeddf diogelu defnyddwyr.
Mae'r Polisi yn adeiladu ar y prosesau a'r gweithdrefnau a amlinellir yn y Polisi Datblygu gan ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar risg o ddatblygu a rheoli’r holl weithgarwch ar y cyd a nodi gofynion ychwanegol penodol gweithgarwch darpariaeth ar y cyd. Bydd yr ymdrech a wneir yn gymesur â ffactorau megis natur y sefydliad partner a chymhlethdod y trefniadau, a thrwy hynny yn sicrhau y bydd ansawdd a safonau ddarpariaeth ar y cyd mor drwyadl, diogel ac agored i graffu â’r rhai ar gyfer rhaglenni a ddarperir yn gyfan gwbl gan Brifysgol Caerdydd. Mae polisi ac arweiniad atodol a phenodol wedi’u cyhoeddi ynghylch datblygu gweithgareddau Lleoliadau ac Astudio Dramor. Dylai’r rhain gael eu darllen ochr yn ochr â’r polisi hwn (gweler adran 5 y polisi hwn).
Mae’r Polisi yn rhoi trosolwg o’r gweithdrefnau, y prosesau a’r gofynion ar gyfer:
i)cynllunio a chymeradwyo rhaglen(ni) neu weithgarwch newydd yn cynnwys darpariaeth ar y cyd;
ii)diweddaru ac adolygu rhaglenni presennol;
iii)dod â rhaglen i ben; a
iv)rheoli’n barhaus ansawdd rhaglenni neu weithgarwch sy'n cynnwys darpariaeth ar y cyd.
Disgwylir y bydd unrhyw ddatblygiad i’r holl gynigion rhaglenni newydd a newidiadau i raglenni cyfredol yn cael eu datblygu wrth gyfeirio at bolisïau Prifysgol Caerdydd a chodau ymarfer ochr yn ochr ag unrhyw ofynion corff proffesiynol a statudol:
- Rheoliadau Academaidd:
- Egwyddorion ac ymrwymiadau asesu ac adnoddau asesu ac adborth cysylltiedig;
- Egwyddorion Strwythuro, Cynllunio a Darparu Rhaglen (cymeradwywyd ym mis Hydref 2019);
- Fframwaith Addysg Ddigidol a Fframwaith Dysgu Digidol
- Strategaeth y Gymraeg
- Polisi Darpariaeth Gydweithredol (diwygiwyd ym mis Awst 2020)
- Polisi Astudio Dramor (diwygiwyd ym mis Awst 2020), lle y bo'n briodol
- Polisi Dysgu ar Leoliad (diwygiwyd ym mis Awst 2020), lle y bo’n briodol
- Polisïau Derbyn (gan gynnwys telerau ac amodau'r cynnig)
- Polisi Ffioedd Dysgu
- Canllawiau yn ymwneud ag Addysgu a chynorthwyo myfyrwyr.
Mae’r cyfrifoldebau llawn ar gyfer goruchwylio a rheoli darpariaeth ar y cyd i'w gweld yn Atodiad A.
Cynigion wedi’u cymeradwy’n strategol gan Fwrdd Gweithredol y Brifysgol
O bryd i'w gilydd, efallai y bydd Bwrdd Gweithredol y Brifysgol yn cymeradwyo’n strategol gynigion i ddatblygu cysylltiadau â sefydliadau eraill neu bartneriaethau sydd o bwys i’r brifysgol. Mae'n rhaid i unrhyw gynigion o'r fath gwblhau pob cam o'r Broses Gymeradwyo a amlinellir yn y Polisi hwn a'r Polisi Cymeradwyo Rhaglenni.
Awgrymir cysylltu â'r Tîm Ansawdd a Safonau cyn cynnal unrhyw drafodaethau ffurfiol er mwyn gwneud yn siŵr y gellir rhoi arweiniad priodol ar y broses a'r ddogfennaeth ar ddechrau'r broses.
Mae’n hollbwysig nad yw Ysgolion yn cynnal unrhyw drafodaethau ffurfiol â sefydliadau partner hyd nes bod Cymeradwyaeth Strategol Cam 1 wedi cael ei rhoi gan yr Grŵp Strategaeth Recriwtio a Derbyniadau.
Eithriadau
Mae’r polisi hwn yn rhoi canllawiau ar gyfer datblygu rhaglenni newydd a addysgir ac ar gyfer rheoli’r newidiadau i raglenni cyfredol. Mae’r Rheoliadau Academaidd ar gyfer Graddau Ymchwil yn nodi gofynion y Brifysgol o ran rheoli rhaglenni ei graddau ymchwil. Mae’n disgrifio’r egwyddorion sy’n sail i ofyniad y Brifysgol i Ysgolion reoli a chynorthwyo’u myfyrwyr ymchwil, ac yn nodi fframwaith sefydliadol y gall trefniadau lleol mwy manwl weithredu o’u mewn.
Dylid trafod cyngor ac arweiniad ar gynigion ar gyfer darpariaeth ar y cyd a addysgir â Swyddog ansawdd eich Coleg yn quality@caerdydd.ac.uk. Ar gyfer graddau ymchwil ar y cyd, cysylltwch â'r Tîm Ansawdd a Gweithrediadau Ymchwil Ôl-Raddedig yn PGR@caerdydd.ac.uk.
Adran 2: Egwyddorion allweddol
Caiff y prosesau gwneud penderfyniad yn y Polisi hwn eu cynllunio mewn perthynas ag egwyddor arweiniol sybsidaredd, sy’n cefnogi proses fusnes effeithlon y Brifysgol tra’n sicrhau manylder a chraffu cymesur. Mae’n caniatáu i’r brifysgol gyflawni ei chyfrifoldebau’n effeithiol o dan Gôd Ansawdd diwygiedig y Deyrnas Unedig ar gyfer Addysg Uwch ac o dan y gyfraith diogelu defnyddwyr.
Ar gyfer cynigion sy’n cynnig darpariaeth gydweithredol, ystyriaeth allweddol wrth gymeradwyo gweithgarwch ar y cyd yw p’un a yw cydweithredu â phartner yn risg i safonau academaidd y Brifysgol a phrofiad y myfyrwyr, ac yn sgil hynny, enw da'r brifysgol. Mae’r angen i ddiogelu'r rhain yn hollbwysig a rhaid sicrhau mai dyna yw’r brif ystyriaeth wrth werthuso buddiannau unrhyw fath o gydweithredu.
Egwyddorion cyffredinol
Cam 1 | Cymeradwyaeth Strategol |
---|---|
Rhoddir Cymeradwyaeth Strategol ar lefel Prifysgol ac mae'n mynd i'r afael â'r cwestiwn allweddol, 'Mewn egwyddor, a ydym am wneud hyn, ac a yw'n cyd-fynd â blaenoriaethau sefydliadol a amlinellir yn y Ffordd Ymlaen 2018-2023: Ail-lunio COVID-19? Mae angen ystyried sefydliad y partner arfaethedig, gwybodaeth am y farchnad, hyfywedd busnes gan gynnwys costau ac incwm o ffioedd dysgu a risgiau (gan gynnwys risgiau i enw da'r brifysgol). Bydd Colegau dim ond yn cyflwyno cynigion allweddol i banel Cam 1 y Brifysgol os ydynt yn bodloni’r blaenoriaethau sefydliadol a amlinellir yn y Ffordd Ymlaen 2018-2023: Ail-lunio COVID-19 gan amlygu sut mae’r cynnig yn bodloni’r meini prawf a nodir gan y Grŵp Strategaeth Recriwtio a Derbyn Myfyrwyr. Caiff pob cynnig ei ystyried mewn cyfarfodydd penodedig y flwyddyn (fel arfer yn chwarterol), a fydd yn cyd-fynd â’r amserlenni a geir yn Adran 3. Bydd pob cynnig yn ystyried blaenoriaethau sefydliadol, yr adnodd sydd ei angen ar yr Ysgol i ymrwymo i'r cyfnod datblygu a'r cymorth sydd ei angen gan CESI. Bydd angen i'r Ysgol amlinellu amserlenni manwl ar gyfer y cyfnod datblygu gan gynnwys y noddwr academaidd a fydd yn gyfrifol am sicrhau bod amserlenni'n cael eu bodloni. Bydd angen i bob cynnig ystyried yr amserlenni a nodir yn adran 3 er mwyn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd recriwtio. | |
Cam 2 | Cyfnod Datblygu Rhaglen a Phartneriaeth |
Disgwylir y bydd pob cynnig sy’n symud ymlaen o Gam 1 Cymeradwyaeth Strategol yn ymwneud â gweithdai a gynigir trwy’r Ganolfan Arloesedd a Chefnogaeth Addysg (CESI). Bydd y gweithdai’n ymdrin â chynllunio a darparu’r cwricwlwm, cyfleoedd asesu ac ailasesu, profiad y myfyriwr ac adnoddau dysgu. Disgwylir y bydd pob rhaglen yn ymgorffori’r egwyddorion a amlinellir yn y Strategaeth Gymraeg, Strategaeth Addysg Ddigidol yn ogystal ag ymrwymiadau asesu ac adborth. Bydd disgwyl i bob cynnig gynnwys rhestr wirio trothwy'r modiwl er mwyn sicrhau lefel graidd o gysondeb ym mhrofiad addysgol myfyrwyr, pan fydd llawer mwy o bwyslais ar elfennau digidol eu rhaglen. Disgwylir y bydd buddsoddi mwy o amser yn ystod y cyfnod datblygu yn cynyddu’r rhaglenni arloesol, o ansawdd uchel sy’n cael eu cynnig ar gyfer cymeradwyaeth academaidd i’r Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid, gan felly leihau amodau i’r eithaf. Yn ystod y cyfnod hwn, cynhelir diwydrwydd dyladwy academaidd manwl a bydd cynlluniau rheoli partneriaeth yn cael eu datblygu sy'n amlinellu rolau pob partner wrth gyflawni'r rhaglen. | |
Cam 3 | Cymeradwyaeth Academaidd |
Mae’r cam hwn yn gofyn ‘a yw hyn yn gadarn yn academaidd ac a yw’n cyflawni’r egwyddorion sylfaenol o ran strwythur, cwricwlwm ac asesu a ddisgwylir gan bob rhaglen yng Nghaerdydd?’ Mae’n rhaid i bob cynnig a gyflwynir i'w ystyried i'r Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid ddangos sut y maent wedi ymgysylltu â'r gweithdai a ddarperir drwy'r CESI gan gynnwys y Fframwaith Dysgu Digidol i sicrhau eu bod yn bodloni egwyddorion strwythur, dyluniad a darpariaeth rhaglenni. Bydd y Panel yn ceisio sicrhau bod pob rhaglen newydd:
Disgwylir y bydd manteisio ar y cymorth sydd ar gael yn ystod cyfnod datblygu’r rhaglen yn lleihau’r angen am wneud amodau/argymhellion ychwanegol cyn ei hargymell ar gyfer cymeradwyaeth ffurfiol y Brifysgol gan y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd (ASQC). Mae ein rhwymedigaethau o dan y Gyfraith Defnyddwyr yn ein hatal rhag hysbysebu unrhyw raglen(ni) hyd nes y rhoddir cymeradwyaeth ffurfiol gan yr ASQC er mwyn sicrhau cywirdeb y wybodaeth sydd ar gael i fyfyrwyr ac ymgeiswyr. Dim ond ar ôl cwblhau pob cam y gellir llofnodi cytundeb ffurfiol yn amlinellu natur, a hyd a lled y cydweithrediad. |
Lefel newid a chymeradwyo academaidd
Disgwylir mai’r cam cyntaf i bob ysgol fydd adolygu, trafod ac amlygu newidiadau i’r ddarpariaeth gydweithredol gyfredol trwy ystod o brosesau e.e. gwerthuso modiwlau a deilliannau trwy ARE a thrafodaethau portffolio â chynrychiolwyr Colegau trwy Adolygu Perfformiad. Bydd y trafodaethau hyn yn helpu i amlygu’r math o newid a gynigir a’r graddfeydd amser ar gyfer gweithredu. Os bydd angen newidiadau sylweddol i raglenni cydweithredol o fewn ysgol, dylid datblygu newidiadau o dan y broses adolygu Darpariaeth Gydweithredol a nodir yn adran 8.
Pan nodir newidiadau i raglenni unigol, dylai ysgolion ymgynghori â'r tabl o newidiadau a nodwyd ym Mholisi Datblygu'r Rhaglen sy'n nodi lefel y newid a'r locws cyfrifoldeb naill ai mewn Bwrdd Astudiaethau/Bwrdd Ysgol neu'r Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid. Dylid trafod unrhyw newidiadau gyda’r partner cyn eu cymeradwyo.
Gan y bydd maint pob ysgol a’i strwythurau penderfynu yn amrywio, cydnabyddir y gallai Ysgolion ddymuno creu dull ‘goruchwyliaeth Ysgol’ ychwanegol mewn ysgolion mwy o faint lle y ceir sawl Bwrdd Astudiaethau. Bydd hyn yn sicrhau ymagwedd gydlynol at drafodaethau ynglŷn â newid ar lefel rhaglen, sy’n ystyried unrhyw effaith ar fodiwlau a rennir o fewn a’r tu allan i’r ysgol.
Ym mhob achos, bydd angen cofnod cywir o'r holl newidiadau drwy ddefnyddio templed Amrywio ar gyfer y Bwrdd Astudiaethau yn ogystal â thempled mapio Canlyniadau Dysgu'r Rhaglen. Bydd angen cofnodion manwl o'r holl newidiadau ar ddiben y newid, effaith uniongyrchol y newid (gan gynnwys unrhyw ddarpariaeth Anrhydeddau ar y Cyd) a pha ymgynghori â myfyrwyr sydd wedi digwydd (gweler adran chwech).
Nid oes modd rhestru’r holl newidiadau posibl ar lefel y brifysgol yn y polisi hwn, felly fe’ch cynghorir i gysylltu â’r Tîm Ansawdd a Safonau pan fyddwch yn ansicr ynglŷn â’r math o newid a gynigir a’r llwybr cymeradwyo mwyaf priodol ar gyfer lefel y newid, yn enwedig yn achos newid cronnol.
Adran 3: Amserlenni
Gan fod pob cynnig yn amrywio o ran maint a chymhlethdod, mae'n bwysig bod amser ac adnoddau priodol ar gael i staff yr ysgol ar bob cam o'r broses a amlinellir yn Adran 2. Gall cynigion sy’n cynnwys darpariaeth ar y cyd gymryd llawer mwy o amser yn enwedig os oes angen cymeradwyaeth y llywodraeth genedlaethol, neu os oes gan y sefydliad(au) partner brosesau cymeradwyo ychwanegol. Mae’r manylion llawn angenrheidiol ar gyfer datblygu rhaglenni gyda darpariaeth ar y cyd i’w gael yn y Polisi Cymeradwyo Rhaglenni a dylid eu darllen ar y cyd â’r polisi hwn.
Mae cynigion ar gyfer datblygu rhaglenni a phartneriaethau newydd yn gysylltiedig â’r trafodaethau ynghylch datblygu portffolio ym mhob coleg. Bydd Ysgolion yn cael gwybodaeth am y farchnad gan bob coleg a fydd yn ategu’r trafodaethau hyn, gan amlygu bylchau posibl yn y farchnad i ddatblygu rhaglenni newydd yn ogystal ag argymhellion ar gyfer adolygu neu derfynu rhaglen. Yn ogystal, gallai’r Grŵp Strategaeth Recriwtio a Derbyn argymell meysydd i’w datblygu sy’n cyd-fynd yn uniongyrchol â blaenoriaethau sefydliadol.
Er mwyn sicrhau y gellir recriwtio’n llwyddiannus i bob cynnig am raglen newydd, mae graddfeydd amser clir ar gyfer cymeradwyaeth derfynol gan yr ASQC wedi cael eu sefydlu, a chytunir ar y rhain erbyn diwedd proses Cymeradwyaeth Strategol Cam 1 gan RASG.
Os na fydd rhaglenni’n barod erbyn y terfynau amser a amlinellir isod, bydd y gweithgareddau recriwtio a marchnata yn cael eu hoedi ar gyfer y rhaglen tan y cylch nesaf.
Ôl-raddedig a Addysgir - dylai rhaglenni fod yn barod i’w marchnata o leiaf ddeuddeg mis cyn i’r rhaglen ddechrau (e.e. mis Medi 2021 i ddechrau ym mis Medi 2022); |
Israddedig - dylai rhaglenni fod yn barod i’w marchnata o leiaf ddeunaw mis* cyn i’r rhaglen ddechrau (e.e. mis Rhagfyr 2021 i ddechrau ym mis Medi 2023). |
Bydd amserlen y Grŵp Strategaeth Recriwtio a Derbyn yn cael ei chyhoeddi ar ddechrau’r flwyddyn academaidd a’i rhoi i bob Coleg. Bydd hyn yn strwythuro llinell amser pob coleg ar gyfer derbyn cyflwyniadau gan Ysgolion am raglenni newydd cyn eu hadolygu a’u hargymell i’r panel Cymeradwyaeth Strategol Cam 1 i’w hystyried.
Gall cynigion ar gyfer rhaglenni a phartneriaethau newydd gael eu hystyried gan y Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid yn rheolaidd. Fodd bynnag, cânt eu cyflwyno i’w hystyried gan y Panel dim ond ar ôl cadarnhau yr ymgysylltwyd â’r gweithdai craidd a ddarparwyd trwy’r CESI a bod y cynnig yn bodloni egwyddorion strwythuro, cynllunio a darparu rhaglenni, y Strategaeth Addysg Ddigidol ac egwyddorion asesu ac adborth.
Ni fydd rhaglenni newydd a gyflwynir yn hwyr yn y cylch recriwtio yn cael eu cefnogi trwy’r broses Cymeradwyaeth Strategol Cam 1 gan y bydd hynny’n effeithio ar allu’r Ysgolion i fanteisio i’r eithaf ar weithgarwch recriwtio a marchnata ac i recriwtio i’r niferoedd disgwyliedig a nodwyd fel rhan o’u cynllun busnes.
Adran 4: Datblygu rhaglenni â darpariaeth ar y cyd
Mae'r broses ar gyfer cymeradwyo darpariaeth ar y cyd yn adeiladu ar y prosesau a'r gweithdrefnau a amlinellir yn y Polisi Datblygu Rhaglenni, gyda haen ychwanegol o graffu ac adolygu er mwyn ystyried y risg uwch sy’n gysylltiedig ag unrhyw ddarpariaeth a gyflwynir y tu allan i’r sefydliad.
Mae un egwyddor arweiniol syml:
'Prifysgol Caerdydd, fel y sefydliad dyfarnu, sy’n gyfrifol am dderbyn myfyrwyr, profiad myfyrwyr a safonau academaidd ac ansawdd yr addysg a ddarperir ar ei rhan, lle bynnag y bo hynny’n digwydd a chan bwy bynnag y gwneir hynny'.
Rhoddir ystyriaeth i ystod eang o amgylchiadau gan gynnwys cymharu â’r sector, data arolwg, cyllid allanol a datblygiadau strategol yng Nghymru/y Deyrnas Unedig.
Bydd y dadansoddiad yn annog Ysgolion i ystyried:
- Datblygu rhaglenni yn unol â’r Strategaeth Addysg Ddigidol;
- Argymhellion ynglŷn â bylchau’r portffolio yn y sector;
- Asesiad o batrymau recriwtio cyfredol, gan amlinellu lle mae’r galw gan y farchnad yn lleihau ar gyfer rhai rhaglenni;
- Argymhellion ar gyfer adolygiad cyfannol o raglenni trwy ailddilysu i ganiatáu am newid neu ailaliniad strategol arwyddocaol;
- Argymhellion ynghylch rhaglenni y dylai Caerdydd roi’r gorau iddynt yn seiliedig ar ganlyniadau’r trafodaethau ynglŷn â pherfformiad rhaglenni a amlygwyd uchod.
Datblygu rhaglenni Newydd yn cynnwys Darpariaeth Gydweithredol
Ar ôl ystyried yn fanwl/ymgynghori â thimau recriwtio perthnasol y Coleg a’r Brifysgol, anogir Ysgolion i ddechrau paratoi cynigion ar gyfer rhaglenni newydd i’w hystyried gan y coleg ac yna ymlaen i’r RASG ar gyfer y panel Cymeradwyaeth Strategol Cam 1, lle y bo’n briodol.
Bydd angen i bob cynnig a gyflwynir i’r RASG ddangos sut mae’n bodloni meini prawf a osodwyd gan y brifysgol. Bydd hyn yn caniatáu i’r coleg ystyried pob cynnig yn seiliedig ar flaenoriaethau strategol y Coleg a’r Brifysgol a phenderfynu ar ba raglenni a ddewisir i fynd ymlaen i Gymeradwyaeth Strategol Cam 1 ffurfiol y Brifysgol.
Lle mae cynigion yn amlygu meysydd unigryw neu gyfleoedd arwyddocaol ar gyfer cyllid allanol, gellir rhoi ystyriaeth ofalus iddynt os nad oes galw amlwg neu sylweddol gan y farchnad. Fodd bynnag, bydd hyn yn cael ei ystyried mewn achosion eithriadol yn unig lle mae tystiolaeth o ymrwymiad allanol i’r cynnig.
Nid yw cyflwyno cynigion i’r Coleg yn gwarantu y byddant yn cael eu symud ymlaen i’w datblygu ymhellach.
Newidiadau i raglenni presennol yn cynnwys Darpariaeth ar y Cyd
Disgwylir y bydd y trafodaethau datblygu portffolio yn y coleg yn canolbwyntio ar yr egwyddorion a amlygwyd uchod, yn enwedig wrth ystyried recriwtio myfyrwyr a hyfywedd rhaglenni. Fel yr amlygwyd yn adran 3, lle mae ysgolion yn amlygu’r angen am newidiadau lefel prifysgol i raglenni unigol neu gyfres o raglenni yn y portffolio, bydd angen ystyried yn ofalus i benderfynu ar yr amseriad a’r adnoddau sy’n angenrheidiol i ymgymryd â’r newid ac a yw’r ymdrech yn gymesur â’r enillion a ddisgwylir.
Lle mae angen newidiadau sylweddol i ystod o raglenni mewn ysgol, efallai y penderfynir ymgymryd â’r dasg hon yn gyfannol trwy’r broses ailddilysu yn hytrach na thrwy gyfres o newidiadau annibynnol er mwyn caniatáu ar gyfer newid neu ailaliniad strategol arwyddocaol.
Cam 1: Cymeradwyaeth strategol y brifysgol ar gyfer rhaglenni sy'n cynnwys Darpariaeth Gydweithredol
Datblygu rhaglenni newydd â darpariaeth gydweithredol
Bydd pob Coleg yn cyflwyno’r cynigion ar ei restr fer i Banel Cymeradwyaeth Strategol Cam 1 y Brifysgol (y Grŵp Strategaeth Recriwtio a Derbyn) gan amlinellu sut mae pob cynnig yn cyd-fynd â blaenoriaethau strategol yr Ysgol, y Coleg a’r Brifysgol. Gan y bydd angen buddsoddi llawer o amser ac adnoddau i bob cynnig, bydd y Panel yn gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar y meini prawf canlynol:
- y cyfiawnhad strategol ac academaidd dros ddatblygu’r rhaglen yn unol â blaenoriaethau sefydliadol cyfredol;
- Sut mae’r cynigion yn bodloni’r blaenoriaethau a nodir yn Strategaeth y Gymraeg
- tystiolaeth o alw a strategaeth farchnata arfaethedig (y DU a/neu dramor);
- amlinelliad manwl o’r adnoddau academaidd a’r adnoddau eraill y mae eu hangen (gyda chyfraniad gan adrannau Cyllid, Llyfrgell, TG a gwasanaethau proffesiynol eraill y Coleg);
- niferoedd myfyrwyr rhagamcanol dros gyfnod o bum mlynedd;
- dadansoddiad ariannol (yn cynnwys incwm ffioedd a meini prawf llwyddiant);
- nodi arweinydd academaidd a gwasanaethau proffesiynol o’r Ysgol a fydd yn uniongyrchol gyfrifol am y cynnig a’r graddfeydd amser arfaethedig ar gyfer datblygu;
- cynhyrchu cofrestr risg sy’n amlygu unrhyw risgiau i’r Ysgol, y Coleg neu’r Brifysgol yn gysylltiedig â’r cynnig, gan gynnwys methiant i gael cymeradwyaeth o fewn y graddfeydd amser a nodwyd.
Ystyriaethau penodol o ran Darpariaeth ar y Cyd:
- manylion am y partner arfaethedig a’r asesiad risg cysylltiedig;
- cynllun ariannol manwl gyda’r partner arfaethedig (sy’n cynnwys yr holl gostau staff).
Newidiadau i raglenni presennol yn cynnwys darpariaeth gydweithredol
Bydd pob cynnig ar gyfer gwneud newidiadau i ddarpariaeth bresennol angen dangos y canlynol:
- y cyfiawnhad strategol ac academaidd ar gyfer gwneud newidiadau i’r rhaglen(ni);
- tystiolaeth o ymgynghori gyda myfyrwyr yn unol â’r datganiad amrywiad trefniadau a amlinellir yn nhelerau ac amodau cynnig y Brifysgol gan gynnwys y cyfle i fyfyrwyr newid i raglen arall neu dynnu’n ôl;
- y cynllun cyfathrebu arfaethedig i ddiweddaru ymgeiswyr am newidiadau i raglen(ni) presennol yn unol â thelerau ac amodau cynnig y Brifysgol gan gynnwys y cyfle i fyfyrwyr dynnu’n ôl;
- amlinelliad manwl o adnoddau academaidd ac adnoddau eraill sydd eu hangen;
- nodi unrhyw risgiau anfwriadol i’r Ysgol, Coleg neu Brifysgol sy’n gysylltiedig â’r newidiadau arfaethedig.
Ystyriaethau penodol o ran Darpariaeth ar y Cyd:
- effaith y newidiadau arfaethedig ar y cytundeb cyfreithiol a’r memorandwm ariannol cysylltiedig;
- effaith y Cynllun Rheoli Partneriaeth a’r cytundeb cyfreithiol cysylltiedig
Cymeradwyo
Bydd Panel Cymeradwyaeth Strategol Cam 1 y brifysgol (mewn ymgynghoriad â staff academaidd a gwasanaethau proffesiynol eraill o'r Brifysgol) yn ystyried rhinweddau'r cynnig ac yn penderfynu a all y cynnig symud ymlaen i Gam 2.
Pan fydd cymeradwyaeth strategol wedi cael ei rhoi, bydd yn ofynnol i ysgolion ymrwymo i’r canlynol:
- Graddfeydd amser clir ar gyfer cwblhau a chyflwyno i’r Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid, gan gynnwys cysylltu â’ch Swyddog Ansawdd Coleg yn rheolaidd i werthuso cynnydd;
- Dylai’r noddwr academaidd (ac aelodau ychwanegol o’r tîm datblygu, lle y bo’n briodol) ymwneud â gweithdai gorfodol a gefnogir gan CESI ar ddatblygu addysg ddigidol, cwricwlwm, asesu a strwythur y rhaglen;
- Dylai’r noddwr academaidd (ac aelodau ychwanegol o’r tîm datblygu, lle y bo’n briodol) ddefnyddio’r gweithdai i rannu syniadau trwy gymunedau ymarfer;
- Dylai’r noddwr academaidd fynychu’r Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid fel arsylwr i gael dealltwriaeth o’r gofynion a chyfoethogi ei ddatblygiad proffesiynol yn y maes hwn.
Dylid nodi y gallai’r Panel Cymeradwyaeth Strategol Cam 1 ofyn am wybodaeth bellach neu benderfynu na ddylid symud y cynnig ymlaen i Gam 2.
Mae manylion llawn am yr holl ddogfennau angenrheidiol ar gyfer cymeradwyaeth strategol Cam 1 i ddatblygu rhaglenni gyda darpariaeth gydweithredol ar gael ar y fewnrwyd, ac mae cymorth a chanllawiau ar gael gan dîm Cyfathrebu a Recriwtio eich Coleg ar asesu hyfywedd eich datblygiadau rhaglen arfaethedig a chan Swyddog Ansawdd eich Coleg.
Mae cyngor ac arweiniad ychwanegol ar gyfer datblygu rhaglenni graddau ymchwil i'w gael gan y Tîm Ansawdd a Gweithrediadau Ymchwil Ôl-Raddedig yn PGR@caerdydd.ac.uk.
Cam 2: Cyfnod datblygu rhaglen a phartneriaeth
Pan fydd cymeradwyaeth strategol wedi cael ei rhoi, gall ysgolion ddechrau datblygu'r wybodaeth lawn am y rhaglen i baratoi ar gyfer ei chyflwyno i'r Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid.
Datblygu’r cynnig
Disgwylir y bydd pob noddwr academaidd yn ymwneud â’r gweithdai craidd a gynigir trwy’r CESI yn ogystal â’r egwyddorion a amlinellir yn y Strategaeth Addysg Ddigidol cyn cyflwyno i’r Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid.
Disgwylir y bydd buddsoddi mwy o amser yn ystod y cyfnod datblygu yn cynyddu’r rhaglenni arloesol, o ansawdd uchel sy’n cael eu cynnig ar gyfer cymeradwyaeth academaidd, gan felly leihau’r nifer uchel o amodau i’r eithaf. Felly, mae’n bwysig iawn ymgymryd â’r broses ddatblygu fel tîm er mwyn sicrhau y gellir ymdopi â’r llwyth gwaith, ac y gellir cael ystod lawn o gyngor ac arbenigedd.
Bydd gan bob cynnig raddfeydd amser clir (a phwyntiau cysylltu wedi’u trefnu) ar gyfer datblygu, felly mae’n rhaid i noddwyr academaidd ystyried hyn wrth drefnu cyfranogiad ym mhob gweithdy CESI (bydd angen tystiolaeth o gymryd rhan/presenoldeb mewn gweithdai).
Lle nad yw cynigion yn gwneud digon o gynnydd i gyrraedd y terfynau amser a amlinellir yn adran 3, gallai Panel Cymeradwyaeth Strategol Cam 1 y Brifysgol benderfynu gosod dyddiad dechrau hwyrach ar gyfer y rhaglen ac oedi gweithgareddau recriwtio a marchnata dilynol tan y cylch recriwtio nesaf.
Asesiad risgiau
Yn rhan o gam 2, bydd angen cwblhau asesiad risg llawn o bartner. Bydd hyn yn adeiladu ar yr asesiad risg o’r cynnig cychwynnol a wnaethpwyd yn rhan o gam 1. Yn ymarferol, bydd natur a graddau’r asesiad risg a gynhelir yn amrywio yn unol â chymhlethdod y cynnig. Bydd eich Swyddog Ansawdd y Coleg yn helpu i'ch tywys drwy'r cwestiynau allweddol wrth geisio asesu'r risg o ran y sefydliad partner arfaethedig a'r rhaglen sy'n cael ei datblygu, a bydd y Swyddfa Ryngwladol yn rhoi cyngor ac arweiniad ar y wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer partneriaethau rhyngwladol. Mewn ambell achos, mae'n bosibl y bydd angen comisiynu gwasanaethau allanol am y bydd angen cyngor cyfreithiol.
Yn gyffredinol, bydd proses asesu risg yn archwilio’r canlynol:
- statws cyfreithiol y darpar bartner neu asiant;
- ei sefyllfa ariannol ac academaidd;
- ei ethos academaidd;
- ei system ansawdd a safonau;
- p’un a yw’n cydweithredu eisoes â phartneriaid eraill yn y DU neu’n rhyngwladol;
- ei brofiad yn y maes disgyblaeth neu’r gweithgaredd dan sylw;
- ei allu yn y gyfraith i gysylltu â’r sefydliad dyfarnu.
Wrth wneud newidiadau i drefniadau cydweithio, disgwylir i unrhyw asesiad risg a gynhelir wrth y cam cymeradwyo yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru i adlewyrchu’r newidiadau. Os yw'r newidiadau'n helaeth, mae'n bosibl y bydd angen asesiad risg newydd yn ogystal ag aildrafod telerau ac amodau'r cytundeb cyfreithiol presennol. Bydd Swyddog ansawdd eich Coleg a'r Swyddfa Ryngwladol yn eich cynghori am y broses hon.
Ymweliad Adnoddau
Cyn bod y rhaglen derfynol o wybodaeth yn cael ei chyflwyno i'r Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid, bydd angen cynnal ymweliad adnoddau'r ddarpariaeth ar y cyd gan staff o Goleg arall fel arfer (nid cynigwyr rhaglenni) i ystyried yr adnoddau ffisegol i gefnogi myfyrwyr a darpariaeth academaidd y rhaglen(ni). Caiff Ffurflen Ymweliad Adnoddau ei chwblhau gan y tîm ymweld a bydd yn cynnwys cyfeiriad at y canlynol:
- addasrwydd ystafelloedd addysgu a mannau astudio;
- cyfleusterau llyfrgell;
- cyfleusterau TG;
- cyfleusterau neu adnoddau eraill fel sy'n ofynnol ar gyfer y rhaglen(ni) a gynigir.
Dylai'r ymweliad adnoddau hefyd gynnwys y cyfle i gwrdd â staff addysgu/cymorth/hyfforddiant partner lle y gellir trafod y canlynol yn fanwl:
- y Cynllun Rheoli Partneriaeth;
- lles myfyrwyr a dulliau cymorth;
- gweithgarwch marchnata a recriwtio a gynigir;
- asesiadau a mecanweithiau Bwrdd Arholi, gan gynnwys penodi'r Arholwr Allanol;
- Amlder a hyd ymweliadau gan safonwyr;
- Trefniadau cyfathrebu tiwtor cyswllt yr Ysgol gyda'r partner.
Trefniadau Sicrhau Ansawdd
Fel rhan o'r broses gymeradwyo, rhaid i'r ysgol amlinellu sut y caiff y trefniadau sicrhau ansawdd a gwelliant parhaus ar gyfer y rhaglen a gynigir eu rheoli, gan roi sylw arbennig i’r gwaith o fonitro unrhyw swyddogaethau rheoli ansawdd a ddirprwyir i’r sefydliad partner (gan ddibynnu ar y model darpariaeth ar y cyd).
Gall hyn gynnwys trefniadau ar gyfer:
- Rhoi'r Cynllun Rheoli Partneriaeth ar waith, a'i adolygu.
- cyswllt parhaus a rheolaidd rhwng y Brifysgol a’i phartner, a rheoli materion gweithredol;
- systemau cymorth i fyfyrwyr a sut y gallant roi adborth i staff Prifysgol Caerdydd;
- monitro’r rhaglen yn rheolaidd (h.y. yn ystod yr Adolygiad a Gwelliant Blynyddol) yn cynnwys cymorth i fyfyrwyr a chynnydd academaidd myfyrwyr yn cynnwys adroddiad y Safonwr;
- Ailddilysu yn unol â gweithdrefnau safonol Prifysgol Caerdydd;
- Adolygiad ffurfiol o'r trefniant ar ddiwedd y cyfnod penodol o 18 mis o leiaf cyn y dyddiad adnewyddu.
Paratoi ar gyfer Cyfarfod y Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid
Yn ogystal â’r gweithdai craidd a hwylusir gan y CESI, disgwylir i’r noddwr academaidd hyrwyddo dull cydweithredol o ddatblygu’r cynnig gan ganiatáu cyfrifoldeb cyffredinol wrth ddatblygu’r holl wybodaeth am y rhaglen. Bydd cynnwys arbenigedd gwasanaethau academaidd a phroffesiynol allweddol yn yr Ysgol yn amrywio gan ddibynnu ar natur y cynnig, fodd bynnag dylai gynnwys y canlynol o leiaf:
- Myfyriwr o fewn yr ysgol sy’n cynnig;
- Cyfaill beirniadol ag arbenigedd yn y maes pwnc sy’n gallu cynghori a chynorthwyo’r tîm datblygu, ac a fydd yn rhoi adroddiad ffurfiol ar ei ymgysylltiad i’r Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid (ar gyfer newidiadau i raglen bresennol, ac argymhellir y defnyddir yr arholwr allanol presennol);
- Staff addysgu academaidd allweddol yn yr Ysgol (a thu hwnt os yw’n gynnig ar y cyd) i roi cyngor ar gynnwys, asesu a chyflawni;
- Staff gweinyddol allweddol yn yr Ysgol i roi cyngor ar amserlenni gweithredu a phrosesau’r ysgol;
- Unrhyw ofynion ar gyfer Cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol;
- Staff allweddol yn y Gofrestrfa i sicrhau bod unrhyw ofynion rheoleiddiol yn cael eu cadarnhau o flaen llaw e.e. rheolau camu ymlaen a dyfarnu.
- Cynrychiolwyr o’r sefydliad partner
Cymeradwyo Gwybodaeth am y Rhaglen
Mae’r Noddwr Academaidd yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl ddogfennau sy’n ofynnol ar gyfer datblygu rhaglenni newydd yn cael eu cwblhau o fewn y graddfeydd amser a amlygwyd yn adran 3 a’u gwirio a’u cymeradwyo gan Dîm Cyfathrebu’r Coleg cyn iddynt gael eu cyflwyno i’r Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid.
Yn ogystal, disgwylir i bob noddwr academaidd gadarnhau ei fod wedi ymwneud â’r gweithdai CESI ac wedi ystyried y polisïau a’r canllawiau cysylltiedig, gan amlygu ble y gellir dod o hyd i’r wybodaeth ym mhrif ddogfennau’r cynnig. Bydd yn ofynnol i Ysgolion gadarnhau’r canlynol:
- Bod pob Noddwr Academaidd wedi ymwneud â’r gweithdai craidd sydd ar gael trwy CESI, gan gynnwys dyddiadau presenoldeb/ymgysylltiad.
- Bod y wybodaeth am y rhaglen arfaethedig yn bodloni’r deilliannau dysgu a nodwyd ym mhob un o’r gweithdai craidd;
- Bod y wybodaeth am y rhaglen wedi cael ei gweld a’i datblygu gan y Bwrdd Astudiaethau/Bwrdd Ysgol priodol cyn iddi gael ei chyflwyno i’r Panel Sefydlog.
- Bod y cynnig yn bodloni gofynion yr egwyddorion ar gyfer strwythuro, cynllunio a darparu’r rhaglen a’r egwyddorion asesu ac adborth.
- Bod y cynnig wedi ystyried a gweithredu, lle y bo’n ymarferol, yr egwyddorion a amlinellir yn y Strategaeth Addysg Ddigidol a chynnwys y rhestr wirio trothwy modiwl.
- Lle mae cynnig yn ymwneud â newidiadau i raglenni cyfredol, bod cynlluniau ‘Teach Out’/pontio priodol wedi cael eu datblygu os oes angen.
Gofynnir i Ysgolion hefyd enwebu academydd allanol ag arbenigedd yn y pwnc sy’n gallu gweithredu fel cynghorydd allanol i’r Panel Sefydlog. Ni ddylai fod yn arholwr allanol presennol na diweddar, ac ni all fod yr un unigolyn sy’n gweithredu fel cyfaill beirniadol eu fod â pherthynas â’r sefydliad partner.
Pan fydd wedi’i chwblhau, bydd y Tîm Ansawdd a Safonau yn trefnu i’r wybodaeth lawn am y rhaglen gael ei chyflwyno i’r Panel Sefydlog.
Cam 3: Cymeradwyaeth Academaidd ac ASQC
Cyfarfod y Panel Sefydlog
Bydd y Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid yn cyfarfod yn rheolaidd i ystyried rhaglenni newydd a newidiadau i raglenni presennol, gan gynnwys y rhai sydd â darpariaeth ar y cyd. Er y bydd pob lefel o ddatblygu neu newid yn ystyried amrywiaeth eang o faterion, bydd aelodau’r Panel Sefydlog yn craffu ar yr holl wybodaeth sy’n gysylltiedig â’r rhaglen gan gynnwys materion yn ymwneud â chynllunio a chyflwyno’r cwricwlwm, profiad myfyrwyr, cylch bywyd myfyrwyr yn cynnwys cynnydd (a phwyntiau adfer o fethiant), adnoddau dysgu a threfniadau cymorth a gweinyddu yn yr ysgol. Bydd y panel yn asesu p’un a yw rhaglenni’n cyrraedd trothwyon y brifysgol a meincnodau a fframweithiau ansawdd a safonau allanol i’w cymeradwyo.
Mae’n bwysig bod ysgolion yn deall y bydd yn ofynnol iddynt gyflwyno eu dogfennau terfynol i’r Panel Sefydlog o fewn y graddfeydd amser a amlinellir yn adran 3.
Ar ôl ystyried y cynnig bydd y Panel Sefydlog yn argymell un o'r canlyniadau canlynol yn ysgrifenedig i’r ysgol a'r Pwyllgor Ansawdd a Safonau Academaidd:
- dylai’r cynnig gael ei gymeradwyo’n ddiamod gyda neu heb argymhellion;
- dylai’r cynnig gael ei gymeradwyo yn amodol ar fodloni amodau penodol o fewn cyfnod penodol o amser, gyda neu heb argymhellion ychwanegol;
- dylai’r cynnig gael ei gyfeirio’n ôl i’r ysgol i roi ystyriaeth fanwl bellach iddo cyn iddo gael ei gyflwyno i gyfarfod diweddarach y Panel Sefydlog;
- dylid gwrthod y cynnig.
Os oes amodau wedi cael eu gosod, bydd angen i’r ysgol nodi’n glir pryd y mae’n bwriadu ail-gyflwyno’r dogfennau i’r Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid. Pan fydd Cadeirydd y Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid wedi cadarnhau bod yr holl amodau wedi cael eu bodloni, gellir gwneud argymhelliad i’r Rhag Is-Ganghellor, Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd i’w chymeradwyo ar ran y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd (ASQC).
Mae ein rhwymedigaethau o dan y Gyfraith Defnyddwyr yn ein hatal rhag hysbysebu unrhyw raglen(ni) hyd nes y rhoddir cymeradwyaeth ffurfiol gan yr ASQC er mwyn sicrhau cywirdeb y wybodaeth sydd ar gael i fyfyrwyr ac ymgeiswyr.
Os gwnaed newidiadau i raglenni presennol, mae angen i ysgolion roi cynllun cyfathrebu ar waith er mwyn sicrhau y cysylltir â’r holl fyfyrwyr presennol a/neu ymgeiswyr gyda gwybodaeth am y newidiadau sydd wedi’u gwneud yn unol â thelerau ac amodau cynnig y brifysgol gan gynnwys y cynnig i ymgeiswyr dynnu eu cais yn ôl.
Bydd cyswllt cynnar gyda’r Tîm Derbyn yn helpu i gefnogi’r broses o gysylltu gydag ymgeiswyr a’u cefnogi er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o effaith y newidiadau gan y bydd hyn yn gofyn am ail-gyhoeddi cyfrwng gwydn wedi’i ddiweddaru sy’n cynnig gwybodaeth ar delerau ac amodau cynnig cyhoeddedig y brifysgol, gwybodaeth rhaglen wedi’i diweddaru (oherwydd y newidiadau a wnaed), y gweithdrefnau cwynion ac apeliadau ymgeiswyr, polisïau addasrwydd i weithio a diogelu.
Adran 5: Rhaglenni Graddau Ymchwil Cydweithredol
Mae'r adran hon yn nodi'r broses gymeradwyo ar gyfer datblygu rhaglenni gradd ymchwil newydd gyda darpariaeth gydweithredol, gan gynnwys cynigion sydd gyda phartneriaid strategol a gydnabyddir gan brifysgolion.
Mae'r broses ar gyfer cymeradwyo graddau ymchwil gyda darpariaeth ar y cyd yn adeiladu ar y prosesau a'r gweithdrefnau a amlinellir yn y Polisi Cymeradwyo Rhaglenni ar gyfer rhaglenni a addysgir, gyda haen ychwanegol o graffu ac adolygu er mwyn ystyried y risg uwch sy’n gysylltiedig â ddarpariaeth a gyflwynir y tu allan i’r sefydliad. Drwy'r broses gymeradwyo, bydd y brifysgol yn ceisio sefydlu hyder yn y trefniadau ar gyfer rheoli profiad myfyrwyr, ac yn yr amgylcheddau ymchwil y byddant yn ymsefydlu ynddynt.
PhDs yw'r rhan fwyaf o raddau ymchwil cydweithredol, ac, er hwylustod, defnyddir 'PhD' yn y ddogfen hon. Bydd y brifysgol hefyd yn ystyried cynigion ar gyfer rhaglenni gradd ymchwil eraill (fel MD, doethuriaethau proffesiynol).
Partneriaid cydweithredol
Deellir y gellir gwella ansawdd prosiectau graddau ymchwil a phrofiad myfyrwyr ymchwil drwy gydweithio'n effeithiol â phartneriaid allanol. Gall natur y bartneriaeth gydweithredol amrywio o gynllunio a chyflwyno rhaglen ar y cyd sy’n cael ei bwriadu ar gyfer llawer o fyfyrwyr ac sy'n cael ei rheoli o dan Femorandwm Cytundeb rhwng sefydliadau, ac sy'n arwain at naill ai PhD a ddyfernir ar y cyd gan y partneriaid neu ddau PhDs a ddyfernir ar wahân, hyd at drefniadau unigol ar gyfer penodi goruchwyliwr o sefydliad allanol.
Mae'r ymagwedd a ddefnyddir i gymeradwyo yn gymesur â natur y bartneriaeth gydweithredol.
Rhaglenni PHD Cydweithredol yn arwain at Raddau ar y Cyd neu Ddwbl
Bydd y brifysgol yn cytuno i ddarparu dyfarniadau PhD ar y cyd neu ddwbl dim ond pan fo sail resymegol strategol glir dros wneud hynny, a bydd partneriaeth hirdymor a pharhaus y bydd y ddarpariaeth yn seiliedig arni.
Mae’n rhaid i bob cynnig gwblhau pob cam o'r Broses Gymeradwyo a amlinellir yn yr adran hon a ch cynghorir cysylltu â Thîm Ansawdd a Gweithrediadau Ymchwil Ôl-Raddedig trwy pgr@caerdydd.ac.uk cyn cynnal unrhyw drafodaethau ffurfiol i sicrhau y gellir rhoi canllawiau priodol ar y broses a'r dogfennau ar ddechrau'r broses.
Diffiniad, strwythur a threfniadau goruchwylio rhaglenni gradd ymchwil cydweithredol sy'n arwain at ddyfarniadau PhD ar y cyd neu ddwbl
Mae’r adrannau canlynol yn disgrifio egwyddorion sylfaenol rhaglenni gradd ymchwil cydweithredol sy'n arwain at ddyfarniadau PhD ar y cyd neu ddwbl
Ein cyngor yw y dylech ofyn am gyngor ac arweiniad gan dîm Ansawdd a Gweithrediadau Ymchwil Ôl-Raddedig yn ystod camau cynnar y datblygiad i drafod y math o raglen gradd ymchwil gydweithredol a'r llwybr cymeradwyo priodol.
Graddau ar y cyd: diffiniad
Ar ôl cwblhau'r rhaglen PhD yn llwyddiannus, mae'r ddau sefydliad yn dyfarnu PhD i fyfyriwr ar y cyd; cyhoeddir un dystysgrif gradd sy'n dwyn awdurdodiad ffurfiol y ddau sefydliad.
Strwythur a hyd PhDs Ar y Cyd
Bydd rhaglen gradd ymchwil gydweithredol sy'n arwain at PhD ar y cyd yn mabwysiadu model 'prif bartner a phartner sy’n lletya'. Fel arfer, y prif bartner fydd lle mae’r myfyriwr yn dechrau ei astudiaeth ac yn treulio'r rhan fwyaf o'i amser. Bydd y prif bartner hefyd yn darparu prif oruchwylydd y myfyriwr.
Bydd y rhaglen PhD yn cael ei chynllunio, ei goruchwylio a'i monitro gan staff academaidd o'r ddau sefydliad, a bydd y myfyriwr yn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn y sefydliad partner.
Bydd hyd rhaglen gydweithredol sy'n arwain at PhD ar y cyd fel arfer yr un fath â PhD amser llawn safonol Caerdydd (rhwng 3 a 4 blynedd). Mae’n rhaid i bob myfyriwr dreulio isafswm cyfnod yng Nghaerdydd: bydd hyn yn cyfateb i o leiaf hanner cyfnod cofrestredig y rhaglen lle mae Caerdydd yn brif bartner, ac o leiaf draean o'r cyfnod cofrestredig lle mae Caerdydd yn bartner sy’n lletya. Gall yr amser a dreulir yng Nghaerdydd fod mewn un neu sawl bloc: rhaid nodi'r rhain cyn derbyn myfyriwr ar y rhaglen, a chaiff ei gynnwys yng nghytundeb y myfyriwr ymchwil unigol.
Gellir ystyried cynnig ar gyfer rhaglen gydweithredol ran-amser sy'n arwain at ddyfarniad PhD ar y cyd mewn amgylchiadau eithriadol, lle y rhoddir cyfiawnhad a sicrwydd cryf.
Goruchwyliaeth PHDs ar y cyd
Bydd pob myfyriwr o dan oruchwyliaeth ar y cyd gan oruchwylydd (o leiaf un) o bob sefydliad. Bydd penodiad y tîm goruchwylio yn unol â pholisi goruchwylio Prifysgol Caerdydd.2 Mae'r polisi hwn yn cynnwys yr ystyriaeth a roddir i dimau goruchwylio pe na bai goruchwyliwr yn gallu parhau i oruchwylio.
Graddau dwbl: diffiniad
Ar ôl cwblhau'r rhaglen PhD yn llwyddiannus, dyfernir dau PhD ar wahân i fyfyriwr, un o bob sefydliad, am un darn o waith. Bydd y tystysgrifau gradd ar wahân neu'r dogfennau ategol gan bob sefydliad yn dangos bod y radd wedi'i dyfarnu o fewn cytundeb gradd ddwbl.
Dim ond graddau dwbl sy’n cael eu cydnabod gan bartneriaid strategol sydd wedi'u lleoli mewn rhai tiriogaethau (e.e. Tsieina).
Strwythur a hyd PhDs Dwbl
Bydd rhaglen gradd ymchwil gydweithredol sy'n arwain at PhD ddwbl yn mabwysiadu model 'prif bartner a phartner sy’n lletya'. Fel arfer, y prif bartner fydd lle mae’r myfyriwr yn dechrau ei astudiaeth ac yn treulio'r rhan fwyaf o'i amser. Bydd y prif bartner hefyd yn darparu prif oruchwylydd y myfyriwr.
Bydd y rhaglen PhD yn cael ei chynllunio, ei goruchwylio a'i monitro gan staff academaidd o'r ddau sefydliad, a bydd y myfyriwr yn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn y sefydliad partner.
Bydd hyd rhaglen gydweithredol sy'n arwain at PhD dwbl fel arfer yr un fath â PhD amser llawn safonol Caerdydd (rhwng 3 a 4 blynedd). Mae’n rhaid i bob myfyriwr dreulio isafswm cyfnod yng Nghaerdydd: bydd hyn yn cyfateb i o leiaf hanner cyfnod cofrestredig y rhaglen lle mae Caerdydd yn brif bartner, ac o leiaf draean o'r cyfnod cofrestredig lle mae Caerdydd yn bartner sy’n lletya. Gall yr amser a dreulir yng Nghaerdydd fod mewn un neu sawl bloc: rhaid nodi'r rhain cyn derbyn myfyriwr ar y rhaglen, a chaiff ei gynnwys yng nghytundeb y myfyriwr ymchwil unigol.
Gellir ystyried cynnig ar gyfer rhaglen gydweithredol ran-amser sy'n arwain at ddyfarniad PhD dwbl mewn amgylchiadau eithriadol, lle y rhoddir cyfiawnhad a sicrwydd cryf.
Goruchwylio PHDs dwbl
Bydd pob myfyriwr o dan oruchwyliaeth ar y cyd gan oruchwylydd (o leiaf un) o bob sefydliad. Bydd penodiad y tîm goruchwylio yn unol â pholisi goruchwylio Prifysgol Caerdydd.3 Mae'r polisi hwn yn cynnwys yr ystyriaeth a roddir i dimau goruchwylio pe na bai goruchwyliwr yn gallu parhau i oruchwylio.
Cytundebau Myfyriwr Ymchwil Unigol
Bydd angen Cytundeb Myfyrwyr Ymchwil Unigol (IRSA) ar gyfer pob myfyriwr unigol sy'n astudio o fewn fframwaith rhaglen gydweithredol sy'n arwain at PhD ar y cyd neu ddwbl.
Bydd y Cytundeb yn cynnwys manylion byr o’r canlynol
- Y Prosiect Ymchwil
- Y goruchwylwyr
- Patrwm mynychu ym mhob sefydliad
- sut y caiff y myfyriwr ei oruchwylio a’i fonitro
- yr hyfforddiant a gofynion eraill y mae’n rhaid i’r myfyriwr eu bodloni
- y trefniadau asesu terfynol (gan gynnwys fformat y thesis)
- cyfansoddiad y bwrdd arholi a'i leoliad.
Mae’n rhaid i'r cytundeb gael ei lofnodi gan y myfyriwr, ei oruchwylwyr, ac uwch gynrychiolwyr y ddau sefydliad (gan gynnwys Pennaeth yr Ysgol a'r Is-Ganghellor neu eu henwebai), a dylai fod ar waith cyn i'r myfyriwr ddechrau ei raglen PhD.
Mae templedi cytundeb safonol ar gael.
Gellir ceisio cyngor ac arweiniad gan Ansawdd a Gweithrediadau Ymchwil Ôl-raddedig, Cofrestrfa (pgr@caerdydd.ac.uk).
Mathau eraill o raglenni graddau ymchwil cydweithredol
Os nad oes cytundeb partneriaeth strategol, neu os nad oes angen ffurfioldeb ardystiad ar y cyd neu ddwbl, neu os nad yw cynnig ar gyfer PhD ar y cyd neu ddwbl yn cael ei gymeradwyo gan y brifysgol, gall mathau amgen o gydweithio roi profiad i fyfyrwyr ymchwil astudio mewn sefydliad academaidd neu ymchwil arall, megis trefniadau 'safle rhanedig' a threfniadau goruchwylio cydweithredol (yn ogystal â chyfleoedd lleoli/rhyng-waith).
PHDs ar fwy nag un safle: diffiniad
Ar ôl cwblhau rhaglen PhD ar fwy nag un safle yn llwyddiannus, mae Prifysgol Caerdydd yn dyfarnu PhD i fyfyriwr yn unig. Mae ardystiad atodol yn cydnabod yn ffurfiol i gyfnod(au) astudio penodedig gael eu gwneud mewn prifysgol neu sefydliad partner (y sefydliad sy’n lletya). Bydd rhaglen PhD ar fwy nag un safle yn cael ei chyflwyno ar gyfer carfan o ysgoloriaeth o dan Femorandwm Cytundeb. Os oes cytundeb i fyfyriwr unigol dreulio cyfnod(au) mewn sefydliad arall, rheolir hyn fel arfer o dan drefniadau goruchwylio cydweithredol.
Strwythur a hyd PhDs ar fwy nag un safle
Bydd hyd rhaglen PhD ar fwy nag un safle fel arfer yr un fath â PhD amser llawn safonol Caerdydd (rhwng 3 a 4 blynedd). Fel arfer, ni fydd myfyriwr yn treulio cyfanswm o fwy na 12 mis i ffwrdd o Gaerdydd, yn y sefydliad sy’n lletya, ac ni fydd yn fwy na hanner cyfnod cofrestredig (talu ffioedd) y rhaglen mewn unrhyw achos; gall fod mewn un neu sawl bloc. Dylid cytuno ar y cyfnod(au) sydd i'w dreulio i ffwrdd o Gaerdydd cyn derbyn myfyriwr ar y rhaglen: caiff ei amlinellu yn y Memorandwm Cytundeb a chaiff ei bennu mewn cytundeb myfyriwr ymchwil unigol.
Gan mai dyfarniad Prifysgol Caerdydd yn unig yw PhD ar fwy nag un safle, bydd rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau academaidd Caerdydd yn gymwys yn llawn.
Gellir ystyried cynnig ar gyfer PhD ar fwy nag un safle mewn amgylchiadau eithriadol, lle y rhoddir cyfiawnhad a sicrwydd cryf.
Goruchwylio PHDs ar fwy nag un safle
Bydd prif oruchwyliwr pob myfyriwr yn aelod o staff academaidd Prifysgol Caerdydd. Bydd o leiaf un aelod o staff o'r sefydliad sy’n lletya yn cael ei gynnwys yn y tîm goruchwylio. Bydd penodiad y tîm goruchwylio yn unol â pholisi goruchwylio Prifysgol Caerdydd.4 Mae'r polisi hwn yn cynnwys yr ystyriaeth a roddir i dimau goruchwylio pe na bai goruchwyliwr yn gallu parhau i oruchwylio.
Goruchwyliaeth gydweithredol: diffiniad
Caiff goruchwyliaeth gydweithredol ei diffinio fel trefniant ar gyfer myfyriwr unigol sydd wedi’i gofrestru ar gyfer dyfarniad Prifysgol Caerdydd, lle mae mewnbwn goruchwyliwr neu gynghorydd o’r tu allan i’r brifysgol yn angenrheidiol neu’n bwysig ar gyfer dichonoldeb parhaus y prosiect gradd ymchwil y cytunwyd arno. Yn y rhan fwyaf o achosion, cytunir ar drefniant goruchwylio cydweithredol cyn dechrau astudio, ond gellir ei gyflwyno'n ddiweddarach gan ymateb i newid i'r prosiect neu i'r tîm goruchwylio.
Bydd penodiad y tîm goruchwylio yn unol â pholisi goruchwylio Prifysgol Caerdydd.5 Mae'r polisi hwn yn cynnwys yr ystyriaeth a roddir i dimau goruchwylio pe na bai goruchwyliwr yn gallu parhau i oruchwylio.
Ffurflen Trefniadau Goruchwyliaeth Gydweithredol
Caiff myfyriwr gefnogaeth o dan drefniant goruchwylio cydweithredol yn y sefyllfaoedd canlynol:
- Mae'r myfyriwr yn treulio hyd llawn ei amser yng Nghaerdydd ond mae ganddo gyd-oruchwylydd mewn prifysgol neu sefydliad arall, sy'n cyfrannu at y prosiect o bell i raddau helaeth. Gellir trefnu'r model goruchwylio hwn fel rhan o bartneriaeth hyfforddi doethuriaethol sy'n seiliedig ar gonsortiwm neu gall fod yn drefniant unigol. Mewn rhai achosion gall fod yn ymateb i newidiadau annisgwyl i'r tîm goruchwylio, ac felly mae'n caniatáu penodi goruchwyliwr allanol o'r newydd neu gadw goruchwyliwr sydd wedi symud o Gaerdydd i brifysgol neu sefydliad gwahanol.
- Mae gan y myfyriwr gyd-oruchwylydd mewn prifysgol neu sefydliad arall ac mae'n treulio cyfnod(au) o amser yn y brifysgol neu'r sefydliad arall hwnnw fel rhan angenrheidiol o'i raglen: e.e. defnyddio offer neu adnoddau arbenigol, neu i gael profiad yn yr amgylchedd perthnasol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) brosiectau CASE, diwydiannol-CASE neu KTP.
- Mae'r myfyriwr yn treulio'r rhan fwyaf neu eu holl amser mewn sefydliad partner, ac mae'n cael ei oruchwylio ar y cyd gan oruchwylydd o Gaerdydd a goruchwyliwr o'r sefydliad partner. Y rheswm am hyn fel arfer yw mai'r sefydliad partner sy'n darparu'r amgylchedd ymchwil sylfaenol lle mae’r prosiect yn digwydd, ond nad oes ganddo bwerau dyfarnu graddau. Enghraifft benodol yw: prosiectau a noddir drwy sefydliadau ymchwil (fel Rothamsted, Arolwg Antarctig Prydain, y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg); a modd astudio 'llawn amser mewn safle cyflogaeth'.
- Mae'r myfyriwr yn cael ei oruchwylio ar y cyd â sefydliad arall y mae gan y Brifysgol berthynas broffesiynol agos ag ef, megis ymddiriedolaethau'r GIG a cholegau diwinyddol; mae'r goruchwylwyr allanol fel arfer yn ddeiliaid teitlau anrhydeddus. Bydd yr amser y bydd y myfyriwr yn ei dreulio i ffwrdd o Brifysgol Caerdydd yn amrywio yn ôl amgylchiadau unigol.
2 http://www.cardiff.ac.uk/__data/assets/pdf_file/0007/366037/PGR-Code-of-Practice_2018.pdf
3 http://www.cardiff.ac.uk/__data/assets/pdf_file/0007/366037/PGR-Code-of-Practice_2018.pdf
4 http://www.cardiff.ac.uk/__data/assets/pdf_file/0007/366037/PGR-Code-of-Practice_2018.pdf
5 http://www.cardiff.ac.uk/__data/assets/pdf_file/0007/366037/PGR-Code-of-Practice_2018.pdf
Y broses gymeradwyo ar gyfer graddau ymchwil
Rhaglenni gradd ymchwil sy'n arwain at ddyfarniadau PhD dwbl neu ar y cyd
Mae'r broses gymeradwyo ar gyfer graddau ymchwil yn dilyn yr un broses 3 cham a amlinellir ar gyfer rhaglenni gradd a addysgir. Gwnaed addasiadau priodol i bob cam er mwyn sicrhau eu bod yn benodol i radd ymchwil.
Cam 1: Cymeradwyaeth strategol y Brifysgol ar gyfer rhaglenni newydd
Diben y cam cymeradwyo strategol yw rhoi sicrwydd i'r brifysgol ynglŷn â'r partner academaidd arfaethedig bod y rhaglen PhD gydweithredol sy'n arwain at ddyfarniad ar y cyd neu ddwbl yn ddichonadwy, yn gynaliadwy ac o werth strategol, a'i bod yn cyfiawnhau'r amser a'r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer pob cam dilynol. Bydd pob coleg yn cyflwyno’r cynigion ar ei restr fer i Banel Cymeradwyaeth Strategol Cam 1 y Brifysgol (y Grŵp Strategaeth Recriwtio a Derbyn) gan amlinellu sut mae pob cynnig yn cyd-fynd â blaenoriaethau strategol yr Ysgol, y Coleg a’r Brifysgol.
Egwyddorion cyffredinol
Mae'r egwyddorion cyffredinol sy'n sail i gymeradwyo rhaglenni gradd ymchwil cydweithredol yn strategol sy'n arwain at ddyfarniad PhD ar y cyd neu ddwbl fel a ganlyn:
- dylai'r partner arfaethedig fod yn sefydliad y mae gan y brifysgol gytundeb sefydliadol ag ef eisoes, neu'n un y mae sail resymegol strategol glir ar gyfer datblygu cysylltiadau agosach ag ef
- dylai’r rhaglen arfaethedig fod yn un a gaiff ei gwella drwy gydweithrediad dau amgylchedd ymchwil o ansawdd uchel, a chyflwyno buddiannau clir i’r brifysgol, gan wneud ystyriaethau economaidd ac o ran adnoddau.
- bydd unrhyw niwed ariannol yn cael ei orbwyso'n glir gan fanteision anariannol.
Datblygu cynnig strategol Cam 1
Wrth ystyried a ddylid ymrwymo i gytundeb â sefydliad academaidd arall i ddarparu rhaglen PhD gydweithredol sy'n arwain at PhD ar y cyd neu ddwbl, bydd y cyfarfod cymeradwyo strategol yn gwerthuso'r canlynol:
- manteision strategol y rhaglen gydweithredol o ran codi proffil rhyngwladol ac enw da Caerdydd
- cryfder y cysylltiadau presennol rhwng y grwpiau ymchwil neu'r ysgolheigion perthnasol, neu dystiolaeth o botensial gwirioneddol mewn egin cydweithrediad
- y potensial i ddatblygu a/neu gryfhau cydweithrediadau ymchwil a fydd yn arwain at weithgarwch ymchwil ychwanegol
- y tebygolrwydd o recriwtio nifer rhesymol o fyfyrwyr (o leiaf dri y flwyddyn) i'r rhaglen PhD gydweithredol
- amlinelliad dangosol o sut y caiff derbyn, goruchwylio, monitro a hyfforddiant myfyrwyr eu rheoli, a natur yr arholiad terfynol
- maint yr amrywiant o ofynion rheoliadol Prifysgol Caerdydd;
- yr achos busnes dros y rhaglen arfaethedig
- manylion am y partner arfaethedig a’r asesiad risg cysylltiedig.
Bydd yr achos busnes yn cynnwys:
- amcangyfrif o’r nifer o fyfyrwyr
- goblygiadau ariannol (gan gynnwys lefel y ffi)
- yr ymdrech weinyddol sydd ei hangen i sefydlu'r rhaglen PhD gydweithredol
- y baich a'r costau gweinyddol (yn enwedig teithio) sy'n gysylltiedig â gweithredu'r rhaglen.
Bydd yr asesiad risg o’r partner yn archwilio:
- statws cyfreithiol y dar bartner
- ei sefyllfa ariannol ac academaidd
- ei ethos academaidd
- ei system ansawdd a safonau
- p’un a yw’n cydweithredu eisoes â phartneriaid eraill yn y DU neu’n rhyngwladol
- ei brofiad yn y maes disgyblaeth neu’r gweithgaredd dan sylw
- ei allu yn y gyfraith i gysylltu â’r sefydliad dyfarnu.
Bydd y Swyddfa Ryngwladol (Partneriaethau) yn rhoi cyngor ac arweiniad ar y wybodaeth asesu risg sydd ei hangen ar gyfer partneriaethau rhyngwladol. Mewn ambell achos, mae'n bosibl y bydd angen comisiynu gwasanaethau allanol am y bydd angen cyngor cyfreithiol.
Arian a Ffioedd
Bydd angen cytundeb rhwng y brifysgol a'r sefydliad partner ynghylch ariannu'r rhaglen. Mae hyn yn cynnwys y dull o ymdrin â ffioedd (lefel y ffi a'i dosbarthiad), sut y darperir ysgoloriaethau a chyllid ychwanegol ar gyfer symudedd myfyrwyr a staff.
Mae modelau enghreifftiol o dalu ffioedd yn cynnwys:
- mae myfyrwyr yn talu ffioedd i'w prif sefydliad dynodedig, ac mae'r partner sy’n lletya yn cytuno i hepgor ei ffioedd, disgwylir i’r un peth ddigwydd o ran niferoedd myfyrwyr arweiniol/sy’n lletya;
- mae myfyrwyr yn talu ffioedd i'r sefydliad am y cyfnod(au) y maent yn preswylio ynddynt.
Symud Ymlaen o Gam 1
Bydd Panel Cymeradwyaeth Strategol Cam 1 y Brifysgol (mewn ymgynghoriad â staff academaidd a gwasanaethau proffesiynol o'r Coleg a'r Brifysgol ehangach) yn ystyried rhinweddau'r cynnig fel rhan o'r cyfarfod cymeradwyo strategol Cam 1 a bydd yn nodi a all y cynnig symud ymlaen i Gam 2 Bydd argymhelliad i fwrw ymlaen yn cynnwys asesiad o faint o amrywiant sy'n deillio o ofynion PhD safonol Prifysgol Caerdydd.
Pan fydd cymeradwyaeth strategol wedi’i rhoi, bydd Tîm Ansawdd Ymchwil Ôl-raddedig yn cysylltu gyda’r cynigwyr i drafod y dogfennau penodol ac amserlenni ar gyfer cyflwyno i’r Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid a amlinellir yn adran 1.
Dylid nodi y gallai’r Panel Cymeradwyaeth Strategol Cam 1 y Brifysgol i ofyn am wybodaeth bellach neu benderfynu na ddylid symud y cynnig ymlaen i Gam 2.
Os na roddir caniatâd i fwrw ymlaen, anogir cynigwyr i ystyried dulliau amgen o gydweithio â sefydliadau eraill ar lefel doethuriaethol, gan gynnwys trefniadau ar fwy nag un safle a chyd-oruchwyliaeth.
Mae manylion yr holl ddogfennau gofynnol ar gyfer cymeradwyo Cam 1 strategol ar gyfer datblygu rhaglenni gradd ymchwil cydweithredol newydd ar gael gan Dîm Ansawdd a Gweithrediadau Ôl-raddedig yn PGR@caerdydd.ac.uk.
Cam 2: Cyfnod datblygu rhaglen a phartneriaeth
Pan fydd cymeradwyaeth strategol wedi cael ei rhoi, gall Ysgolion ddechrau datblygu'r wybodaeth lawn am y rhaglen i baratoi ar gyfer ei chyflwyno i'r Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid.
Datblygu’r cynnig
Disgwylir y bydd pob noddwr academaidd yn ymgysylltu ag unrhyw weithdai datblygu a gynigir gan y Brifysgol ac yn cysylltu â thîm Ansawdd Ymchwil Ôl-Raddedig ar ddatblygu'r rhaglen cyn ei chyflwyno i'r Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid.
Disgwylir y bydd buddsoddi mwy o amser yn ystod y cyfnod datblygu yn cynyddu’r rhaglenni arloesol, o ansawdd uchel sy’n cael eu cynnig ar gyfer cymeradwyaeth academaidd, gan felly leihau’r nifer uchel o amodau i’r eithaf. Felly, mae’n bwysig iawn ymgymryd â’r broses ddatblygu fel tîm er mwyn sicrhau y gellir ymdopi â’r llwyth gwaith, ac y gellir cael ystod lawn o gyngor ac arbenigedd. Bydd gan bob cynnig amserlenni clir (a mannau cyffwrdd wedi'u trefnu) ar gyfer datblygu.
Lle nad yw cynigion yn gwneud digon o gynnydd i gyrraedd y terfynau amser a amlinellir yn adran 3, gallai Panel Cymeradwyaeth Strategol Cam 1 y Brifysgol benderfynu gosod dyddiad dechrau hwyrach ar gyfer y rhaglen ac oedi gweithgareddau recriwtio a marchnata dilynol tan y cylch recriwtio nesaf.
Asesiad risgiau
Yn rhan o gam 2, bydd angen cwblhau asesiad risg llawn o bartner. Bydd hyn yn adeiladu ar yr asesiad risg o’r cynnig cychwynnol a wnaethpwyd yn rhan o gam 1. Yn ymarferol, bydd natur a graddau’r asesiad risg a gynhelir yn amrywio yn unol â chymhlethdod y cynnig. Bydd eich Tîm Ymchwil Ôl-Raddedig yn helpu i'ch tywys drwy'r cwestiynau allweddol wrth geisio asesu'r risg o ran y sefydliad partner arfaethedig a'r rhaglen sy'n cael ei datblygu, a bydd y Swyddfa Ryngwladol yn rhoi cyngor ac arweiniad ar y wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer partneriaethau rhyngwladol. Mewn ambell achos, mae'n bosibl y bydd angen comisiynu gwasanaethau allanol am y bydd angen cyngor cyfreithiol.
Yn gyffredinol, bydd proses asesu risg yn archwilio’r canlynol:
- statws cyfreithiol y darpar bartner neu asiant;
- ei sefyllfa ariannol ac academaidd;
- ei ethos academaidd;
- ei system ansawdd a safonau;
- p’un a yw’n cydweithredu eisoes â phartneriaid eraill yn y DU neu’n rhyngwladol;
- ei brofiad yn y maes disgyblaeth neu’r gweithgaredd dan sylw;
- ei allu yn y gyfraith i gysylltu â’r sefydliad dyfarnu.
Wrth wneud newidiadau i drefniadau cydweithio, disgwylir i unrhyw asesiad risg a gynhelir wrth y cam cymeradwyo yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru i adlewyrchu’r newidiadau. Os yw'r newidiadau'n helaeth, mae'n bosibl y bydd angen asesiad risg newydd yn ogystal ag aildrafod telerau ac amodau'r cytundeb cyfreithiol presennol. Bydd y tîm Ansawdd Ymchwil Ôl-Raddedig a'r Swyddfa Ryngwladol yn eich cynghori am y broses hon.
Ymweliad Adnoddau
Cyn bod y rhaglen derfynol o wybodaeth yn cael ei chyflwyno i'r Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid, bydd angen cynnal ymweliad adnoddau'r ddarpariaeth ar y cyd gan staff o goleg arall fel arfer (nid cynigwyr rhaglenni) i ystyried yr adnoddau ffisegol i gefnogi myfyrwyr a darpariaeth academaidd y rhaglen(ni). Caiff Ffurflen Ymweliad Adnoddau ei chwblhau gan y tîm ymweld a bydd yn cynnwys cyfeiriad at y canlynol:
- addasrwydd ystafelloedd addysgu a mannau astudio;
- cyfleusterau llyfrgell;
- cyfleusterau TG;
- cyfleusterau neu adnoddau eraill fel sy'n ofynnol ar gyfer y rhaglen(ni) a gynigir.
Dylai'r ymweliad adnoddau hefyd gynnwys y cyfle i gwrdd â staff addysgu/cymorth/hyfforddiant partner lle y gellir trafod y canlynol yn fanwl:
- y Cynllun Rheoli Partneriaeth;
- lles myfyrwyr a dulliau cymorth;
- gweithgarwch marchnata a recriwtio a gynigir;
- asesiadau a mecanweithiau Bwrdd Arholi, gan gynnwys penodi'r Arholwr Allanol;
- Amlder a hyd ymweliadau gan safonwyr;
- Trefniadau cyfathrebu tiwtor cyswllt yr ysgol gyda'r partner.
Trefniadau Sicrhau Ansawdd
Fel rhan o'r broses gymeradwyo, rhaid i'r Ysgol amlinellu sut y caiff y trefniadau sicrhau ansawdd a gwelliant parhaus ar gyfer y rhaglen a gynigir eu rheoli, gan roi sylw arbennig i’r gwaith o fonitro unrhyw swyddogaethau rheoli ansawdd a ddirprwyir i’r sefydliad partner (gan ddibynnu ar y model darpariaeth ar y cyd).
Gall hyn gynnwys trefniadau ar gyfer:
- Rhoi'r Cynllun Rheoli Partneriaeth ar waith, a'i adolygu.
- cyswllt parhaus a rheolaidd rhwng y Brifysgol a’i phartner, a rheoli materion gweithredol;
- systemau cymorth i fyfyrwyr a sut y gallant roi adborth i staff Prifysgol Caerdydd;
- monitro’r rhaglen yn rheolaidd (h.y. yn ystod yr Adolygiad a Gwelliant Blynyddol) yn cynnwys cymorth i fyfyrwyr a chynnydd academaidd myfyrwyr yn cynnwys adroddiad y Safonwr;
- Ailddilysu yn unol â gweithdrefnau safonol Prifysgol Caerdydd;
- Adolygiad ffurfiol o'r trefniant ar ddiwedd y cyfnod penodol o 18 mis o leiaf cyn y dyddiad adnewyddu.
Paratoi ar gyfer Cyfarfod y Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid
Disgwylir i’r noddwr academaidd hyrwyddo dull cydweithredol o ddatblygu’r cynnig gan ganiatáu cyfrifoldeb cyffredinol wrth ddatblygu holl wybodaeth y rhaglen. Bydd cynnwys arbenigedd gwasanaethau academaidd a phroffesiynol allweddol yn yr Ysgol yn amrywio gan ddibynnu ar natur y cynnig, fodd bynnag dylai gynnwys y canlynol o leiaf:
- Myfyriwr o fewn yr ysgol sy’n cynnig;
- Cyfaill beirniadol ag arbenigedd yn y maes pwnc sy’n gallu cynghori a chynorthwyo’r tîm datblygu, ac a fydd yn rhoi adroddiad ffurfiol ar ei ymgysylltiad i’r Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid (ar gyfer newidiadau i raglen bresennol, ac argymhellir y defnyddir yr arholwr allanol presennol);
- Staff addysgu academaidd allweddol yn yr ysgol (a thu hwnt os yw’n gynnig ar y cyd) i roi cyngor ar gynnwys, asesu a chyflawni;
- Staff gweinyddol allweddol yn yr Ysgol i roi cyngor ar amserlenni gweithredu a phrosesau’r ysgol;
- Unrhyw ofynion ar gyfer Cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol;
- Staff allweddol yn y Gofrestrfa i sicrhau bod unrhyw ofynion rheoleiddiol yn cael eu cadarnhau o flaen llaw.
- Cynrychiolwyr o’r sefydliad partner
Cymeradwyo Gwybodaeth am y Rhaglen
Mae’r Noddwr Academaidd yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl ddogfennau sy’n ofynnol ar gyfer datblygu rhaglenni newydd yn cael eu cwblhau o fewn y graddfeydd amser a amlygwyd yn adran 3 a’u gwirio a’u cymeradwyo gan Dîm Cyfathrebu’r Coleg cyn iddynt gael eu cyflwyno i’r Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid.
Mae manylion yr holl ddogfennau gofynnol i'w cymeradwyo ar gyfer datblygu rhaglenni gradd ymchwil cydweithredol newydd ar gael gan Dîm Ansawdd a Gweithrediadau Ymchwil Ôl-Raddedig yn pgr@caerdydd.ac.uk.
Yn ogystal, disgwylir i bob noddwr academaidd gadarnhau ei fod wedi ymwneud ag unrhyw weithdai ac wedi ystyried y polisïau a’r canllawiau cysylltiedig.
Gofynnir i Ysgolion hefyd enwebu academydd allanol ag arbenigedd yn y pwnc sy’n gallu gweithredu fel cynghorydd allanol i’r Panel Sefydlog. Ni ddylai fod yn arholwr allanol presennol na diweddar, ac ni all fod yr un unigolyn sy’n gweithredu fel cyfaill beirniadol eu fod â pherthynas â’r sefydliad partner.
Pan fydd wedi’i chwblhau, bydd y Tîm Ansawdd Ymchwil Ôl-Raddedig yn trefnu i’r wybodaeth lawn am y rhaglen gael ei chyflwyno i’r Panel Sefydlog.
Cam 3: Cymeradwyaeth Academaidd ac ASQC
Mae’n rhaid i'r rhaglen fodloni disgwyliadau cenedlaethol y DU o ran safonau ac ansawdd ac unrhyw ddisgwyliadau cenedlaethol sy’n rhwymo’r sefydliad partner. Cyn belled ag y bo modd, dylai'r rhaglen hefyd gydymffurfio â gofynion rheoliadol Prifysgol Caerdydd ei hun, ond gyda'r gydnabyddiaeth y gallai fod angen cymeradwyo eithriadau i'r gofynion hynny (gan gynnwys ym maes asesu).
Yn dibynnu ar y model cydweithredol y cytunwyd arno yn y gymeradwyaeth strategol Bydd Cam, y Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid yn archwilio'n fanwl y modd y trosglwyddir y rhaglen (gan Brifysgol Caerdydd a staff y sefydliad partner) i wneud yn siŵr bod safonau academaidd yn cael eu cynnal ac nad yw profiad y myfyriwr yn cael ei beryglu.
Fel rhan o'r broses gymeradwyo, mae’n rhaid i'r cynigwyr amlinellu sut y caiff y trefniadau sicrhau ansawdd a gwelliant parhaus ar gyfer y rhaglen gydweithredol eu rheoli, gan roi sylw arbennig i’r gwaith o fonitro unrhyw swyddogaethau rheoli ansawdd a ddirprwyir i’r sefydliad partner.
Gall hyn gynnwys:
- cyswllt parhaus a rheolaidd rhwng y brifysgol a’i phartner, a rheoli materion gweithredol;
- systemau cymorth i fyfyrwyr a sut y gallant roi adborth i staff Prifysgol Caerdydd;
- monitro rheolaidd drwy Adolygu a Gwella Blynyddol;
- adolygiad ffurfiol o'r trefniant ar ddiwedd y cyfnod penodol o 18 mis o leiaf cyn y dyddiad adnewyddu.
Bydd yn Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid yn gwneud y canlynol:
- ystyried Memorandwm Cytundeb drafft a Chytundeb Ysgoloriaeth Ymchwil Unigol drafft, sydd, gyda'i gilydd, yn cwmpasu pob agwedd ar y rhaglen gan gynnwys ffioedd, cyfnodau preswylio, derbyn, sefydlu, goruchwylio, hyfforddi a datblygu, monitro, dilyniant, trefniadau asesu ac arholi, adborth a chynrychiolaeth myfyrwyr, cymorth i fyfyrwyr, cwynion ac apeliadau, uniondeb ymchwil a llywodraethu, a pherchnogaeth ymchwil;,
- argymell i’r Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd unrhyw eithriadau i ofynion rheoliadol y Brifysgol, pan fydd rheswm da dros wneud hynny a pan ellir sicrhau'r Brifysgol na fydd safon y PhD ac ansawdd profiad y myfyriwr yn cael ei pheryglu.
Ar ôl ystyried y cynnig bydd y Panel Sefydlog yn argymell un o'r canlyniadau canlynol yn ysgrifenedig i’r Ysgol a'r Pwyllgor Ansawdd a Safonau Academaidd:
- dylai’r cynnig gael ei gymeradwyo’n ddiamod gyda neu heb argymhellion;
- dylai’r cynnig gael ei gymeradwyo yn amodol ar fodloni amodau penodol o fewn cyfnod penodol o amser, gyda neu heb argymhellion ychwanegol;
- dylai’r cynnig gael ei gyfeirio’n ôl i’r Ysgol i roi ystyriaeth fanwl bellach iddo cyn iddo gael ei gyflwyno i gyfarfod diweddarach y Panel Sefydlog;
- dylid gwrthod y cynnig.
Os oes amodau wedi cael eu gosod, bydd angen i’r Ysgol nodi’n glir pryd y mae’n bwriadu ail-gyflwyno’r dogfennau i’r Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid. Pan fydd Cadeirydd y Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid wedi cadarnhau bod yr holl amodau wedi cael eu bodloni, gellir gwneud argymhelliad i’r Rhag Is-Ganghellor, Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd i’w chymeradwyo ar ran y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd (ASQC).
Mae ein rhwymedigaethau o dan y Gyfraith Defnyddwyr yn ein hatal rhag hysbysebu unrhyw raglen(ni) hyd nes y rhoddir cymeradwyaeth ffurfiol gan yr ASQC er mwyn sicrhau cywirdeb y wybodaeth sydd ar gael i fyfyrwyr ac ymgeiswyr.
Dyfarniadau PhD ar fwy nag un safle
Wrth ystyried a ddylid ymrwymo i gytundeb â sefydliad academaidd arall i ddarparu rhaglen PhD gydweithredol sy'n arwain at PhD ar fwy nag un safle, bydd y cyfarfod cymeradwyo strategol yn gwerthuso'r canlynol:
- y potensial i ddatblygu a/neu gryfhau ymchwil neu gydweithrediadau proffesiynol a fydd o fudd i'r Ysgol(ion)/Coleg(au)
- y tebygolrwydd o recriwtio nifer rhesymol o fyfyrwyr (o leiaf dri y flwyddyn) i'r rhaglen PhD ar fwy nag un safle
- yr achos busnes dros y rhaglen arfaethedig
- manylion y partner arfaethedig ac asesiad risg cymesur.
Bydd yr achos busnes yn cynnwys:
- amcangyfrif o’r nifer o fyfyrwyr
- goblygiadau ariannol (gan gynnwys lefel y ffi)
- yr ymdrech weinyddol sydd ei hangen i sefydlu'r rhaglen PhD gydweithredol
- y baich a'r costau gweinyddol (yn enwedig teithio) sy'n gysylltiedig â gweithredu'r rhaglen.
Bydd yr asesiad risg o’r partner yn archwilio:
- statws academaidd ac ethos y darpar bartner
- ei system ansawdd a safonau
- ei brofiad yn y maes disgyblaeth neu’r gweithgaredd dan sylw.
Bydd y Swyddfa Ryngwladol (Partneriaethau) yn rhoi cyngor ac arweiniad ar y wybodaeth asesu risg sydd ei hangen ar gyfer partneriaethau rhyngwladol.
Ar ôl cymeradwyo: PHDs dwbl ac ar fwy nag un safle
Ar ôl i gynnig ar gyfer darpariaeth gydweithredol gael ei gymeradwyo, mae’n rhaid cwblhau fersiwn derfynol y Memorandwm Cytundeb, yn unol â'r gofynion ar gyfer darpariaeth gydweithredol a addysgir. Unwaith y bydd y cytundeb ysgrifenedig wedi cael ei gwblhau a’i lofnodi, caiff y cydweithrediad ei ychwanegu at Gofrestr swyddogol y Brifysgol o Ddarpariaeth ar y Cyd. Caiff y Gofrestr hon ei chadw gan y Gofrestrfa gyda chymorth y Swyddfa Ryngwladol.
Trefniadau Cyd-oruchwylio unigol
Gall y Pennaeth Ysgol perthnasol gymeradwyo trefniadau cyd-oruchwylio unigol. Bydd Cytundeb Goruchwylio Cydweithredol rhwng yr Ysgol, y sefydliad partner a'r myfyriwr yn cadarnhau cyfrifoldebau'r partneriaid mewn perthynas â goruchwylio, monitro cynnydd a hyfforddiant. Pan fydd yr trefniant yn cynnwys cyfnod(au) mewn sefydliad partner, bydd y cytundeb hefyd yn cynnwys asesiad risg yn unol â Pholisi Dysgu ar Leoliad y Brifysgol.
Mae manylion yr holl ddogfennau gofynnol ar gyfer cymeradwyo trefniadau cyd-orchwylio unigol ar gael gan Dîm Ansawdd Ymchwil Ôl-raddedig a Gweithrediadau yn pgr@caerdydd.ac.uk.
Adran 6: Lleoliadau ac astudiaethau tramor
Datblygu rhaglenni â 120 credyd o leoliad proffesiynol.
Mae'r polisi Dysgu ar Leoliad ac Astudio Dramor yn cynnig arweiniad ar gyfer datblygu a rheoli darpariaeth lleoliadau ac astudio dramor. Mae'n cwmpasu pob rhaglen gradd a addysgir a phob rhaglen gradd ymchwil a ddilynir ar y cyd â chyflogwyr a/neu sefydliadau eraill yng Nghymru, gweddill y DU neu'n rhyngwladol.
Yr egwyddorion allweddol
O ystyried yr amrywiaeth eang o ddarpariaeth lleoliadau ar gael, mae'r Polisi Dysgu ar Leoliad yn cydnabod na fyddai'n briodol dyfeisio un broses ar gyfer rheoli'r holl leoliadau ar draws y sefydliad. Yn lle hynny, mae'n amlinellu'r egwyddorion arweiniol ar gyfer staff o ran elfennau allweddol o gymeradwyo, rheoli a monitro gweithgarwch ar leoliadau, sef:
- Asesiad o'r risg, gan gynnwys Iechyd a Diogelwch;
- Yswiriant ac atebolrwydd y brifysgol;
- Cyfle cyfartal; a
- Rheoli a monitro lleoliadau.
Mae'r egwyddorion allweddol wedi'u dylunio i wneud yn siŵr bod y lefel briodol o graffu ac adolygu'n cael ei dyrannu ar gyfer yr holl weithgaredd lleoliad, drwy roi prosesau ar waith ar gyfer cymeradwyo a rheoli sy'n gyfrannol i'r risg a aseswyd ar gyfer cynnig unigol am leoliad.
Cynllunio rhaglen yn effeithiol
Bydd y Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid yn canolbwyntio ar sut mae’r cynigion yn bodloni’r safonau gofynnol a nodir yn y Polisi Dysgu ar Leoliad gan roi sylw arbennig i gymorth myfyrwyr gan y brifysgol a’r sefydliad partner (lle y bo’n briodol) a’r effaith ar brofiad cyffredinol y myfyriwr.
Dylid rhoi ystyriaeth i:
- Mynediad i Leoliadau ar gyfer Myfyrwyr Anabl;
- Yr adeg o’r flwyddyn y caiff myfyrwyr eu hysbysu os ydynt wedi llwyddo i gael mynd ar leoliad am flwyddyn a’r effaith a gaiff ar y broses o lofnodi contractau rhentu ac ati;
- Hyd y rhaglen yn y sefydliad sy’n lletya a sut mae hyn yn effeithio ar strwythur Caerdydd;
- Dewisiadau o fodiwlau yn y sefydliad sy’n lletya;
- Lefel credyd a gwerth y modiwlau a gaiff eu hastudio yn y sefydliad sy’n lletya;
- Os caiff mecanweithiau trosi graddau eu defnyddio – mae'n rhaid cytuno ar hynny cyn bod y myfyriwr yn dechrau ar ei leoliad/blwyddyn o astudio dramor;
- Deilliannau dysgu wedi’u diffinio’n glir ar gyfer y modiwl Lleoliadau / Astudiaethau Tramor;
- Asesiad risg o’r sefydliad sy’n lletya a’r wybodaeth a roddir i fyfyrwyr mewn perthynas â chysylltiadau allweddol yng Nghaerdydd pan fyddant yn wynebu anawsterau;
- Goblygiadau gofynion Cyrff Statudol a Rheoleiddiol Proffesiynol;
- Cyfleoedd i wneud gwaith paratoi ieithyddol yng Nghaerdydd a’r sefydliad sy’n lletya a’r effaith ar waith asesu;
- Gweithdrefnau ar gyfer dychwelyd i’r brifysgol a chymorth wrth ailintegreiddio i astudiaethau academaidd yng Nghaerdydd.
- Asesiadau ac adborth gan gynnwys cyfleoedd ar gyfer ailasesu/ailadrodd blwyddyn a chyfleoedd i drosglwyddo i raglenni eraill.
Datblygu rhaglenni â 60/120 credyd o weithgaredd astudio dramor.
Mae'r Polisi Astudio Dramor yn nodi ystod eang o weithgareddau sy’n dod o dan ymbarél eang y term 'astudio dramor'; fodd bynnag, at ddibenion y Polisi hwn, mae’r brifysgol yn diffinio 'astudio dramor' fel a ganlyn:
'cyfnodau o astudio mewn sefydliadau addysg uwch eraill y tu allan i'r DU, lle mae'r rhain yn llunio rhan o raglenni Prifysgol Caerdydd. Mae'r gweithgarwch hwn yn cyfeirio at gredyd 'amnewid' (lle disodlir rhan o raglen Prifysgol Caerdydd ag astudiaethau mewn sefydliad dramor) e.e. semester yn astudio dramor sydd werth 60 o gredydau; neu
credyd 'ychwanegol' (ymestyn y cyfnod astudio arferol ar gyfer y rhaglen honno ac arwain at ddyfarniad penodol sy'n cydnabod yr amser a dreuliwyd yn astudio dramor) e.e. 120 o gredydau
Cynllunio rhaglen yn effeithiol
Bydd y Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid yn canolbwyntio ar sut mae’r cynigion astudio dramor yn bodloni’r safonau gofynnol a nodir yn y polisi hwn gan roi sylw arbennig i gymorth myfyrwyr gan y brifysgol a’r sefydliad partner a’r effaith ar brofiad cyffredinol y myfyriwr. Rhoddir ystyriaeth i'r canlynol:
- Cadarnhad bod y cytundeb astudio dramor ffurfiol yn bodoli (wedi'i ddarparu gan y tîm Cyfleoedd Byd-eang);
- Hyd y rhaglen yn y sefydliad sy’n lletya a sut mae hyn yn effeithio ar strwythur Caerdydd;
- Lefel FHEQ a gwerth y modiwlau a astudiwyd mewn sefydliad sy’n lletya drwy gyfrwng Asesiad Risg o'r Rhaglen Astudio Dramor a'r ddogfennaeth mapio modiwl astudio dramor;
- Y mecanweithiau a'r amseru ar gyfer cytuno ynghylch y dewis modiwlau a lefel y modiwlau gyda'r sefydliad partner, cyn bod y myfyriwr yn dechrau'r gweithgaredd;
- Deilliannau dysgu wedi'u diffinio'n glir ar gyfer modiwl Astudio Dramor Prifysgol Caerdydd, a'r modd y mae hyn wedi'i adlewyrchu yn y deilliannau dysgu cyffredinol ar lefel y rhaglen.
- Goblygiadau gofynion PSRB a'r modd y cânt eu bodloni drwy gyfrwng y modiwlau partner astudio dramor;
- Drafft o Gytundeb Dysgu Unigol y Myfyriwr yn amlinellu a gaiff unrhyw fecanweithiau trosi graddau eu defnyddio – mae'n rhaid cytuno ar hyn cyn i'r myfyriwr ddechrau ar ei flwyddyn o astudio dramor gyda modelu priodol;
- Y wybodaeth a roddwyd i'r myfyrwyr yn y Llawlyfr Astudio Dramor a manylion y broses ymsefydlu;
- Y mecanweithiau ar gyfer cyfathrebu a chadw mewn cysylltiad â'r partner Astudio Dramor;
- Cyfleoedd i wneud gwaith paratoi ieithyddol yng Nghaerdydd a’r sefydliad sy’n lletya a’r effaith ar waith asesu;
- Gweithdrefnau ar gyfer dychwelyd i’r Brifysgol a chymorth wrth ailintegreiddio i astudiaethau academaidd yng Nghaerdydd;
- Asesiadau ac adborth gan gynnwys cyfleoedd ar gyfer ailasesu/ailadrodd blwyddyn a chyfleoedd i drosglwyddo i raglenni eraill;
- Y mecanweithiau ar gyfer rheoli a monitro gweithgaredd astudio dramor.
Rhaglenni cydanrhydedd
Pan mae cyfleoedd astudio dramor ar gael i fyfyrwyr cydanrhydedd, rhaid i’r ysgol gartref sicrhau fod trefniadau rheoli a gwerthuso’r holl drefniadau astudio dramor (gan gynnwys trosi graddau) yn cadw at yr egwyddorion a nodir yn y polisi hwn. Dylai pob myfyriwr gael ei neilltuo i aelod priodol o staff â phrofiad o astudio dramor (gwasanaethau academaidd neu broffesiynol), fel arfer yn yr ysgol gartref, a dyma fydd eu prif bwynt cyswllt drwy gydol y trefniant.
Enw'r lleoliad / rhaglenni astudio dramor
Er mai modiwl yw’r flwyddyn ar leoliad (120 o gredydau), mae cynnwys blwyddyn ar leoliad yn creu rhaglen astudio ar wahân gan y bydd amrywiad y lleoliad yn cael ei adlewyrchu yn nheitl y rhaglen (e.e. LLB gyda Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol). Mae’n rhaid i enw pob rhaglen fod yn unol â’r confensiynau enwi y cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd ym mis Mai 2015.
Mae’r holl ddogfennau angenrheidiol ar gyfer datblygu rhaglenni astudio dramor ar gael ar y fewnrwyd gyda chefnogaeth, cyngor a chanllawiau ar gael gan eich Swyddog Ansawdd Coleg a’ch Swyddog Addysg Coleg.
Adran 7: Ar ôl cymeradwyo
Mae'r adran hon yn cynnwys y broses ar ôl cymeradwyo a’r broses o reoli a monitro’r cydweithrediad yn barhaus.
Y Memorandwm Cytundeb
Pan fydd cynnig ar gyfer darpariaeth ar y cyd wedi’i gymeradwyo, rhaid cwblhau’r fersiwn terfynol o’r Memorandwm Cytundeb. Dylid gwneud hyn mewn partneriaeth â'r Gofrestrfa a’r Swyddfa Ryngwladol (os yn briodol). Bydd pob cytundeb yn amrywio o ran manylder a chymhlethdod. Fodd bynnag, ymysg yr elfennau allweddol o’r cytundeb a’i atodiadau mae:
- telerau cytundebol sylfaenol - cyfnod gweithredu, proses ymadael ac ati;
- telerau academaidd – natur y rhaglen, derbyniadau, asesu, isafswm ac uchafswm nifer y myfyrwyr, rhwymedigaethau’r brifysgol, rhwymedigaethau’r sefydliad partner ac ati;
- telerau ariannol – ffioedd myfyrwyr, telerau talu ac ati;
- isafswm ac uchafswm niferoedd myfyrwyr;
- trefniadau cyfreithiol, gan gynnwys yr awdurdodaeth gyfreithiol a ddefnyddir i ddatrys anghydfodau;
- y Cynllun Rheoli Partneriaeth;
- atodiadau gyda manylion y rhaglen(ni) a gwmpesir gan y Memorandwm Cytundeb;
- trefniadau ariannol gan gynnwys costau, cofnodion o'r holl drafodion ariannol gyda'r sefydliad partner, mesurau diogelu rhag pwysau ariannol sy’n rhoi safonau a buddiannau myfyrwyr yn y fantol, cadarnhad o bwy fydd yn talu treuliau teithio, llety, arholwr allanol a chynhaliaeth;
- iaith yr addysg a’r asesu ac, os nad Cymraeg neu Saesneg fydd yr iaith honno, cyfrifoldebau am gyfieithu dogfennau yn awdurdodol a sicrhau ansawdd y cyfieithiadau;
- gwybodaeth trosi gradd.
Mae’r datganiad o gyfrifoldebau yn nodi’r gofynion canlynol:
- cyfrifoldebau a'r broses gymeradwyo ar gyfer cyhoeddusrwydd a marchnata deunyddiau;
- cyfrifoldebau am dderbyniadau a, lle bo'n briodol, gweithdrefnau y cytunwyd arnynt ar gyfer monitro safonau mynediad;
- cyfrifoldebau am ymrestru a chofrestru;
- cyfrifoldebau am gymorth ac arweiniad i fyfyrwyr;
- cyfrifoldebau am gynnydd myfyrwyr, gan gynnwys cadw cofnodion myfyrwyr a chofnodion dynodedig eraill yn ystod cyfnod y cytundeb, ar ôl ei derfynu, ac os bydd y sefydliad partner yn peidio â bodoli;
- cyfrifoldebau am ddisgyblaeth myfyrwyr, cwynion ac apeliadau;
- trefniadau ar gyfer cynnal arholiadau ac asesiadau;
- penodi arholwyr allanol a’u rôl;
- trefniadau sicrhau ansawdd;
- hyd y cytundeb a’r trefniadau i’w adolygu;
- darpariaeth i alluogi’r Brifysgol i geisio camau cymrodeddu neu atal neu derfynu'r cytundeb os bydd y sefydliad partner yn methu â chyflawni ei rwymedigaethau;
- rhwymedigaethau gweddilliol i fyfyrwyr pan ddaw’r cytundeb i ben;
- cyfrifoldebau am reoli a chyhoeddi tystysgrifau a thrawsgrifiadau;
- mecanweithiau ar gyfer gweinyddu’r cydweithrediad.
Bydd templedi Memorandwm Cytundeb Prifysgol Caerdydd yn amrywio oherwydd natur a chymhlethdod pob cytundeb unigol. Dylid ceisio cyngor ac arweiniad gan y Gofrestrfa a’r Swyddfa Ryngwladol (os yn briodol). Ceir templed o’r Datganiad o Gyfrifoldebau llawn yn Atodiad C.
Rhaid i’r sefydliad partner gytuno ar gynnwys y Memorandwm Cytundeb a rhaid i’r Rhag Is-ganghellor (Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd) ei gymeradwyo, cyn i’r ddogfen gael ei llofnodi gan y Dirprwy Is-ganghellor neu enwebai dynodedig.
Bydd y Gofrestrfa'n cadw copi o'r Memorandwm Cytundeb wedi'i lofnodi ac yn rhoi gwybod i'r Ysgol o leiaf 18 mis cyn y dyddiad cau, i wneud yn siŵr y gellir cynnal y broses adnewyddu neu ddirwyn i ben o fewn yr amserlen briodol a amlinellwyd yn y Memorandwm.
Y gofrestr darpariaeth ar y Cyd
Unwaith y bydd y cytundeb ysgrifenedig wedi cael ei gwblhau a’i lofnodi, caiff y cydweithrediad ei ychwanegu at Gofrestr swyddogol y Brifysgol o Ddarpariaeth ar y Cyd. Caiff y Gofrestr hon ei chadw gan y Gofrestrfa gyda chymorth y Swyddfa Ryngwladol.
Mae'n rhaid rhoi gwybod ar unwaith am unrhyw newidiadau ar y Gofrestr i'r tîm Ansawdd a Safonau yn y Gofrestrfa, yn enwedig pan fod penderfyniad wedi'i wneud i dynnu'n ôl o'r trefniant. Pan mai'r bwriad yw adnewyddu'r cytundeb, bydd yn ofynnol ar Ysgolion i gyflwyno gwybodaeth Cam 1 wedi'i diweddaru i'r Coleg, fel yn ôl yr hyn a amlinellir yn Adran 2.
Gwaith rheoli a monitro parhaus
Y cynllun rheoli partneriaeth
Nod y Cynllun Rheoli Partneriaeth yw nodi sut y rheolir y bartneriaeth o ddydd i ddydd drwy gydol oes y bartneriaeth. Dylai gynnwys yr holl weithdrefnau gweithredol a sicrhau ansawdd a'i ddiwygio'n flynyddol cyn dechrau pob blwyddyn academaidd i wneud yn siŵr bod yr holl brosesau a'r cyfathrebiadau rhwng y partneriaid yn gweithredu'n foddhaol.
Mae'n ofynnol i ysgolion roi gwybod am unrhyw newidiadau sylweddol drwy'r broses Adolygiad a Gwelliant Blynyddol, gan fabwysiadu unrhyw sylwadau a ddaeth i law drwy gyfrwng Adroddiad y Safonwr.
Y tiwtor cyswllt
Ar ôl cael cymeradwyaeth, rhaid i'r ysgol enwebu Tiwtor Cyswllt a fydd yn gyfrifol am oruchwylio'r gwaith parhaus o weithredu a chyflwyno’r cydweithrediad. Bydd hyn yn cynnwys:
- gweithio ar y cyd â’r sefydliad partner i sicrhau bod y ddarpariaeth yn gweithredu yn unol â’r Cynllun Rheoli Partneriaeth;
- monitro’r broses o roi’r gweithdrefnau sicrhau ansawdd a gwelliant ar waith er mwyn sicrhau bod y prosesau cywir yn cael eu dilyn a bod ymyrraeth amserol yn digwydd lle y bo’n briodol;
- rhoi cymorth a chyfarwyddyd i staff academaidd sy'n ymwneud â chyflwyno’r ddarpariaeth;
- cyfrannu at brosesau Adolygiad a Gwelliant Blynyddol;
- bod yn gyswllt ar gyfer myfyrwyr partner;
- bod yn bwynt cyswllt ar gyfer y Safonwr.
Y safonwr
Bydd Safonwr yn cael ei benodi gan y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd ar gyfer pob cynnig ar y cyd y mae angen iddo gael cymeradwyaeth lefel prifysgol. Fel arfer, bydd y Safonwr yn academydd uwch o Goleg gwahanol. Fel arfer, mae deiliadaeth Safonwr yn para cyhyd ag oes y cytundeb. Bydd angen penodi safonwr newydd pan gaiff cytundeb ei adnewyddu neu os na all y Safonwr barhau am unrhyw reswm.
Rôl a chyfrifoldebau safonwr
Bydd y Safonwr yn ymweld â’r sefydliad partner bob blwyddyn, ac yn darparu adroddiad ar gyfer pob blwyddyn o’r rhaglen neu’r trefniant. Mae'r Safonwr yn gweithredu ar ran y brifysgol ac mae'r adroddiad yn cael ei ystyried gan y Bwrdd Astudio / Bwrdd yr Ysgol priodol â throsolwg sefydliadol gan y Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid sy'n atebol i'r ASQC.
Rôl
- helpu i sicrhau bod ansawdd y rhaglenni a'r safonau a gyflawnir gan fyfyrwyr yn y sefydliad partner yn gymesur â’r rhai yn y brifysgol;
- monitro effeithiolrwydd y trefniadau cyfathrebu, y trefniadau rheoli a’r trefniadau gweithredol sy'n sail i'r ddarpariaeth;
- helpu’r sefydliad partner i weithredu a chynnal gofynion sicrhau ansawdd a gwelliant Prifysgol Caerdydd.
Cyfrifoldebau
- cymryd rhan mewn unrhyw gyfarfodydd a gynhelir i fonitro effeithiolrwydd y trefniadau sicrhau ansawdd a chyfathrebu, rhannu arfer nodedig a nodi unrhyw faterion y mae angen mynd i’r afael â hwy ar unwaith;
- cwrdd â thîm y rhaglen a’r myfyrwyr. Y safonwr, y sefydliad partner ac ysgol gartref Prifysgol Caerdydd sy’n cefnogi’r rhaglen fydd yn penderfynu ar yr amser a bennir ar gyfer hyn;
- monitro safonau academaidd rhaglenni Prifysgol Caerdydd a addysgir mewn sefydliadau partner a'r cymorth a ddarperir gan ysgol Prifysgol Caerdydd sy’n cefnogi'r rhaglen;
- cyflwyno adroddiad blynyddol ar y sesiwn academaidd flaenorol;
- rhoi sylwadau ar unrhyw addasiadau/ gwelliannau a gynigir i'r ddarpariaeth ar y cyd;
- craffu ar ddeunydd cyhoeddusrwydd a marchnata arfaethedig a lunnir gan y sefydliad partner;
- cadw trosolwg o’r adnoddau (gan gynnwys adnoddau staff) sydd ar gael i raglenni sy'n arwain at ddyfarniadau Prifysgol Caerdydd.
Ymsefydlu safonwyr a’u cynorthwyo
Yr ysgol sy’n cefnogi’r rhaglen ar y cyd fydd yn gyfrifol am roi’r wybodaeth briodol i’r safonwr am y rhaglen dan sylw. Bydd y wybodaeth hon yn cynnwys:
- copi o'r Llawlyfr Myfyrwyr a/neu Lawlyfr y Rhaglen;
- manylion y Tiwtor Cyswllt a benodwyd i'r rhaglen;
- manylion yr Arholwr Allanol a benodwyd i’r rhaglen ac unrhyw adroddiadau a ddaeth i law;
- yr holl ddeunydd cyhoeddusrwydd a marchnata y cytunwyd yn eu cylch;
- y cyflwyniad gan y Bwrdd Astudio / ARE yr Ysgol sy'n manylu ynghylch y bartneriaeth a chynnydd y myfyriwr, a data'r dyfarniad.
Hysbysu
Bob blwyddyn, bydd y safonwr yn llunio adroddiad ar y sesiwn academaidd flaenorol. Mae'n ofynnol i’r ysgol ymateb i’r adroddiad yn unol â phrosesau tebyg, fel y rhai ar gyfer Arholwyr Allanol. Mae’n rhaid i’r camau gweithredu y cytunwyd arnynt gan yr ysgol mewn ymateb i adroddiad Safonwr gael eu hadrodd drwy’r broses Adolygiad a Gwelliant Blynyddol.
Dylai’r adroddiad fynd i’r afael â’r canlynol:
- datganiad o weithgareddau safoni a gynhaliwyd;
- addasrwydd y trefniadau ar gyfer darparu'r rhaglen(ni);
- effeithiolrwydd cyffredinol y trefniadau asesu yn y sefydliad partner a’u cymhwysiad i Ddyfarniad Prifysgol Caerdydd;
- enghreifftiau o arfer nodedig;
- lefelau recriwtio a chynnydd myfyrwyr;
- sylwadau cyffredinol mewn perthynas â threfniadau ar gyfer cynnal safonau a sicrhau ansawdd;
- datganiad ar effeithlonrwydd systemau cyswllt a chyfathrebu rhwng yr ysgol gartref sy’n cefnogi’r rhaglen a'r sefydliad partner;
- datganiad ar ddigonolrwydd yr adnoddau sydd ar gael ar gyfer y rhaglen ar y cyd.
Ad-dalu
Fel arfer, yr ysgol gartref sy’n noddi’r rhaglen a/neu’r sefydliad partner fydd yn talu’r costau sy’n gysylltiedig â’r broses o weithredu rôl y Safonwr (yn cynnwys amser staff, teithio a chynhaliaeth), a chânt eu hystyried yng nghynlluniau ariannol rhaglenni yn ystod y camau datblygu cynnar. Caiff ysgol gartref y safonwr ei had-dalu ar gyfradd Uwch Ddarlithydd safonol.
Arholwyr Allanol
Caiff Arholwyr Allanol eu penodi yn yr un ffordd ag ar gyfer ein darpariaeth fewnol. Daw adroddiadau Arholwyr Allanol i law yn ganolog yn y Gofrestrfa, gofynnir i’r ysgolion ymateb i unrhyw faterion penodol sy’n peri pryder fel y gellir rhoi ymateb unigol i’r Arholwr Allanol. Bydd y Brifysgol yn cyhoeddi adroddiad ac ymateb yr Arholwr Allanol. Mae disgwyl y bydd y Bwrdd Astudio priodol yn adolygu'r holl adroddiadau gan Arholwyr Allanol i wneud yn siŵr yr aed i'r afael ag unrhyw broblemau parhaus. Yn yr Adolygiad a Gwelliant Blynyddol, gofynnir i’r ysgolion gadarnhau pa faterion a godwyd gan Arholwyr Allanol a'r modd y mae'r Bwrdd Astudio priodol yn goruchwylio'r rhain.
Adran 8: Adolygu trefniant ar y cyd
Pryderon ynghylch Trefniant ar y Cyd
Os bydd yr ysgol, y coleg neu aelodau’r Gofrestrfa a’r Gwasanaethau Academaidd, wrth ystyried unrhyw adroddiadau ar ansawdd a safonau’r ddarpariaeth, o’r farn bod ansawdd a/neu safonau’r dyfarniad yn y fantol ac na all y sefydliad partner gymryd camau adferol, neu nad yw’n fodlon gwneud hynny, rhaid hysbysu’r Rhag Is-ganghellor, Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd ar unwaith. Bydd yr ymateb yn dibynnu ar natur benodol y mater dan sylw. Os oes angen, cynhelir ymchwiliad llawn i’r mater (dan arweiniad y Rhag Is-ganghellor ar gyfer Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd ac wedi’i weinyddu gan y Gofrestrfa a’r Gwasanaeth Academaidd).
Os cadarnheir y bygythiad, ac yn amodol ar gamau diogelu ar gyfer myfyrwyr, gall y Rhag Is-ganghellor, Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd argymell y dylid atal y cytundeb hyd nes y cymerir camau adferol, neu y dylid ei derfynu.
Adolygu, ailgymeradwyo a therfynu
Adolygu ac ailgymeradwyo
Bydd yr amserlen ar gyfer y cytundeb wedi’i phennu yn ystod y broses gymeradwyo, ac ni fydd yn hwy na phum mlynedd. Ddeunaw mis cyn diwedd cyfnod y cytundeb, bydd angen iddo fod yn destun adolygiad ffurfiol gan yr Ysgol, y Coleg a’r Brifysgol. Bydd y Panel Cam 1 y Brifysgol a Phanel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid yn ymgymryd â phob adolygiad a phroses o ailgymeradwyo, gyda'r nod o bennu:
- p’un a yw’r rhesymeg dros y cydweithrediad yn dal i fod yn ddilys;
- p’un a yw’r achos busnes yn ddilys o hyd (ac wedi’i gadarnhau gan Rag Is-ganghellor y Coleg);
- p’un a yw’r risgiau sy'n ymwneud â’r cydweithrediad wedi eu hasesu'n briodol;
- p’un a yw’r cydweithrediad yn dal i gyd-fynd â strategaeth a chenhadaeth yr ysgol, y coleg a'r brifysgol;
- p’un a oes gan y sefydliad partner y statws academaidd, ariannol a chyfreithiol priodol o hyd;
- p’un a fydd y rhaglen yn parhau i fodloni'r safonau academaidd priodol ac yn cynnig cyfleoedd dysgu i fyfyrwyr a’r profiadau sy'n angenrheidiol i'w cyflawni;
- p'un a yw'r trefniadau sicrhau ansawdd yn parhau i wneud yn siŵr bod safonau academaidd y dyfarniad ac ansawdd profiad dysgu'r myfyriwr yn cymharu â'r gweithdrefnau a'r prosesau ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd;
- p'un a yw Adroddiad yr Arholwr / Safonwr mewnol yn amlygu unrhyw broblemau sydd heb gael eu datrys;
- unrhyw gwynion gan fyfyrwyr y mae'n bosibl eu bod wedi dod i law;
- holl Adroddiadau Bwrdd Astudio / ARE yr Ysgol sy'n ystyried cynnydd y myfyriwr a chanlyniadau'r dyfarniad.
Bydd y Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid yn adolygu'r dystiolaeth yn erbyn y meini prawf uchod, ac os bydd yn fodlon eu bod yn cael eu bodloni, bydd yn argymell y dylai’r cydweithrediad gael ei ailgymeradwyo. Os na fydd yn fodlon, ond ei fod o’r farn y gallai’r meini prawf gael eu bodloni gydag amodau, gall argymell y dylai’r cydweithrediad barhau am gyfnod penodol, ac yna y dylid cynnal adolygiad pellach. Os nad yw'r Panel yn fodlon bod y meini prawf wedi'u bodloni, neu os nad yw’r amodau yn cael eu bodloni o hyd, bydd yn argymell i’r Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd y dylid terfynu’r cytundeb.
Bydd y Panel yn rhoi adroddiad i Bennaeth yr Ysgol, Rhag Is-ganghellor y Coleg a’r Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd gyda’i argymhelliad/argymhellion. Os mai’r argymhelliad yw y dylai’r rhaglen gael ei hailgymeradwyo, yna gall Pennaeth yr Ysgol ofyn am i’r cytundeb gael ei aildrafod.
Terfynu
Gall y naill bartner ddechrau camau i derfynu partneriaeth. Bydd gan y naill bartner hawl i derfynu partneriaeth drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r llall, os bydd y partner arall yn torri unrhyw un o ddarpariaethau’r cytundeb, ac yn methu ag unioni hynny o fewn y cyfnod(au) a nodir yn y cytundeb ar ôl derbyn yr hysbysiad ysgrifenedig perthnasol. Mae’n rhaid i’r cytundeb nodi’n glir agweddau cyfreithiol y terfyniad a amlinellir yn y Memorandwm Cytundeb.
Ymysg y rhesymau pam y gellir terfynu rhaglen ar y cyd neu bartneriaeth mae:
- cred bod safonau academaidd yn y fantol;
- cwynion difrifol a mynych gan fyfyrwyr ynghylch ansawdd y ddarpariaeth;
- methiant i ddarparu’r adnoddau dysgu angenrheidiol;
- diffyg cyfathrebu rhwng y partneriaid na ellir ei ddatrys;
- mae’r broses safoni ac adolygu yn nodi diffygion difrifol yn nhrefniadau gweinyddol neu academaidd rhaglen;
- tystiolaeth o gamymddwyn mewn trefniadau asesu;
- diffyg cydymffurfio mynych â’r terfynau amser a bennwyd gan y Brifysgol;
- pryderon a godwyd gan gorff proffesiynol;
- camymddwyn proffesiynol neu academaidd; neu achosion lle mae’r naill bartner yn methu â bodloni gofynion y cytundeb mewn ffyrdd eraill;
- amcanion strategol gwahanol.
Rhaid rheoli camau tynnu’n ôl yn ofalus er mwyn sicrhau y caiff safonau academaidd ac ansawdd y profiad eu cynnal ar gyfer y myfyrwyr sy’n weddill. Bydd hyn yn cynnwys paratoi ‘Cynllun Teach Out’ yn nodi’r sefyllfa a’r disgwyliadau sy’n deillio o hyn, cyfrifoldebau perthnasol y ddwy ochr ac amserlen glir. Bydd y Gofrestrfa a’r Gwasanaethau Academaidd yn cynorthwyo Ysgol i baratoi ’Cynllun Teach Out’ a chaiff ei fonitro drwy ARE nes y bydd yr holl fyfyrwyr wedi cwblhau neu adael y rhaglen.
Cyfrifoldebau
Mae gan yr ysgol gyfrifoldeb i lunio, gweithredu a monitro 'Cynlluniau Teach Out’ nes bydd yr holl fyfyrwyr wedi cwblhau neu adael y rhaglen(ni). Caiff cynnydd myfyrwyr ei fonitro drwy ARE. Mae’n RHAID i’r holl ‘Gynlluniau Teach Out’ gael eu cytuno gyda’r sefydliad partner a’u llofnodi gan y ddau sefydliad.
Ymysg y meysydd eraill a fydd yn parhau drwy’r cyfnod ‘teach out’ mae:
- lle bo'n briodol, bydd y Brifysgol yn parhau i benodi Arholwyr Allanol;
- bydd prosesau monitro blynyddol yn unol â gweithdrefnau presennol y Brifysgol yn parhau;
- Adolygiad Cyfnodol yn unol â gweithdrefnau presennol y Brifysgol;
- bydd y sefydliad partner yn parhau i gymhwyso’r gweithdrefnau a gymeradwywyd ar gyfer asesu myfyrwyr;
- bydd y sefydliad partner yn parhau i gyflwyni’r holl rwymedigaethau ariannol i’r Brifysgol fel y cytunwyd yn flaenorol. Gellir gwneud trefniadau arbennig ar gyfer myfyrwyr sy'n torri eu rhaglen neu sy’n ail-wneud blwyddyn.
Ac eithrio pan fydd angen terfynu ar unwaith yn sgil achos difrifol o dorri telerau’r cytundeb, dylid dilyn y broses ganlynol:
- cyn gynted ag y bydd yr Ysgol, y Gofrestrfa neu’r Swyddfa Ryngwladol yn dod yn ymwybodol bod y cytundeb wedi’i dorri, dylai'r partner dderbyn llythyr neu e-bost gan Rag Is-ganghellor y Coleg ar gyngor y Gofrestrfa a’r Gwasanaethau Academaidd ac os yw’n briodol, y Swyddfa Ryngwladol;
- dylai’r llythyr neu e-bost hwn nodi’n glir yr achos o dorri’r cytundeb neu’r maes sy’n peri pryder, pa gamau unioni sydd eu hangen gan y partner, a rhoi terfyn amser a nodi sut y dylid profi y cymerwyd camau unioni;
- dylai’r Ysgol, y Coleg a’r Gwasanaethau Proffesiynol weithio'n agos gyda'r partner i sicrhau ymateb boddhaol.
Os nad yw’r Ysgol, y Coleg a’r Gwasanaethau Proffesiynol yn fodlon ar yr ymateb gan y partner, bydd angen gwneud penderfyniad ynghylch terfynu’r cytundeb. Y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd ddylai wneud y penderfyniad hwn. Yna, bydd Cadeirydd y Pwyllgor yn awgrymu y dylai’r Is-ganghellor anfon llythyr terfynu at y partner. Dylid ceisio cadarnhad bod y sefydliad partner wedi derbyn y llythyr terfynu.
Nodir y cyfnod o rybudd ar gyfer terfynu yn y cytundeb. Bydd y cytundeb hefyd yn nodi manylion llawn y gweithdrefnau terfynu a’r canlyniadau. Ym mhob achos, bydd angen lliniaru’r effaith ar unrhyw fyfyrwyr sydd wedi’u cofrestru ar y rhaglen er mwyn lleihau’r effaith ar eu hastudiaethau i’r eithaf.
Cau Rhaglen
Gall y brifysgol a/neu’r sefydliad partner wneud cais i gau rhaglen ar y cyd neu roi’r gorau i’w chynnig am sawl rheswm, er enghraifft, oherwydd newidiadau yn y galw yn y farchnad, amcanion strategol neu bolisïau cenedlaethol.
Gellir gwneud y cais naill ai ar ddiwedd cyfnod y cytundeb (o ganlyniad i’r adolygiad safonol o’r rhaglen) neu ran o’r ffordd drwyddo. Yn y naill achos, bydd y cyfnod rhybudd safonol i derfynu cytundeb wedi’i bennu yn y cytundeb, ond mae’r cyfnod yn para o leiaf ddeuddeg mis fel arfer.
Mae’n rhaid i’r broses o gau unrhyw raglen gael ei rheoli er mwyn sicrhau y gall unrhyw fyfyrwyr sydd wedi’u cofrestru gwblhau eu rhaglen astudio. Bydd sut y rheolir hyn yn dibynnu ar natur y cytundeb gwreiddiol a’r rhaglen dan sylw, a rhaid cytuno iddo yn ysgrifenedig. Rhaid rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r myfyrwyr yr effeithir arnynt.
Mae angen i’r penderfyniad i gau rhaglen ar y cyd gael ei wneud gan Ddirprwy Is-ganghellor y coleg gyda chyngor gan Bennaeth yr ysgol ar ôl ymgynghori’n llawn â’r sefydliad partner. Unwaith bod penderfyniad wedi'i gymryd i gau rhaglen ar y cyd, bydd y Gofrestrfa'n cynghori Cadeirydd ASQC ar sur y bydd yr Ysgol yn rheoli'r broses o gau'r rhaglen.
Bydd y bartneriaeth ei hun yn cael ei dirwyn i ben drwy lythyr at y sefydliad partner, wedi’i lofnodi gan yr Is-ganghellor. Bydd y llythyr yn nodi'n glir y rhesymau dros gau’r rhaglen, a bydd yn nodi sut y caiff y broses o gau’r rhaglen ei rheoli. Bydd y llythyr hefyd yn cynnwys manylion ynglŷn â sut y caiff astudiaethau myfyrwyr presennol eu rheoli. Dylid ceisio cadarnhad bod y sefydliad partner wedi derbyn y llythyr terfynu.
Bydd y Gofrestrfa yn cynghori ar fformat/cynnwys y llythyr er mwyn sicrhau bod yr holl feysydd cyfrifoldeb wedi’u hamlinellu'n glir ar gyfer y ddau sefydliad.
Gellir rheoli’r agweddau ar y cydweithrediad sy’n ymwneud â’r rhaglen drwy weithdrefnau safonol y Brifysgol ar gyfer dod â rhaglenni i ben fel y nodir yn y Polisi Cymeradwyo Rhaglenni.
Dod â rhaglenni i ben yn hwyr
Lle mae’r penderfyniad i ddod â rhaglenni i ben wedi’i nodi’n hwyr yn y cylch academaidd (ar ôl 15 Ionawr), bydd Panel Cymeradwyaeth Strategol Cam 1 y Brifysgol yn ystyried y cais fel rhan o’r broses gymeradwyo strategol, a gallai fod angen gwybodaeth bellach gan Bennaeth yr Ysgol, gan gynnwys gwybodaeth am liniaru colled ariannol a diogelu profiad y myfyriwr.
Gallai panel y Brifysgol benderfynu na ddylid dod â’r rhaglen i ben oherwydd y risgiau posibl sy’n gysylltiedig ag atal y rhaglen ar fyr rybudd.
Hysbysu myfyrwyr presennol ac ymgeiswyr o’r penderfyniad i ddod â rhaglen i ben
Mae angen i ysgolion weithredu’r cynllun cyfathrebu sydd wedi’i nodi yn y Ffurflen Dod i Ben er mwyn sicrhau y cysylltir â’r holl fyfyrwyr presennol a/neu ymgeiswyr gyda gwybodaeth am y newidiadau sydd wedi’u gwneud yn unol â thelerau ac amodau cynnig y Brifysgol. Bydd cyswllt cynnar gyda'r Tîm Derbyn Myfyrwyr yn helpu i gefnogi’r broses o gysylltu ag ymgeiswyr a’u cynorthwyo i sicrhau eu bod yn ymwybodol o effaith dod â rhaglen i ben ac unrhyw gymorth y gellir ei gynnig i ddod o hyd i ddewisiadau amgen addas yn y brifysgol.
Adran 9: Profiad y myfyrwyr
Bydd statws cofrestru myfyrwyr a’r trefniadau a wneir gan y partneriaid ar y cyd i roi cymorth i fyfyrwyr yn amrywio’n sylweddol yn dibynnu ar y model cydweithredu ac yn ystyriaeth allweddol o broses gymeradwyo'r Cynllun Rheoli Partneriaeth.
Cefnogi myfyrwyr
Prifysgol Caerdydd sy’n gyfrifol am safonau’r dyfarniadau a wna mewn cydweithrediad â sefydliadau partner ac am ansawdd y profiad dysgu y mae’n ei ddarparu i fyfyrwyr. Felly, mae’n awyddus i ddiffinio pa gymorth y dylai partneriaid ar y cyd ei roi i fyfyrwyr pan nad yw’n darparu’r cymorth hwnnw ei hun.
Os bydd myfyrwyr cofrestredig yn talu ffioedd i Brifysgol Caerdydd yn uniongyrchol, bydd y brifysgol fel arfer yn rhoi cymorth a mynediad i adnoddau dysgu yn uniongyrchol.
Pan fydd myfyriwr yn talu ffioedd ac wedi’i gofrestru yn y lle cyntaf gyda phartner ar y cyd, bydd cyfrifoldeb yn cael ei drosglwyddo i’r partner i ddarparu cymorth a mynediad i adnoddau dysgu (neu drefnu hynny drwy eraill).
Cymorth gan Bartneriaid ar y Cyd
Mae’r wybodaeth ganlynol yn diffinio’r set ofynnol o rolau a gwasanaethau y mae’r brifysgol yn disgwyl eu gweld fel cymorth i fyfyrwyr sy’n ymgymryd â dyfarniad gyda phartner ar y cyd. Bydd y brifysgol yn ceisio sicrwydd am allu partner i ddarparu rolau a gwasanaethau o’r fath yn ystod y broses gymeradwyo sefydliadol a gellir sefydlu hyn ymhellach yn ystod ymweliad safle, os cynhelir un. Caiff y gwasanaethau sydd ar gael hefyd eu hystyried yn ystod y broses fonitro ac adolygu. Mae’r brifysgol yn derbyn, oherwydd meintiau a strwythurau gwahanol sefydliadau, ei bod yn bosibl nad oes swyddi neu swyddfeydd sy’n cyfateb i’r union deitl a nodir ac y gall amrywiaeth o staff ac unedau ddarparu’r rolau a’r gwasanaethau dan sylw.
- Cymorth ar lefel rhaglen: Cyfarwyddwr Rhaglen / Tiwtor Personol / Cynrychiolaeth myfyrwyr.
- Cymorth ar lefel sefydliadol: Cymorth adnoddau llyfrgell ac adnoddau dysgu / Adnoddau a chymorth Technoleg Gwybodaeth / Cymorth anabledd / Cymorth cwnsela / Cyngor llety / Cyngor ariannol / Cyngor gyrfa / Goruchwylio cofnodion gweinyddol a chofnodion myfyrwyr yn ganolog.
- Gwybodaeth am y Rhaglen: Gwybodaeth am y Rhaglen / Llawlyfr Myfyrwyr / Polisi ar Lên-ladrad / Gweithdrefn Apeliadau a Chwynion / Hysbysfyrddau / Cyngor Gwefan ar ddeddfwriaeth Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth / Trawsgrifiad o ganlyniadau / Ychwanegiad at Ddiploma / Gwybodaeth am y Brifysgol a natur y bartneriaeth.
- Cymorth cymdeithasol (lle bo'n briodol): Cyfleusterau chwaraeon / Cymdeithasau myfyrwyr / Undeb y Myfyrwyr (neu debyg).
Cwynion ac apeliadau
Mae gan unrhyw fyfyriwr sydd wedi’i gofrestru ar gyfer dyfarniad Prifysgol Caerdydd, yn cynnwys y rhai a gynigir gyda sefydliad partner, hawl i gwyno ac apelio drwy weithdrefnau arferol y Brifysgol. Felly, oni nodir yn glir fel arall yn y Memorandwm Cytundeb, fframwaith rheoleiddiol y Brifysgol ar gyfer cwynion ac apeliadau fydd yn berthnasol, nid fframwaith y sefydliad partner. Mae’r manylion llawn ar gael yn y Datganiad o Gyfrifoldebauyn Atodiad C.
Ymgysylltu â myfyrwyr mewn darpariaeth ar y cyd
Yng Nghaerdydd, rydym yn ymfalchïo yn lefel y cyswllt sydd gennym â’n corff o fyfyrwyr, gan roi cyfle i’r myfyrwyr leisio eu barn a bod yn bartneriaid ym mhrosesau gwneud penderfyniadau’r brifysgol. Rydym yn cefnogi system Cynrychiolaeth Academaidd y Myfyrwyr ac yn cynnal arolygon myfyrwyr rheolaidd i sicrhau ein bod bob amser yn gweithio er eu budd. Disgwylir i raglenni ar y cyd ddilyn yr un prosesau o ymgysylltu â myfyrwyr ar gyfer arolygon ym mhob rhan o’r brifysgol, gwerthuso modiwlau a chynrychiolaeth academaidd y myfyrwyr â’r rhai a ddefnyddir ar gyfer rhaglenni yng Nghaerdydd.
Caiff y dulliau cynrychiolaeth myfyrwyr eu monitro fel rhan o’r broses Adolygiad a Gwelliant Blynyddol a’u hadolygu fel rhan o’r broses Adolygiad Cyfnodol.
Ceir manylion llawn y wybodaeth sy’n ofynnol ar gyfer cymorth i fyfyrwyr ac ymgysylltu â myfyrwyr yn y Datganiad o Gyfrifoldebau yn Atodiad C.
Adran 10 Dysgu ar raglenni ar y cyd
Yn dibynnu ar natur y cydweithrediad, mae'r Ysgolion yn gyfrifol am gymeradwyo staff ar y cyd ar ran y brifysgol. Disgwylir y dylid cadw copïau cyfredol o CVs ar gyfer pob partner oherwydd gall asiantaethau allanol ofyn am y rhain fel rhan o archwiliadau yn y dyfodol.
Rhaid i Brifysgol Caerdydd gymeradwyo pob aelod o staff sy’n addysgu ar raglen sy’n arwain at ddyfarniad neu gredyd gan y Brifysgol cyn iddynt ddechrau addysgu6. Yn unol â Rheoliadau Asesu’r Senedd, dylai pob aseswr fod yn gymwys i ymgymryd â’i rôl, a dylai fod wedi’i addysgu a’i gefnogi’n briodol. Mae angen i ysgolion sicrhau bod pawb sy’n rhan o’r broses asesu yn cael ei baratoi a’i gefnogi’n briodol.
Cymeradwyo staff Darpariaeth ar y Cyd
Wrth gymeradwyo staff ar y cyd ar ran y brifysgol, mae Pennaeth yr Ysgol yn gyfrifol am y canlynol:
- nodi pa gymwysterau a phrofiad y mae’r brifysgol yn eu disgwyl gan staff sy’n addysgu ar y rhaglenni;
- rhoi amlinelliad o sut i wneud hynny i'r Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid.
Curriculum vitae
Dylid cyflwyno curriculum vitaecyfredol ar gyfer pob aelod o staff ar raglen neu fodiwl (sy’n arwain at ddyfarniad gan y brifysgol) i’r Ysgol ei gymeradwyo. Mae hyn yn cynnwys pob aelod o staff amser llawn, rhan amser a staff sesiynol. Yn ogystal, rhaid cyflwyno curriculum vitaei’w gymeradwyo ar gyfer unrhyw aelod o staff a gyflogir i weithio yn lle aelod o staff a gymeradwywyd sydd ar absenoldeb salwch hirdymor. Nid oes angen i’r curriculum vitaefod yn hir ond mae’n rhaid iddo ddarparu’r holl wybodaeth berthnasol er mwyn sicrhau y gellir gwneud penderfyniad hyddysg. Mae’n bwysig bod y wybodaeth yn berthnasol i’r addysgu arfaethedig - fel arfer, ni ddylai’r curriculum vitaefod yn hirach na dwy neu dair ochr A4 ond dylai nodi’n glir y cymwysterau a’r profiad priodol.
Meini prawf ar gyfer cymeradwyaeth
Dylid cymhwyso’r meini prawf canlynol wrth ystyried p’un a ellir cymeradwyo staff:
- fel arfer, dylid darparu tystiolaeth o gydnabyddiaeth academaidd, fel cofnod sicr o gyhoeddiadau ymchwil yn y maes dan sylw. Lle na fydd hyn ar gael, dylid cyflwyno unrhyw dystiolaeth arall i wneud yn iawn am y ffaith nad oes gan yr unigolyn radd uwch;
- fel arfer, mae’r brifysgol yn disgwyl i staff addysgu feddu ar radd mewn pwnc perthnasol ar lefel sy’n uwch na’r rhaglen a addysgir, e.e. ar gyfer rhaglen gradd BA neu BSc, dylai’r staff feddu ar gymhwyster Meistr o leiaf; ar gyfer MA neu MSc, dylent feddu ar ddoethuriaeth. Fodd bynnag, mewn rhai disgyblaethau nid yw hyn yn bosibl o hyd ac mae’n bosibl y bydd cymwysterau neu brofiad arall yn fwy perthnasol. Er enghraifft, mewn pynciau galwedigaethol, gall profiad proffesiynol, ynghyd â dyfarniad academaidd priodol, fod yn fwy priodol. Pan fydd Sefydliadau Partner yn enwebu staff â chymwysterau ansafonol, dylent ddarparu llythyr esboniadol sy’n egluro pam mae’r enwebai yn addas i addysgu ar y rhaglen a rhoi gwybodaeth am gyfansoddiad tîm cyffredinol y rhaglen y bydd yn gweithio arni ac unrhyw gynlluniau datblygu staff;
- gall tystiolaeth o gofnod sicr o waith ymchwil hefyd wneud iawn am absenoldeb gradd uwch. Er y gall tystysgrifau addysgu ôl-raddedig ddynodi hyfforddiant mewn dulliau ac arferion addysgu a dysgu, nid ydynt yn ddigonol ynddynt eu hunain a rhaid iddynt gael eu hategu gan gymwysterau pwnc-benodol priodol.
6 Nid oes angen i ddarlithwyr gwadd na staff sy’n cymryd rhan mewn tiwtorialau a chyflwyniadau seminar gael eu cymeradwyo cyhyd â’u bod yn cael eu goruchwylio gan aelod o staff cymeradwy.
Adran 11: Cyrff proffesiynol, statudol a rheoleiddiol
Mae gan rai Cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol ofynion penodol ynghylch achredu partneriaid ar y cyd Sefydliadau Addysg Uwch (e.e. Cymdeithas y Cyfreithwyr, y Cyngor Meddygol Cyffredinol).
Mae’n hanfodol bod Ysgolion yn cysylltu ag unrhyw Gorff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol y maent yn gysylltiedig â hwy i geisio arweiniad ar y maes gweithgarwch hwn cyn cynnig trefniant ar y cyd newydd. Os nad oes gan y Corff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol ofynion penodol, caiff yr arweiniad canlynol ei gynnig i ysgolion a phartneriaid ar y cyd sy’n cydweithio â chyrff proffesiynol ar drefniadau ar y cyd.
Os caiff rhaglen ar y cyd gydnabyddiaeth swyddogol gan gorff proffesiynol, dylid ystyried y pwyntiau canlynol:
- y camau sy’n ofynnol i gael achrediad, yn cynnwys unrhyw gymorth gan y Brifysgol neu ryngweithio sydd ei angen gyda’r Corff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol;
- rhaid anfon copïau o unrhyw lythyrau cymeradwyo, adroddiadau a chynlluniau gweithredu dilynol at Bennaeth yr Ysgol i’w hystyried;
- rhaid i staff y Brifysgol gwrdd â’r Corff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol os oes angen, o bosibl fel rhan o’r ymweliad cymeradwyo;
- gellir gwahodd staff y Corff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol i gymryd rhan ym mhroses Adolygiad Cyfnodol y Brifysgol os yw’n bosibl cyfuno proses achredu ag elfennau o’r Adolygiad Cyfnodol. Deon y Coleg yn y Coleg perthnasol sy’n gyfrifol am benderfynu a ellir cyfuno digwyddiad achredu ag agweddau ar yr Adolygiad Cyfnodol;
- rhaid i unrhyw ryngweithio â chyrff proffesiynol gael ei werthuso a’i gofnodi fel rhan o broses yr Adolygiad a Gwelliant Blynyddol a’r Adolygiad Cyfnodol.
Atodiad A: Cyfrifoldebau am oruchwylio a rheoli darpariaeth ar y cyd
Maes Gwaith | Cyfrifoldeb yr Ysgol | Cyfrifoldeb y Coleg | Goruchwyliaeth Ganolog | Sylwadau |
---|---|---|---|---|
Cymeradwyo’r Rhaglenni ar y Cyd Newydd a newidiadau i'r ddarpariaeth bresennol | Bydd y Bwrdd Astudio'n rhoi sylw ar y cynnig cychwynnol ac yn cefnogi craffu ar unrhyw ddogfennaeth ddrafft. Pennaeth yr Ysgol Cymeradwyo rhesymeg mewn egwyddor a chadarnhau unrhyw adnodd ychwanegol a nodwyd yn y cynnig. Ar gyfer newidiadau i ddarpariaeth bresennol, mae'n rhaid i bennaeth yr Ysgol nodi a oes unrhyw newid perthnasol i'r trefniadau cyfreithiol. | Rhag is-ganghellor yn argymell cymeradwyo cynnig strategol Cam 1 i Banel Cam 1 y Brifysgol Bydd Rhag Is-ganghellor y Brifysgol (gyda chefnogaeth staff academaidd a staff cefnogi proffesiynol eraill) yn dadansoddi'r wybodaeth strategol, ariannol, a gwybodaeth y farchnad cyn argymell bod panel y Brifysgol yn cymeradwyo symud ymlaen i gam 2. Bydd Deon y Coleg yn gwneud cais am wybodaeth bellach o'r Swyddfa Ryngwladol lle'n angenrheidiol. | Panel Cymeradwyo Cam 1 y Brifysgol Bydd y panel y Brifysgol (gyda chefnogaeth staff academaidd a staff cefnogi proffesiynol eraill) yn dadansoddi'r wybodaeth strategol, ariannol, a gwybodaeth y farchnad ac argymhellion Coleg cyn cymeradwyo cynnig i symud ymlaen i gam 2. Y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd: Awgrymiad gan y Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid i gadarnhau safonau academaidd, ac ym mha flwyddyn academaidd y caiff y rhaglen newydd ei rhoi ar waith. | Cefnogaeth ar gyfer cymeradwyo rhaglen newydd gan Swyddogion Ansawdd y Coleg a Swyddogion Addysg y Coleg yn y Gofrestrfa, gyda'r Swyddfa Ryngwladol yn cynnig cefnogaeth benodol ar gyfer diwydrwydd dyladwy at ddibenion asesu risg o ran y partner. Efallai y bydd angen cymorth gwasanaeth proffesiynol arall ar sail fesul achos. |
Monitro blynyddol | Y Bwrdd Astudio Ystyried Adroddiadau'r Safonwr a'r Arholwr Allanol bob blwyddyn a rhoi camau gweithredu ar waith lle bo hynny'n angenrheidiol. Pennaeth yr Ysgol i gasglu ac ystyried data ynghylch cynnydd a dyfarniadau myfyrwyr, adroddiadau safonwyr ar raglenni ar y cyd ac adrodd drwy’r Adolygiad a Gwelliant Blynyddol. | Cyfarfodydd Adolygiad a Gwelliant Blynyddol (ARE) y Coleg: Goruchwylio Adroddiadau ARE yr Ysgol Adroddiadau sy’n cyfeirio’n benodol at ddarpariaeth ar y cyd. Bydd Deoniaid y Coleg (addysgu ac ymchwil) yn hysbysu'r ASQC am ddadansoddiad yr adroddiadau ARE ar bob gweithgaredd darpariaeth ar y cyd (addysgu ac ymchwil) yn atodol i unrhyw faterion a godir drwy gyfrwng y Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid. | Y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd: Trosolwg drwy gyfrwng Adroddiad Ansawdd Blynyddol a diweddariadau gan y Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid ar ddatblygiadau polisi. | Cymorth ynghylch gofynion hysbysu blynyddol a ddarperir gan Swyddog Ansawdd y Colegau a Swyddogion Addysg y Coleg yn y Gofrestrfa. Efallai y bydd angen cymorth gwasanaeth proffesiynol arall ar sail fesul achos. |
Adolygiad cyfnodol | Pennaeth yr Ysgol i gyfrannu at yr Adolygiad Cyfnodol fel ar gyfer darpariaeth safonol yn hysbysu ar unrhyw sbardunau strategol a ddynodir ar gyfer cynyddu/gostwng gweithgaredd ar y cyd. | Deoniaid Colegau (addysgu ac ymchwil) i hysbysu'r ASQC am ganlyniadau gwerthusiad pob darpariaeth ar y cyd â chynllun gweithredu penodol ar gyfer datblygu ymhellach, neu 'teach out' ar gyfer darpariaethau presennol ag amserlenni. | Y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd: Trosolwg drwy gyfrwng Adroddiad Ansawdd Blynyddol a diweddariadau gan y Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid ar ganlyniadau unrhyw adolygiadau CP a gynhaliwyd. | Cefnogaeth ar gyfer hysbysu ynghylch adolygiadau CP gan Swyddogion Ansawdd y Coleg a Swyddogion Addysg y Coleg yn y Gofrestrfa, gyda'r Swyddfa Ryngwladol yn cynnig cefnogaeth benodol ar gyfer diwydrwydd dyladwy at ddibenion asesu risg o ran y partner. Efallai y bydd angen cymorth gwasanaeth proffesiynol arall ar sail fesul achos. |
Adolygu ac adnewyddu cytundeb ar y cyd sy’n bodoli eisoes Cytundeb | Pennaeth yr Ysgol i adolygu cytundeb o leiaf 18 mis cyn iddo ddod i ben a gwneud cais naill ai i ymestyn y bartneriaeth ymhellach neu ei ddirwyn i ben ar ddiwedd y cytundeb. Amserlenni penodol ar gyfer cyflwyno dogfennaeth adnewyddu/dirwyn i ben i'r Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid i'w gosod yn ARE. Y Swyddfa Ryngwladol sy'n rhoi cefnogaeth benodol ar gyfer diwydrwydd dyladwy gyda'r broses o asesu risg o ran partner, os yw'r cytundeb i'w adnewyddu. | Deon y Coleg (addysgu ac ymchwil) i wneud yn siŵr bod yr holl gytundebau ar y cyd sy'n nesáu at y cyfnod adnewyddu 18 mis yn cael eu trafod a'u gwerthuso yn ARE. Mae'n rhaid cytuno ar amserlenni penodol ar gyfer y gweithgaredd hwn. | ASQC (drwy gyfrwng y Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid): Goruchwylio cytundebau ar y cyd a chanlyniadau unrhyw adolygiadau CP sy'n cael eu cynnal. Hysbysu ychwanegol ar y broses CP drwy gyfrwng Adroddiad Ansawdd Blynyddol ar amserlenni er mwyn adolygu gweithgareddau a diweddariadau i'r polisi. | Cymorth i ddrafftio cytundebau ar y cyd gan y Gofrestrfa a’r Gwasanaethau Academaidd a’r Swyddfa Ryngwladol. Cytundebau i gael eu hanfon gan Y Pennaeth Ansawdd a Safonau i’w llofnodi gan y Dirprwy Is-ganghellor Profiad Myfyrwyr ar ran y Brifysgol. |
Atodiad B: Tacsonomeg Darpariaeth Gydweithredol
Gweithgaredd | Llwybr Cymeradwyo | Monitro parhaus | Categori Risg | |
---|---|---|---|---|
1 | Darpariaeth cymorth dysgu, adnoddau a chyfleusterau arbenigol gan sefydliad allanol ar gyfer gweithgarwch sy’n arwain at gredydau a gweithgarwch nad yw’n arwain at gredydau | Wedi'i hystyried gan y Bwrdd Astudio a'i cymeradwyo gan Bennaeth yr Ysgol | Y Bwrdd Astudio a Phennaeth yr Ysgol i ailadrodd gwiriadau o ddarpariaeth pan adnewyddir cytundebau. | 1 |
2 | Lleoliadau nad ydynt yn arwain at gredydau(os mai'r Ysgol / y Ganolfan Cyfleoedd Byd-eang sy'n gyfrifol am gyrchu / trefnu’r lleoliad) Gofynion llawn wedi'u hamlinellu yn y Polisi Dysgu ar Leoliad | Ni roddir cymeradwyaeth ffurfiol am ei bod yn weithgaredd nad sy'n dwyn credyd. Y Ganolfan Cyfleoedd Byd Eang i roi cyngor ac arweiniad i Ysgolion a Myfyrwyr ar asesiadau risg priodol ar gyfer partneriaid sefydledig. | Y Ganolfan Cyfleoedd Byd-eang yn gwerthuso’r lleoliadau | 1 |
3 | Dewisol / y Cyngor Sgiliau Sector | Wedi'i hystyried gan y Bwrdd Astudio a'i cymeradwyo gan Bennaeth yr Ysgol | Adolygiad Blynyddol a Gwelliant (ARE) | 2 |
4 | Cytundebau Cynnydd* (derbyn i flwyddyn gyntaf rhaglen bresennol) Trefniadau yw’r rhain lle gellir ystyried derbyn myfyrwyr sydd wedi cwblhau'r rhaglen mewn un sefydliad yn llwyddiannus, i ddechrau rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd. E.e. Blwyddyn Sylfaen i flwyddyn gyntaf rhaglen *Ni warentir mynediad a chaiff rheolaethau niferoedd eu rheoli gan y cytundeb cyfreithiol | Achos Busnes Mewnol wedi'i gymeradwyo’n ffurfiol a'i lofnodi gan Cyfarwyddwr y Swyddfa Ryngwladol, Pennaeth yr Ysgol, Cofrestrydd y Coleg a Phennaeth Ansawdd a Safonau o'r Gofrestrfa | Monitro niferoedd, perfformiad a chynnydd myfyrwyr drwy Fonitro Cynnydd Adolygiad a Gwelliant Blynyddol/ Ymchwil Ôl-raddedig | 2 |
5 | Cytundebau mynegiant* - caiff myfyrwyr eu derbyn ag uwch-sefyllfa i gam dilynol o raglen Prifysgol Caerdydd. *Ni warentir mynediad a chaiff rheolaethau niferoedd eu rheoli gan y cytundeb cyfreithiol. | Achos Busnes Mewnol wedi'i gymeradwyo’n ffurfiol a'i lofnodi gan Cyfarwyddwr y Swyddfa Ryngwladol, Pennaeth yr Ysgol, Cofrestrydd y Coleg a Phennaeth Ansawdd a Safonau yn y Gofrestrfa | Mae'n ofynnol mapio cwricwlwm wrth sefydlu ac adnewyddu cytundebau. Monitro niferoedd, perfformiad a chynnydd myfyrwyr drwy Fonitro Cynnydd Adolygiad a Gwelliant Blynyddol/ Ymchwil Ôl-raddedig | 2 |
6 | Goruchwylio graddau ymchwil ar y cyd (goruchwyliaeth gan SAU arall/partner diwydiant/cwmni gyda Dyfarniad Sengl o Brifysgol Caerdydd | Cymeradwyaeth Pennaeth yr Ysgol; Cymeradwyaeth y Coleg (e.e. os cynigir ildio ffi) | Monitro Cynnydd Ymchwil Ôl-raddedig | 2 |
7 | PhD fel rhan o Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol / Canolfan Hyfforddiant Doethurol* (Fel arfer yn llunio hyfforddiant gradd ymchwil ar y cyd ynghyd â darpariaeth drwy gonsortiwm ffurfiol o sefydliadau ymchwil) | Cymeradwyaeth Bwrdd Gweithredol y Brifysgol; Cymeradwyaeth y Cyfarwyddwr Arian | Monitro Cynnydd Ymchwil Ôl-raddedig | 2 |
8 | Astudio dramor sy'n dwyn credydau, gan gynnwys cyfnewidfeydd a rhaglenni symudedd myfyrwyr megis ERASMUS Gofynion llawn wedi'u hamlinellu yn y Polisi Astudio Dramor | Cais mewnol wedi’i gymeradwyo’n ffurfiol a’i lofnodi gan Pennaeth yr Ysgol i gymeradwyo lefel yr astudiaeth a mecanweithiau trosi graddau i'w gosod cyn i'r myfyriwr ddechrau ar y gweithgaredd. Rhag Is-ganghellor y Coleg (Cynigion ledled y Coleg); Rhag Is-ganghellor Addysg a Myfyrwyr (cynigion ledled y Brifysgol) | Yr Ysgol i hysbysu ynghylch cynnydd y myfyrwyr sy'n dychwelyd drwy gyfrwng yr Adolygiad Blynyddol a Gwelliant (ARE). Monitro drwy gyfrwng arolwg lleoliad | 3 |
9 | Modiwlau Lleoliad sy'n dwyn credydau a 120 credyd o weithgaredd lleoliad proffesiynol) Gofynion llawn wedi'u hamlinellu yn y Polisi Dysgu ar Leoliad | Wedi'i hystyried gan y Bwrdd Astudio a'i cymeradwyo gan Bennaeth yr Ysgol. | Yr Ysgol i hysbysu ynghylch cynnydd y myfyrwyr sy'n dychwelyd drwy gyfrwng yr Adolygiad Blynyddol a Gwelliant (ARE). Monitro drwy gyfrwng arolwg lleoliad | 3 |
10 | Myfyrwyr PhD ar fwy nag un safle (mae’r myfyriwr yn treulio amser mewn Sefydliad Addysg Uwch neu sefydliad ymchwil arall) Dyfarniad Sengl o Brifysgol Caerdydd | Pennaeth yr Ysgol; Pennaeth y Coleg Panel Cymeradwyo Cam 1 y Brifysgol Cymeradwyaeth Derfynol y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd | Monitro Cynnydd Ymchwil Ôl-raddedig | 3 |
11 | Doethuriaeth ar y cyd – Ymchwil Ôl-raddedig yn unig Mae myfyriwr yn treulio amser ym mhob sefydliad. Dyfarniad ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Partner (tystysgrif sengl) | Partner Strategol a gymeradwywyd gan Fwrdd Gweithredol y Brifysgol; Tîm Datblygu Doethuriaeth; Argymhelliad Bwrdd Gweithredol y Brifysgol; Panel Cymeradwyo Cam 1 y Brifysgol Panel Cymeradwyo Doethuriaeth ar y Cyd; Cymeradwyaeth derfynol y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd | Monitro Cynnydd Ymchwil Ôl-raddedig | 3 |
12 | Dysgu o bell a darpariaeth ar-lein/cyrsiau ar-lein agored ac enfawr (Mocs) sy'n cynnwys gwaith gyda sefydliadau cyflenwi neu ddarparwyr cymorth. | Pennaeth yr Ysgol i asesu'r risg sy'n gysylltiedig â'r defnydd o hynny a'r sefydliad allanol i gefnogi'r broses o drosglwyddo'r ddarpariaeth gyfan/rhan ohoni. Bydd cymeradwyaeth ffurfiol yn dibynnu ar lefel a chwmpas y ddarpariaeth. Cytundeb cyfreithiol rhwng Prifysgol Caerdydd a sefydliad arall. | Yn dibynnu ar lefel a chwmpas y ddarpariaeth. Ar gyfer rhaglenni, bydd Ysgolion yn hysbysu ar lwyddiant y bartneriaeth drwy gyfrwng yr Adolygiad Blynyddol a Gwelliant (ARE). | 4 |
13 | Cyfadran symudol* Trefniant pan fo rhaglen yn cael ei chynnig rhywle gwahanol i'r prif gampws (mewn gwlad arall gan amlaf) gan staff o'r corff dyfarnu sydd hefyd yn cynnal yr holl asesiadau. Gall staff lleol roi cymorth i fyfyrwyr. *nid yw’n cynnwys staff sy'n ymgymryd â gwaith ymgynghorol | Panel Cam 1 y Brifysgol i gymeradwyo cymeradwyaeth strategol Cam 1 gan gynnwys asesu risg CP a chyllid cysylltiol. Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid i awgrymu bod ASQC yn cymeradwyo Cymeradwyaeth Academaidd Cam 2 gan gynnwys ymweliad adnoddau CP a Chynllun Rheoli Partneriaeth. Cytundeb cyfreithiol terfynol rhwng Prifysgol Caerdydd a sefydliad arall. | Adroddiadau Arholwyr Allanol Adroddiadau Safonwyr (wedi'u craffu gan y Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid) Adolygiad Blynyddol a Gwelliant (ARE) Adolygiad Cyfnodol | 4 |
14 | Campws cangen – y DU / Rhyngwladol* Campws o’r coleg sydd wedi’i leoli ar wahân i brif gampws neu gampws ‘cartref’ y Brifysgol neu'r coleg. | Gofyn am gymeradwyaeth gan y Brifysgol yn amlinellu'r llwybr cymeradwyo penodol, gan nad oes mecanwaith cymeradwyo presennol wedi'i osod. | 5 | |
15 | Colegau Sefydledig – sefydliadau preifat sydd fel arfer yn ymwneud â’r broses o baratoi myfyrwyr i raglenni addysg uwch | Gofyn am gymeradwyaeth gan y Brifysgol yn amlinellu'r llwybr cymeradwyo penodol, gan nad oes mecanwaith cymeradwyo presennol wedi'i osod. | 5 | |
16 | Dyfarniadau Deuol Dau gorff dyfarnu neu fwy gyda'i gilydd sy’n darparu un rhaglen a gyflwynir ar y cyd gan arwain at ddyfarniadau ac ardystiadau ar wahân (ar gyfer un darn o waith). Mae'n rhaid bod y rheoliadau sy'n llywodraethu'r rhaglen a'r fethodoleg ar gyfer cyfrifo pob dyfarniad yn gwbl glir wrth Gam 1 y broses gymeradwyo. | Cymeradwyaeth Lawn o'r Rhaglen yn unol â'r gweithdrefnau a amlinellir yn Y Polisi Cymeradwyo Rhaglenni a'r Polisi Darpariaeth Gydweithredol Cymeradwyaeth derfynol y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd | Adroddiadau Arholwyr Allanol Adroddiadau Safonwyr (wedi'u craffu gan y Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid) Adolygiad Blynyddol a Gwelliant (ARE) Adolygiad Cyfnodol | 6 |
17 | Rhaglenni breiniol* Proses y bydd corff dyfarnu graddau yn ei dilyn i gytuno i awdurdodi sefydliad cyflenwi i ddarparu (ac weithiau asesu) rhan o un (neu fwy) o’i rhaglenni cymeradwy ei hun neu’r rhaglenni cyfan. *Mae gan Brifysgol Caerdydd ddarpariaeth freiniol y DU yn unig ac ystyrir penderfyniadau i ddatblygu ymhellach ar sail fesul achos | Y Brifysgol i ystyried partner arfaethedig. Cymeradwyaeth Lawn o'r Rhaglen yn unol â'r gweithdrefnau a amlinellir yn Y Polisi Cymeradwyo Rhaglenni a'r Polisi Darpariaeth Gydweithredol Cymeradwyaeth derfynol y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd | Adroddiadau Arholwyr Allanol Adroddiadau Safonwyr (wedi'u craffu gan y Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid) Adolygiad Blynyddol a Gwelliant (ARE) Adolygiad Cyfnodol | 6 |
18 | Dilysu* Rhaglen a ddatblygwyd gan sefydliad allanol ac a gyflwynir i’w dilysu gan y Brifysgol fel un o ddyfarniadau’r Brifysgol. *Nid yw Prifysgol Caerdydd yn bwriadu datblygu darpariaeth wedi'i dilysu | Gofyn am gymeradwyaeth gan y Brifysgol yn amlinellu'r llwybr cymeradwyo penodol, gan nad oes mecanwaith cymeradwyo presennol wedi'i osod. | 6 |
I gael esboniad manwl o lwybrau gymeradwyaeth a ffurflenni cysylltiedig, cysylltwch â'ch Swyddog Ansawdd y Coleg ar quality@caerdydd.ac.uk
Atodiad C: Datganiad o Gyfrifoldebau
Yn y ddogfen hon, mae’r gair ‘Partner’ yn cyfeirio at y Sefydliad Partner.
Mae’r datganiad hwn o gyfrifoldebau yn berthnasol i’r holl raglenni a chaiff unrhyw achos o wyro oddi wrth unrhyw ran o hyn ar gyfer unrhyw raglenni nodi yn y Cytundeb Rhaglen unigol.mynd i’r afael ag unrhyw amodau/ argymhellion a bennwyd neu a godwyd gan y Brifysgol mewn perthynas ag adnoddau ffisegol lleol sy’n gysylltiedig â chymeradwyaethau rhaglenni unigol, ac am sicrhau bod cyllid ar gael i gynnal a datblygu’r adnoddau ffisegol sydd eu hangen i gynorthwyo’r holl raglenni cymeradwy yn ddigonol.
Cyfrifoldebau’r Brifysgol - | Cyfrifoldebau’r Partner - |
---|---|
Cymeradwyo, Cyflwyno, Monitro ac Adolygu Rhaglenni | |
cymeradwyo pob Rhaglen a chadw cofnod o’r holl benderfyniadau ffurfiol yn ymwneud â chymeradwyo Rhaglenni. | |
ansawdd a safonau academaidd y Rhaglen(ni). Bydd y Rhaglen(ni) yn dilyn gweithdrefnau’r Brifysgol fel yr amlinellwyd yng Nghôd Ymarfer Sicrhau Ansawdd y Brifysgol. | rheoli a chyflwyno’r Rhaglen(ni) o ddydd i ddydd a’u hadolygu’n barhaus yn unol â phrosesau mewnol y Partner. |
sicrhau bod gweithdrefnau priodol ar waith ar gyfer monitro blynyddol ac adolygu’n gyfnodol; am graffu ar adroddiadau monitro blynyddol ac adolygiadau cyfnodol; a sicrhau y cymerir camau mewn ymateb i unrhyw faterion yn yr adroddiadau hyn sy’n peri pryder. | drafftio adroddiadau monitro blynyddol a’u cyflwyno i’r Brifysgol mewn modd amserol a chyfranogi yn y prosesau adolygu cyfnodol yn unol â gweithdrefnau’r Brifysgol, gan gynnwys darparu ystadegau allweddol. |
ystyried a chymeradwyo unrhyw newidiadau dilynol i’r Rhaglen(ni) a’r modiwlau yn unol â gweithdrefnau’r Brifysgol cyn iddynt gael eu gweithredu, ac am gadw cofnod o’r holl benderfyniadau ffurfiol yn ymwneud â newidiadau i’r Rhaglen(ni) presennol. | |
Cyhoeddusrwydd a Marchnata | |
cynorthwyo’r Partner i farchnata rhaglenni trwy gyflenwi cyhoeddiadau’r Brifysgol a deunydd cyffredinol arall. | |
marchnata’r rhaglen yn rhagweithiol | |
cynhyrchu’r holl ddeunydd cyhoeddusrwydd a hyrwyddo sy’n gysylltiedig â’r Rhaglen(ni) | |
cymeradwyo’r holl ddeunydd cyhoeddusrwydd a hyrwyddo sy’n gysylltiedig â’r Rhaglen(ni) cyn cyhoeddi yn unol â’i bolisïau perthnasol | cyn cyhoeddi, cael cymeradwyaeth y Brifysgol i’r holl ddeunydd cyhoeddusrwydd a hyrwyddo sy’n gysylltiedig â’r Rhaglen(ni) mewn modd amserol. |
cael caniatâd, ymlaen llaw, gan y Brifysgol i ddefnyddio enw a/neu logo’r Brifysgol mewn unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd neu hyrwyddo argraffedig neu electronig. | |
Recriwtio, Dethol a Derbyn Myfyrwyr a Gweinyddu Ffioedd | |
cytuno ar dargedau derbyn gyda’r Partner. | rhoi adroddiad blynyddol am dargedau a chynlluniau derbyn rhagamcanol ar gyfer pob Rhaglen. |
hysbysu’r Brifysgol yn flynyddol am dargedau derbyn | |
cael cytundeb ymlaen llaw gan y Brifysgol ynglŷn â’r meini prawf derbyn ar gyfer rhaglen | |
recriwtio i’r rhaglen(ni) | |
darparu cymorth ar gyfer recriwtio i’r rhaglen(ni) | |
cynghori darpar fyfyrwyr ynghylch y gofynion mynediad sydd wedi’u cymeradwyo ar gyfer y Rhaglen(ni) a gofynion mynediad cyffredinol y Brifysgol, a chynorthwyo myfyrwyr i wneud ceisiadau | |
cynnig lleoedd i fyfyrwyr (Swyddfa Derbyniadau’r Brifysgol) | |
cynnig lleoedd i fyfyrwyr a darparu cymorth ar gyfer gweithgareddau ‘clirio’ | |
darparu cymorth ar gyfer gweithgareddau ‘clirio’ | |
cofrestru myfyrwyr | |
gweithdrefnau ymrestru yn y Partner | |
rhoi manylion byr a chyfoes i’r Brifysgol am fyfyrwyr cofrestredig at ddibenion dyfarnu a dibenion cysylltu cysylltiedig. | |
cadw cronfa ddata o fyfyrwyr cofrestredig at ddibenion dyfarnu a dibenion cysylltu cysylltiedig | |
cyn pen 14 diwrnod, darparu i’r Brifysgol fanylion cyswllt diweddar a gwybodaeth am statws myfyrwyr sydd wedi ymrestru ar bob Rhaglen. | |
ymgynghori â’r Brifysgol ynghylch lefel y ffioedd i’w codi ar y myfyrwyr | |
casglu’r holl ffioedd sy’n gysylltiedig â’r Rhaglen(ni) ac am lenwi ffurflenni i asiantaethau cenedlaethol ac asiantaethau eraill (e.e. CCAUC, HESA) fel y bo’n briodol, oni bai y pennir trefniadau gwahanol yn y Memoranda Ariannol. | |
casglu’r holl ffioedd sy’n gysylltiedig â’r Rhaglen(ni) ac am lenwi ffurflenni i asiantaethau cenedlaethol ac asiantaethau eraill (e.e. CCAUC, HESA) fel y bo’n briodol, oni bai y pennir trefniadau gwahanol yn y Memoranda Ariannol. | |
sicrhau, lle bo angen, bod myfyrwyr wedi cael sêl bendith priodol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. | |
Gwybodaeth i Fyfyrwyr | |
rhoi rhestr o’r cynnwys hanfodol ar gyfer llawlyfrau rhaglenni i’r partner bob blwyddyn a bod yn dawel ei meddwl bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth ddigonol ar y dechrau | rhoi llawlyfr Rhaglenni i fyfyrwyr sy’n rhoi manylion y Rhaglen(ni) iddynt, gan gynnwys gofynion asesu a gwybodaeth am eu perthynas â’r Partner a’u perthynas academaidd â’r Brifysgol. |
rhoi Llawlyfr y Myfyrwyr i’r Myfyrwyr | |
yn ogystal, ar gyfer anfon copi o bob llawlyfr ar ddechrau pob blwyddyn academaidd. | |
Trefniadau Asesu ac Arholi | |
darparu deunydd ysgrifennu ar gyfer arholiadau | |
amserlennu arholiadau, darparu ac ariannu ystafelloedd a goruchwylio arholiadau, geiriaduron cymeradwy ac offer fel cyfrifianellau, ac am roi digon o wybodaeth ymlaen llaw i’r holl fyfyrwyr am y trefniadau ar gyfer arholiadau. | |
cymeradwyo a phenodi Arholwyr/Cynghorwyr Allanol a rhoi hyfforddiant ymsefydlu am rôl yr Arholwr/Cynghorydd Allanol | gwneud trefniadau ar gyfer ymsefydlu Arholwr/Ymgynghorydd Allanol yn lleol. |
Mewn cyswllt a’r Partner, gwneud trefniadau ar gyfer cyfarfodydd Bwrdd Arholwyr | |
pennu’r lefel tâl, a gwneud taliadau, i’r Arholwyr/ Ymgynghorwyr Allanol | |
cynhyrchu trawsgrifiadau credyd, tystysgrifau dyfarniad a chadw archif o ganlyniadau’r myfyrwyr | cadw cofnod llawn o’r holl raglenni astudio yr ymgymerwyd â nhw gan bob un o’r ymgeiswyr sydd wedi cofrestru ar gyfer y Dyfarniad(au) a chadw sgriptiau arholiadau a gwaith asesedig arall sy’n cyfrannu at y Dyfarniad terfynol, am gyfnod o un flwyddyn ar ôl cwblhau’r rhaglen neu dynnu allan yn gynharach |
sicrhau bod seremonïau dyfarnu yn cael eu trefnu a’u hariannu’n amserol ar gyfer pob Rhaglen | |
sicrhau bod seremonïau dyfarnu yn cael eu trefnu a’u hariannu’n amserol ar gyfer pob Rhaglen | |
rhoi gwybodaeth gyson i’r Partner am newidiadau i Reoliadau’r Brifysgol, Codau Ymarfer yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd neu ofynion eraill yn ymwneud ag Asesu | asesu myfyrwyr yn ôl manylebau a rheoliadau rhaglenni cymeradwy a chyfredol a Chôd Ymarfer Sicrhau Ansawdd y Brifysgol, Asesu neu Reoliadau eraill, yn cynnwys y rheiny ar gyfer asesu parhaus neu asesu atodol. |
cynorthwyo’r Partner wrth gynnig gweithgareddau datblygu staff addas sy’n cefnogi asesu effeithiol, marcio trwyadl a phrosesau safoni ac adborth buddiol i fyfyrwyr | |
rhoi adborth amserol a digonol i fyfyrwyr am waith asesedig gan ddynodi sut gellir perfformio’n well yn y dyfodol. | |
cynorthwyo’r Partner i ddatblygu strategaethau lleol i godi ymwybyddiaeth o lên-ladrad a mathau eraill o dwyllo, canfod pob trosedd yn ymwneud ag asesu ac i weithredu’r gweithdrefnau a’r cosbau a ragnodwyd o dan Gôd Ymarfer Sicrhau Ansawdd y Brifysgol. | sicrhau bod yr holl fyfyrwyr yn cael gwybod yn gynnar yn eu cyfnodau astudio sut i osgoi llên-ladrad a’r cosbau ar gyfer hyn a mathau eraill o dwyllo; sicrhau bod yr holl staff addysgu ar y Rhaglen(ni) yn gwybod am y gofyniad i hysbysu’n ddi-oed ynghylch yr holl gyfryw droseddau honedig er mwyn ymchwilio iddynt ymhellach |
cefnogi myfyrwyr i gwblhau’r Prawf Gonestrwydd Academaidd yn llwyddiannus. | |
Cwynion ac Adolygiadau Academaidd Myfyrwyr (Apeliadau) | |
derbyn a delio â chwynion myfyrwyr, nad ydynt wedi’u datrys yn anffurfiol gan y Partner yn y lle cyntaf. Defnyddir gweithdrefnau’r Brifysgol i fynd i’r afael â chwynion ffurfiol gan fyfyrwyr. | yr ymgais gychwynnol i ddatrys cwynion gan fyfyrwyr neu’u cynrychiolwyr gan ddefnyddio gweithdrefnau safonol y Partner. |
derbyn a delio â cheisiadau am Adolygiadau Academaidd (Apeliadau) yn unol â Rheoliadau presennol y Brifysgol | hysbysu myfyrwyr am eu hawliau am Adolygiad Academaidd (Apêl). |
darparu mynediad i gymorth gan Undeb y Myfyrwyr wrth wneud cais am Adolygiad Academaidd | |
sicrhau bod polisi cwynion myfyrwyr Addysg Uwch llawn y partneriaid yn cael ei gyhoeddi i fyfyrwyr yn y llawlyfr rhaglenni a bod myfyrwyr yn cael gwybod sut mae polisïau partner yn bwydo i mewn i weithdrefn gwyno’r Brifysgol. | |
Staffio, Recriwtio a Datblygu | |
cymeradwyo staff fydd yn addysgu ar y Rhaglen(ni). | dewis a recriwtio staff, am gyflwyno ffurflenni cymeradwyo staff yn brydlon i’r Brifysgol, hefyd sicrhau bod y Brifysgol yn cael gwybod ymlaen llaw am gynigion i newid staff sy’n addysgu ar unrhyw Raglen benodol. |
cymeradwyo’r Arweinydd Rhaglenni/Cyfarwyddwr Astudiaethau fel y cynigir gan y Partner. | Enwebu Arweinydd Rhaglenni/Cyfarwyddwr Astudiaethau a/neu Gynullydd Unedau ac am sicrhau eu bod yn cael amser ac adnoddau digonol i gyflawni eu cyfrifoldebau, fel y disgrifir yn Ordinhad y Brifysgol |
Sicrhau bod staff priodol y partner yn mynychu cyfarfodydd priodol a drefnir gan y Brifysgol | |
rhoi cyfle i Bartner y Rhaglen gymryd rhan mewn unrhyw un o weithgareddau datblygu staff canolog y Brifysgol. | |
enwebu Cynghorydd Academaidd Cyswllt i gael goruchwyliaeth o bob Rhaglen. Bydd yr Ymgynghorydd Academaidd Cyswllt yn aelod o’r Rhaglen berthnasol a’r Panel Cyswllt Staff/Myfyrwyr. | sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd i ddiogelu profiad myfyrwyr yn ystod cyfnodau o weithredu diwydiannol, neu salwch hirdymor, neu faterion staffio eraill. |
datrys cwynion neu achwyniadau anffurfiol neu ffurfiol sy’n cael eu codi gan gyflogeion/staff Partner. | |
Adnoddau Dysgu a’r Amgylchedd | |
sicrhau bod amgylchedd dysgu priodol o ran ystod yr adeiladau addysgu, llyfrgell, cyfrifiadura neu ddarpariaeth arbenigol arall, ac fel rhan o’r gweithdrefnau adolygu, fod yr adnoddau a’r cyfleusterau dysgu yn cael eu cynnal ar lefel briodol. | mynd i’r afael ag unrhyw amodau/ argymhellion a bennwyd neu a godwyd gan y Brifysgol mewn perthynas ag adnoddau ffisegol lleol sy’n gysylltiedig â chymeradwyaethau rhaglenni unigol, ac am sicrhau bod cyllid ar gael i gynnal a datblygu’r adnoddau ffisegol sydd eu hangen i gynorthwyo’r holl raglenni cymeradwy yn ddigonol. |
Lles Myfyrwyr a Chwnsela Academaidd | |
galluogi myfyrwyr i ymuno ag Undeb Myfyrwyr y Brifysgol, er mwyn elwa ar ei chefnogaeth a’i chyfleusterau | |
cynnydd academaidd a lles yr holl fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar y Rhaglen(ni), i gynnwys - a)darparu sesiynau ymsefydlu cychwynnol penodol ar lefel Addysg Uwch; b)cymorth sgiliau allweddol / hanfodol adferol neu ddatblygiadol fel bo’n briodol. | |
darparu cyfnod ymsefydlu cyffredinol i’r Brifysgol fel modd o gyflwyno myfyrwyr i’r cymorth sydd ar gael iddynt yn y Brifysgol. | |
sicrhau bod myfyrwyr yn cael mynediad at diwtoriaid lleol a all ddarparu cymorth cwnsela academaidd a chymorth bugeiliol priodol o ddydd i ddydd | |
darparu gwasanaethau lles arbenigol a gwasanaethau cymorth dysgu unigol, cyngor ariannol a gwybodaeth am yrfaoedd. | |
darparu aelodaeth o Undeb/Cymdeithas Myfyrwyr y Partner a mynediad at ei gyfleusterau ar gyfer cymorth academaidd a chymorth personol, clybiau chwaraeon a chlybiau cymdeithasol, cyfleoedd ar gyfer cyfranogi mewn cynrychiolaeth myfyrwyr. | |
sicrhau bod polisi priodol ar waith ac yn cael ei weithredu ar gyfer gofal myfyrwyr o dan 18 oed ac ar gyfer oedolion sy’n agored i niwed. | |
darparu cymorth ychwanegol ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol lle bo’n angenrheidiol | |
rhoi cymorth sylfaenol i fyfyrwyr rhyngwladol | |
Cyfle Cyfartal, Iechyd a Diogelwch a pholisïau cysylltiedig | |
sicrhau bod myfyrwyr a staff yn cael polisïau’r Brifysgol ar Gyfle Cyfartal, ynghyd â gweithdrefnau i’w dilyn os bydd unrhyw achos amlwg o dorri’r polisïau. | sicrhau bod ei weithdrefnau ar gyfer, a rhyngweithiadau gyda, myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar y Rhaglen(ni) yn cydymffurfio â Pholisi Cyfle Cyfartal i Fyfyrwyr y Brifysgol. |
sicrhau bod myfyrwyr a staff yn cael polisïau’r Coleg ar Gyfle Cyfartal, ynghyd â gweithdrefnau i’w dilyn os bydd unrhyw achos amlwg o dorri’r polisïau. | |
sicrhau ei fod yn cydymffurfio’n llawn â darpariaethau deddfwriaeth bresennol ar gyfer cyfle cyfartal ac Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i, Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd, y Ddeddf Cysylltiadau Hiliol, y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, Deddfau a Rheoliadau Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd. | |
Adolygiadau Allanol ac Achrediad Proffesiynol | |
rhannu wrth baratoi dogfennaeth achredu neu ailachredu cyfnodol ar gyfer cyrff proffesiynol mewn cyswllt â’r Partner | |
rhoi cymeradwyaeth i ddogfennaeth achredu neu ailachredu cychwynnol llawn a baratoir ar gyfer cyrff proffesiynol cyn eu cyflwyno. | |
cysylltu’n agos â’r Partner wrth adolygu adroddiadau allanol, cynllunio gweithredu a monitro cynnydd | sicrhau bod adroddiadau Arholwyr Allanol, cyrff proffesiynol priodol, Tiwtoriaid Cyswllt y Brifysgol a gweithwyr allanol eraill yn cael ystyriaeth lawn ac y cymerir y camau priodol cyn gynted ag y bo modd. |
Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth | |
sicrhau cydymffurfio â’r Deddfau Diogelu Data a Gwybodaeth mewn perthynas â data personol myfyrwyr a staff, a gwybodaeth yn ymwneud â’r Partner, a ddelir gan y Brifysgol. | sicrhau bod yr holl gofnodion myfyrwyr a data personol yn ymwneud â myfyrwyr sydd wedi ymrestru ar y Rhaglen(ni) yn cael eu prosesu yn unol â Deddf Diogelu Data 1998 (ac fel y’i diwygir ar ôl hynny) ac yn benodol ond heb gyfyngiad yn cael eu cadw’n ddiogel ac yn gyfrinachol, a rhaid i’r Partner sicrhau ymhellach nad yw’r cyfryw ddata yn cael ei ddefnyddio na’i ddatgelu at unrhyw ddiben heblaw’r graddau sy’n angenrheidiol mewn cysylltiad â gweinyddu’r Rhaglen(ni). |
sicrhau bod dogfennau sydd wedi’u rhestru yng Nghynllun Cyhoeddi’r Partner neu a gynigiwyd i’w rhyddhau i ymholwyr allanol, heb ystyried golygiadau, o dan ddarpariaethau’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ac sy’n ffurfio rhan o ddogfennaeth gweithio rhaglen(ni) y Brifysgol yn cael eu cyflwyno i’r Brifysgol i’w cymeradwyo cyn eu rhyddhau. | |
Llais y Myfyriwr | |
sicrhau bod adborth gan fyfyrwyr sy’n astudio yn y Partner yn cael ei hyrwyddo, ei fonitro a’i werthuso ar gyfer gweithredu. | |
hyrwyddo a hwyluso lefelau uchel o gyfranogiad myfyrwyr yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol ac arolygon profiad myfyrwyr. | |
sicrhau bod yr holl werthusiadau unedau gan fyfyrwyr yn digwydd fel rhan o’r drefn ar gyfer pob rhaglen, ac yr ymgorfforir y canlyniadau yn yr adolygiadau cyfnodol. | |
y trefniadau ar gyfer cyfarfodydd y Pwyllgor Cyswllt Myfyrwyr a Staff, ethol cynrychiolwyr myfyrwyr a hyrwyddo’r holl brosesau sy’n gwahodd ac yn delio â materion cyffredin a godir gan gynrychiolwyr myfyrwyr ar faterion academaidd a materion tiwtora. | |
darparu holl gofnodion y Pwyllgor Cyswllt Myfyrwyr a Staff i’r Brifysgol ac adroddiadau blynyddol sy’n gysylltiedig â’r rhaglen(ni) | |
Dysgu yn y Gwaith | |
monitro pa mor ddigonol yw’r trefniadau a sut y goruchwylir dysgu yn y gwaith sy’n cyfrannu credydau at y Dyfarniad. | cymeradwyo cyfleoedd dysgu yn y gwaith priodol ar gyfer myfyrwyr, gan gynnwys y trefniadau ar gyfer goruchwylio ac asesu gwaith myfyrwyr yn deillio o hyn, a chefnogi’r myfyriwr yn unol â pholisi’r Brifysgol. |
cyfrannu at y broses ddysgu drwy sicrhau integreiddio theori ac ymarfer | |
cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad cyflogwyr gyda’r rhaglen(ni) | |
Rheoli Cofnodion | |
cydymffurfio â pholisïau Rheoli Cofnodion y Brifysgol (o ran cadw gwaith myfyrwyr, data myfyrwyr ac ati). |