Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Cofnodion y Cyngor 8 Mehefin 2022

Cofnodion Cyfarfod Cyngor Prifysgol Caerdydd a gynhaliwyd ddydd Mercher 8 Mehefin 2022 am 11:15am drwy Zoom

Yn bresennol:  Patrick Younge (Cadeirydd), Yr Athro Marc Buehner, Ricardo Calil, Gina Dunn, Judith Fabian, yr Athro Fonesig Janet Finch, yr Athro Ken Hamilton, Christopher Jones, Jan Juillerat, Dr Pretty Sagoo, John Shakeshaft, Dr Janet Wademan ac Agnes Xavier-Phillips.

Mynychwyr:  Katy Dale [Cofnodion], Bruna Gil, Rashi Jain, Siân Marshall, Claire Sanders a Darren Xiberras.

2043 Croeso

2043.1         Croesawyd pawb i'r cyfarfod.

2044 Ymddiheuriadau am Absenoldeb

2044.1         Derbyniwyd ymddiheuriadau gan yr Is-ganghellor, yr Athro Damian Walford-Davies, yr Athro Rudolf Allemann, yr Athro Rachel Ashworth, Paul Baston, Hannah Doe, Michael Hampson, Dr Joanna Newman, Suzanne Rankin, David Simmons a’r Barnwr Ray Singh.

2045 Datgan Budd

Nodwyd na wnaed unrhyw ddatgan buddiant.

2046 Aelodaeth Cydbwyllgor y Cyngor a'r Senedd

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 21/806CR, 'Aelodaeth Cyd-bwyllgor y Cyngor a'r Senedd'. Gwahoddwyd Tomos Evans i siarad am yr eitem hon.

Nodwyd

2046.1         i bapur diwygiedig gael ei gyhoeddi cyn y cyfarfod;

2046.2         bod y papur yn gofyn am gychwyn y broses i recriwtio Is-Ganghellor a Llywydd newydd; yn unol ag Ordinhad 7, roedd hyn yn gofyn am sefydlu Cyd-bwyllgor o'r Cyngor a'r Senedd i oruchwylio'r broses recriwtio a gwneud argymhelliad ar gyfer penodi;

2046.3         bod Ordinhad 7 yn rhagnodi mai Cadeirydd y Cyngor fyddai Cadeirydd y Cyd-bwyllgor ac yn rhagnodi ar gyfer pedwar aelod arall o'r Cyngor; argymhellodd Cadeirydd y Cyngor y dylai Is-Gadeirydd y Cyngor a rhywun o'r tu allan i'r Brifysgol fod yn aelodau, gan ganiatáu i ddau aelod arall o'r Cyngor fod yn aelodau o'r Pwyllgor, gan nodi na allant fod yn weithwyr i’r Brifysgol nac yn fyfyrwyr ynddi;

2046.4         bod Cadeirydd y Cyngor yn croesawu enwebiadau gan aelodau lleyg y Cyngor i fod yn aelodau o'r Cyd-bwyllgor;

2046.5         bod argymhellion ar gyfer bod ag aelod allanol o’r Cyd-Bwyllgor yn cael eu croesawu; awgrymwyd y dylai’r rhain fod yn unigolion sydd â phrofiad Is-Ganghellor, er nad ydynt o reidrwydd yn Is-Ganghellor cyfredol, ac nad oedd angen iddynt ddod o un o sefydliadau Grŵp Russell;

2046.6         bod argymhellion hefyd ar gyfer cynghorydd allanol y Cyd-bwyllgor yn cael eu croesawu, byddai’r aelod hwn yn rhoi cyngor ond heb fod yn aelod â phleidlais; nid oedd angen iddynt fod â phrofiad Is-Ganghellor a gallent gynnig cyngor mewn maes mwy arbenigol a ystyrir yn bwysig i rôl neu i strategaeth y Brifysgol wrth symud ymlaen;

2046.7         y byddai enwebiadau ac argymhellion ar gyfer aelodau'r Cyd-bwyllgor, a chynghorwyr, yn cael eu hystyried gan Gadeirydd ac Is-Gadeirydd y Cyngor a bod cynnig yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y Cyngor ym mis Gorffennaf;

2046.8         bod Ordinhad 7 yn rhagnodi na allai aelodau'r Cyngor o'r Cyd-bwyllgor gynnwys myfyrwyr; nodwyd bod y Cyngor yn awyddus i sicrhau bod myfyrwyr yn cymryd rhan yn y broses recriwtio a byddai'n gofyn i'r Senedd ystyried cynnwys myfyrwyr yn aelodaeth Senedd y Cyd-bwyllgor, gan gydnabod na allai hyn gael ei bennu gan y Cyngor fel aelodaeth Senedd y Cyd-bwyllgor gan mai mater i’r Senedd yw penderfynu ar haelodaeth o’r Cyd-bwyllgor o hyd; nodwyd nad oedd diwygio Ordinhad 7 i ganiatáu aelodaeth myfyrwyr o'r Cyngor yn ddymunol ar hyn o bryd, gan y byddai hyn yn creu oedi yn y rhaglen; nodwyd hefyd y gallai cynnwys myfyrwyr neu grŵp arall yn y broses ddigwydd trwy ddulliau gwahanol (ee mewn rôl ymgynghorol i'r Cyd-bwyllgor, yn ystod gweithgareddau ymgysylltu â rhanddeiliaid ac ati);

2046.9         bod yr amserlen bresennol ar gyfer gweithgareddau recriwtio yn cynnwys ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid (Llywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd, Penaethiaid Ysgolion, staff ac ati);

2046.10       mai'r gobaith oedd cael Is-Ganghellor newydd ar ddechrau blwyddyn academaidd 2023; nodwyd bod Ordinhad 7 yn nodi y byddai'r Dirprwy Is-Ganghellor yn cyflawni swyddogaethau'r Is-Ganghellor pan fyddai swydd yr Is-Ganghellor yn wag;

2046.11       bod trafodaeth wedi'i chynnal ar y nodweddion allweddol posibl a sy’n ddymunol gan ymgeiswyr am y swydd wag.

Penderfynwyd

2046.12       cytuno i gychwyn y broses o recriwtio Is-Ganghellor a Llywydd newydd a sefydlu Cydbwyllgor o'r Cyngor a'r Senedd;

2046.13       anfon enwebiadau gan aelodau lleyg sy'n dymuno bod yn aelod o'r Cyd-bwyllgor i Gadeirydd y Cyngor erbyn dydd Gwener 10 Mehefin 2022;

2046.14       annog cynrychiolaeth i fyfyrwyr yn aelodaeth Senedd y Cyd-bwyllgor, a thrwy fecanweithiau eraill os na chaiff unrhyw fyfyrwyr eu hethol gan y Senedd;

2046.15       i'r cynllun ymgysylltu â rhanddeiliaid gael ei rannu â'r Cyngor pan fydd yn barod.

2047 Ailbenodi'r Canghellor

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 21/807C, 'Ailbenodi'r Canghellor'. Gwahoddwyd Rashi Jain, Ysgrifennydd y Brifysgol, i siarad am yr eitem hon.

Nodwyd

2047.1         oherwydd amryfusedd, fod dyddiad diwedd tymor y Canghellor a'r Dirprwy Ganghellor wedi'i fethu; roedd proses ddiwygiedig wedi'i rhoi ar waith i sicrhau na fyddai hyn yn cael ei golli yn y dyfodol;

2047.2         bod yr Is-Ganghellor o'r farn bod y perthnasoedd yn ddefnyddiol ac o fudd a'i fod yn gefnogol i'r ailbenodiadau;

2047.3         i ymholiad gael ei godi yng nghyfarfod y Cyngor ym mis Chwefror 2022 mewn perthynas â sicrhau llwybrau uwchgyfeirio digonol a phriodol, o ystyried y penderfyniad i beidio â phenodi Uwch Lywodraethwr Annibynnol; cytunwyd y byddai'r Canghellor yn cyflawni rôl cyfryngwr yn hyn o beth, pe byddai angen.

Penderfynwyd

2047.4         cymeradwyo ailbenodi’r Farwnes Jenny Randerson yn Ganghellor am ail dymor, rhwng 02 Ionawr 2022 a 01 Ionawr 2025;

2047.5         cymeradwyo ailbenodi’r Athro Heather Stevens yn Ddirprwy Ganghellor am ail dymor, rhwng 01 Rhagfyr 2021 a 30 Tachwedd 2024.

Tabl rheoli'r ddogfen

Teitl y ddogfen:Cofnodion y Cyngor 8 Mehefin 2022
Dyddiad dod i rym:30 Medi 2022