Ewch i'r prif gynnwys
Polisi

Euogfarnau Troseddol – Polisi, Gweithdrefn ac Arweiniad

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir gyda'r gallu a'r penderfynoldeb i lwyddo ar ein rhaglenni astudio. I ymgeiswyr ag euogfarn troseddol, mae Prifysgol Caerdydd yn deall y gall cael mynediad at addysg fod yn rhan bwysig o symud ymlaen ac ennill y sgiliau, gwybodaeth a'r cymwysterau angenrheidiol ar gyfer mynd i'r afael â heriau cyflogaeth. Nid yw euogfarn droseddol yn eich atal yn awtomatig rhag cael eich derbyn ar raglen astudio yn y Brifysgol.

Mae gofynion gwahanol o ran datgelu gwybodaeth, yn seiliedig ar p’un a ydych am astudio rhaglen reoledig neu heb ei rheoleiddio (gan gynnwys modiwlau Dysgu Gydol Oes ac Addysg/Datblygiad Proffesiynol Barhaus (DPP), yr ystyrir eu bod yn rhaglenni at ddibenion y polisi hwn).

Ein nod yw bod gwybodaeth ar ein gofynion o ran datgelu mor hygyrch â phosibl. Oherwydd bydd gofynion datgelu yn amrywio yn ôl y rhaglen astudio (ar sail natur a chynnwys y cwrs), gellir bwrw golwg ar wybodaeth ar ofynion ar ein tudalennau gwybodaeth ynghylch cyrsiau (dewiswch y rhaglen sydd gennych ddiddordeb mewn astudio). Os ydych yn ystyried gwneud cais, mae pob croeso i chi gysylltu i drafod natur eich euogfarn yn gyfrinachol. Fe'ch cynghorir i gysylltu wrth gam cynnar y broses o wneud cais, i ganiatáu digon o amser i drafod unrhyw ofynion posibl y gallwn eu rhoi ar waith er mwyn cefnogi'r broses o fwrw ymlaen â'ch astudiaethau.

Os hoffech gael cyngor ac arweiniad ar y dewisiadau a'r cymorth sydd ar gael i chi, cysylltwch â ni ar bob cyfrif yn admissions-advice@caerdydd.ac.uk. Gallwn drafod eich amgylchiadau trwy e-bost neu drefnu amser addas i alw.

1. Polisi

1.1. Mae'r polisi hwn yn berthnasol i dderbyniadau ac ymgeiswyr yn unig

1.2. Bydd polisïau ar wahân ar waith ar gyfer agweddau eraill ar fyw ac astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, fel (ond heb eu cyfyngu i) preswylfeydd/llety, gwirfoddoli, cynrychioli'r Brifysgol a gweithio iddi.

1.3. Mae Prifysgol Caerdydd yn derbyn bod system cyfiawnder troseddol gadarn, ar sail tystiolaeth ac mai rôl a chyfrifoldeb y Gwasanaeth Cyfiawnder Troseddol yw pennu pa mor addas yw unigolyn ar gyfer ei integreiddio o fewn y gymdeithas yn fwy eang.

1.4. Yn rhan o'r broses dderbyn, dim ond gwybodaeth am yr euogfarnau troseddol a ganlyn fydd ei hangen ar Brifysgol Caerdydd:

a) Rhaglenni Rheoledig

Rhaglenni rheoledig yw'r rheini sy'n arwain at broffesiynau neu alwedigaethau sydd wedi'u heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Mae'r rhain yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i Meddygaeth, Deintyddiaeth, Nyrsio, Radiograffeg, Fferylliaeth, Ffisiotherapi, Optometreg, Dysgu a Gwaith Cymdeithasol, ac mae nifer o raglenni'r Gyfraith o dan y categori hwn hefyd. Mae'r rhaglenni hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeisydd hunanddatgelu pob euogfarn drwy gwestiwn sy'n rhaid ei ateb ar y ffurflen gais ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i ymgeisydd ymgymryd â phrawf addasrwydd i ymarfer a gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) cyn cofrestru, fel yn ôl y manylion ym Mholisi’r Brifysgol ar Bennu Addasrwydd Ymgeisydd i Ymarfer a Chymhwysedd i Fynd ar Drywydd Rhaglenni Astudio a Reoleiddir.

Dylai ymgeiswyr sydd ar restr y rheini a waherddir fod yn ymwybodol y byddai gwneud cais i raglen reoledig yn cael ei ystyried yn drosedd yn ôl pob tebyg.

b) Rhaglenni sydd heb eu rheoleiddio

Rhaglenni sydd heb eu rheoleiddio yw'r rhaglenni hynny nad ydynt yn arwain yn uniongyrchol at broffesiwn sydd wedi'i eithrio.

Ni fydd angen i ymgeiswyr ar gyfer rhaglenni sydd heb eu rheoleiddio ddatgelu eu cofnod troseddol oni bai eu bod, ar hyn o bryd, yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eu gallu i gwblhau eu hastudiaethau'n llwyddiannus. Cynhelir asesiad risg ym mhob achos o ddatgelu gwybodaeth.

Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd ymgeiswyr â chofnod troseddol yn destun unrhyw gyfyngiadau ac mewn amgylchiadau o'r fath, nid oes rhaid i ymgeiswyr ddatgelu. Er enghraifft, byddai cyfyngiadau ar ddefnydd o gyfrifiaduron neu fynediad i'r rhyngrwyd yn atal myfyriwr rhag cwblhau gradd mewn cyfrifiadureg yn llwyddiannus (cewch wybodaeth ychwanegol ar ddiwedd y polisi hwn am gyfyngiadau sy'n ymwneud â mynediad i gyfrifiaduron neu'r rhyngrwyd,) neu gyfyngiad na fyddai'n caniatáu i fyfyriwr fynd i labordy, yn atal ymgeisydd rhag bod ar ein rhaglenni gradd Gwyddorau Biolegol a Chemeg. Caiff y mathau o amodau trwydded a/neu gyfyngiadau monitro sy'n golygu bod rhaid datgelu, eu hamlinellu ym mhob un o'r tudalennau gwybodaeth am gyrsiau oherwydd bydd y rhain yn unigryw i’r rhaglenni astudio penodol.

Nid oes rhaid i ymgeiswyr ddatgelu'r wybodaeth hon oni bai eu bod yn bwriadu astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Ar gyfer rhaglenni israddedig lle cyflwynir ceisiadau drwy UCAS, byddwch yn datgelu hyn pan fyddwch yn nodi Prifysgol Caerdydd fel eich dewis cadarn; ar gyfer pob rhaglen arall, byddwch yn datgelu hyn pan fyddwch yn derbyn eich cynnig o le. Bydd manylion y wybodaeth y mae'n ofynnol i chi ei datgan a sut i wneud hyn yn nhelerau ac amodau cynnig a anfonir at bob ymgeisydd ar yr adeg berthnasol yn y cylch derbyn. Gallwch wneud cais am ragor o wybodaeth/cyngor gan y Tîm Cefnogi Derbyn Myfyrwyr drwy ebostio admissions-advice@caerdydd.ac.uk.

Pan mae'r Gwasanaeth Cyfiawnder wedi sefydlu trefniadau diogelu a/neu gyfyngiadau a/neu amodau trwydded fydd, mewn gweithred, yn atal astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd cynigion a wnaed eisoes yn cael eu tynnu'n ôl neu bydd llefydd yn cael eu dwyn i ben, fel sy'n briodol, yn dilyn ystyriaeth gan Banel Adolygu Derbyniadau.

1.5. Os yw ymgeisydd yn methu datgelu gwybodaeth yn ôl y gofyn, mae Prifysgol Caerdydd yn cadw'r hawl i dynnu cynnig yn ôl neu ddwyn y lle i ben, fel sy'n briodol. Os yw ymgeisydd eisoes wedi ymrestru ar raglen astudio, delir â hyn yn unol â'r telerau a amlinellir yn y Rheoliadau Academaidd.

1.6. Tra na fydd rhaglen at ei gilydd yn gofyn am ddatgelu euogfarn, gallai modiwlau neu leoliadau dewisol, os cânt eu dewis, ei gwneud yn ofynnol ar ymgeisydd i ddatgelu euogfarnau troseddol perthnasol. Dyma pan mae gweithgaredd reoledig ynghlwm wrth y modiwl dewisol a/neu bod ymgeisydd yn destun unrhyw amod drwydded neu gyfyngiad monitro allai effeithio ar ei (g)allu i gwblhau'r modiwl hwnnw'n llwyddiannus.

Pan mae ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd modiwl neu leoliad dewisol, bydd yn ofynnol ar yr ymgeisydd i ddewis o blith yr opsiynau eraill sydd ar gael i wneud yn siŵr y gellir cwblhau rhaglen astudio'n llwyddiannus.Mewn rhai achosion, gall hyn arwain at ganlyniad dyfarniad llai, fel DipHE yn lle BA.

1.7. Mae Prifysgol Caerdydd yn cadw'r hawl i gynnig mynediad a ohiriwyd i ymgeiswyr lle gellir gwneud addasiadau priodol i gefnogi astudiaeth, ond lle nad oes digon o amser i'w gael i roi addasiadau y cytunwyd arnynt ar waith ar gyfer y garfan nesaf a dderbynnir ar y rhaglen.

1.8. Dim ond yr aelodau staff perthnasol fydd yn cael gwybodaeth am euogfarnau troseddol er mwyn gallu gwneud y penderfyniad ynghylch derbyn. Caiff y wybodaeth ei chadw yn unol â Pholisi Diogelu Data a Chadw Data'r Brifysgol. Lle bo’n bosibl, caiff manylion a allai ddatgelu’r ymgeisydd, fel ei enw, ei hepgor oni bai bod angen gwybod pwy yw'r ymgeisydd er mwyn dod i benderfyniad ynghylch ei dderbyn.

2. Gweithdrefn

2.1. Rhaglenni Rheoledig

Ni chaniateir i ymgeiswyr sy'n methu â datgan neu gyflwyno'r wybodaeth ofynnol (fel gwiriad manylach y DBS) gofrestru yn y Brifysgol.

Bydd unrhyw faterion sy’n cael eu codi gan yr hunanddatganiad a/neu'r adroddiad DBS, yn cael sylw yn unol â Pholisi’r Brifysgol ar Bennu Addasrwydd Ymgeisydd i Ymarfer a Chymhwysedd i Fynd ar Drywydd Rhaglenni Astudio a Reoleiddir.

2.2. Rhaglenni sydd Heb eu Rheoleiddio

Mae pob cynnig ar gyfer rhaglenni sydd heb eu rheoleiddio yn amodol ar ddatgelu pob collfarnau perthnasol sydd heb ddarfod fel yn ôl yr hyn a amlinellir yn ein polisi (gweler pwynt 1.4). Os caiff collfarn ei datgan, bydd angen i’r Panel Adolygu Derbyniadau Myfyrwyr (gweler isod) benderfynu p’un ai gymeradwyo’r ymgeisydd fel bod yn addas i astudio ai peidio.

I ddatgan collfarn droseddol sydd heb ddarfod, dylid anfon gwybodaeth, fel yn ôl y manylion isod, i'r Tîm Cefnogi Derbyn Myfyrwyr yn admissions-advice@caerdydd.ac.uk. Yn yr ohebiaeth hon, bydd angen i chi roi'r canlynol:

  • Eich enw llawn
  • Eich rhaglen astudio
  • Eich Rhif Personol gydag UCAS, neu Rif Myfyriwr Prifysgol Caerdydd (bydd hwn ar eich llythyr cynnig)
  • Manylion pob collfarn berthnasol sydd heb ddarfod fel sy'n briodol (yn unol â gofynion y rhaglen y gwnaed cais amdani), gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau a/neu amodau trwydded.
  • Swyddog prawf neu gyswllt â'r heddlu, lle bo'n berthnasol, gyda'ch caniatâd i gysylltu â nhw i drafod y cyfyngiadau.
  • Bydd unrhyw wybodaeth arall y mae'r ymgeisydd am ei rhoi (gweler isod o ran y wybodaeth y bydd y Panel Adolygu Derbyniadau yn ei hystyried).

Bydd y wybodaeth a ddarperir yn cael ei rhannu â'r Panel Adolygu Derbyniadau (a elwir y Panel o hyn ymlaen).

Ymdrinnir â'r wybodaeth hon yn gyfrinachol ond os dymunwch siarad â rhywun yn y Brifysgol cyn ei darparu, gallwch wneud hynny trwy gysylltu â'r Tîm Cefnogi Derbyniadau drwy admissions-advice@caerdydd.ac.uk i drefnu galwad.

Bydd y panel yn adolygu unrhyw wybodaeth a ddatganir. Rôl y Panel yw pennu a fyddai'r ymgeisydd (ar sail y wybodaeth a roddwyd) yn gallu cwblhau ei (h)astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd yn llwyddiannus a/neu bennu a all y Brifysgol ymgymryd â'i dyletswyddau'n foddhaol wrth dderbyn yr ymgeisydd i'r Brifysgol. Gall hefyd ystyried a gwneud argymhellion o ran agweddau eraill o ymuno â'r Brifysgol, er enghraifft, a fyddai hawl gan ymgeisydd fyw yn llety'r Brifysgol (lle'n briodol).

Caiff cais ei gyfeirio at y Panel dim ond os yw ymgeisydd yn bodloni'r gofynion academaidd (gan gynnwys safonau Cymraeg a Saesneg) ar gyfer cael cynnig lle ar raglen (h.y. mae wedi cael y cymwysterau priodol neu'n gweithio tuag atynt ar hyn o bryd).

2.3. Pan mae cais yn cael ei gyfeirio at y Panel, cymerir y camau canlynol:

2.3.1. Caiff yr ymgeisydd wybod yn ysgrifenedig (drwy ebost, fel arfer) bod ei (h)achos yn cael ei gyfeirio at y Panel, a'i (g)wahodd i'r cyfarfod ac i gyflwyno unrhyw wybodaeth bellach. Nid yw presenoldeb yn y cyfarfod hwn yn orfodol i'r ymgeisydd, ond anogir yn gryf ei bresenoldeb. Os bydd yr ymgeisydd yn gwrthod bod yn bresennol, cynhelir y cyfarfod yn ei absenoldeb.

2.3.2. Bydd y canlynol yn aelodau o'r panel (gweler hefyd pwynt 4):

  • Rhag Is-ganghellor (Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd) – Cadeirydd;
  • Aelod(au) o'r Ysgol(ion) a/neu Goleg(au) Academaidd sy'n gyfrifol am y rhaglen astudio;
  • Pennaeth Derbyn Myfyrwyr;
  • Aelod o Wasanaethau Cefnogi a Lles Myfyrwyr;
  • Aelod o Achosion Myfyrwyr;
  • Pennaeth Preswylfeydd y Brifysgol, lle'n briodol
  • Cydlynwyr a/neu ddarparwyr lleoliad, lle'n briodol

2.3.3. Bydd gan y Panel rwydd hynt i wahodd aelodau eraill o'r Brifysgol i ymuno â'r Panel mewn swyddogaeth ymgynghorol, lle bo hynny'n briodol.

2.3.4. Bydd gan y Panel y disgresiwn i enwebu dirprwy priodol i'w gynrychioli ar y Panel, lle na all aelod o'r panel fod yn bresennol.

2.3.5. Gall y Panel ofyn am gyngor cyfreithiol neu arbenigol ychwanegol.

2.3.6. Bydd y Panel yn cael ei wasanaethu gan y Tîm Cefnogi Derbyniadau.

2.3.7. Mae'r canlynol ymhlith y ffactorau gall y Panel eu dwyn i ystyriaeth:

a) Gwybodaeth am astudio hyd yn hyn.

b) Natur y drosedd a pha mor berthnasol yw i'r rhaglen.

c) Dyddiad y drosedd/troseddau.

d) Unrhyw batrwm o droseddu eto.

e) A yw amgylchiadau'r ymgeisydd wedi newid ers y drosedd/troseddau.

f) Argymhellion a chyngor gan y Gwasanaeth Cyfiawnder Troseddol (y Gwasanaeth Prawf, fel arfer).

g) Gallu'r ymgeisydd i gwblhau'r rhaglen astudio arfaethedig ar sail unrhyw gyfyngiadau a/neu ofynion (ar sail tystiolaeth a roddir gan y Gwasanaeth Cyfiawnder Troseddol). Yn rhan o'r ystyriaeth hon, bydd y Panel yn ystyried unrhyw addasiadau y gellir eu gwneud i hwyluso'r astudiaeth.

h) Lle bo'n briodol, y gallu i wneud unrhyw addasiadau mewn pryd ar gyfer dyddiad dechrau arfaethedig y rhaglen.

i) Lle bo'n briodol, gallu'r ymgeisydd i gael caniatâd i fyw ym mhreswylfeydd y Brifysgol ar sail unrhyw gyfyngiadau neu ofynion.

2.3.8. Canlyniad cyfarfod y Panel fydd:

a) cadarnhau bod y cynnig ar gael o hyd yn ôl yr hyn a wnaed i'r ymgeisydd;

b) cadarnhau addasiad i gynnig o le i'r ymgeisydd. Gallai hynny gynnwys amodau a/neu addasiadau pellach i raglen astudio (gan gynnwys y cyfle i gynnig rhaglen arall neu ohirio dyddiad dechrau);

c) gofyn am wybodaeth/cyngor pellach gan yr ymgeisydd a/neu'r gwasanaethau priodol;

d) cadarnhau bod cynnig yn cael ei dynnu'n ôl neu bod lle'n dod i ben, gan gynnwys unrhyw fanylion ynghylch y penderfyniad hwnnw.

2.3.9. Caiff ymgeiswyr wybod yn ysgrifenedig ymhen 5 diwrnod gwaith o gynnal y Panel Adolygu Derbyniadau am ganlyniad y cyfarfod, oni bai bod angen rhagor o wybodaeth/cyngor. Os oes angen rhagor o wybodaeth/cyngor, caiff yr ymgeisydd wybod hynny ynghyd â'r dyddiad tebygol o gael canlyniad, lle bo'n bosibl.

2.3.10 Mae penderfyniad y Panel yn derfynol. Does dim hawl i apelio yn erbyn penderfyniad y Panel heblaw am mewn amgylchiadau pan mae cyngor neu wybodaeth newydd nad oedd ar gael pan wnaed y penderfyniad yn cael ei rhoi gan barti perthnasol, neu os oedd tystiolaeth na ddilynwyd y weithdrefn a amlinellwyd yn y ddogfen yn gywiry.

3. Gwybodaeth Ychwanegol

Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol y bydd ambell broffesiwn yn cynnal gwiriadau cofnodion troseddol wrth y cam mynediad, er enghraifft y Gyfraith a chyfrifeg, na fyddai wedi eich atal rhag gwneud y cwrs gradd ond allai effeithio ar eich opsiynau proffesiynol ar ôl cwblhau'r rhaglen astudio. Rydym yn awgrymu bod ymgeiswyr sydd eisiau astudio cyrsiau â golwg ar broffesiwn penodol yn cynnal ymchwil i'r gofynion proffesiynol, ac yn dwyn hynny i ystyriaeth wrth ystyried opsiynau a dewisiadau o ran gradd.

Awgrymir yn gryf bod ymgeiswyr â chyfyngiadau o ran defnyddio cyfrifiaduron neu'r rhyngrwyd yn cysylltu â'r Brifysgol cyn cyflwyno cais. Disgwylir i bob myfyriwr ymgysylltu â'r Brifysgol ar lwyfannau ar-lein gan gynnwys ymrestru, dysgu canolog, mynediad i ddeunydd llyfrgell, cyflwyniadau cwrs a chyfathrebu'n gyffredinol.

Mae'r polisi hwn yn canolbwyntio ar y broses o wneud cais a derbyn myfyrwyr. Mae’n cydnabod y gallai fod angen gwybodaeth ar feysydd eraill yn y Brifysgol am euogfarnau troseddol yng nghyd-destun gwahanol wasanaethau a chyfleusterau, ac y bydd y polisi a'r broses ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio yn y Brifysgol ar hyn o bryd yn amrywio. Dyma'r polisïau allai fod yn berthnasol:

Rheoliadau Academaidd

Polisi Pennu Addasrwydd Ymgeiswyr i Ymarfer a'u Cymhwysedd i Ddilyn Rhaglenni Astudio a Reoleiddir

Polisi Diogelu

I gael rhagor o gyngor ac arweiniad ar yr opsiynau a’r cymorth sydd ar gael i chi, mae croeso i chi gysylltu â’n Tîm Cymorth Derbyn yn admissions-advice@caerdydd.ac.uk.