Yr Ysgol Meddygaeth - Polisi Gor-danysgrifio
- Diweddarwyd ddiwethaf:
- Lawrlwytho'r ddogfen hon (PDF, 139.7 KB)
1. Nodau a Llywodraethu
1.1. Yn unol â Pholisïau Derbyn Prifysgol Caerdydd a chydymffurfiaeth â Chôd Ansawdd QAA y DU ar gyfer Addysg Uwch, mae'r Yr Ysgol Meddygaeth yn cynnal ei phroses ddethol myfyrwyr mewn modd gwrthrychol, agored, tryloyw a theg heb unrhyw wahaniaethu. Er bod y broses ddethol yn rhwym wrth bolisi'r Brifysgol ar Gydraddoldeb ac Amrywiaeth, mae hefyd yn ddarostyngedig i nifer uchaf o leoedd yn seiliedig ar dargedau a therfynau Llywodraeth Cymru ar gyfer pob Blwyddyn Academaidd.
1.2. Mae'r polisi hwn yn cael ei oruchwylio gan y Cyfarwyddwr Derbyniadau a Grŵp Derbyniadau Yr Ysgol Meddygaeth ac mae'n ceisio diffinio'r amodau sy'n gysylltiedig â gordanysgrifio o fewn paramedrau'r nifer o leoedd a gomisiynir ar unrhyw gwrs.
2. Lleoedd wedi’u Comisiynu
2.1. Mae nifer y lleoedd sydd ar gael ar unrhyw gwrs yn cael eu gosod yn gan Lywodraeth Cymru ac ni all y Brifysgol sicrhau bod lleoedd ychwanegol ar gael.
3. Gwneud Cynnig
3.1. Mae'r Brifysgol yn rheoli ei phroses o gynnig lleoedd fel bod lle i bob deiliad cynnig sy'n cwrdd ag union amodau eu cynnig mewn amgylchiadau arferol. Fodd bynnag, gall fod amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth resymol y Brifysgol (er enghraifft, newidiadau annisgwyl i ddulliau asesu ar gyfer cymwysterau TGAU neu Safon Uwch, newidiadau i'r broses raddio a/neu ddyrannu dyfarniadau) sy'n golygu bod nifer yr ymgeiswyr sy'n cwrdd ag amodau cynnig lle ar gwrs yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael (“gordanysgrifio”).
4. Gor-danysgrifio
4.1. Mae gor-danysgrifio yn cyfeirio at nifer yr ymgeiswyr sy'n cwrdd ag amodau cynnig lle ar gwrs sy'n fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael ar gyfer y flwyddyn/dyddiad mynediad hwnnw.
5. Camau gweithredu gan Yr Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd pe bai achos o or-danysgrifio
5.1. Yn yr amgylchiadau hyn, mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i wneud penderfyniad academaidd annibynnol ar ddeiliaid cynnig a bydd yn dyrannu lleoedd yn unol â Pholisi Gor-danysgrifio’r Yr Ysgol Meddygaeth ar sail deg a rhesymol. Ni fydd y Brifysgol yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod sy'n deillio o unrhyw anallu neu fethiant i'ch derbyn i'r Brifysgol o ganlyniad i or-danysgrifio sydd y tu hwnt i'w rheolaeth resymol.
6. Sail Deg a Rhesymol ar gyfer dyrannu lleoedd
6.1. Mae pob ymgeisydd sy'n cwrdd â'r meini prawf mynediad yn cael ei sgorio trwy fynd i Gyfweliad ac yna gwneir cynigion astudio yn seiliedig ar y sgorau hyn. Y sgôr hon fyddai’n cael ei defnyddio pe bai gor-danysgrifio i raglen ar gyfer ymgeiswyr sy’n bodloni amodau eu cynnig. Mae defnyddio'r sgôr hon yn golygu bod yr agweddau academaidd a’r rhai sy’n seiliedig ar werthoedd yn cael eu hystyried. Gellir defnyddio graddau a gyflawnir a/neu dariff hefyd fel ffactorau i wahaniaethu rhwng y rhai sydd â'r un sgôr cyfweliad a/neu ddatganiad personol..
7. Beth fydd yn digwydd os na ddyrennir lle i mi?
7.1. Sylwch fod nifer y lleoedd sydd ar gael ar y cwrs hwn yn cael eu gosod yn gan Lywodraeth Cymru ac ni all y Brifysgol sicrhau bod lleoedd ychwanegol ar gael. Mae'r Brifysgol yn rheoli ei phroses o gynnig llefydd fel bod lle i bob deiliad cynnig sy'n cwrdd ag union amodau eu cynnig mewn amgylchiadau arferol. Fodd bynnag, gall fod amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth resymol y Brifysgol (er enghraifft, newidiadau annisgwyl i ddulliau asesu ar gyfer cymwysterau TGAU neu Safon Uwch) sy'n golygu bod nifer yr ymgeiswyr sy'n cwrdd ag amodau cynnig lle ar y cwrs hwn yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael (“gordanysgrifio”). Yn yr amgylchiadau hyn, bydd y Brifysgol yn dyrannu lleoedd (yn unol â'i pholisi gordanysgrifio ar sail deg a rhesymol. Os na ddyrennir lle i chi ar y sail honno, bydd y Brifysgol, lle bynnag y bo hynny'n bosibl, yn ceisio:
a. Cynnig cyfle i chi ohirio'ch lle i'r flwyddyn academaidd nesaf
b. Trafod opsiynau ar gyfer lleoedd ar gyrsiau amgen ym Mhrifysgol Caerdydd.
7.2. Os bydd gor-danysgrifio, bydd yr ymgeiswyr hynny sy'n aflwyddiannus trwy'r broses ddethol fel yr amlinellir yn y polisi hwn, neu nad ydynt yn cwrdd ag amodau eu cynnig, yn cael eu rhyddhau o'u cynnig fel blaenoriaeth ar ôl derbyn eu canlyniadau, i'w galluogi i fynd ar drywydd yswiriant, clirio, neu opsiynau a chynigion addas eraill.