Cytundeb cydberthynas ag Undeb y Myfyrwyr
- Diweddarwyd ddiwethaf:
- Lawrlwytho'r ddogfen hon (PDF, 379.0 KB)
Cyflwyniad a chyd-destun
Nod y Cytundeb Perthynas hwn yw mynegi'r berthynas rhwng Prifysgol Caerdydd ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, ac mae'n amlinellu'r sail ar gyfer y berthynas rhwng y partïon a'r egwyddorion y maen nhw'n gweithredu'n unol â nhw.
Mae'r cytundeb wedi dilyn arweiniad Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn y Cylchlythyr, 'Revised guidance on good practice in funding of effective, democratic student unions, and student representation' (Cyfeirnod:W14/06HE). W14/06HE).
Mae'r cytundeb hwn yn gweithredu fel y Côd Ymddygiad a ddiffiniwyd yn, ac sy'n ofynnol yn ôl Adran 22 Deddf Addysg 1994; ac yn unol â gofynion y Ddeddf hon, rhaid i Brifysgol Caerdydd wneud yn siŵr bod y gofynion sy'n berthnasol ar gyfer Undeb y Myfyrwyr yn cael eu rhoi ar waith.
Egwyddorion
1. Statws Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Egwyddor: Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd (yr Undeb) yw Undeb Myfyrwyr Cydnabyddedig Prifysgol Caerdydd at ddibenion Deddf Addysg 1994.
Undeb Myfyrwyr yw'r Undeb, fel y'i diffinnir yn Neddf Addysg 1994, gyda rheoliadau a rheolau mewnol wedi'u cymeradwyo gan ei Fwrdd Ymddiriedolwyr a chan Gyngor y Brifysgol, sef corff llywodraethol y Brifysgol. Mae'r Undeb yn elusen gofrestredig (Rhif Elusen: 1137163) a chwmni cyfyngedig drwy warant a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr (Rhif Cwmni: 07328777). Mae'r Undeb yn annibynnol ac yn gweithredu ar wahân i'r Brifysgol. Mae hefyd yn gwmni elusennol. Felly, mae ei gyfansoddiad wedi'i lunio gan ei Femorandwm a'i Erthyglau Cyweithio Mae'n cael ei lywodraethu gan Fwrdd o Ymddiriedolwyr, sy'n gweithredu fel Cyfarwyddwyr at ddibenion cyfraith cwmnïau ac fel Ymddiriedolwyr at ddibenion cyfraith elusennau. Y rheswm dros hynny yw statws yr Undeb fel cwmni elusennol. Mae'n rhaid i fwyafrif o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr gytuno ar benderfyniadau'r Bwrdd.
Mae gan yr Undeb yr hawl i reoli ei faterion a'i gyllid ei hun fel y'i diffinnir yn ei Femorandwm ac Erthyglau Cyweithio, a gymeradwyir ar y cyd gan y Brifysgol ar gyfnodau heb fod yn hwy na phum mlynedd. Yn unol â Deddf Addysg 1994, mae gan Gyngor y Brifysgol ddyletswydd statudol i sicrhau bod yr Undeb yn cael ei redeg mewn modd teg a democrataidd a'i fod yn atebol am ei gyllid.
Mae gan yr Undeb ddau is-gwmni a reolir gan yr Undeb yn rhinwedd ei unig aelodaeth: Cardiff Union Services Limited (CUSL) a Gwirfoddoli Caerdydd (CV), ac mae Gwirfoddoli Caerdydd yn gwmni elusennol. Adroddir ar y cwmnïau hyn, ynghyd â'r Undeb fel grŵp.
Amcanion elusennol yr Undeb yw hyrwyddo addysg myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd er budd y cyhoedd drwy: hybu buddiannau a lles myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn ystod eu hastudiaeth a chynrychioli, cefnogi a chynghori myfyrwyr; bod yn sianel gynrychioliadol gydnabyddedig rhwng Myfyrwyr a Phrifysgol Caerdydd ac unrhyw gyrff allanol eraill; a darparu gweithgareddau a fforymau cymdeithasol, diwylliannol, chwaraeon a hamdden ar gyfer trafodaethau a dadleuon ar gyfer datblygiad personol ei Fyfyrwyr.
2. Partneriaeth strategol
Egwyddor: Mae'r Brifysgol a'r Undeb yn gweithio mewn partneriaeth i lywio’r gwaith o ddatblygu a gweithredu cynlluniau strategol sy’n cefnogi ei gilydd..
Mae gan y Brifysgol a'r Undeb gynlluniau strategol sy’n ceisio gwella addysg a phrofiad pob myfyriwr yn y Brifysgol. Mae'r Swyddogion Etholedig a staff yr Undeb yn cwrdd â staff y Brifysgol ar bob lefel yn rheolaidd mewn ystod o leoliadau ffurfiol ac anffurfiol er mwyn gwella eu priod amcanion strategol.
Mae'r Undeb yn adrodd am ei weithgareddau ac yn nodi meysydd sy’n peri pryder trwy adroddiadau rheolaidd i Gyngor y Brifysgol ac mewn cyfarfodydd gyda staff y Brifysgol ar bob lefel. Mae Llywydd etholedig yr Undeb a'r Prif Weithredwr penodedig yn cwrdd yn rheolaidd â'r Is-Ganghellor a Phrif Swyddog Gweithredu'r Brifysgol yn y drefn honno, ac mae uwch staff y Brifysgol yn cwrdd yn rheolaidd â swyddogion etholedig yr Undeb.
Mae'r Brifysgol yn trefnu cyfnod ymsefydlu blynyddol ar gyfer Swyddogion Etholedig yr Undeb er mwyn cyfathrebu strwythurau, llywodraethiant, blaenoriaethau a phrosiectau'r Brifysgol. Mae'r rhaglen gynefino hefyd yn ceisio sefydlu perthynas a darparu fforwm ar gyfer trafod meysydd sydd o ddiddordeb i'r ddwy ochr.
Mae gan y Brifysgol yr hawl i enwebu dau Ymddiriedolwr i ddod yn aelodau o Fwrdd Ymddiriedolwyr yr Undeb, fel y'u diffinnir gyda Memorandwm ac Erthyglau Cyweithio yr Undeb. Cydnabyddir bod cyfraniad Ymddiriedolwyr a Enwebwyd gan Brifysgol yn rhan annatod o lywodraethu da'r Undeb. Bydd Aelodau Myfyrwyr y Cyngor yn cynnwys Llywydd Undeb y Myfyrwyr ac un swyddog etholedig arall o’r Undeb, yn unol ag Ordinhadau’r Brifysgol. Mae cydnabyddiaeth o bwysigrwydd safbwynt myfyrwyr yn rhan o broses y Brifysgol o wneud penderfyniadau'n cael ei hamlygu gan y ffaith bod myfyrwyr yn aelodau o bob un o brif bwyllgorau'r Brifysgol, yn ogystal â grwpiau ymgynghorol y Brifysgol.
Yn ogystal â chael myfyrwyr yn aelodau o gorff llywodraethol y Brifysgol, mae myfyrwyr yn aelodau o gyrff eraill gan gynnwys: Y Llys, y Senedd, Polisi ac Adnoddau, yr Is-bwyllgor Buddsoddi a Bancio, Pwyllgor Llywodraethu, Pwyllgor Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a Chynhwysiant, Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr, Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd, ac ystod o grwpiau eraill sy’n gysylltiedig â Phrofiad Myfyrwyr.
Mae myfyrwyr sy’n aelodau o'r Cyngor yn cael sesiwn ymsefydlu sy'n cwmpasu'r canlynol: rôl a chyfrifoldebau aelodau corff llywodraethu gan ganolbwyntio'n benodol ar y gydgyfrifoldeb yn y pen draw am lywodraethu'r sefydliad; rôl ymddiriedolwr Elusen Gofrestredig; cyfrifoldebau am gydymffurfiaeth; Confensiynau ynghylch cyfrinachedd a datgan gwrthdaro buddiannau; Gwybodaeth am weledigaeth a chenhadaeth y Brifysgol, cynllunio strategol, cyllid, ystadau a llywodraethu academaidd.
3. Prifysgol sy' n Canolbwyntio ar Fyfyrwyr
Egwyddor: Mae'r Brifysgol a'r Undeb yn rhannu ymrwymiad i ddatblygu a gwella profiad y myfyrwyr.
Mae lefel uchel o ymgysylltu rhwng y Brifysgol, yr Undeb a'r corff myfyrwyr. Mae'r bartneriaeth hon yn galluogi myfyrwyr i ddod yn ddysgwyr annibynnol a chydol oes o fewn diwylliant sy'n meithrin, yn hyrwyddo ac yn parchu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae'r system Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr a strwythurau llywodraethu'r Undeb yn galluogi'r Brifysgol a'r Undeb i barhau i gydweithio er mwyn gwella bodlonrwydd myfyrwyr.
Mae'r Undeb yn cefnogi strategaeth y Brifysgol, yn enwedig ei nod o wireddu potensial ei myfyrwyr. Strategaeth y Brifysgol ar hyn o bryd yw Y Ffordd Ymlaen 2018-2023: Ail-lunio COVID-19.
Mae'r Undeb yn bodoli i hyrwyddo lles myfyrwyr ac i gynnig gweithgareddau a fforymau cymdeithasol, diwylliannol, chwaraeon a hamdden ar gyfer trafodaethau a dadleuon ar gyfer datblygiad personol myfyrwyr. Nod y gweithgareddau hyn yw cefnogi lles myfyrwyr, cadw myfyrwyr a gwella cyflogadwyedd myfyrwyr yn unol â nodau'r Brifysgol.
Drwy gyfathrebu a chydweithio'n rheolaidd, mae Tîm Cynghori Myfyrwyr yr Undeb a Gwasanaethau Bywyd Myfyrwyr y Brifysgol yn parchu ac yn cefnogi ei gilydd i hyrwyddo ac amddiffyn buddiannau a lles corff y myfyrwyr.
4. Llais y Myfyriwr
Egwyddor: Bydd y Brifysgol a'r Undeb yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau cyfleoedd i fyfyrwyr fynegi eu barn a bod yn bartneriaid wrth wneud penderfyniadau'r Brifysgol a'r Undeb.
Swyddogion Etholedig yr Undebau
Mae gan yr Undeb 7 Swyddog Llawn Amser (yr Ymddiriedolwyr Sabothol) a 10 Swyddog Rhan Amser, sy'n cael eu hethol drwy bleidlais ar draws y campws i gynrychioli amrywiol grwpiau cyfansoddol corff y myfyrwyr yn ôl eu disgrifiad swydd. Diben y Swyddogion hyn yw ymgysylltu â myfyrwyr a gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid i gyfleu eu barn a'u buddiannau i'r Brifysgol ac i gyrff allanol. Yn ystod eu gwaith, bydd Swyddogion Etholedig yn defnyddio gwahanol ffurfiau o ymgyrchu, aelodaeth o bwyllgorau'r Brifysgol, a chyfarfodydd ffurfiol ac anffurfiol eraill gyda staff y Brifysgol a chyrff allanol.
Y System Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr
Mae Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr yn fyfyrwyr sy'n cael eu hethol gan gymheiriaid o fewn eu carfan i roi cysylltiad hanfodol rhwng eu Hysgol a'u Coleg i'r Undeb a'r Brifysgol ehangach. Eu prif gyfrifoldebau yw cynrychioli eu cyd-fyfyrwyr; helpu i wneud penderfyniadau sy'n gwella profiad y myfyriwr; rhoi adborth ar y penderfyniadau hyn i'w carfan; a gweithio mewn partneriaeth â staff y Brifysgol i ddatblygu prosiectau a mentrau.
Mae'r Brifysgol a'r Undeb yn cefnogi'r system Cynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr ar y cyd ac yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau cynrychiolaeth i fyfyrwyr ar lefel Ysgol, Coleg a Phrifysgol gyfan. Mae'r Undeb yn cymryd cyfrifoldeb dros recriwtio, hyfforddi a chefnogi'r Cynrychiolwyr Academaidd drwy Dîm Llais y Myfyrwyr yn yr Undeb. Mae'r Brifysgol, trwy'r Ganolfan Arloesedd a Chefnogaeth Addysg, yn cefnogi'r broses o wreiddio'r system Cynrychiolwyr Academaidd ym Mhwyllgorau'r Brifysgol, a phenodi Cydlynwyr Cynrychiolwyr Myfyrwyr o fewn Ysgolion. Mae'r Brifysgol a'r Undeb yn sicrhau bod Cynrychiolwyr Academaidd yn cael mynediad at ddata arolwg perthnasol, canlyniadau gwerthuso modiwlau, cofnodion Panel Staff y Myfyrwyr a chofnodion Byrddau Astudiaethau i gefnogi eu gwaith.
Adborth myfyrwyr ac arolygon myfyrwyr
Er mwyn ceisio deall anghenion myfyrwyr, mae' r Brifysgol a'r Undeb yn cynnal trafodaethau anffurfiol yn rheolaidd ac yn casglu data gan fyfyrwyr er mwyn gwella profiad myfyrwyr. Mae enghreifftiau o ddata a ddefnyddir yn y ffordd hon yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr, Arolwg o Brofiad Ymchwilwyr Ôl-raddedig (PRES), Arolwg o Brofiadau Ôl-raddedigion a Addysgir (PTES), Arolwg Croeso i Gaerdydd, Gwerthuso Modiwlau, Wythnos Siarad, Panel Myfyrwyr/Staff Cofnodion, Grwpiau Ffocws a gweithdai.
Barn y Myfyrwyr
Mae'r Undeb yn cyflwyno Barn y Myfyrwyr i Gyngor y Brifysgol bob blwyddyn. Mae'r cyflwyniad yn nodi'r materion allweddol, pryderon corff y myfyrwyr ac yn awgrymu prosiectau a chamau gweithredu posibl ar gyfer y Brifysgol, gan gynnwys cydbwyso blaenoriaethau bugeiliol ac academaidd. Mae' r cyflwyniad hefyd yn adrodd ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y camau gweithredu a argymhellwyd mewn blynyddoedd blaenorol. Mae'r Brifysgol yn ymrwymo i ddarparu ymateb ysgrifenedig sy'n cael ei gyflwyno i'r Cyngor i'w gymeradwyo ac yn rhoi manylion am sut y bydd yn mynd i'r afael ag argymhellion y cyflwyniad. Mae'r grŵp llywio Barn y Myfyrwyr a gadeirir ar y cyd yn goruchwylio'r cynnydd ac yn adrodd yn achlysurol i'r Cyngor. Mae'r Brifysgol a'r Undeb yn ymrwymo i gefnogi'r gweithgareddau hyn a'u datblygu fel y bo'n briodol, gan ddefnyddio Grŵp Arolygon Myfyrwyr y Brifysgol.
5. Ymddygiad myfyrwyr
Egwyddor: Mae'r Brifysgol a'r Undeb yn gweithio'n gydweithredol i ymchwilio i ac i wrando ar honiadau o ymddygiad myfyrwyr yn ymwneud â grwpiau, clybiau a chymdeithasau myfyrwyr neu ag unigolion pan maent ar safleoedd yr Undeb neu wrth gymryd rhan yng ngweithgareddau a gwasanaethau Undeb y Myfyrwyr.
Mae gan y Brifysgol a'r Undeb broses o ymchwilio ar y cyd ar gyfer ymchwilio i faterion sy'n ymwneud ag ymddygiad honedig unigolion a/neu grwpiau, clybiau a chymdeithasau myfyrwyr, a adolygir yn flynyddol gan gofrestrydd academaidd y Brifysgol a Phrif Weithredwr yr Undeb. Mae'r broses wedi'i chynllunio i fynd i'r afael â phryderon ymddygiad grwpiau myfyrwyr mewn modd cyflym, teg a chyson.
Mae gan yr Undeb god ymddygiad annibynnol ar gyfer aelodau myfyrwyr unigol, wedi'i gymhwyso mewn perthynas ag ymddygiad myfyrwyr ar fangreoedd yr Undeb neu tra bônt yn cymryd rhan yng ngweithgareddau a gwasanaethau'r Undeb. Mae'r Undeb yn rhannu manylion digwyddiadau ymddygiad myfyrwyr difrifol a sylweddol yn unol â'r broses ymchwilio ar y cyd. Mae'r Brifysgol yn gyfrifol am ymddygiad cyffredinol myfyrwyr yn y Brifysgol ac mae'n cynnal polisi, prosesau a gweithdrefnau cysylltiedig ac mae pob un o'r rhain sy’n caniatáu i fyfyrwyr geisio cyngor a chynrychiolaeth gan yr Undeb.
6. Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Egwyddor: Mae gan y Brifysgol a'r Undeb ymrwymiad cyffredin i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Mae'r Siarter yn diffinio cymuned urddasol ac egwyddorol fel un lle caiff cydraddoldeb ei hyrwyddo, amrywiaeth a chynwysoldeb eu gwerthfawrogi ac unigolion eu parchu; caiff ymddygiad ei lywio gan godau unplygrwydd academaidd, moeseg ac ymddygiad da; mae pawb yn derbyn eu cyfrifoldebau i'w gilydd; a chymuned sy'n trin y Saesneg a'r Gymraeg ar sail cydraddoldeb. Mae gan y Brifysgol Gynllun Cydraddoldeb Strategol i hyrwyddo cydraddoldeb a sicrhau gwelliannau o ran cydraddoldeb, ac ategir hyn gan lawer o bolisïau cysylltiedig, gan gynnwys y polisi Urddas yn y Gwaith a Pholisi Astudio. Mae Cynllun y Brifysgol a dogfennau llywodraethiant yr Undeb yn cyfeirio'n benodol at gydraddoldeb y Gymraeg a'r Saesneg.
Mae'r Brifysgol yn hyrwyddo hinsawdd o gyfle cyfartal i bob myfyriwr ac mae’n sicrhau ei bod yn bodloni ei chyfrifoldebau o ran cydraddoldeb, amrywiaeth, diogelu a nodweddion gwarchodedig. Mae'r Brifysgol yn darparu hyfforddiant ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant i staff o fewn y Brifysgol a'r Undeb er mwyn sicrhau y caiff yr egwyddorion craidd hyn eu hyrwyddo. Mae'r Undeb wedi'i achredu â statws Buddsoddwyr mewn Amrywiaeth ac mae wedi ymrwymo i gynnal y safon.
7. Y Weithdrefn Gwyno
Egwyddor: Mae gweithdrefn gwyno ar gael i fyfyrwyr sy'n anfodlon yn eu hymwneud â'r Undeb.
Gall myfyrwyr sy'n anfodlon ar eu profiadau gyda'r Undeb neu sy'n honni eu bod dan anfantais annheg oherwydd eu bod wedi arfer eu hawl i beidio â bod yn aelod o'r Undeb wneud cwyn i'r Undeb, yn unol â Gweithdrefn Cwyno, Disgyblu ac Apeliadau'r Undeb (Atodiad 1 Atodiadau Is-ddeddfau'r Undeb). Os yw myfyriwr yn parhau i fod yn anfodlon, gall gwyno i'r Brifysgol yn unol â gofynion Deddf Addysg 1994. Gall y Brifysgol gyfeirio'r mater i gael ei ystyried gan berson a benodir yn annibynnol gan y corff llywodraethu.
8. Rhyddid Barn
Egwyddor: Mae'r Brifysgol a'r Undeb wedi ymrwymo i'r egwyddor o ryddid mynegiant yn unol â'r gyfraith.
Mae Deddf Addysg (2) 1986 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Brifysgol gymryd unrhyw gamau sy 'n rhesymol ymarferol i sicrhau bod rhyddid barn o fewn y gyfraith yn cael ei sicrhau i fyfyrwyr, i staff ac i ymwelwyr. Mae Deddf Addysg (2) 1986 hefyd yn gosod dyletswydd ar y Brifysgol i gyhoeddi Côd Ymarfer ynghylch Rhyddid Mynegiant; sy'n amlinellu’r gweithdrefnau a’r ymddygiad sy’n ofynnol gan y rhai hynny sy’n trefnu neu'n mynychu cyfarfodydd neu weithgareddau eraill.
Mae'r Brifysgol a'r Undeb yn dilyn gweithdrefn archebu siaradwyr allanol sefydledig er mwyn sicrhau y cynhelir rhyddid mynegiant yn unol â'r gyfraith. Mae holl ddigwyddiadau'r Undeb, gan gynnwys digwyddiadau clybiau a chymdeithasau myfyrwyr cysylltiedig, yn dod o fewn y weithdrefn hon. Mae'r cyfyngiadau ar ryddid mynegiant a osodir gan y Brifysgol yn unol â'r gyfraith wedi'u manylu yn adran 4 Côd Ymarfer y Brifysgol ynghylch Rhyddid Mynegiant.
9. Diogelu data a’i rannu
Egwyddor: Mae'r Brifysgol a'r Undeb yn cydnabod pwysigrwydd perthynas agored pan fydd gwybodaeth yn cael ei rhannu'n briodol a bydd data personol yn cael ei rannu mewn modd cyfreithlon a diogel.
Cytundeb Prosesu Data sy’n rheoli’r broses o rannu data personol rhwng dau barti. Mae’n cael ei adolygu a'i gytuno bob dwy flynedd ac yn cydymffurfio â Pholisïau Diogelu Data a Diogelwch Gwybodaeth y Brifysgol a Pholisi Diogelu Data/Datganiadau Preifatrwydd Undeb y Myfyrwyr. Mae Hysbysiad Diogelu Data Myfyrwyr ac Ymgeiswyr y Brifysgol yn rhoi rhagor o wybodaeth am ba ddata myfyrwyr sy'n cael ei rannu, sut rydym yn ei rannu a'r rhesymau dros ei rannu. Mae hysbysiad preifatrwydd Undeb y Myfyrwyr yn manylu ar y wybodaeth gyfatebol ar gyfer Undeb y Myfyrwyr a gedwir yn ddata personol sy'n cael ei rannu â'r Brifysgol.
10. Cefnogaeth ac Ymrwymiad Cilyddol
Egwyddor: Mae'r Brifysgol a'r Undeb wedi ymrwymo i'r bartneriaeth, rhyngweithio adeiladol a pharch ar y cyd.
Sefydlir perthynas y Brifysgol a'r Undeb o fewn Siarter, Statudau ac Ordinhadau'r Brifysgol a manylir ymhellach arnynt yn Siarter y Myfyrwyr a'r cytundeb perthynas hwn. Mae'r Brifysgol a'r Undeb yn buddsoddi amser ac adnoddau yn y bartneriaeth ac o ganlyniad maent wedi mwynhau perthynas lwyddiannus dros gyfnod estynedig. Cydnabyddir bod cyfathrebu llawn, agored a rheolaidd ar faterion sy'n debygol o gael effaith ar y parti arall, poblogaeth y myfyrwyr a/neu gyd-randdeiliaid eraill yn ategu llwyddiant a chryfder parhaus y bartneriaeth.
Mae'r Brifysgol a'r Undeb yn cydnabod ac yn parchu'r rôl wahanol sydd gan y naill a’r llall. Mae'r Brifysgol yn cydnabod gwerth Undeb Myfyrwyr cryf ac annibynnol a arweinir gan fyfyrwyr sydd â'r pŵer i bennu a rheoli ei faterion ei hun.
Mae'r Undeb yn cydnabod yr angen am i'r Brifysgol gydbwyso buddiannau ystod o randdeiliaid o fewn cyd-destun allanol sy'n fwyfwy heriol. Mae'r Brifysgol a'r Undeb yn cydnabod y gall hyn arwain at wahaniaethau barn a phan fo hynny'n digwydd ymrwymo i gymryd rhan mewn deialog adeiladol sy'n cydnabod manteision cydweithio i wella profiad y myfyriwr.
11. Cyllid a Chyfrifon yr Undeb
Egwyddor: Mae gan yr Undeb y pŵer i reoli ei faterion a'i gyllid ei hun, yn unol â gofynion Ordinhadau'r Brifysgol a'r cytundeb ariannol rhwng y Brifysgol a'r Undeb.
Yn unol â Deddf Addysg 1994 mae gan y Brifysgol ddyletswydd statudol i sicrhau bod yr Undeb yn cael ei redeg mewn modd teg a democrataidd a'i fod yn atebol am ei gyllid. Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu Grant Bloc a chefnogaeth ariannol arall i'r Undeb gyda strwythur o gefnogaeth, goruchwylio a rhoi gwybod am fanylion o fewn cytundeb ariannol. Mae cefnogaeth ariannol i'r Undeb yn destun adolygiad gan y Pwyllgor Polisi ac Adnoddau, cymeradwyaeth gan Gyngor y Brifysgol, ac fe’i rhoddir yn unol â gofynion Ordinhad 13 a'r cytundeb ariannol rhwng y Brifysgol a'r Undeb.
12. Adeilad a meddiannaeth Undeb y Brifysgol o safle'r Brifysgol
Egwyddor: Mae'r Undeb yn meddiannu adeilad Undeb y Brifysgol ym Mhlas y Parc trwy brydles gan y Brifysgol ac mae'n meddiannu detholiad o ystafelloedd o fewn adeilad Neuadd Meirionnydd ar gampws y Mynydd Bychan.
Mae'r Undeb yn meddiannu adeilad Undeb y Brifysgol ym Mhlas y Parc trwy brydles am rent rhad, ac mae'r gefnogaeth anariannol hon yn greiddiol i'r gefnogaeth a ddarperir gan y Brifysgol i'r Undeb. Mae'r grant bloc blynyddol a wneir i'r Undeb yn ystyried rhwymedigaethau costau cynnal a chadw a rhedeg yr Undeb sy'n gysylltiedig ag adeilad Undeb y Brifysgol.
Mae'r Undeb yn meddiannu detholiad o ystafelloedd o fewn adeilad Neuadd Meirionnydd ar gampws Parc y Mynydd Bychan heb gytundeb ffurfiol, er mwyn cefnogi gweithgareddau a gwasanaethau'r Undeb ar gampws Parc y Mynydd Bychan. Mae'r Brifysgol a'r Undeb yn ymrwymo i weithio gyda'i gilydd i sicrhau bod mannau, gweithgareddau a gwasanaethau ffisegol yn cael eu darparu ar gyfer gweithgareddau'r Undeb ar gampws y Mynydd Bychan.
Mae'r Brifysgol yn ymrwymo i alluogi staff a swyddogion yr Undeb i gael mynediad at adeiladau'r Brifysgol yn unol â nodau ac amcanion yr Undeb. Yn yr un modd, mae'r Undeb yn ymrwymo i alluogi staff y Brifysgol i gael mynediad i fannau’r Undeb. Mae staff y Brifysgol hefyd yn cael aelodau cysylltiol o'r Undeb i ganiatáu iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau a gwasanaethau'r Undeb.
13. Cysylltiad â Chyrff Allanol
Egwyddor: Mae gan yr Undeb yr hawl i ymlynu wrth sefydliadau allanol yn unol â'i amcanion a Chyfraith Elusennol Mae'r Undeb yn penderfynu ar ei ymlyniadau'n ddemocrataidd gan ufuddhau i'r rheolau o fewn ei Femorandwm a'i Erthyglau Cyweithio ac yn unol â'r gofynion yn Neddf Addysg 1994.
Mae'r Undeb yn cyhoeddi rhestr o ymlyniadau allanol a ffioedd a delir i'r sefydliadau hynny yn flynyddol yn ei Adroddiad Blynyddol gan yr Ymddiriedolwyr, yn unol â Deddf Addysg 1994.
Manylir ar y gweithdrefnau i adolygu ymlyniadau wrth sefydliadau allanol ym Memorandwm ac Erthyglau Cyweithio, Is-ddeddfau ac Atodiadau Is-ddeddfau yr Undeb. Yn unol â Deddf Addysg 1994 gall Cyngor y Brifysgol bennu'r cyfnod amser ar gyfer adolygu a chyfran yr Aelodau sy'n ofynnol i ofyn am adolygiad o ymlyniadau allanol, i'w benderfynu drwy bleidlais gudd (y mae gan bob aelod o'r Undeb yr hawl i gymryd rhan ynddi).
14. Dyrannu Adnoddau'r Undeb i Grwpiau, Clybiau a Chymdeithasau Myfyrwyr
Egwyddor: Yn unol â gofynion Deddf Addysg 1994, mae'r Brifysgol yn disgwyl bod gweithdrefn ar gyfer dyrannu adnoddau'n briodol i grwpiau myfyrwyr. Dylai'r drefn ar gyfer dyrannu adnoddau i grwpiau a chlybiau myfyrwyr fod yn deg, wedi'i nodi mewn ysgrifen a dylai fod ar gael yn rhwydd i bob myfyriwr.
Mae'r Undeb yn darparu cyllid i grwpiau, clybiau a chymdeithasau myfyrwyr trwy grantiau cyffredinol ac arbennig. Manylir ar y broses neu'r cais ar gyfer ariannu ar wefan yr Undeb (www.cardiffstudents.com) o dan yr adrannau ar gyfer grwpiau, clybiau a chymdeithasau myfyrwyr. Gall myfyrwyr ofyn am ragor o wybodaeth drwy gysylltu ag unrhyw un o Ymddiriedolwyr Sabothol neu staff uwch yr Undeb.
15. Statws a Chyhoeddi'r Cytundeb hwn
Egwyddor: Bydd y Brifysgol a’r Undeb yn adolygu’r Cytundeb Perthynas yn flynyddol.
Bydd y Cytundeb Perthynas yn cael ei adolygu’n flynyddol gan Gyngor y Brifysgol a Bwrdd Ymddiriedolaeth yr Undeb. Mae wedi'i gyhoeddi yn adran llywodraethu gwefan y Brifysgol ac yn adran llywodraethu gwefan yr Undeb, a chyfeirir ati ym mhroses ymsefydlu'r Brifysgol y mae myfyrwyr yn ei dilyn yn flynyddol.
16. Cyfeirnodau
Siarter, Statud ac Ordinhadau Prifysgol Caerdydd
Memorandwm ac Erthyglau Cyweithio Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Deddf Addysg 1986 (2)
Deddf Addysg 1994
Gweithdrefn Gwyno Undeb y Myfyrwyr
Strategaeth Prifysgol Caerdydd
Strategaeth Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Prifysgol Caerdydd – Fframwaith Llywodraethiant
Cynllun Cydraddoldeb Strategol y Brifysgol
Côd Ymarfer ar Ryddid Mynegiant
17. Rhestr termau
Grant Bloc
Mae'r Grant Bloc yn swm blynyddol o arian a roddir gan y Brifysgol i Undeb y Myfyrwyr i gefnogi gweithgareddau'r Undeb yn ariannol. Cytunir ar y swm a'i ddyfarnu bob blwyddyn cyn dechrau'r flwyddyn academaidd, fel y manylir yn y Cytundeb Ariannol.
Byrddau Astudio
Cyfarfodydd ffurfiol sy’n dod â Pennaeth yr Ysgol ac aelodau staff priodol ynghyd i drafod materion academaidd a chefnogi'r broses o gyflwyno addysg sy'n ymwneud â rhaglenni a gynigir o fewn yr Ysgol, ac mewn rhai achosion, ar y cyd ag Ysgolion eraill. Mae rhagor o wybodaeth yn Rheoliadau Academaidd y Brifysgol.
Is-ddeddfau ac Atodiadau Is-ddeddfau
Rheolau atodol Undeb y Myfyrwyr sy'n ffurfio – ynghyd â'r Memorandwm ac Erthyglau Cyweithio – ei ddogfennau llywodraethol.
Cwmni Elusennol
Elusen sydd hefyd yn gwmni cofrestredig. Mae'n rhaid i'r corff corfforaethol, felly, gydymffurfio â chyfraith elusennau a chyfraith cwmni. Mae hwn yn fath cyffredin o ymgorfforiad ar gyfer sefydliadau nid-er-elw yn y DU.
Amcanion Elusennol
Mae 'amcanion elusennol' elusen yn ffordd arall o gyfeirio at ddiben ei bodolaeth. Mae'n rhaid bod gan sefydliad amcanion elusennol yn unig i fod yn elusen; ac mae'n disgrifio'r hyn y sefydlwyd yr elusen i'w gyflawni. Mae amcan elusennol yn un sy'n syrthio o dan un neu'n fwy o'r 13 disgrifiad dibenion yn unol â gofynion cyfraith elusennau, ac er budd cyhoeddus.
Deddf Addysg 1994
Deddf Seneddol sy'n amlinellu'r gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer Undebau Myfyrwyr a'u sefydliadau rhiant, ac yn manylu ynghylch cyfres o ddyletswyddau a osodwyd ar Undeb y Myfyrwyr a'i sefydliad. Mae Adran 22 Deddf Addysg 1994 yn cynnwys y gofynion sy'n rhaid eu bodloni mewn perthynas ag Undebau Myfyrwyr.
Is-strategaeth Addysg a Myfyrwyr
Is-strategaeth Y Ffordd Ymlaen 2018-2023, sef strategaeth Prifysgol Caerdydd, sy'n canolbwyntio ar wneud yn siŵr bod Prifysgol Caerdydd yn sefydliad 'addysgol rhagorol' ac yn cynnig 'profiad o safon uchel i fyfyrwyr'.
Y Corff Llywodraethol
Llywodraethwyr unrhyw sefydliad sy'n gyfrifol yn ôl y gyfraith am reoli a gweinyddu'r sefydliad. Fel elusennau, mae gan y Brifysgol a'r Undeb fel ei gilydd Fwrdd Ymddiriedolwyr; fodd bynnag, o fewn y Brifysgol, cânt eu hadnabod fel y 'Cyngor'.
Memorandwm ac Erthyglau Cyweithio
Dogfen lywodraethol yr Undeb. Dyma’r ddogfen gyfreithiol sy'n creu'r cwmni ac yn dweud sut y dylai gael ei redeg. Mae gan yr Undeb Erthyglau Cyweithio am ei fod yn gwmni elusennol.
Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS)
Arolwg ledled y DU sy'n rhoi'r cyfle i fyfyrwyr israddedig ar eu blwyddyn olaf rannu eu barn ynghylch safon eu cyrsiau, sy'n cefnogi'r sefydliad drwy wella profiad y myfyrwyr.
Rhent Rhad (Peppercorn Rent)
Term cyfreithiol am swm o arian isel iawn, neu mewn enw.
Arolwg o Brofiadau Ymchwilwyr Ôl-raddedig (PRES)
Arolwg ledled y DU sy'n rhoi'r cyfle i Fyfyrwyr Ôl-raddedig Ymchwil rannu eu profiadau o ddysgu a goruchwylio yn eu sefydliad.
Arolwg o Brofiadau Ôl-raddedigion a Addysgir (PTES)
Arolwg ledled y DU sy'n rhoi'r cyfle i Fyfyrwyr Ôl-raddedig a Addysgir rannu eu profiadau o ddysgu ac addysgu yn eu sefydliad.
Statudau
Statudau'r Brifysgol yw un o ddogfennau cyfansoddiadol y Brifysgol o ganlyniad i'w statws fel corfforaeth gorfforedig drwy Siarter Brenhinol. Mae'r Statudau'n cynnwys manylion aelodau'r Brifysgol a'r rheolau ynghylch cyrff statudol.
Grŵp Rheoli Arolwg Myfyrwyr
Sefydlwyd i gael cyfrifoldeb trosfwaol dros oruchwyliaeth strategol yr holl arolygon allweddol ynghylch profiad myfyrwyr. Mae'r grŵp hwn yn cynnig agwedd sefydliadol tuag at arolygon, o ddyluniad i gau'r ddolen adborth.
Panel Myfyrwyr a Staff
Cyfarfodydd a gynhelir yn y Brifysgol sy'n dod â Chynrychiolwyr Academaidd y Brifysgol a staff yr Ysgol ynghyd i drafod materion sy'n effeithio ar boblogaeth y myfyrwyr ar lefel leol.
Barn y Myfyrwyr
Dogfen a gynhyrchir gan dîm y Swyddogion Sabothol yn Undeb y Myfyrwyr, sy'n cynnig cyfres o argymhellion i'r Brifysgol ar sail data ac adborth gan gorff y myfyrwyr, ynghylch bywyd myfyrwyr.
Y Ffordd Ymlaen 2018 - 2023: Ail-lunio COVID-19
Mae Y Ffordd Ymlaen 2018 – 2023 wedi’i diwygio mewn ymateb i’r coronafeirws (COVID-19) ac mae’n rhoi manylion am strategaeth sefydliadol y Brifysgol.
Pwyllgorau’r Brifysgol
Mae Pwyllgorau'r Brifysgol yn cyflawni amrywiaeth o swyddogaethau. Mae eu cylch gorchwyl, fel y diffinnir gan Ddeddfiad neu reoliad arall, yn amlinellu eu haelodaeth, eu pwerau a'u dyletswyddau, yn ogystal â'u gweithdrefnau adrodd. Mae manylion ynghylch fframwaith llywodraethu'r Brifysgol ar wefan y Brifysgol.
Cyngor y Brifysgol
Cyngor y Brifysgol yw corff llywodraethu'r Brifysgol, felly hwnnw yw prif awdurdod y Brifysgol. Y corff hwn sydd â'r gair olaf ynglŷn â phob mater sy'n effeithio ar y Brifysgol.
Arolwg Croeso i Gaerdydd (W2C)
Arolwg ar gyfer pob un o fyfyrwyr blwyddyn gyntaf Prifysgol Caerdydd, er mwyn cael cipolwg ar eu profiadau cychwynnol yn y sefydliad.