Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Cynllun Ffioedd a Mynediad 2023-2025

1. Lefelau ffioedd

1.1. Lefelau ffioedd neu lefel y ffi a bennir ym mhob lleoliad

(Paragraffau 88-97 yn yr arweiniad)

Lefel y ffi

Lleoliad y cwrs

£9,000 y flwyddyn

Ar y Campws

BA, BDS, BEng, BMus, BSc, BScEcon, LLB, MArch, MBBCh, MChem, MEng, MSci, MMath, MPharm, MPhys, MBiomed, MMORS, MNeuro

£1,800 (Blwyddyn ryngosod mewn Diwydiant - 20% o’r ffi amser llawn)

Blwyddyn allan rhyngosod mewn Diwydiant

BA, BDS, BEng, BMus, BSc, BScEcon, LLB, MBBCh, MChem, MEng, MSci, MMath, MPharm, MPhys, MBiomed, MMORS, MNeuro

£1,350 (Cyfnewid / Blwyddyn Dramor - 15% o'r ffi amser llawn)

Cyfnewid / Blwyddyn Dramor

BA, BDS, BEng, BMus, BSc, BScEcon, LLB, MBBCh, MChem, MEng, MSci, MMath, MPharm, MPhys, MBiomed, MMORS, MNeuro

£4,500 (Blwyddyn ryngosod â gofyniad presenoldeb uwch, 50% o’r ffi amser llawn)

Blwyddyn ryngosod mewn Diwydiant

MArch

1.2. Lefelau ffioedd crynodol

(Paragraffau canllawiau 98-102)

Y ffi crynodol ar gyfer y cwrs llawn yw cyfanswm y ffioedd ar gyfer pob blwyddyn o’r cwrs. Efallai y bydd ffioedd yn 2023/24 a 2024/25 yn cynyddu yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru. Os bydd ffioedd cyrsiau’n amrywio oherwydd cyfnod ar leoliad neu’n astudio dramor tra bo myfyriwr wedi’i gofrestru ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd y rhain yn eglur pan mae'r myfyriwr yn cyflwyno cais.

Mae gohebiaeth Prifysgol Caerdydd yn targedu darpar ymgeiswyr am le yn y Brifysgol, y myfyrwyr presennol, rhieni, staff mewn ysgolion uwchradd a cholegau gan gynnwys athrawon ac ymgynghorwyr gyrfaoedd, a staff y Brifysgol er mwyn sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn cael gwybodaeth gywir, amserol a chyson. Rydym yn sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir yn bodloni’r gofynion a nodir yng Nghod Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch gan gyfeirio’n benodol at gynllunio a datblygu cyrsiau. Rydym yn ymdrechu i gydymffurfio â llythyr ac ysbryd Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 ac rydym wedi ymrwymo i ymgorffori'r holl gyngor ac arweiniad cyfraith defnyddwyr addysg uwch yn ein prosesau mewnol.

Mae ein gweithdrefnau cwynion ac apeliadau myfyrwyr yn cwrdd â'r gofynion a nodir yng Nghôd Ansawdd Addysg Uwch y DU gan gyfeirio'n benodol at thema pryderon, cwynion ac apeliadau a gofynion Fframwaith Arfer Da yr OIA. Rydym yn ystyried deddfwriaeth defnyddwyr a chanllawiau perthnasol gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA), y Swyddfa Myfyrwyr (OfS) a'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA), a'r cyd-destun cenedlaethol a sector, yn ogystal ag amgylchiadau unigol achos y myfyriwr.

Mae'r dulliau cyfathrebu’n cynnwys:

Gwefan

  • Mae tudalennau penodol ar y we yn cynnwys gwybodaeth am ffioedd dysgu, cyfleoedd ariannu gan gynnwys ysgoloriaethau a bwrsariaethau, a chefnogaeth i fyfyrwyr. Mae'r tudalennau'n cynnwys dolenni i wefannau perthynol eraill gan gynnwys Cyllid Myfyrwyr Cymru/Lloegr/yr Alban/Gogledd Iwerddon, yn ogystal â chyfeirio ymgeiswyr at wybodaeth gyswllt ddefnyddiol i brifysgolion.
  • Rydym yn parhau i ddatblygu ein Setiau Gwybodaeth Allweddol (KIS), gwybodaeth safonol am gyrsiau israddedig sydd wedi'u dylunio i fod yn gymaradwy ar draws pob sefydliad addysg uwch y DU. Mae hyn wedi sicrhau bod amrywiaeth eang o wybodaeth sy’n ymwneud yn benodol â phob cwrs astudio, a’r sefydliad yn gyffredinol, ar gael i ddarpar fyfyrwyr. Caiff pob KIS ei chyflwyno fel gwefan sy'n rhoi gwybodaeth ynghylch rhaglen astudio ac yn cynnwys manylion ynghylch; trosolwg o'r cwrs, gofynion mynediad, ffioedd dysgu, strwythur y cwrs, cyfleoedd ar gyfer lleoliadau, achrediad, dysgu ac asesu, a strwythur rhaglenni gradd. Mae'n bosibl i ddefnyddwyr ddewis eu blwyddyn mynediad i sicrhau eu bod yn gweld gwybodaeth sy'n berthnasol / fwyaf perthnasol iddynt.

Enghraifft o'n KIS: Pensaernïaeth (BSc/MArch) - Astudio - Prifysgol Caerdydd

Mae cynnwys y tudalennau gwe wedi'i wella'n sylweddol trwy ychwanegu mwy o wybodaeth ategol sy'n gysylltiedig â phwnc yn helpu darpar fyfyrwyr i wneud y penderfyniadau gorau posibl. Enghraifft:

Pensaernïaeth - Astudiaeth - Prifysgol Caerdydd

Yn ogystal, mae'n bosibl i ddarpar fyfyrwyr sgwrsio ar-lein gyda myfyrwyr presennol i ddarganfod mwy am y cwrs y mae ganddynt ddiddordeb ynddo ac mae yna hefyd bot sgwrsio i ddarparu ffynhonnell arall o wybodaeth.

Deunyddiau marchnata/diwrnodau agored/gweithgaredd allgymorth

  • Mae'r Brifysgol yn rhoi gwybodaeth am ffioedd a chefnogaeth sydd ar gael i ddarpar fyfyrwyr mewn digwyddiadau ffisegol/rhithwir, fel diwrnodau agored, diwrnodau ymweld, gweminarau, ffeiriau addysg uwch a gweithgaredd ymgysylltu ag ysgolion a cholegau. Mae hefyd ar gael mewn prosbectysau, pamffledi, canllaw cyllid myfyrwyr a chyngor gan staff y Brifysgol. Mae gwybodaeth wedi'i chynnwys mewn cyflwyniadau i athrawon a chynghorwyr gyrfaoedd yn ogystal â’r sgyrsiau ar gyllid myfyrwyr a roddir i ymgeiswyr.
  • Rydym hefyd yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys Facebook, Twitter, Instagram, blogiau a YouTube i gyfathrebu â darpar fyfyrwyr a myfyrwyr presennol.
  • Mae gwybodaeth berthnasol hefyd yn cael ei chyfleu i'r rhai sy'n cymryd rhan yn ein gwahanol raglenni Ehangu Cyfranogiad.

Ebost

  • Bydd y rheiny sy'n gwneud   cais i’r Brifysgol yn cael ebost yn cydnabod bod ei gais wedi cyrraedd ac yn   darparu dolenni cyswllt i’n gwybodaeth am ffioedd ar-lein.
  • Rydym yn gohebu â phob deiliad cynnig ar ffurf cylchlythyr sy'n rhoi manylion darpariaeth ysgoloriaeth a bwrsariaeth.

Mae ein llythyr ffurfiol o gynnig yn manylu ynghylch y ffioedd dysgu sy'n daladwy ar gyfer blwyddyn gyntaf y rhaglen ac yn amlinellu unrhyw gynnydd posibl mewn ffioedd ar gyfer blynyddoedd astudio dilynol. Rydym yn cyfathrebu ynghylch ffioedd drwy gydol y cyfnod astudio.

2. Partneriaeth Myfyrwyr

(Paragraffau canllaw 103-106)

Mae’r Ffordd Ymlaen 2018-23 yn amlinellu ein hymrwymiad i sicrhau profiad myfyriwr addysgol rhagorol o ansawdd gyson uchel, a ysgogir gan greadigrwydd a chwilfrydedd, gydag addysgu a gwasanaethau rhagorol i wella dysgu a chefnogi bywyd myfyriwr. Trwy ein strategaeth Addysg a Myfyrwyr rydym yn gwneud newidiadau mewn chwe phrif faes:

  • Creu cymuned ddysgu gynhwysol
  • Gwella’r amgylchedd dysgu
  • Cynllunio i sicrhau dyfodol llwyddiannus   i fyfyrwyr
  • Gwerthfawrogi a hyrwyddo rhagoriaeth mewn   addysgu
  • Cefnogi bywyd myfyrwyr a'r gymuned ddysgu
  • Gwerthfawrogi ein myfyrwyr fel   partneriaid.

Mae gan ein strategaeth Ehangu Cyfranogiad 2020-25 bedwar prif nod:

  • Ymgysylltu â phobl o bob cenhedlaeth a'u   hysbrydoli i ystyried addysg uwch yn opsiwn realistig a chyraeddadwy
  • Denu a recriwtio myfyrwyr sydd â   photensial academaidd, waeth beth fo'u cefndir neu’u profiad personol.
  • Galluogi pobl i drosglwyddo'n   llwyddiannus i'r Brifysgol a meithrin profiad myfyriwr rhagorol a chefnogol.
  • Meithrin ac annog dyfodol hyderus a llwyddiannus   i bawb

Mae ein hagwedd tuag at ymgysylltu â myfyrwyr yn adlewyrchu egwyddorion Wise Cymru[1].

Gweithio gydag Undeb y Myfyrwyr

Mae Siarter y Myfyrwyr _yn amlinellu'r hyn y gall myfyrwyr ei ddisgwyl gan y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr, a'r cyfrifoldebau sydd ar ein myfyrwyr i wneud y mwyaf o'u profiad yn y Brifysgol. Mae'n cynnwys disgwyliadau o agwedd agored, gonestrwydd, amrywiaeth a dathlu’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru. Mae'n cael ei hadolygu bob blwyddyn gan Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol i wneud yn siŵr ei bod yn berthnasol o hyd. Mae'r Brifysgol yn cefnogi Undeb y Myfyrwyr i gyflawni ei amcanion, gan gynnwys ymgysylltu â phob myfyriwr, cynnig cyfleoedd datblygu/gwirfoddoli, creu cyfleusterau o'r radd flaenaf a chynnig gweithgareddau chwaraeon, cymdeithasau a gwasanaethau cyngor annibynnol. Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau cydnabyddedig wedi'i gynnwys yn nhrawsgrifiadau gwell y Brifysgol ar gyfer myfyrwyr.

Mae swyddogion etholedig Undeb y Myfyrwyr yn cymryd rhan fel aelodau llawn o brif bwyllgorau a grwpiau strategol y Brifysgol gan gynnwys:

  • Senedd - ein prif awdurdod academaidd, sy’n gyfrifol am flaenoriaethau academaidd.
  • Y Cyngor - corff llywodraethu'r Brifysgol. Mae'n gyfrifol am reoli a chynnal materion y Brifysgol yn effeithlon, gan gynnwys cyllid ac ystadau.
  • Pwyllgor Llywodraethu - yn cynghori’r Cyngor ynghylch lefel y cydymffurfio gan y Brifysgol â gofynion gorfodol   deddfwriaeth a rheoliadau eraill.
  • Pwyllgor Polisïau ac Adnoddau - cyfrifol am graffu ar gyllid cyfalaf ar gyfer mentrau a gwerthuso effaith.
  • Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr - yn gyfrifol am roi arweiniad strategol a chynghori'r Brifysgol ar bob mater sy'n ymwneud   ag addysg a phrofiad myfyrwyr ar draws ystod lawn ei darpariaeth ar gyfer   myfyrwyr.
  • Pwyllgor Safonau Academaidd ac Ansawdd - cyfrifol am oruchwylio cynnydd a chyrhaeddiad myfyrwyr.
  • Grŵp Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg - cyfrifoldeb dros drosolwg o strategaeth Gymraeg y Brifysgol a datblygu   darpariaethau Cymraeg ymhellach.
  • Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant - bydd yn gyfrifol am gynghori'r Cyngor trwy'r Pwyllgor Llywodraethu ar   ddatblygu a gweithredu strategaethau ar gyfer sicrhau cydymffurfiad cyfreithiol ac arferion gorau ym mhob mater sy'n ymwneud â chyfle cyfartal ac amrywiaeth.

Mae swyddogion myfyrwyr hefyd yn gwasanaethu ar y byrddau llywio ar gyfer ein holl brosiectau sy'n wynebu myfyrwyr. Mae ganddynt fynediad uniongyrchol a rheolaidd at uwch-swyddogion sy'n gwneud penderfyniadau, gan gynnwys yr Is-ganghellor ac aelodau eraill o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol. Yn rhan o'n prosesau sicrhau ansawdd mae myfyrwyr yn aelodau ffurfiol o'r panel sefydlog sy’n ystyried yr holl newidiadau a datblygiadau o bwys i'r rhaglen, ein Pwyllgorau Adolygu a Gwella Blynyddol a'r holl Baneli Adolygiad Cyfnodol.  Mae swyddogion Undeb y Myfyrwyr hefyd yn gwasanaethu ar ein paneli Apeliadau Academaidd, Cwynion, Disgyblu ac Addasrwydd i Ymarfer.

Mae'r Brifysgol yn bartner cefnogol yn ‘Wythnos Siarad’ flynyddol Undeb y Myfyrwyr, sy'n un o uchafbwyntiau'r calendr llais y myfyrwyr.   Gofynnir i fyfyrwyr 'Pe byddech chi'n rhedeg y Brifysgol, beth fyddech chi'n ei gadw a beth fyddech chi'n ei newid?'; cwestiwn sy'n cynhyrchu ystod eang o adborth adeiladol yn gyson.   Gan ddefnyddio'r adborth gan fyfyrwyr a gesglir yn ystod Wythnos Siarad, mae Undeb y Myfyrwyr yn cynhyrchu Barn Myfyrwyrar gyfer Cyngor y Brifysgol. Cytunir ar ymateb sefydliadol gan y Brifysgol i Farn y Myfyrwyr a chynllun gweithredu gan Fwrdd Gweithredol y Brifysgol, a bydd Cyngor y Brifysgol yn eu cael er mwyn craffu arnynt. Mae Grŵp Strategol Cyflwyniad Barn y Myfyrwyr yn monitro ac yn gwerthuso gweithgareddau a chamau gweithredu, ac mae'n cwrdd deirgwaith y flwyddyn o leiaf ac yn cael ei gadeirio ar y cyd gan Lywydd Undeb y Myfyrwyr a'r Rhag Is-Ganghellor dros Brofiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd.

Rydym wedi sefydlu model prosiect partneriaeth i ddatblygu gwell dealltwriaeth o safbwyntiau myfyrwyr ynghylch materion penodol ym Marn y Myfyrwyr a llywio datblygiad polisi a newid sefydliadol. Mae pob prosiect yn cynnwys aelodau sy'n staff a myfyrwyr. Mae enghreifftiau o'r pynciau a drafodir yn cynnwys Deall profiad myfyrwyr aeddfed; profiad myfyrwyr sydd wedi'u lleoli ar gampws Parc y Mynydd Bychan; adeiladu cymuned ddysgu; a darparu cyfleoedd i gwrdd â phobl.

Daw cyfarfod olaf Grŵp Llywio Barn y Myfyrwyr am y flwyddyn academaidd i ben gydag arddangosiad o ganfyddiadau ac argymhellion y prosiectau partneriaeth.

Llais y Myfyrwyr

Rydym yn gwerthfawrogi safbwyntiau a barn ein myfyrwyr, ac mae llawer o weithgareddau llais myfyrwyr, gan weithio mewn partneriaeth ag Undeb y Myfyrwyr, yn darparu cyfleoedd trwy gydol y flwyddyn i fyfyrwyr rannu eu barn am yr hyn y mae'r Brifysgol yn ei wneud yn dda a'r hyn y gall ei wneud yn well. Hefyd, mae gennym fecanweithiau i roi gwybod i fyfyrwyr a staff sut mae adborth myfyrwyr wedi dwyn newid ar draws y Brifysgol. Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu mecanweithiau adborth mwy hyblyg a lleol i fyfyrwyr, ac yn benodol i fyfyrio ar lwyddiant mecanwaith llais myfyrwyr newydd Cipolwg Caerdydd, a gyflwynwyd yn ystod 2021 i alluogi adborth a chefnogaeth myfyrwyr yn gyflymach.

Mae system cynrychiolaeth academaidd myfyrwyr yn cael ei rheoli mewn partneriaeth ag Undeb y Myfyrwyr, sy'n caniatáu i fyfyrwyr sy'n gynrychiolwyr chwarae rôl bwysig yn y broses o wneud penderfyniadau ar lefel cwrs, gan dynnu ar adborth gan gorff ehangach y myfyrwyr. Mae cylch hyfforddi blynyddol ar gyfer ein cynrychiolwyr myfyrwyr wedi'i arwain gan Undeb y Myfyrwyr a'i gynnal ar y cyd â Chydlynwyr Cynrychiolwyr Myfyrwyr Ysgolion, a chynhadledd hyfforddi flynyddol. Mae cynrychiolwyr myfyrwyr yn ymgysylltu â charfannau eu rhaglenni ac yn siarad ar eu rhan mewn ystod o fforymau sefydledig mewn Ysgolion a Cholegau. Mae'r rhain yn cynnwys paneli myfyrwyr-staff a chyfarfodydd rheolaidd o gadeiryddion panel myfyrwyr. Mae'r ymglymiad hwn yn sicrhau bod llais y myfyriwr yn cael ei glywed a'i ystyried wrth wneud penderfyniadau.

Anogir myfyrwyr i roi adborth drwy nifer o fecanweithiau, naill ai'n uniongyrchol drwy offer adborth neu drwy eu cymheiriaid, sef cynrychiolwyr myfyrwyr neu'r tîm Hyrwyddwyr Myfyrwyr (gweler isod). Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Mae paneli myfyrwyr-staff yn galluogi bob cynrychiolydd academaidd myfyrwyr i gwrdd â'u staff yn eu hysgol a rhannu eu   profiad myfyrwyr yn rheolaidd. Cynrychiolydd myfyrwyr enwebedig sy'n cadeirio'r cyfarfodydd hyn, a   chynrychiolydd myfyrwyr sy'n gwneud y cofnodion. Caiff cofnodion y paneli eu rhannu gydag Undeb y Myfyrwyr sy'n creu 'adroddiad effaith' tymhorol, yn amlinellu'r prif anawsterau sy'n wynebu myfyrwyr yn ogystal â meysydd o   gryfderau penodol.  At hynny, gwahoddir cadeiryddion paneli myfyrwyr–staff i'r Byrddau Astudio er mwyn trafod adborth gan fyfyrwyr.
  • Mae Fforymau Colegau yn gyfle i gadeiryddion paneli myfyrwyr–staff Ysgolion sy'n fyfyrwyr ddod ynghyd a chodi   materion sydd wedi dod i'r amlwg ar baneli myfyrwyr–staff gyda swyddogion Undeb y Myfyrwyr, Deoniaid y Colegau ac aelodau eraill o staff drwy wahoddiad.
  • Mae Hyrwyddwyr Myfyrwyr yn fyfyrwyr presennol y mae'r Brifysgol yn eu cyflogi fel asiantau newid i'n helpu ni i   ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o farn myfyrwyr ar faterion penodol, a sicrhau bod myfyrwyr yn ymgysylltu â ni fel partneriaid. Cânt eu cefnogi gan yr Academi Dysgu ac Addysgu.  Mae'r myfyrwyr hyn wedi bod yn rhan o amrywiaeth o brosiectau, gan gynnwys dylunio methodoleg profiad defnyddiwr (UX) ar gyfer yr Adolygiad Amgylchedd Dysgu   Digidol yn ogystal â darparu mewnbwn gwerthfawr i ddatblygiad yr ap myfyrwyr,   gan gynyddu ymgysylltiad â'r Myfyriwr Cenedlaethol Arolygu a hwyluso prosiectau a gweithdai partneriaeth ar gyfer amryw o fentrau sy'n ymwneud â phrofiad myfyrwyr.
  • Mae gwerthusiad modiwl, a elwir bellach yn Gwella Modiwlau, wedi'i ailddatblygu a'i adeiladu ar system Glas newydd, gan   Explorance. Mae'n rhoi'r cyfle i fyfyrwyr roi adborth ar eu holl fodiwlau trwy gyfrwng teclyn ar-lein hawdd ei ddefnyddio, sy'n gyfeillgar i ffonau symudol. Mae’r data hwn yn cynnig gwell dealltwriaeth o dueddiadau ym   modlonrwydd myfyrwyr ar draws y Brifysgol ac yn helpu i amlygu blaenoriaethau o ran camau ymatebol a phriodol ar lefel Ysgol a Phrifysgol. Yn eu tro, mae cynullwyr modiwlau'n hysbysu myfyrwyr am y data gwerthuso modiwlau a'r camau   a gymerir o ganlyniad i adborth myfyrwyr.
  • Derbynnir   ymatebion ac adborth yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol (NSS) trwy'r NSS blynyddol o fyfyrwyr blwyddyn olaf israddedig. Caiff canlyniadau'r Arolwg eu harchwilio ar lefelau Ysgol, Coleg a Phrifysgol, a bydd blaenoriaethau o ran camau gweithredu a gwelliant yn cael eu nodi a'u monitro drwy Grŵp Strategol Profiad y Myfyrwyr.
  • Fframwaith Rheoli Arolygon - Fframwaith unigol dan berchnogaeth sefydliadol sy'n sicrhau bod llais y myfyriwr yn cael ei glywed a gweithredu arno, gyda chau dolenni adborth ar bob lefel. Mae'r fframwaith yn darparu cylch symlach o ddylunio, dadansoddi, adrodd a chyhoeddi ar gyfer pob arolwg myfyrwyr ynghyd ag eglurder ar lywodraethu, cyfrifoldeb, perchnogaeth data ac ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol. Rydym yn y broses o adolygu ein   Fframwaith Rheoli Arolygon i ddod i rym ar gyfer 2022/23. Bydd y newidiadau yn cynnwys monitro pellach yn ystod y flwyddyn; rheoli risg ac ymyrraeth fwy cadarn; a rolau a chyfrifoldebau wedi'u diffinio'n glir.
  • Mae Cipolwg Caerdydd newydd ei gyflwyno yn 2021 ac mae'n gwahodd myfyrwyr i roi adborth i'r Brifysgol ynghylch sut maen nhw'n dod ymlaen ar bum pwynt cyffwrdd allweddol yn ystod y flwyddyn, trwy gyfres o chwe chwestiwn byr. Mae Cipolwg Caerdydd wedi'i integreiddio i VLE y Prifysgolion ac wedi'i fframio fel sgwrs â myfyrwyr yn hytrach nag arolwg. Adroddir canlyniadau, ac adborth cau’r ddolen, i fyfyrwyr bob mis trwy dudalen fewnrwyd.

Ochr yn ochr â'r mecanweithiau hyn, mae gwelliannau sylweddol wedi'u gwneud i Lais Myfyrwyr trwy raglen waith Llais y Myfyrwyr a ddechreuodd ym mis Ionawr 2021 ac sy'n ceisio radicaleiddio ymagwedd y Brifysgol at lais myfyrwyr dros y tair blynedd nesaf. Sefydlwyd Grŵp Llywio Llais Myfyrwyr yn Haf 2021, sy’n datblygu fframwaith a map ffordd ar gyfer llais myfyrwyr am y tair blynedd nesaf. Mae’r grŵp hefyd yn goruchwylio prosiectau allweddol sy’n galluogi gwelliannau i lais y myfyriwr a phrofiad y myfyriwr gan gynnwys adolygu ein system gwerthuso modiwlau, ein defnydd o ddata, ein dull o ddefnyddio adborth ar lefel leol, a sicrhau bod gennym strwythurau staffio ar waith i gefnogi sefydliad mwy lleol a hyblyg at lais y myfyriwr. Yn ddiweddar rydym wedi recriwtio deg Swyddog Ymgysylltu Myfyrwyr i gefnogi Llais Myfyrwyr ar lefel ysgol leol.

Mae datblygiad y FAP hefyd yn cael ei ddylanwadu trwy ystyried adborth cyfranogwyr sy'n cael ei gasglu a'i ddadansoddi'n rheolaidd fel rhan o'n rhaglenni profiad myfyrwyr gan gynnwys:

  • Camu ‘Mlaen
  • Mentora Myfyrwyr
  • Hyrwyddwyr Lles
  • Mentrau cyflogadwyedd, a
  • Cyfleoedd byd-eang.

Mae ein myfyrwyr hefyd yn helpu i ddarparu sawl rhaglen a gweithgaredd a nodir yn y Cynllun. Er enghraifft:

  • Interniaethau ar y campws ar gyfer datblygu Dysgu, Addysgu ac Ymchwil yng Nghaerdydd lle mae myfyrwyr israddedig yn cael y cyfle i weithio ar y cyd â staff ar brosiectau i wella dysgu, addysgu ac ymchwil.
  • Mae'r Sioe Deithiol Addysg Uwch, a gynhelir ar y cyd â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, yn codi ymwybyddiaeth o addysg uwch ac yn rhoi cymorth wrth gam cynnar am yrfaoedd a dewisiadau pwnc. Mae ein myfyrwyr yn dylunio ac   yn cyflwyno cyflwyniadau rhyngweithiol i ddisgyblion ym mlynyddoedd 9-11. Ei nod yw codi ymwybyddiaeth o addysg uwch a'i buddiannau, ac annog disgyblion. Mae’n rhoi cyngor gyrfaoedd sy'n berthnasol i addysg uwch yn gynnar fel bod disgyblion yn gwneud dewisiadau gwybodus am TGAU ac addysg bellach.

Mae'r adborth gan fyfyrwyr a staff ynghylch y cynlluniau hyn yn gadarnhaol dros ben. Mae cydweithwyr academaidd yn nodi effaith bwysig cael myfyrwyr ynghlwm wrth brosiectau, sy'n cynnig elfen gyfredol iddynt, a myfyrwyr yn nodi bod y cynllun yn rhoi'r cyfle iddynt fod yn bartner ar y cyd gydag academyddion ar brosiectau, yn ogystal â chynnig profiad gwerthfawr iawn o gyflogadwyedd.

3. Grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol

(Paragraffau canllaw 107-113)

Dynodwyd gan CCAUC fel rhywun heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch:

  • pobl o bob oed sydd yn nau gwintel isaf Mynegai Lluosog Mynegai Cymru (WIMD40 ac ar wahân WIMD20)
  • pobl o bob oed o gymdogaethau cyfranogiad isel (POLAR 4)
  • myfyrwyr addysg uwch ran amser
  • pobl â nodweddion gwarchodedig
  • Myfyrwyr cyfrwng Cymraeg.

Nodwyd gan y rhaglen Reaching Wider:

  • o fewn dau gwintel isaf Mynegai Amddifadedd   Lluosog Cymru:
    • pobl ifanc ôl-16
    • oedolion heb gymwysterau lefel 4, i symud ymlaen   i ddarpariaeth lefel 4.
  • a Chymru gyfan:
    • plant sy’n derbyn gofal
    • ymadawyr gofal
    • gofalwyr ym mhob grŵp oedran

Wedi'i nodi gan Brifysgol Caerdydd fel myfyriwr sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, myfyriwr sy’n / sydd ag:

  • anabledd (gan gynnwys awtistiaeth)
  • ffoaduriaid/ceiswyr lloches
  • profiadol milwrol
  • wedi ymddieithrio o’r teulu
  • rhieni heb eu haddysgu hyd at lefel Addysg Uwch
  • enillion blynyddol gros yr aelwyd, yr Adran   Gwaith a Phensiynau (<£35k ar hyn o bryd)
  • oedran - aeddfed
  • cartref du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol

4. Amcanion fel y maent yn ymwneud â chefnogi cyfle cyfartal a hyrwyddo AU

(Paragraffau canllawiau 114-148)

4.1. Cydraddoldeb Cyfle

Amcan 1

Codi dyheadau a chynyddu mynediad at AU ymhlith grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

Amcan 2

Sicrhau bod cyfraddau parhad grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn unol â gweddill poblogaeth y myfyrwyr.

Amcan 3

Cynyddu nifer y myfyrwyr sy'n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg trwy wella cymuned, diwylliant a darpariaeth Cymraeg y Brifysgol.

Amcan 4

Gwella cyflogadwyedd myfyrwyr sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

4.2. Hyrwyddo addysg uwch

Amcan 1

Parhau i ganolbwyntio ar ymgysylltu byd-eang, cymunedol a dinesig sy'n effeithiol ac o ansawdd uchel.

Amcan 2

Darparu amgylchedd dysgu ac addysgu o ansawdd uchel.

Amcan 3

Canolbwyntio ar wella sy'n gwella profiad y myfyrwyr.

Amcan 4

Parhau i gynnig cwricwla a chyfleoedd ehangach i ehangu cyflogadwyedd myfyrwyr

Awdurdodi'r cais am ffi a chynllun mynediad i CCAUC (sy'n ofynnol i'w gyhoeddi)

Wrth awdurdodi ceisiadau ffioedd a chynllun mynediad, mae'r corff llywodraethu:

  1. yn cadarnhau ei fod yn parhau i fod yn sefydliad sy'n darparu addysg uwch yng Nghymru ac yn elusen.
  2. wedi gweld ac ystyried tystiolaeth briodol i ategu'r datganiadau sy'n cael eu gwneud yn y cais hwn.
  3. yn cadarnhau y bu ymgynghori priodol gyda'i fyfyrwyr, y rhai sy'n astudio yn y sefydliad ac mewn darparwyr eraill lle darperir addysg ar ei ran.
  4. yn cadarnhau bod yr wybodaeth a ddarperir yn y cais hwn am gynllun ffioedd a mynediad yn gywir ac yn gyfredol, ar adeg ysgrifennu, ac yn seiliedig ar ddata gwiriadwy.
  5. yn cadarnhau: [dilëwch un neu fwy o osodiadau, fel sy'n briodol]
    1. ei bod hi’n dderbyniol i CCAUC ddefnyddio gwybodaeth/data ariannol, ansawdd a/neu wybodaeth/data arall sydd ganddo am sefydliad sy’n rheoledig ar hyn o bryd, p'un a ddarparwyd yr wybodaeth/y data yn wreiddiol at ddibenion rheoleiddio o dan Ddeddf 2015 neu beidio;
    2. nad yw hi’n dderbyniol i CCAUC ddefnyddio gwybodaeth/data ariannol, ansawdd a/neu wybodaeth/data arall sydd ganddo am sefydliad sy’n rheoledig ar hyn o bryd at ddibenion rheoleiddio o dan Ddeddf 2015 neu beidio; ac
    3. mae'n yn cyflwyno gwybodaeth/data mwy diweddar, cyfoes, newydd i lywio asesiad CCAUC.
  6. yn deall bod CCAUC yn cadw’r hawl i ymweld â'r sefydliadau i ddeall yn well gymhwysedd sy’n gysylltiedig â threfnu a rheoli materion ariannol, y data a gyflwynwyd ynghylch y cynlluniau ffioedd a mynediad a/neu ansawdd yr addysg a ddarperir am, neu ar ran y sefydliad.
  7. ei fod yn deall bod rhaid iddo ddarparu, i CCAUC neu asiant CCAUC, wybodaeth, cymorth a mynediad i’w gyfleusterau a chyfleusterau cyrff eraill sy'n darparu addysg uwch ar ei ran.
  8. ei fod yn deall y caiff CCAUC gynnal, neu drefnu i asiant gynnal, adolygiad sy'n ymwneud ag ansawdd yr addysg a ddarperir gan, neu ar ran sefydliad yr ymgeisydd, a bod rhaid i’r corff llywodraethu roi ystyriaeth i unrhyw gyngor a roddir iddo gan CCAUC neu gorff a benodir gan CCAUC at y diben hwnnw.
  9. yn cadarnhau bod pob addysg a ddarperir ganddo, neu ar ei ran, beth bynnag fo lefel neu leoliad y ddarpariaeth, wedi'u cymryd i ystyriaeth yn y cais cynllun ffioedd a mynediad hwn.
  10. ei fod yn cadarnhau bod y sefydliad yn wynebu risg isel o fethiant ar sail ariannol yn ystod y tymor canolig i'r tymor hir.
  11. ei fod yn cadarnhau yr archwilir y cyfrifon bob blwyddyn gan archwilydd cofrestredig ac nad yr archwilydd cofrestredig hwnnw yw’r un cwmni/unigolyn a baratôdd y cyfrifon.
  12. ei fod yn deall bod y sefydliad yn cydymffurfio â chanllawiau’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) ar gyfer addysg uwch.
  13. ei fod yn deall bod rhaid anrhydeddu unrhyw ymrwymiadau ariannol i fyfyrwyr a wnaed yng nghynllun ffioedd a mynediad, fel y’i cymeradwywyd gan CCAUC.
  14. cadarnhau y bydd yn parhau i fuddsoddi yr un gyfran o incwm ffioedd israddedig llawn-amser i hyrwyddo cyfle cyfartal a hyrwyddo addysg uwch ac nid lleihau buddsoddi i hyrwyddo cyfle cyfartal a fwriedir i gefnogi yn unig sydd heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch.
  15. yn cadarnhau y bydd yn parhau i fuddsoddi ei gyfraniad sefydliadol i’r Rhaglen Ymgyrraedd yn Ehangach sy’n cyd-fynd â’i Strategaeth a Chynllun Gweithredu Ymgyrraedd yn Ehangach y cytunwyd arnynt.
  16. yn cadarnhau y bydd yn cynnal lefelau cymorth i fyfyrwyr.
  17. yn cadarnhau y bydd y sefydliad yn sicrhau y gellir sicrhau bod copi o'r cynllun ffioedd a mynediad yn hygyrch i'w fyfyrwyr mewn unrhyw fformat.
  18. yn cadarnhau y bydd y sefydliad yn amlwg yn cyfeirio ei fyfyrwyr at brosesau cwynion CCAUC.
  19. cymryd pob cam rhesymol i gefnogi grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol sy’n astudio ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig.
  20. yn ystyried sut y gall buddsoddiad gefnogi myfyrwyr yr effeithir arnynt fwyaf gan bandemig Covid-19 lle nad ydynt eisoes wedi’u nodi fel grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Cyflwyno Cynllun Ffioedd a Mynediad i CCAUC

Fee and access plans published on the institution’s websites must only include versions approved by HEFCW.

Dyddiad cymeradwyo gan y Corff Llywodraethu:27 Ebrill 2022
Llofnod awdurdodedig y Corff Llywodraethu:  
Dyddiad:28 Ebrill 2022

Cyflwyno ffi derfynol a chynllun mynediad unwaith y bydd CCAUC wedi cadarnhau nad oes ganddo unrhyw faterion pellach (lle bo hynny'n berthnasol)

Dyddiad cymeradwyo gan y Corff Llywodraethu:

 

Llofnod awdurdodedig y Corff Llywodraethu:

 

Dyddiad:

 
Enw'r sefydliadRhif Cyfeirnod Darparwr y DU (UKPRN)Cyfeiriad lleoliadMath o weithgareddLefel astudioCyfanswm nifer a ragwelir o fyfyrwyrGweithgaredd a ddarperir gan bartner?A yw'r partner yn elusen?Math o bartneriaethDyddiad y cytundeb partneriaeth
Prifysgol Bangor10007857Bangor, Gwynedd, LL57 2DGDysgu ac addysguIsraddedig71DoDoCydweithredol – arall22/03/19
Coleg Bedyddwyr De Cymru 54 Heol Caerdydd, Caerdydd, CF5 2YJDysgu ac addysguIsraddedig8DoDoMasnachfraint02/03/22
Prifysgol Normal Beijing, Tsieina 19
Xinjiekou Outer St Haidian, Beijing, China, 100875
Dysgu ac addysguIsraddedig14DoNaddoCydweithredol – arall01/09/15
Prifysgol Caerdydd10007854Prif Safle, Caerdydd CF10 3ATDysgu ac addysgu/YmchwilIsraddedig/Ôl-raddedig16780Naddo   
Prifysgol Caerdydd10007854Safle UHW Caerdydd, Heath Park Way, Caerdydd CF14 4XWDysgu ac addysgu/YmchwilIsraddedig/Ôl-raddedigWedi'i gynnwys ynNaddo   
Prifysgol Caerdydd 10007854Ysbyty Velindre; Heol Velindre, Caerdydd CF14 2TLDysgu ac addysgu/YmchwilIsraddedig/Ôl-raddedigWedi'i gynnwys o fewn rhagolygon prif safleNaddo   
Prifysgol Caerdydd10007854Ysbyty Llandochau; Heol Penlan, Llandochau, Penarth CF64 2XXDysgu ac addysgu/YmchwilIsraddedig/Ôl-raddedigWedi'i gynnwys o fewn rhagolygon prif safleNaddo   
Prifysgol Caerdydd10007854Parc Iechyd Prifysgol Kier Hardie; Heol Aberdare, Merthyr Tudful CF48 1AZDysgu ac addysgu/YmchwilIsraddedig/Ôl-raddedigWedi'i gynnwys o fewn rhagolygon prif safleNaddo   
Prifysgol Caerdydd10007854Adeilad yr Orsaf Wybodaeth, Queensway, Casnewydd;Dysgu ac addysgu/YmchwilIsraddedig/Ôl-raddedigWedi'i gynnwys o fewn rhagolygon prif safleNaddo   
Prifysgol Leuven Oude Markt 13, 3000 Leuven, Gwlad BelgYmchwil  DoNaddoCydweithredol – arall22/09/14
Prifysgol Xiamen 422 Siming S Rd, Ardal Siming, Xiamen, Fujian, Tsieina, 361005Ymchwil  DoNaddoCydweithredol – arall18/11/16
Universidade Estadual de Campinas (Unicamp) Cidade
Universitária Zeferino Vaz - Barão Geraldo, Campinas - SP, 13083-970, Brazil
Ymchwil  DoNaddoCydweithredol – arall11/12/18
Prifysgol Bremen Bibliothekstraße
1, 28359 Bremen, Germany
Ymchwil  DoNaddoCydweithredol – arall08/03/19
Prifysgol Namibia Windhoek, NamibiaYmchwil  DoNaddoCydweithredol – arall 
Canolfan Maes Danau Girang Noddfa Bywyd Gwyllt Kinabatangan Isaf, Sabah, MalaysiaYmchwil  DoNaddoCydweithredol – arall 
Sefydliad Catalysis Caerdydd Yr Ysgol Cemeg, Prifysgol Caerdydd, Prif Adeilad, Plas y Parc, Caerdydd CF10 3ATYmchwil   Naddo  
Sefydliad Ymchwil Troseddu a Diogelwch Ail Lawr, Friary House, Heol y Brodyr Llwydion, Caerdydd, CF10 3AEYmchwil   Naddo  
Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data Adeilad Trevithick, The Parade, Caerdydd, CF24 3AAYmchwil   Naddo  
Sefydliad Ymchwil Systemau Ynni Adeilad y Frenhines, 5 The Parade, Caerdydd
CF24 3AA
Ymchwil   Naddo  
Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd Adeilad Hadyn Ellis, Heol Maendy, Caerdydd, CF24 4HQYmchwil   Naddo  
Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl Adeilad Hadyn Ellis, Cathays, Caerdydd, CF24 4HQYmchwil   Naddo  
Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy 33 Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3BA
Ymchwil   Naddo  
Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau Adeilad Tenovus, Caerdydd, CF14 4XNYmchwil   Naddo  
Sefydliad Ymchwil Dŵr Adeilad Syr Martin Evans, Rhodfa'r Amgueddfa, Caerdydd, CF10 3AXYmchwil   Naddo  
Coleg Gŵyr, Abertawe10030408Heol Tycoch, Sketty, Abertawe, SA2 9EBDysgu ac addysguIsraddedig40Do Cydweithredol – arall11/11/21